skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

Am Dro i Gwmpengraig

Taith llawn o atgofion o ail hanner yr 20ed ganrif  wrth fynd am dro o bentref Drefach Felindre i Gwmpengraig gan gychwyn yn LLWYNBEDW man geni’r awdur fel rhan o gofnodi STORI FAWR DREFACH FELINDRE.

Byddai’n dda i’r darllenydd gael copi o’r llyfr ‘Canrif o Luniau – Plwyfi Llangeler a Phenboyr’ (Cyhoeddwyd yn 2001) wrth ddarllen y cyfraniad hwn. Cyfeirir at luniau mewn llyfrau a mannau eraill hefyd.
 
Wrth nodi’r hen ffatrïoedd yng Nghwmpengraig ceir mwy o wybodaeth am hanes pob un yn y llyfr ‘Dre-fach Felindre a’r Diwydiant Gwlân gan J Geraint Jenkins.’
 
Mae cyfeiriadau cyson am Gwmpengraig yn llyfr John Tudor Jones (Llwyneuadd, Cwmpengraig) ‘COFIO’N ÔL’ ac mae’n rhoi darlun clir i ni o fywyd y cwm un genhedlaeth cyn fy nghenedlaeth i a’r Daith Atgofion hon.
 
Ar ddechrau fy nhaith  o atgofion yn "Fy Stori i yn Nrefach Felindre" sydd ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’ rwyf wedi son am Llwynbedw lle y cefais i fy ngeni, a’r tai sydd yn ymyl ac am Ffynnon Beca.   Dyma’r tai cyntaf sydd o dan y ffordd wrth ichi gychwyn ar eich taith am Gwmpengraig ar ôl gadael pentref Felindre.

Yr adeilad sylweddol nesaf yw Ffatri’r Dyffryn. Er mai ffatri wlân oedd hi, y cof cyntaf sydd gen i, pan yn blentyn bach yn Llwynbedw, oedd y milwyr o America yno mewn math o wersyll adeg yr ail rhyfel byd. Roedd nifer fawr ohonyn nhw yn mynd a dod yno fel lle i orffwys cyn mynd i ymladd yn y rhyfel. Mae cof gen i o’u gweld yn martsio lawr i’r pentref a ni fel plant yn rhedeg ar eu holau ac yn gweiddi “Any gum chum?” oherwydd y syniad bod yr Americanwyr yn cnoi ‘chewing gum’ bob amser. Do, fe lwyddais i gael ychydig o’r gwm ffein hwnnw ac ni allaf anghofio fyth ei flas hyfryd, yn enwedig wrth ddechrau ei gnoi. Nid oedd dim tebyg iddo.  Mae gen i gof hefyd am y dawnsiau roedden nhw yn eu cynnal yn y ffatri gyda merched gorllewin Cymru yn heidio yno er mwyn cael dawnsio gyda’r bechgyn ifanc o America, er mawr ofid i famau a thadau’r merched rheini. Roedd y llawr pren o dan y dawnswyr yn codi ac yn esgyn mae’n debyg o dan y pwysau wrth iddyn nhw ddawnsio.

Ar ôl i’r Americanwyr adael bu sawl stori go amheus yn cael ei gwasgaru ar hyd yr ardaloedd, a hynny’n seiliedig ar unrhyw un a fyddai’n disgwyl babi. Roeddwn i yn rhy fach i sylweddoli pethau felly wrth gwrs nes i Griff a Ceri James (dau frawd hynod o ddireidus o Waungilwen) wisgo lan yng ngharnifal blynyddol y pentref. Roedd Griff wedi gwisgo fel merch ac yn gwthio pram gyda Ceri wedi ei wisgo fel babi yn y pram a dwmi yn ei geg, a’r ysgrifen ar flaen y pram yn dweud – "What the Americans left behind!"

(Cewch mwy o’r hanes am wersylloedd yr Americanwyr yn ffatrïoedd Drefach Felindre, ac am Ffatri’r Dyffryn yn y llyfryn ‘Llwybr Treftadaeth Drefach Felindre 2019).
 

Yna, ar ôl y rhyfel fe ddaeth Maldwyn Williams o Gastell Newydd Emlyn i redeg y ffatri a’i throi yn ôl i Ffatri Wlan gan gyflogi sawl person lleol i weithio yno, ac i gynhyrchu gwlanen a defnyddiau eraill. Bu’r cyn ganwr William Davies (Wil Penlon) yn gweithio yno am gyfnod ar ôl iddo roi’r ngorau i ganu’n broffesiynol a dod nol i fyw i Milford House, Alltpenrhiw.

Roedd Maldwyn Williams a’i wraig yn cydweithio gyda William Davies a’i wraig i gynhyrchu’r pantomeimiau poblogaidd yn Neuadd y Ddraig Goch yn y pedwar a’r pumdegau. Mrs Maldwyn Williams a Mrs JR Jones Trecoed fu’n hyfforddi’r ‘Drefach Felindre Children’s Choir’ am flynyddoedd lawer. (Rwyf wedi ysgrifennu mwy am y Cor Plant hwnnw wrth son am Mrs Jones Trecoed yng nghyfres ‘Enwogion Drefach Felindre’ ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’.)

Yn 1871 roedd perchennog Ffatri’r Dyffryn Samuel Williams  yn cyflogi 23 o weithwyr. Roedd e yn dipyn o arloeswr gan iddo drefnu i ddwy ‘rhod ddŵr’ greu mwy o ynni i yrru’r peiriannau. Roedd dwr y cyntaf yn syrthio dros yr ail. Roedd ganddo siopau i werthu ei frethyn mor bell i ffwrdd a Middlesborough.

Yn 1970 gwr o’r enw Frank Davies oedd yn cynhyrchu gwahanol wlanen a blancedi nes iddi gau yn yr 1980’au.

Dyffyrn Mills after the fire

Mae llun o dan yn ffatri’r Dyffryn yn 1923 ar dudalen 37 yn y llyfr ‘Canrif o Luniau’  Mae’n amlwg iddi gael ei hail adeiladu wedyn.

Yna, fe ddown at res o dai, eto a’u cefnau at y ffordd fawr sef Arwel,  ?  , a’r Dyffryn.

Harold a Glynys oedd yn byw yn Arwel y tŷ cyntaf. Adeiladwr oedd Harold ac athrawes oedd Glynys. Bu’n athrawes am gyfnod yn hen ysgol Penwaun. Fe adeiladon nhw dy wedyn wrth Ynys y Coed a’i enwi yn Glenhar (Glenys a Harold!).

Yn y tŷ  canol roedd Elfed Griffiths a’i wraig yn byw gyda’r ddau fab Calfin a’i frawd. Roedd Elfed wedi bod yn yr ail ryfel byd ac wedi dioddef tipyn a hynny wedi effeithio ar ei nerfau.
 
Roedd y Dyffryn yn dy sylweddol o faint i gymharu a’r ddau arall er eu bod yn sownd wrth ei gilydd. Y Cynghorydd lleol Samuel John Jones a’i wraig Gertie oedd yn byw yn Dyffryn gyda’i hunig fab Martin.   Roedd Martin a finne yn ffrindiau mawr pan yn blant ac yno yr awn  i chwarae gyda Martin yn gyson, gan groesi’r afon Esgair a redai o flaen y tŷ i’r ardd yr ochr draw. Collais bob cysylltiad gyda Martin ar ôl dyddiau ysgol ac nid wyf yn gwybod dim mwy amdano.

O ddringo’r lon heibio i’r Dyffryn a nol i’r ffordd fawr cofiaf yn dda am Anti May a’i gwr Jonnie  yn adeiladu’r byngalo Ynys y Coed ar y chwith.  (Roedd Anti May yn gyfnither agosaf i fy mam. Roedd mam y ddwy, sef Sarah ac Eiisabeth yn ferched Fferm Y Lan, Cilrhedyn wrth droed mynydd Moelfre. Mae’n debyg bod Thomas Jones, (Twmi’r Lan) yn gymeriad poblogaidd iawn ac yn flaenor parchus yng Nghapel Soar.) Roedd May  (Tŷ Canol, Cwmpengraig cyn hynny) yn famgu i’r Parch J Towyn Jones, Caerfyrddin.

Roedd Anti May yn berson arbennig, a dawnus iawn, ac yn arlunydd nodedig. Rwy’n cofio unwaith gweld darlun roedd hi wedi ei baentio ar gefn darn o wydr clir. Os mai o’r ochr arall y byddech chi’n edrych ar y darlun hwnnw, roedd hynny’n golygu bod yr arlunydd wedi gorfod paentio go chwith. Hynny yw, paentio’r rhannau olaf arferol yn gyntaf. Roedd hon yn ddawn eithriadol ac arbennig iawn. Cofiaf hefyd yn glir un digwyddiad ar ddydd carnifal blynyddol y pentref, ac i’r bobl weld ‘tas wair’ berffaith yn dod lawr trwy’r pentref ac ymuno yn y carnifal. Ni allai neb weld unrhyw un tu mewn iddi – dim ond y das wair yn symud yn araf. Mawr fu’r dyfalu pwy oedd tu mewn i’r das wair honno. Mewn amser deallwyd mai Anti May oedd wedi ei hadeiladu ac mai hi oedd yn y das wair!

Ond, rwy’n cofio Anti May a Jonnie ei gwr yn adeiladu Ynys y Coed i gyd eu hunain ar ôl cynllunio’r cyfan eu hunain ac adeiladu pob carreg a bricsen a gosod y llechi ar y  to. Popeth.  Bu Jonnie farw heb fod yn hir iawn ar ôl gorffen y gwaith, a phan fu fy mam i farw, fe ddaethpwyd a’i chorff nol i Ynys y Coed y noson cyn y cynhebrwng yng Nghapel Drefach y diwrnod wedyn.

Roedd gen i feddwl mawr o Anti May y wraig ddawnus tu hwnt.

Dosbarth Gwynio yn y 1940au
Mae llun da o’r dosbarth gwinio roedd hi a’i merch Eurwen yn ei gynnal yn y pentref ar dudalen 64 o’r llyfr ‘Canrif o Luniau’.  May Davies yw’r bedwaredd ar y chwith yn y rhes gefn ac Eurwen ei merch sydd yn eistedd yn y canol o’i blaen. Fy mam Margaret Griffiths yw’r un sy’n eistedd bellaf ar y dde.

 Doedd dim un adeilad arall y pryd hwnnw nes cyrraedd Llysderi ar y dde. Yno roedd Jams ac Esther Jones yn byw ac yn gwneud bywoliaeth o’r fferm fechan gyda ychydig o gaeau o gwmpas, tra roedd Mrs Jones yn rhedeg siop fechan yn yr ystafell o dan y steps ar ochr y tŷ. Un o feibion Cwmgilfach pendraw i bentref Defelin oedd Jams ac yn ddiacon ffyddlon yng Nghapel Soar, Cwmpengraig. Mab iddyn nhw oedd Y Parch T Elfyn Jones y bardd a’r emynydd, ac wyres felly yw Menna Elfyn yr awdures a’r bardd, ac mae  Fflur Dafydd yr or wyres yn gantores ac yn ddramodydd ac yn enillydd y Fedal Ryddiaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd dwy ferch hefyd sef Hannah a Rachel Ann. Rwyf wedi ysgrifennu’n fwy manwl am fy atgofion am Llysderi yn fy hunangofiant "O Lwyfan i Lwyfan" ar dudalen 27.

Roedd Llysderi yn adeilad mawr ac oherwydd hynny roedd teuluoedd eraill yn  byw mewn rhannau eraill o’r tŷ. Ar y gwaelod yn wynebu clos y fferm roedd Gwilym a Lena Griffiths a’i mab Edward, a ddaeth yn weinidog wedyn gyda’r annibynwyr – Y Parch Edward Griffiths, Llandeilo – yn byw. Fe symudon nhw fel teulu i Llysgwyn yn ymyl Preswylfa ym mhentref Felindre. Mewn rhan arall roedd William a Jennie Davies yn byw gyda’u plant John, Anita a Beryl. Fe symudon nhw wedyn i fyw i Ffynnonbedr yn bellach i fyny’r cwm.    Cofiaf am Dan a Jennie Rees hefyd yn byw mewn ystafelloedd yn Llysderi  cyn symud i Bendre yn y pentref. Roedd y bobl yn cyfeirio at y ddwy Jennie fel Jennie lan (ar y llawr cyntaf) a Jennie lawr (at y llawr isaf).

Dyddiau da oedd rheini i ni yn blant yn chware o gwmpas Llysderi gan fod cymaint ohono ni. Mae’n rhaid bod cryn amynedd gan Jams Llysderi o weld cymaint o blant yn rhedeg o gwmpas!
(Yn ei lyfr "Cofio’r Hwyl" gan John Tudor Jones ac ar dudalen 59 ymlaen cewch ganddo hanes am Llysderi cyn iddo fe ddod i fyw yno. Mae hwn yn ddarlun cyflawn o fel oedd hi yn fy nghyfnod i yn blentyn hefyd.)
 
Doedd dim adeilad arall y pryd hwnnw nes cyrraedd Glanesgair ar y chwith. Roedd hwn eto yn dy braf iawn ac yn adlewyrchiad arall o’r amser da a gafodd perchnogion ffatrïoedd yr ardal. John Jones, brawd Jams Llysderi oedd perchennog Ffatri Dangibyn ar draws y ffordd i Glanesgair.  ond cofiaf am Mrs Jones Glansegair yn dda a’r cartref yn un moethus. Roedd y ferch Nelie, fel ei mham, yn ddynes urddasol  iawn ac ar ôl priodi fe barhaodd i fyw yn Glanesgair.
 
Gyferbyn a Glanesgair roedd hen Ffatri Dangribyn, ac fe benderfynodd yr hen Dr Jones, Dangribyn droi’r lle yn ddau dy, ac i un o’r tai hyn y symudodd fy nhad a mam  i fyw a finne ond rhyw saith oed. Ni oedd y cyntaf i fyw yn y tŷ nesaf at y ffordd ac fe enwo’n ni’r tŷ yn Llyfnant.  Drws nesaf i ni fe ddaeth y teulu Thompson i fyw gyda James Thomson, un o’r plant, ychydig bach yn iau na fi.   (Bob Thomson y tad, a James wedyn, fu’n rhedeg rhan o Wersyll y Carcharorion yn Henllan gan dderbyn pobl  dros y wlad i weld Eglwys y Carcharorion o’r Eidal a adeiladwyd yno.)

Yn Llyfnant roeddwn i’n byw tan fy mod yn un ar bymtheg oed gyda fy nhad yn shoffer a garddwr yn Dangribyn, a fy mam yn dal yn ‘cook’ yn Ysgol Gynradd Penboyr.  Wedi i fy nhad golli ei iechyd gorfod i ni symud i fyw i 3, Llysnewydd Cottage. (Soniais mwy am hynny ar ddiwedd fy nhaith trwy bentref Drefach Felindre.)

Fe aeth fy nhad ati, gan ei fod yn arddwr, i ddatblygu lawntiau a chreu gwelyau blodau a thyfiant eraill pwrpasol o gwmpas Llyfnant, nes bod y lle yn werth ei weld a phawb a ai heibio yn edmygu pa mor hyfryd roedd y lle yn edrych.
 

Gweithio i’r hen Dr Ben Jones ac wedyn i Roy a Phyllis Jones yn Dangribyn oedd fy nhad – sef y plasdy hyfryd ar lan yr afon Esgair ac o dan y coed a thu ôl i Llyfnant. Cyfreithiwr yng Nghaerfyrddin oedd Roy Jones ac yn un o dri mab Dr Benjamin Jones, Danbribyn. Albanes oedd y fam. Roedd  Dr Ben Jones wedi dod nol i fyw i Dangribyn ar ôl bod yn feddyg yn Harley Street yn Llundain ac yntau yn un o dri mab Cwmgilfach, Drefelin a ddaeth yn ddoctoriaid.

Cofiaf am Dr Ben Jones yn hen ŵr yn cael ei yrru gan fy nhad i bobman. Roedd e’n dioddef tua diwedd ei oes o’r clefyd ‘parkinsons’ gan fod ei ben yn symud trwy’r amser.
Cyfnod digon anesmwyth oedd cyfnod fy nhad yn gweithio i Roy a Phyllis Jones yn Dangribyn gyda llawer o wrthdaro rhyngddyn nhw ac iechyd fy nhad yn dioddef. Cofiaf yn dda am fy nhad yn dod adref i Llyfnant ar nos Wener gyda phum punt yn unig yn ei law fel cyflog am yr wythnos. Roedd y ffaith bod swydd gan fy mam ‘Mrs Griffiths y cook’ yn Ysgol Penboyr yn help i gael dau penllinyn ynghyd.
 

Home Guard
Mae llun o Dr Ben Jones ar dudalen 58 o’r llyfr ‘Canrif o Luniau.’ Fe yw’r un sydd yn eistedd yn y rhes flaen gyda ffon rhwng ei goesau.

Y Pownd Dwr.   Y grefft amlwg gyda’r holl ffatrïoedd bach a mawr yn yr ardal oedd y cynllun ar gyfer llif y dwr wrth iddo deithio lawr y dyffryn a throi pob ‘rhod ddŵr’ gan greu pŵer i redeg pob ffatri wlân cyn bod son am drydan i wneud hynny. Ar y dde uwch i fyny na Glansegair a Llyfnant a chyn tro Yr Ogof roedd llyn o ddŵr wedi ei greu. Wrth i’r afon Esgair lifo lawr y cwm roedd ‘sliws’ wedi ei osod er mwyn troi llif y dwr o’r afon i’r llyn. Roedd y ‘sliws’ yn gallu rheoli faint o ddŵr i’w droi i mewn a’i gadw yn y llyn. Pen arall i’r llyn roedd ‘sliws’arall er mwyn rheoli llif y dwr i droi y rhod ar gyfer Ffatri Dangribyn (sef adeilad Llyfnant).

Roedd llyn arall o ddŵr wedyn yn y cae rhwng Glanesgair a Llysderi i grynhoi rhagor o ddŵr.

Yna, roedd pownd dwr tua llathen o led a llathen o ddyfnder yn rhedeg bob cam ar ymyl y ffordd ar yr ochr dde nes cyrraedd Ffatri Dyffryn. Roedd y dwr wedyn yn croesi o dan y ffordd gyda pownd pren yn ei gario wedyn i droi rhod  Ffatri’r Dyffryn gan ei bod o dan y ffordd. Rwy’n cofio’r ‘pownd dwr’ yn dda gyda’r dwr yn dal i lifo ynddo.  Ond, unwaith  ddaeth y trydan i yrru’r peiriannau caewyd y ‘sliws’ ar dro yr Ogof ac fe drodd fy nhad y llyn a oedd wedi sychu bellach yn ardd i dyfu llysiau. Mae’r ‘pownd dwr’ a redai o Glanesgair i’r Dyffryn wedi hen gau erbyn hyn, ond fe edrychaf amdano bob tro rwy’n teithio i Gwmpengraig.
 
Wrth y tro cyn cyrraedd Yr Ogof roedd llwybr cyhoeddus ar y dde gyda phont yn croesi’r afon Esgair. O ddilyn y llwybr ar draws y cae a thrwy’r coed fe gyrhaeddech Penlangribyn ar ben y bryn gyda golygfa arbennig oddi yno lawr y cwm am bentref Felindre.

Yn y cyfnod hwnnw roedden ni gyd yn dibynnu ar ‘arwyddion tywydd’, ac un o’r rhai lleol hynny oedd gweld yr aderyn ‘y crychydd’ yn hedfan fyny’r cwm. Yn ôl yr hen gred – ‘mynd lan i nol glaw oedd e’. Ar ddiwrnod glawog yn Llyfnant fe welsen ni’r glaw yn  cael ei chwythu lawr y cwm yn donnau . Yn ôl yr hen gred – ‘glaw o Abertawe’ oedd hwn – ‘y glaw glypa mas!’
 

A dyma ni wedi cyrraedd Yr Ogof. Y rheswm mai Ogof yw enw’r lle yw am fod ogof yn y coed uwchben a thu ôl y tŷ. Yn ôl hen chwedl fe aeth cath i mewn i’r ogof hon a dod allan wrth y lle tan yn ffermdy Penlanfawr ar y ffordd i Penboyr.

William a Martha Jones oedd yn byw yn yr Ogof pan oeddwn i yn byw yn Llyfnant.  Gyda nhw yno roedd eu mherch Ella a’i mherch hithau Brenda yn byw. Cigydd oedd y mab Benja ac yn briod ac yn byw yn Y Tymbl, ond yn dod nol i’r Ogof ar ddechrau pob wythnos gan ei fod yn mynd o gwmpas y wlad yn ei fan bob dydd i werthu’r cig. Roedd ganddo ‘rownd gig’  ac yn mynd i ardaloedd cyn belled a Llangrannog. Yna, byddai’n mynd nol i’r Tymbl bob pen wythnos at ei wraig Tattie a’i ferch Anne.

Fe fydden i yn treulio llawer o amser gyda fy nhad yn mynd am dro gyda’r nos i sgwrsio gyda William a Martha am y byd a’i bethe. Heb os, fe ddysgais y ddawn o wrando ar yr iaith lafar Gymraeg ar ei gorau yn cael ei llefaru.
Bu Ella merch William a Martha Jones byw nes ei bod yn 100 oed ac fe fues i yn ei pharti pen blwydd arbennig. Bues i yn ei hangladd hefyd.  Mae Brenda ei mherch yn briod ac yn byw yng Ngorseinon. Enw’r mab yw William.
Fe adeiladodd yr hen Ben Jones (tad Martha) ffatri arall ar y dde ychydig o dan y ffordd ac wrth yr afon Esgair yn 1910. Dim ond adfail sydd yno erbyn hyn. Gwau sanau fydden nhw yn ei wneud ar gyfer y milwyr yn y rhyfel byd cyntaf.

Yr Ogof wedd un o’r ffatrïoedd gwehyddu cyntaf yn yr ardal a cheir llun o’r hen adeilad ar dudalen 10 o’r llyfryn Llwybr Treftadaeth Drefach Felindre 2019. Hefyd ar dudalen 20 o’r llyfr Canrif o Luniau). Mae perchennog presennol Yr Ogof wedi ail greu’r adeiladau hyn fel yr oedden nhw yn yr hen ddyddiau gyda tho gwellt ac sy’n werth eu gweld.

Ben yr Ogof
Mae llun o Ben yr Ogof yn lanc ifanc ar dudalen 55 o ‘Canrif o Luniau’. Ben yw’r pellaf ar y dde yn y rhes gefn.

Mae llun o William Jones Yr Ogof yn y llyfr ar Hanes Capel Closygraig gyda’r diaconiaid.

Ogof Mill
Yr Ogof wedd un o’r ffatrïoedd gwehyddu cyntaf yn yr ardal, mae'r llun ar dudalen 20 o’r llyfr Canrif o Luniau.

A dyna ni wedi cyrraedd Pantycelyn ar y chwith. David James Jones a’i wraig Ena oedd yn byw yno yn fy nghyfnod i gyda’u plant Meriel ac Alan. Casglwr insiwrans oedd David James.
Cofiaf am Meriel yn mynd fel y cythrel ar gefn ei beic gyda ni criw Cwmpengraig ar ein ffordd i’r ysgol yn y bore. Roedd Alan ychydig yn ifancach ond bu ef yn chwarae gyda Bargod Rangers a than yn ddiweddar roedd e yn bensaer i gwmni Metcalf yn nhref Caerfyrddin ac yn byw yn Sir Benfro.
 
Y tŷ nesaf wedyn oedd Danffynnon cartref Edward Crompton a’i wraig Annie, a’u mhab Gareth. Er mai Danffynnon oedd enw’r tŷ, o dan y ffordd a gyferbyn a’r tŷ roedd y ffynnon. Cofiaf yfed o’i dwr oer crysialaidd lawer gwaith pan yn chwarae criced gyda Gareth ar y ffordd o flaen y tŷ.

Bu Edwtad (Ted) Crompton yn Glerc Cyngor Pwyf Llangeler a Phenboyr am ddeugain mlynedd.

Plwyf
Mae llun o Edward Crompton ar dudalen 101 o ‘Canrif o Luniau’. Llun yw hwn o’r Cyngor Plwyf yn 1977. Ted Crompton yw’r pedwerydd o’r chwith yn eistedd.

grwp gyda llyfr
Mae llun ei fab y Dr Gareth Crompton ar dudalen 112 o ‘Canrif o Luniau’ yn eistedd y cyntaf ar y chwith.

Bachgen galluog iawn oedd Gareth Crompton gan ddod yn feddyg, ac ar ôl bod am gyfnod yn Sir Fon fe’i hapwyntiwyd yn Brif Feddyg y Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd. Ar ôl ymddeol fe ddaeth yn ôl i fyw i Gastell Newydd Emlyn. Mae’n dal yn aelod selog yn Eglwys Penboyr ac fel cyn chwaraewr yn ddilynwr selog o dim Bargod Rangers.
 
Ac wedyn dyma gyrraedd Ffynnonbedr a Peterswell drws nesaf.

Yn Ffynnonbedr roedd fy ffrind John Davies  (John Dai) yn byw gyda’i chwiorydd Anita a Beryl ar ôl i’r teulu symud o’r fflat yn Llysderi. William Davies (Will y Glo) neu Will Ffynnonrhadus oedd eu tad a chofiaf amdano, er yn berson tal a thenau, yn gweithio’n galed gyda’i lorri lo. Byddai’n mynd yn fore i iard gorsaf drenau Castell Newydd Emlyn i lenwi ei sachau glo – cant o bwysau – o’r tryc. Yna mynd o gwmpas yr ardaloedd a chario pob sach lo ar ei gefn i dai ei gwsmeriaid – gwaith hynod o galed. Ond, roedd Jennie a’r plant adref yn Ffynnonbedr ac fe dreuliais llawer o amser yno – a bwyta sawl pryd o fwyd yno hefyd. Roedd John a fi yn cael ein penblwydd ar yr un dydd sef y 15ed o Fawrth, ond fy mod i flwyddyn yn hyn na John.

Dyddiau da oedd rheini, yn enwedig yn ystod yr haf gyda John a fi a Gareth Crompton yn chwarae criced ar yr hewl heb yr un car bron yn mynd heibio i rwystro’r chware.
 
Drws nesaf ac yn sownd wrth Ffynnonbedr mae Peterswell, ac wrth ymyl y tŷ mae ffynnon yn rhedeg a’r dwr yn croesi o dan y ffordd. Cofiaf am Elvet a Euriol a Peris a Haydn yn byw yno gyda’u rhieni ond dipyn yn hyn na fi. Roedd Euriol yr un oed a Beti fy chwaer. (Cofiwch am yr enw ‘Haydn Peterswell’gan y bydd ef yn rhan o’r stori rwyf am adrodd  ichi ar ddiwedd hanes y daith hon.) Cysgod y Nant yw enw’r tŷ bellach gyda Beryl (Ffynnonbedr) yn byw yno gyda’i gwr Selwyn.
 
Yna, roedd tri thy, eto yn sownd wrth ei gilydd sef Spring Cottages rhif 1 a 2 a 3. Mae brith gof gen i am Dafi Spring yn byw yn rhif 1, ac yna Marged Ann, un o ferched Brynbedw a’i gwr Wil yn byw yn rhif 2. Cymeriad braidd yn gymhleth oedd Wil ac yn teithio ar gefn ei feic o gwmpas y lle.  Roedd un o feibion Brynbedw yn byw yn rhif 3, sef  David Williams (Dai Brynbedw)  gyda Daisey ei wraig a’u mherch Nesta. Teithio o gwmpas gyda fan roedd Dai ac yn gwerthu dillad, ac roedd ganddo ‘glwb dillad hefyd’. Byddai’n galw yn ein tŷ ni bob dydd Gwener a mam yn rhoi hanner coron i’r clwb a Dai yn llenwi cerdyn a’i arwyddo ei bod wedi talu. Yna, byddai mam yn prynu dilledyn yn ôl y galw allan o arian Clwb Dillad Dai Brynbedw. Bydden ni yn cyfeirio at Nesta fel ‘Nesta Brynbedw’, er mai cartref ei thad oedd Brynbedw (ar ochr Rhiw Cyrff ar y ffordd i Benboyr). Roedd Nesta hefyd yn un o griw plant y beics Cwmpengraig a fyddai’n reidio fel cath i gythrel yn y bore trwy bentref Felindre er mwyn dal bws y Western Welsh i’r ysgol. Ar ôl dyddiau Coleg fe briododd Nesta gyda Tomi Jones, Lleine, Bangor Teifi, un o’r chwaraewyr gorau a welodd tim y Bargod Rangers erioed a ‘centre forward’ cyflym  gyda ergyd galed iawn hefyd. Fe aeth y ddau i ddysgu i gyffiniau Llundain a magu teulu yno. Fe ddaeth Tomi yn un o arweinwyr Undeb yr Athrawon maes o lawond bu’n farw’n ifanc. Mae Nesta yn dal i fyw yno ac yn ymweld a’r hen ardal bob hyn a hyn.
 
Gyferbyn roedd George Robbins a’i wraig Mari yn byw yn Esgair Villa. ( Newidwyd yr enw erbyn hyn i Esgair Onnen).  Roedd rhain yn ddau dŷ o dan y ffordd gyda steps yn mynd lawr i ddrws ffrynt y cartrefi. Roedd ffenestri’r tai ar yr un lefel a’r ffordd.  Adroddwyd stori am George Robbins yn eistedd wrth y bwrdd o flaen y ffenest un dydd ac yn cael basned o gawl braf i ginio. Roedd y Cownsil newydd osod tar a chippins ar y ffordd o flaen y tŷ a hithau’n haf poeth a ffenest cegin Mr Robbins led y pen ar agor. Yn sydyn dyma gar yn mynd heibio ac fe dasgodd un o’r chippins yn syth trwy’r ffenest agored a disgyn ‘plop’ ym masn cawl George Robbins. Mae’n stori wir!

Ond prif enwogrwydd Mr George Robbins oedd mai fe oedd yn chwarae’r drwm i Fand Pres Albert Evans ac wrth fartsio trwy’r pentref ar ddigwyddiadau arbennig fel Dydd y Carnifal byddai pawb yn sylwi ar George Robbins a’i ddoniau arbennig wrth chwarae’r drwm mawr ac yn hoffi tynnu sylw ato fe ei hunan.

Fe ddaeth Mr George Robbins i Gwmpengraig o Fryste, a Sais oedd e! Ond fe ddysgodd Gymraeg a’i siarad gyda acen Seisnig drwm iawn. Yn wir, byddai’n ffashwn i sawl un ddynwared George Robbins yn siarad Cymraeg ac adrodd llawer stori ddoniol amdano.

Drws nesaf iddo roedd Cwrt Newydd gyda Jams Parry a Lizie Jane yn byw ac o deulu Penlangerrig uwchben Cwmpengraig.

Bob noson Guto Ffowc neu Guy Fawkes fel y galwen ni’r noson, ar ben ‘Domen Daisey’ y bydden ni yn gosod yr hen Guto a’i roi ar dan a chynnu’r tan gwyllt.  Hon oedd y ‘domen ludw’ ble y taflai pob tŷ y lludw o’r grât o’r lle tan ychydig lathenni fyny’r ffordd.
 
Cwm Isaf y galwyd y rhan hon o’r cwm. Teithiwn ymlaen yn awr ac ymweld a’r Cwm Uchaf.
 
Y lle nesaf oedd Cware Llwyd. Roedd hi yn amlwg fod chwarel wedi bod yma a’r cerrig o’r graig wedi mynd i adeiladu llawer o’r ffyrdd yn yr ardal. Mae hen lun o 1963 ar dudalen 89 o’r llyfr ‘Canrif o Luniau’ o Cware Llwyd.
 
Ar ôl mynd heibio i Gware Llwyd roedd yna ffynnon yn ymyl y ffordd – Ffynnonrhadus. Roedd y dwr yn cael ei grynhoi mewn rhyw fath o focs o lechen gyda thap ar y gwaelod. Yma, byddai pawb yn dod i nol y dwr mae’n siŵr cyn fy amser i. Yna cyrraedd y tŷ Ffynnonrhadus ar y chwith a enwyd ar ôl y ffynnon mae’n siŵr.(Nid yw’r tŷ yno bellach – dim ond sedd bren gyda phlac arni i nodi lle’r oedd y tŷ. )

Cofio am Mair Ffynnonrhadus yn byw gyda’i mamgu  Sarah Davies yno rwyf fi. Roedd siop fach ganddi a David Davies ei gwr yn haliwr ac yn cario nwyddau gyda trap a phoni.  Roedd Mair yn aelod o Barti Canu enwog Mrs JR Jones Trecoed sef ‘Adar Bargod.’

Roedd Dilys, merch Mair ychydig yn iau na fi. Mae hi yn briod gyda’r Parch  Hywel Richards.

Hen Gar Tom
Mae llun o Tom Davies Ffynnonrhadus wrth ei gar yn 1950 ar dudalen 11 o ‘Canrif o Luniau’.

Adar Bargod
Mae llun o Barti Adar Bargod ar dudalen 140 o’r llyfr ‘Canrif o Luniau’. Mair sy'n eistedd ar y dde.

Ar Sgwâr Ffynnonrhadus mae ffordd gul yn dringo fyny tu ôl i’r tŷ ac yn lwybr cyhoeddus nes dod allan ym Mhenboyr. Ond, o ddringo’r ffordd mae’r tŷ hyfryd Maesawelon yn edrych lawr ar bentref Cwmpengraig.  Maesawelon oedd Mans Capel yr Annibynnwyr Soar. Mae rhyw frith gof gen i o T E Jones gweinidog Soar (1922 – 1949). Ond pwy ddaeth yno yn weinidog ac i fyw ym Maesawelon ond Y Parch Irfon Gwyn Jones a’i deulu pan oeddwn  i yn blentyn (1951 – 1956). Roedd y mab Gareth Vaughan Gwyn Jones yn yr un dosbarth a fi, ac fe fuon ni yn cyd chwarae llawer iawn o gwmpas y cwm.  Roedd ei frawd Cynan ychydig yn iau na Gareth a John oedd y plentyn lleiaf. Mae gen i’r teimlad na wnaeth y teulu bach hwn setlo’n rhyw dda iawn yn ein plith  a symud yn ôl i’r gogledd wnaethon nhw ar ôl ychydig o flynyddoedd.

Yna, fe ddaeth Y Parchedig WT Thomas a’i wraig a’r mab Emyr Wyn Thomas i fyw i Maesawelon (1960 – 1977), Bu WT yn weinidog poblogaidd iawn yn yr ardal ac yn gymeriad hoffus a chyfeillgar dros ben.  Bu cyfraniad Emyr Wyn yn un sylweddol hefyd yn y fro ac yn un o sylfaenwyr y papur bro  Y Garthen ac yn olygydd am flynyddoedd lawer. Ar ôl dilyn gyrfa fel athro fe ddilynodd Emyr ei dad i’r weinidogaeth ac mae e nawr yn weinidog ar nifer o gapeli yng ngogledd Sir Benfro ac yn dal yn weithgar dros ben mewn sawl maes.

Mae Emyr Wyn Thomas wedi croniclo hanes bywyd ei dad Y Parch WT Thomas yn y llyfr ‘Wil Tŷ Canol 1910 – 2000’. Yn y llyfr mae pennod gyflawn ar hanes ei dad yn weinidog yn Soar Penboyr ac fe geir darlun cyflawn ganddo o bobl ac ardal Cwmpengraig (Tudalen 25 ymlaen) gyda llun ardderchog o ddiaconiaid Soar yn y cyfnod hwnnw, sy’n cynnwys sawl enw rwyf wedi son amdanyn nhw yn yr erthygl hon. Ceir hanes Capel Soar, Penboyr ar dudalen 121 a chyfeiriadau cyson drwy’r llyfr am yr ardal a’i phobl ynghyd a nifer o luniau pwrpasol iawn.  Mae hwn yn lyfr gwerth ei ddarllen gan ei fod yn rhoi darlun da o Gwmpengraig yn ail rhan yr 20ed ganrif.
 
O droi i’r dde ar Sgwâr Ffynnonrhadus a mynd lawr y rhipyn a chroesi’r afon Esgair, o’ch blaen mae Capel Annibynnwyr Soar, Penboyr. Yn y llyfr Canrif o Luniau fe welwch sawl llun sy’n berthnasol i’r capel.

Old Carnival photo
Tudalen 45 – Y Cwmni Drama Gerdd

Funeral - Angladd
Tudalen 47 – Angladd y gweinidog JG Owen. Gallwch weld y Capel a’r Hen Gapel (festri yn fy amser i) a’r Tŷ Capel.  Hefyd ar y chwith Ty Aberdauddwr.

Parch W T Thomas
Tudalen 90 – Llun y Parchedig WT Thomas.

Saith Pregethwr Capel Soar
Tudalen 98 – Y gweinidogion a godwyd yng Nghapel Soar.

Mae gen i gof clir am rhai o’r digwyddiadau a gynhaliwyd yn Festri Soar. Roedd Eisteddfod Flynyddol yno ac roedd llwyfan uchel yn y festri a baratowyd ar gyfer cyflwyno’r Dramâu Cerdd.  Rwy’n cofio cystadlu, ac yn cofio hefyd am Barti Noson Lawen Coleg y Presby, Caerfyrddin yn dod yno, a’r diweddar Barchedig Caradog Evans a Jim Parcnest, pan yn fyfyrwyr ymhlith yr artistiaid yn cymryd rhan. Yn y festri byddai ‘Cor y Cwm’ yn ymarfer ar gyfer yr eisteddfodau lleol gyda Mrs James Green Meadow yn eu dysgu. Y pryd hwnnw byddai Cor y Cwm, Cor y Pentre, Cor y Borough (Drefelin ac Alltpenrhiw) a Chor y Waun yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Roedd llawer o ‘gythraul y canu’ o gwmpas hefyd!

Ar dudalen 215 o’r llyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr gan Daniel Jones cewch hanes sefydlu’r achos yn Soar ac ar dudalen 121 o’r llyfr ‘Wil Tŷ Canol’ hefyd.

Rwy’n cofio Hettie a’i phlant Megan a  Ieuan yn byw yn y tŷ capel ar waelod y rhiw serth sy’n arwain at Efail y Gof tu ôl i’r festri ar y rhiw. Dafi Gof neu David Evans oedd yn byw ac yn gweithio yno ac yn ddiacon yng Nghapel Closygraig. (Mae llun ohono yn y llyfr Braslun o Hanes Eglwys Closygraig ar y dudalen gyntaf . Llun yw hwn o ddiaconiaid y capel a Dafi Gof yw’r olaf ar y dde.)   O fynd fyny’r rhiw serth hon fe ddowch i fwthyn bychan hanner ffordd lan. Yr enw arno oedd ‘Pit’ ac yno y daeth Sarah Jones (Sarah’r Lan gynt) a chwaer i fy mamgu i fyw ac i ymddeol. Rwy’n cofio mynd gyda fy mam i’w gweld yno. Y fferm ar ben y rhiw yw Pantyffynnon. Un o fechgyn Pantyffynnon, a thua’r  un oed a fi oedd Uran. Roedd ganddo frodyr ac un ohonyn nhw oedd Jim neu Jim Bach fel y galwen ni ef. (Ar ddiwedd y daith hon fe ddaw ‘Jim Bach Pantyffynnon’ yn gymeriad pwysig i un o’m storïau.) Os cofiaf yn iawn fe laddwyd Uran mewn damwain beic modur ar rhiw Nant y Caws, Caerfyrddin ac yntau yn dal yn ifanc iawn.

Ar ben y rhiw hefyd roedd tŷ Penrhiwfawr gyda Tom a’i chwaer Sarah yn byw yno. Mae’n debyg y bydden nhw yn cwmpo mas yn gyson a Tom yn dod lawr i efail y gof i ddweud bo fe wedi cael llond bola a bo fe’n mynd lawr at yr afon i foddi. Ateb Dafi Gof oedd – “Tom bach paid a mynd heno achos ma’r dwr yn rhy oer!”
 
Gyferbyn a Chapel Soar mae Aberdauddwr.  Bwtshwr wedi ymddeol oedd Tom Aberdauddwr ac yn frawd arall i Jams Llysderi a John Glanesgair. Yma, mae’r afon Arthen yn ymuno gyda’r afon Esgair ac mae’r enw Aberdauddwr yn addas iawn i enwi’r tŷ.  Ar ôl croesi’r afon Esgair a throi i’r chwith  mae Tŷ Canol a Thŷ Uchaf. Anti May (Ynys y Coed wedyn) a’i gwr Jonnie a’i mherch Eurwen oedd yn byw yn Tŷ Canol. Roedd Eurwen yn ferch ddawnus dros ben  ac yn ennill gwobrau mewn eisteddfodau. Daeth hi yn athrawes i Ysgol Penboyr.

Priododd Eurwen maes o law gyda’r Parch Derfel Rees a oedd yn weinidog yng Nghapel Seiloh.  Symudodd y ddau ar ôl priodi i’r Rhondda ac yntau’n weinidog yno am flynyddoedd. Ar ôl marwolaeth ei gwr fe ddaeth Eurwen yn ôl i fyw i Ger y Llan, Felindre.

Dosbarth Gwnio
Mae llun o Eurwen Davies ar dudalen 64 yn y llyfr Canrif o Luniau  fel athrawes Dosbarth Gwinio Oedolion yn Felindre yn 1947.

Byddwn yn mynd fyny i Tŷ Canol yn aml ar neges dros fy mam ar gefn fy meic, gan fod Anti May yn gyfnither cyntaf iddi. Ond, roedd un broblem fawr – sef cwn Tŷ Uchaf. Unwaith y byddai unrhyw un yn croesi’r bont fechan dros yr afon Esgair am Tŷ Canol a Thy Uchaf  -mewn eiliad fe fyddai cwn Tŷ Uchaf ar eich hol ac yn cyfarth ac yn rhedeg bob ochr ichi ar gefn y beic. Y gyfrinach oedd pedlo’n gyflym cyn croesi’r bont a chodi eich traed i fyny i’r awyr rhag iddyn nhw eich cnoi wedyn tra roedd y cwn dieflig yn rhedeg a chyfarth gyda chi - nes cyrraedd Tŷ Canol yn ddiogel. Ond, fe ddaeth yr ymosodiadau hyn arna i gan gwn Tŷ Uchaf i ben yn sydyn. Un diwrnod, a finne’n ’free whilo’ am Tŷ Canol a’r cwn yn cydredeg gyda fi ar gefn fy meic, ac wrth i un ohonyn nhw ddod yn rhy agos i fy esgid dde fe roies i gic i’r ci a’i ddal o dan ei en ac fe gaeodd ei geg gyda crac o ergyd. Trodd yr hen gi ar ei gwt gan sgrechian ei ffordd yn nol i Tŷ Uchaf. Braf yw cyhoeddi na ddaeth un o gwn Tŷ uchaf yn agos ata i na’r beic byth wedyn!
 
O droi lawr am y Capel o Ffynnonrhadus a chroesi’r afon Esgair a throi’n sydyn i’r dde o flaen y capel fe ddown i Danderi lle’r oedd siop fechan os cofiaf yn iawn. Ond rwy’n cofio ‘twins Danderi’ sef Marlene a  Christopher plant John Daniel  – y ddau ychydig flynyddoedd yn iau na fi. Mae Marlene yn dal i fyw yno ac yn briod a Winston. Bu Christopher wedyn yn rhedeg busnes llwyddiannus iawn yn Glaniwmor yng nghanol  pentref Felindre tan iddo ymddeol.

Yn syth ar ôl Danderi roedd hen ‘hewl gart’ yn codi fyny’n serth trwy’r coed i Benlangribyn. Ond, roedd y ffordd hon yn arwain hefyd i Fynwent Capel Soar sydd wedi ei lleoli mewn lle cwbl anghysbell ar ben y bryn tu ôl ac uwchben y capel. Mae gen i gof o angladdau gyda ‘ceffyl a hers’ yn cario’r arch i fyny’r hen ffordd serth ac anodd hon i’r fynwent ar y top. Mae Terry James a oedd yn byw yn Green Meadow yn cofio angladd ei dad Albert James a fu farw yn 54 oed yn y flwyddyn 1950. Roedd Terry a’i frawd Handel a’i chwaer Ceridwen yn dilyn yr ‘ceffyl a’r hers’ fyny’r rhiw. Roedd ei fam yn feichiog o 8 mis yn disgwyl y ferch ieuengaf Petra. Bellach ‘hers modur’ sy’n cludo’r arch ar y ffordd fawr o gwmpas y pentref ac yna yn ôl i’r fynwent ar ben y bryn.
 
A dyma ni wedyn yn cyrraedd Green Meadow. Mae rhes o dai gyferbyn a Ffatri Green Meadow ac yn un o’r tai hyn roedd Handel, Terry a Ceridwen a Petra  James yn byw. Yn y llun ar dudalen 45 yn y llyfr Canrif o Luniau fe welwch ar y dde Mr David Albert James y tad yn gyfarwyddwr cerdd y Ddrama Gerdd yng Nghapel Soar. Bu ei gyfraniad cerddorol ef yn fawr i’r achos yn Soar a bu Mrs James yn chwarae’r organ am flynyddoedd lawr hefyd. Bu Terry yn reolwr banc cyn dal swydd Prif Reolwr Newtown Business Centre ac mae wedi ymddeol i fyw yng Nghaerfyrddin a dof ar ei draws yn aml mewn gemau pel droed ac yntau hefyd yn gyn chwaraewr i dim y Bargod Rangers. Yng Nghastell Newydd Emlyn mae Ceridwen wedi byw ar hyd ei hoes.

Roedd Ffatri Green Meadow gyferbyn a’r tai wedi gorffen cynhyrchu gwlân ac yn fy amser i roedd hi yn Stordy Caws Ffatri ‘Cow & Gate’ Castell Newydd Emlyn.

Newidiwyd enw’r ffatri wlân i Dolwerdd gan ei pherchennog presennol Arthur Morus, sy’n frawd i’r canwr a’r cenedlaetholwr enwog Dafydd Iwan. Mae ef wedi gofalu bod defnyddiau o hyd yn cael eu cynhyrchu o wlanen yng Nghwmpengraig, a’r unig  ffatri bron yn holl ardal Drefach Felindre sy’n dal i wneud hynny.

Yn y Llyfr ‘Melinau Gwlân’ (Gwasg Gomer) gan Branwen Davies, mae pennod gyfan gyda lluniau lliw am Ffatri Dolwerdd. Mae hwn yn gofnod pwysig o hanes y ffatri o dan ofal ei pherchennog Arthur Morus.

STORI AM GWMPENGRAIG:

A nawr mae’n bryd i mi adrodd stori ryfeddol y Dr Gareth Crompton, Danffynnon gynt.

Yn ôl Gareth bu Cwmpengraig yn le enwog am ei cherddorion gan fod HAYDN, HANDEL a BACH wedi bod yn byw yno ar yr un pryd.
Sut hynny?

Wel, roedd HANDEL yn byw yn Green Meadow, HAYDN yn byw yn Peterswell a Jim BACH yn byw ym Mhantyffynnon yr un amser!
 
O fynd nol i Sgwâr Ffynnonrhadus, yno mae Penlonrhadus ar y fforch yn y ffordd.  Mae’n debyg i’r mab gael ei ladd yn y rhyfel byd cyntaf ac fe geir ei hanes ar Wefan Hanes Milwyr yr Ardal.  O gario ymlaen yn syth ar y briffordd roedd  tŷ a Ffatri Coedmore ar y dde. Roedd Barbara Coedmore yn yr un dosbarth a fi yn Ysgol Penboyr a’r cof sy gen i amdani oedd ei bod bob amser yn ferch osgeiddig a thrwsiadus iawn a’i bod yn dod o gartref cyfoethog.  Roedd ganddi ddwy chwaer yn hyn na hi a chofiaf y siarad yn yr ardal am fod un ohonyn nhw wedi newid ei henw i ‘Annette’ am ei fod yn fwy Seisnig.

Cofiaf y tan mawr yn Ffatri Coedmore pan ddaeth y galw am frethyn a gwlanen i ben. Yn rhyfedd iawn dim ond y ffatri a losgwyd. Dyna pam roedd hi mor bwysig bod pob ffatri wedi ei ‘insiwro’!
Y tŷ nesaf yw Wernewydd ble roedd Raymond – ychydig yn iau na fi – yn byw gyda’i fam Rene Wernewydd.

Y tŷ nesaf yw Llwynderw. Yma roedd Mollie a Nansi Phillips yn byw. Priododd Mollie gyda Des Morris, chwaraewr pel droed hynod o galed i dim Castell Newy’ yr un cyfnod a ‘Bois Parcnest’.
O droi fyny ar y chwith wedyn yn sydyn roedd y lon yn arwain i’r fferm Bachygwyddil, ac mae brith gof gen i am Jones Bachygwyddil.

O gario ymlaen i fyny’r cwm fe sylwch ar yr afon Arthen yn llifo wrth ochr y ffordd, ac er mai afon fechan yw hi, dyma lle bues i yn pysgota am y tro cyntaf yn grwt. Fe brynais wialen bysgota newydd sbon a ril hefyd ar ôl casglu tipyn o arian poced, ac i byllau bach yr afon Arthen, gyda’r mwydyn ar y bachyn, y llwyddais i ddal ambell frithyll bach. Rwy’n ofni mai segur fu’r wialen ers y fflach o ddiddordeb y dyddiau rheini a’i bod yn hongian ar wal y garej
ers hynny.

Mewn ychydig fe ddowch i ben hewl fferm Tyhen ar y chwith. Hewl ffarm serth sy’n dringo ochr y cwm i Dyhen ac yno roedd un o fy ffrindiau gorau yn byw – Eric Tyhen neu John Seimon Eric Griffiths o roi iddo ei enw llawn.

Gallwn ysgrifennu cyfrolau am Eric, ac wrth agor ei lyfr Hiwmor y Cardi mae Emyr Llewelyn yn adrodd stori arbennig amdano yn Ysgol Ramadeg Llandysul. Fe wnes inne’r un peth gyda fy stori gyntaf yn y llyfr Hiwmor Sir Gar.   Datblygodd Eric i fod yn fardd gwlad effeithiol, ond gorffen yn Ysgol Ramadeg Llandysul cyn gynted a phosibl er mwyn mynd ‘i ffarmo’ oedd ei brif nod mewn bywyd. Wrth i ni’n dau fod yn Griffiths roedd ein rhif mynediad i’r Ysgol ar y Bryn yn 2886 a 2887 ac yn profi ein agosatrwydd.

Soniais am Eric fel bardd gwlad, ac yn y llyfr ‘Hanes Wil Tŷ Canol’ gan Emyr Wyn Thomas, fe welwch benillion o waith Eric a adroddwyd ganddo yng ‘Nghwrdd Ymadawol i’r Parchedig W T Thomas, Rhagfyr 1976 gyda’r nodyn ar y gwaelod – Eric Griffiths Tyhen. (Y Tenor o Tyhen.)

Braf oedd cael mynd lan i Tyhen a chyfarfod a’i dadcu Seimon a’i fam a Jane, chwaer ei fam, a’i ddwy chwaer Nesta ac Eiry. (Rwyf wedi son am Nesta a briododd gyda Gwilym Howells ac a fu’n byw rhwng  yr Orsaf Heddlu a Pharcerrig yn Nrefach.) Mae llun o Seimon Tyhen ar dudalen 25 o’r llyfr ‘Wil Tŷ Canol’ gyda diaconiaid Capel Soar.

Llun o Eric
Mae llun o Eric – y pedwerydydd o’r chwith yn y cefn ar dudalen 101 o’r llyfr Canrif o Luniau fel aelod o Gyngor Cymuned Llangeler.

Gyferbyn a’r lon sy’n troi bant o’r hewl fawr am Tyhen mae ‘hewl ffarm’ sy’n arwain i fferm Pengraig lle bu Benjy a Gwenda Llainddu yn ffermio am flynyddoedd lawer. Y fferm yn ei hymyl wedyn yw Penparc.   I Benparc y symudodd y teulu Cook i fyw o ganol Lloegr. Nhw oedd y teulu o Saeson cyntaf i ddod i’r ardal i ffermio. Roedd yna bump o blant – y ddwy ferch hynaf, yna David a ddysgodd Gymraeg yn rhwydd ac yna efeilliaid tua’r un oed a fi sef Janet a Jean Cook. Priododd Sheila gyda Gerwyn Blaenbuarthe y fferm yn ymyl a Jean gyda Alwyn, un o feibion Emlyn Garage, Castell Newydd Emlyn. Priododd Janet gyda Melville Thomas a mynd i fyw i Birmingham lle’r oedd Melville yn athro. Fe gawson nhw dri o blant. Rwyf wedi adrodd mewn lle arall am y ddamwain angheuol a gawson nhw yn y car ar y ffordd yn nol i Birmingham ar ôl bod yn ymweld a’u teuluoedd yn Felindre. Lladdwyd y teulu i gyd ar y ffordd rhwng y Drenewydd a’r Trallwm. Priododd David gyda merch leol hefyd ac mae ef yn byw yn Saron. Rwy’n dal i weld David yng Nghaerfyrddin bob hyn a hyn.
Fe ddaeth Sulgwyn Parce, Cwmhiraeth gyda’i wraig Gwenda Rogers Llainddu i ffermio Penparc maes o law.

O fewn canllath wedyn ar y ffordd bfawr mae Cilgraig ar y dde ac yna’r bwthyn bach Ffos y Wernen gyferbyn.  Rwy’n cofio mynd fyny o Lwynbedw i Ffos y Wernen at Gwynrhyd a’i chwaer Martha. Fe oedd yn ‘chargo batris radio’.  Cyfnod y ‘wet batteries’ oedd hi y pryd hwnnw. Os oedd radio gyda chi yn y tŷ roedd hwnnw yn ddarn o gelfi ar y ford yn y gornel gyda nobiau ar y gwaelod a rhyw net crwn ar y blaen. Yn y cefn y byddech chi yn cysylltu gwifrau gyda’r ‘wet battery’ sef  pot mawr gwydr gyda darn neu ddau o fetal y tu mewn gyda dwr (!) o’i amgylch. Bydde’r metal yn bwyta’r dwr (!) ymhen rhyw wythnos a byddai rhaid mynd a’r potyn lan at Gwynrhyd wedyn i’w ail ‘chargo’ am wythnos arall. Roedd rhaid gofalu nad oedd y dwr (sef yr asid ) yn mynd ar eich dwylo gan y byddai yn eich llosgi yn ddrwg. Dyna pam roedd dwylo Gwynrhyd mewn stad go wael i edrych arnyn nhw!

Yna, yn syth ar ôl Ffos y Wernen troi ar y chwith i Nant a hefyd Nantllin.  Y canwr enwog Ieuan Evans oedd yn byw yn y Nant. Ar hyd ei oes bu Ieuan yn ganwr poblogaidd dros ben ac yn canu pan yn ifanc mewn eisteddfodau ac yna mewn partïon a chorau lleol. Roedd ganddo lais baswr ardderchog. Cofiaf yn dda amdanom yn cystadlu fel wythawd (pedwar llais) mewn rhyw eisteddfod leol ac yn ymarfer yn nhy Bronwen Jones Bangor House yn y pentref.  Yn grwt ifanc fe ofalodd Bronwen fy mod i yn canu bas gyda Ieuan gan fod dau yn canu pob llais. Ces fy nysgu i ddilyn y solffa ochr yn ochr a Ieuan, a’r darn oedd ‘Y Bwthyn ar y Bryn’. Rwy’ dal i’w gofio ac rwy’n gallu ei ganu yn eithaf da o hyd.
 
A dyma gychwyn dringo rhiw Blaenbuarthe wedyn a chyrraedd y fferm honno ar y chwith.

Roedd Gerwyn yn ffermio Blaenbuarthe gyda’i dad a’i fam, a’i frawd Arthen rhyw flwyddyn neu ddwy yn ifancach na fi. Dal  bws Clarke o Gapel Iwan  i Ysgol Llandysul yn uwch i fyny’r rhiw yn Cross Roads oedd Arthen.  Mae ef a’i wraig wedi treulio eu bywydau yn Torquey lle’r oedd Arthen yn athro. Bellach mae nhw wedi dod nol i Gaerdydd i fyw. Adeiladodd Gerwyn a’i wraig Sheila fyngalo ychydig i fyny’r ffordd o Flaenbuarthe ar ôl ymddeol. Mae llun o Gerwyn yn ŵr ifanc ar dudalen 25 o’r llyfr ‘Wil tŷ Canol’ fel un o ddiaconiaid Capel Soar.
 
Ar draws y cwm a gyferbyn a Blaenbuarthe mae Llwyn-neuadd.  Ffermdy braf arall, a chofiaf Jonnie Llwyn-neuadd yn ei fritsh a’i legins yn teithio trwy bentref Cwmpengraig. Mae John ei fab  wedi ysgrifennu dau lyfr am ei fagwraeth yn Llwyn-neuadd ac yn rhoi darlun da o ddau gyfnod yn yr ardal – un ohonynt cyn i fi ddod i fyw i Gwmpengraig ac un arall ar ôl i fi adael. Mae’n werth eu darllen. Y llyfr cyntaf yw ‘Cofio’n ôl’ a’r ail  ‘Cofio’r Hwyl’ gan John Tudor Jones mab Llwyn-neuadd. Mae John wedi ymddeol ac yn byw nawr gyferbyn a’r gatiau sy’n arwain i Dangribyn sef y tŷ nesaf lawr o Glanesgair.
 
O deithio fyny rhiw Blaenbuarthe fe welwch Llainddu ar draws y cwm. Byddai fy mam a fi yn mynd fyny i Llainddu bob hyn a hyn ar brynhawn Sul i gael te gyda Wynford a Ray Rogers a’r merched Gwenda a Iona – am eu bod yn perthyn i ni. Wnes i ddim sylweddoli tan i fi fynd ati i ysgrifennu hanes y teulu bod Wynford yn ail gefnder i mam, a’r pryd hwnnw wrth gwrs roedd aelodau o’r un teulu yn llawer agosach yn eu cyswllt a’i gilydd. Wrth baratoi hanes y teulu sylweddolais mae mab Llainddu oedd fy hen dadcu sef ‘Twmi’r Lan’ maes o law. Soniais am Gwenda yn priodi gyda Sulgwyn a mynd i ffermio Penparc ac fe briododd Iona gyda Gilbert Lote Evans a oedd yn byw yn y Llythyrdy gynt ar Sgwâr y Gat. Fe aethon nhw bant i Loegr i fyw. Mae llun o Wynford Rogers, Llainddu ar dudalen 25 o’r llyfr ‘Wil Tŷ Canol’ fel un o ddiaconiaid Capel Soar.

Cofiaf yn dda am Gilbert a Iona yn son wrtha i rhywbryd pan ar ymweliad a’r ardal mewn blynyddoedd lawer wedyn a hwythau yn byw yng nghanol Lloegr iddyn nhw fy ngweld ar y teledu mewn ffenest siop rhyw ddiwrnod.

Ychydig ar y dde cyn cyrraedd Cross Roads roedd bwthyn bychan o’r enw Gwarcwm ac yno roedd Deina a’i mab Gwyn Beale yn byw. Gwraig hynod o dal a bob amser yn gwisgo mewn du oedd Deian Beale a phawb braidd yn ofnus  ohoni mewn rhyw ffordd. Yn ol yr hanes roedd Gwyn wedyn yn ‘dipyn o dderyn’ ac yn hoff o’i beint. Tybed beth ddaeth o’r ddau gymeriad hynod hyn!

O gyrraedd top y rhiw mae Bwlchclawdd ar y chwith cyn cyrraedd Cross Roads - lle mae pedair hewl yn cwrdd. Fe briododd Thomas Jones, mab Llainddu gyda Mary merch Bwlchclawdd sef fy hen famgu. Felly, mae’n werth nodi bod y rhan hon o’r ardal yn annwyl iawn i mi gan mai yma y bu fy hen dadcu a mamgu yn byw cyn mynd i ffermio fferm Y Lan (Cilrhedyn) rhyw ddwy filltir bant a lle y magwyd fy mamgu.  Mae fy ngwreiddiau’n ddwfn yn nhir yr ardal hon. Ffordd dda i ddod i ddiwedd ‘Am Dro i Gwmpengraig’. 

About the Stori Fawr Dre-fach Felindre Project

Through the website you can see old photographs over the past hundred years and read old documents and reports.

Dre-fach Felindre district - the villages of Cwmhiraeth, Cwm-pen-graig, Dre-fach, Drefelin, Felindre, Penboyr and Waungilwen - home of the National Wool Museum and very many woollen mills years ago, Bargod Rangers Football Club, the Red Dragon Hall, Penboyr School, St Llawddog and St Barnabas churches, Bethel, Clos-y-graig, Pen-rhiw and Soar chapels and innumerable annual carnivals!




Back to Top