skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

Draw i Drefelin

Taith yn llawn atgofion gan Peter Hughes Griffiths  trwy bentref Drefelin yn ail hanner yr 20ed ganrif.

Bydd cael y llyfr ‘Canrif o Luniau’ wrth law yn help i weld lluniau perthnasol wrth fynd ar y daith.
 
Fe wnawn gychwyn y daith ar waelod Rhiw Cyrff ger yr Hen Reithordy, neu’r ‘Vicarage’ neu ‘Tŷ Ffeirad’ fel yr oedd pawb yn cyfeirio at y lle yr amser hwnnw. (Rwyf eisoes wedi son am Y Rheithordy ar fy nhaith gyntaf drwy’r pentref).  Yn yr hen amser roedd tafarn yno o’r enw Troedyrhiw.

O fynd fyny Rhiw Cyrff am rhyw ugain llathen, ac wrth droi i’r chwith i lawr am Drefelin mae tŷ o’r enw Temple. Cofiaf am Mr a Mrs Jones, Temple a’r teulu yn byw yno. Roedden nhw yn gymdogion i ni gan fod Llwynbedw yn ymyl. Roedd yna ffordd, neu mwy fel lon, yn arwain o Temple i ben hewl Llwynbedw yr adeg honno. Roedd hi yn ‘short cut’ da i ni ar ein ffordd o Lwynbedw i Glosygraig.  (Deallaf fod perchennog presennol y Temple yn mynnu rhwystro’r defnydd o’r lon hon erbyn hyn.)
 
O fynd lawr rhiw Temple i gyfeiriad Drefelin, y tŷ cyntaf ar y chwith ar waelod y rhiw oedd Penlon Newydd. Yma, roedd Mr Mrs John Thomas yn byw gyda’u mab David.

Roedd pawb yn adnabod Mr Thomas fel ‘Jack y Peinter’.  Fel ei enw, gwaith Jack oedd mynd o gwmpas yr ardal i beintio adeiladau a phethau eraill yn ôl y galw. Ond, nid am hynny roedd ef yn fwyaf enwog, ond  oherwydd ei fod yn gymeriad hynod o liwgar o fewn y gymdeithas a hynny oherwydd ei siarad a’i weithgareddau doniol. Wna i ond nodi un neu ddwy o’i storïau difyr.

Yn ôl Jack fe gafodd e ei eni yn Felindre ac roedd e wedi croesi’r Atlantic bump o weithiau. Os felly, yn yr America y dylsai fod wrth adrodd yr hanesyn. Roedd ganddo sawl stori am ei gyfnod yn America  –

“Roedd y ‘restaurants’ mor fawr yn America – gwaith un dyn oedd mynd rownd y byrddau gyda’r mwstard ar gefn beic!  Roedd y rhychau tato mor hir, erbyn bydden nhw yn gorffen plannu pen draw’r rhych fe fydden nhw’n tynnu’r tato lle dechreuo nhw!”

Roedd David y mab yr un oed a Beti fy chwaer ac yn grwtyn tal a chryf iawn. Roedd paffio (bocso) yn boblogaidd iawn yn y 1940’au a byddai fy nhad a Jack yn codi ganol nos i wrando ar sylwebaeth ar y radio o wahanol ffeits. Ar  y noson pan oedd Tommy Far yn ymladd Joe Louis fe aeth fy nhad draw i Benlon Newydd i wrando ar y ffeit ar y radio tua pump o’r gloch y bore. Yno, yn ei ddillad gorau ac yn gwisgo ei ‘tei bo’ roedd Jack yn barod i wrando ac yn smocio sigâr.
 
Roedd Jack wedi prynu "boxing gloves" i’w fab David ac yn ei ddysgu i focso. Ar ôl ychydig wythnosau gofynnodd Jack a allai e ddod a David draw i’n tŷ ni yn Llwynbedw i gael ffeit yn erbyn fy nhad. “Popeth yn iawn”, oedd ateb fy nhad yn groes i ddymuniad cryf fy mam.

Yn grwt bach yn y gegin, rwy’n cofio’r digwyddiad yn iawn. Cliriwyd llawr y gegin yn barod ar gyfer yr ymladdfa (!), gyda fy mam wedi mynd ‘ mas i’r bac ‘ mewn natur wyllt achos y fath ddwli.

Roeddwn i a fy nhad ar ddeall mai rhyw ‘chwarae o gwmpas’ oedd y ffeit i fod gyda Jack yn un gornel o’r ystafell gyda David, a finne gyda fy nhad yn y gornel arall. Ar ôl rhyw ddwy rownd o daro ambell ergyd a Jack yn amseru tair munud i bob rownd dyma Jack yn datgan yn glir – “Knock him out now David in this rownd” er syndod mawr i fy nhad, gan ddod i’r casgliad yn sydyn fod Jack y Peinter o ddifri!   Ar ddechrau’r rownd dyma David yn mynd am fy nhad gan chwifio ei freichiau a cheisio taro ei wrthwynebydd. Ond, yn sydyn dyma fy nhad yn rhoi cythrel o ergyd o dan en David a’i godi yn glir o’r llawr nes ei fod yn disgyn fel sach o dato ar ben y bwrdd bach a’r radio yn y gornel.

“That’s enough, take the gloves off now David and we will call it a draw!”, gwaeddodd Jack.

Daeth yr ymladdfa i ben yn sydyn gyda Jack a’i fab David yn bwrw am adref yn bur siomedig!
Ydw, rwy’n dal i gofio’r digwyddiad hwnnw er nad oeddwn ond yn grwt bach iawn yn y 40’au.

Oherwydd ei daldra corfforol a’i gryfder yn lanc ifanc fe gafodd David Penlon Newydd y llysenw ‘Dai Diened’ (Dai Dienaid). Doedd dim ofn dim ar Dai a byddai’n reidio ei feic yn rhyfeddol o gyflym ar hyd y pentref, ac ar y cae pel droed roedd e’n daclwr ac yn rhedwr di-stop. Datblygodd David i fod yn ganwr ardderchog a bu ef a’i wraig yn canu gyda’r enwog "Lyrian Singers" pan yn athro yng Nghaerdydd. Pan yn grwt bu’n canu deuawdau gyda fy chwaer Beti.

Roedd Mrs Thomas yn Saesnes rhonc ac yn gymeriad gwahanol i bawb arall mewn pentref gyda thraddodiad crefyddol a Christnogol. Roedd hi yn gwbl ymroddedig i achos y "Jehova Witnesses". Byddai hi yn dod o gwmpas y tai i werthu eu cylchgrawn. Byddai hi yn sefyll ar ymyl y stryd yng Nghastell Newydd ar ddiwrnod mart neu adeg y ffeiriau yn cynnig y cylchgrawn i bobl. Gyda’r eglwysi a’r capeli’n llawn y cyfnod hwnnw does dim rhyfedd fod pawb yn ystyried Mrs Thomas yn berson od. Bellach ni fedraf lai na edmygu ei safiad dros ei ffydd.

Yn rhyfedd iawn, yn ei ieuenctid  roedd David yn ceisio  argyhoeddi ei fam i beidio a mynd ‘allan i’r priffyrdd a’r caeau’ gyda’i chenadwri, ond maes o law fe ymunodd David a’i wraig gyda chred y Tystion Jehofa.

Coffa da am deulu amrywiol ac amryddawn Penlon Newydd.
 
Ymlaen ar hyd y ffordd wastad wedyn gyda wal gerrig hir ar yr ochr dde. Yna, roedd torriad yn y wal a ‘sticil’ yno, gan fod llwybr oddi yno ar draws y cae ac i fyny’r oledd i dop Rhiw Cyrff ac i gyfeiriad Penboyr.

Ymlaen wedyn a chroesi Pont Afon Bargod, ac o droi i’r chwith yn syth a lawr y lon fe ddown i Danwarin. Dyma gartref enwog Teulu Danwarin. Teulu o "Fwtsheriaid" (Cigyddion). Bu David a Ces Evans yn fwtsheriaid lleol. Dai yn Neuadd Wen yng nghanol y pentref a Ces yn Nythfa ar y ffordd i Waungilwen. Mynd a’r cig mewn fan fyddai’r ddau ar eu "rownd" wythnosol o gwmpas yr ardal.

Fy nghof cyntaf i o Danwarin oedd mynd yno i gael gwersi piano gyda Margaret Evans a oedd yn byw yno gyda’i mham. I grwt fel fi roedd mynd i gael ‘music lessons’ unwaith yr wythnos i Danwarin yn uffern, ond mynnai mam fy mod yn cael y cyfle i ddysgu canu’r piano.  Methaint fu gwersi ‘Maggie Danwarin’ ac fe drefnodd mam i mi fynd at Bronwen Jones yn Bangor House yng nghanol y pentref. Ofer fu hynny hefyd. Carwn bwysleisio mai nid ar yr athrawesau oedd y bai! 
 

Ar dudalen 46 o’r llyfr Canrif o Luniau fe welwch yn glir y rhan nesaf o bentref Drefelin a’r bwthyn Bancyfelin a dynnwyd yn 1939. Sylwch mai tŷ to gwellt yw e yn y llun ac felly roeddwn i yn ei gofio hefyd. Yn byw yno roedd Rachel Isaac. Gwraig dal oedd Rachel ac yn ffrind i fy mam. Byddai hi yn dod i Lwynbedw yn aml ac rwyf wedi ysgrifennu ar dudalen 11 yn fy hunangofiant "O Lwyfan i Lwyfan" am yr hen fardd Samuel Owens yn dymuno priodi Rachel Isaac ar ei wely angau, a mam yn eu ffug briodi nhw!  Rachel, yn aml iawn, os oedd marwolaeth yn lleol,  fyddai’n ‘troi y corff heibio’. Ond i mi roedd y ffaith bod Rachel yn fodryb i’r enwog Norah Isaac yn bwysig iawn. Ym Mancyfelin y ganwyd ac y magwyd David Isaac tad Norah, ac ar ôl i mi fynd i Goleg y Drindod yn fyfyriwr fe ddes i yn ffrind agos iawn i Norah Isaac, cyfeillgarwch a barodd am weddill ei hoes.

Pan oedd Noarh yn hen ac yn fusgrell, fe alwodd person yn fy nghartref gan roi i mi ddogfen hanes teuluol a oedd yn dangos yn glir bod mamgu Norah a fy hen famgu i yn ddwy chwaer a fagwyd yn Bwlchclawdd, Penboyr.  Gyda chryn foddhad yr es i yn syth at Norah yn ei chartref yn Llwybrau, Heol Pentremeurig, Caerfyrddin i ddweud wrthi ein bod ni ein dau yn perthyn!  Yr hyn am synnodd fwyaf oedd y ffaith bod Rachel Isaac a fy mam yn ffrindiau mor dda, ond tybed a wydden nhw eu bod yn ail gyfnitherod? Chlywais i ddim un ohonyn nhw yn cyfeirio at hynny.

Golygfa o Drefelin

Yn union gyferbyn a Bancyfelin mae’r Felin a oedd yn gweithio’n brysur pan oeddwn i yn blentyn. Tom Davies a’i fab Ronald oedd yn malu’r ceirch a’r ŷd ac yn creu’r blawd, ac roedd cael mynd i’r felin a cherdded o gwmpas a gweld sut oedd y blawd yn cael ei gynhyrchu yn sefyll yn glir yn y cof. Roedd Y Felin yn bwysig hefyd i ni’r plant am un rheswm arall – gan mai yno y byddai’r bws yn dod i’n casglu ni blant a’r aelodau o Gapel Closygraig i fynd ar ein ‘Trip Ysgol Sul’ yn flynyddol. Ac o edrych pa mor gyfyng yw’r ychydig le o flaen y felin, fedra i ddim llai na rhyfeddu at sut roedd y bysiau (ie, dau fws bob blwyddyn) yn medru troi nol cyn mynd ar ein taith.
 
Mae rhes o dai wedyn ar y chwith wedi eu codi yn uwch na’r ffordd – Eryl, Pencnwc a Glasfryn.  Dim ond Glasfryn sy’n sefyll mas yn y fy nghof i gan mai yno yn nhy Willie Glasfryn fyddai cangen newydd a chyntaf erioed o Blaid Cymru yr ardal yn cwrdd. Pymtheg oed oeddwn i, ac rwy’n cofio mynd yno i drefnu ymgyrchoedd Jennie Eirian Davies yn sefyll dros Blaid Cymru yn 1955 a 1957.  Gweinidog Closygraig ar y pryd, sef Y Parchedig Michael Thomas ynghyd ag un o’i ddiaconiaid Tom Morgan sefydlodd y gangen. Rwy’ cofio teithio yn y car gyda’r gweinidog a Tom Morgan wrth iddyn nhw siarad yng nghyfarfodydd yr ymgyrchoedd hynny.  Byddai’r diweddar Michael Thomas (brodor o Lanberis) a Tom Morgan wrth eu boddau o wybod mai cynghorydd sir Plaid Cymru sydd yn cynrychioli Ward Llangeler ar Gyngor Sir Caerfyrddin ers blynyddoedd maith bellach.  (Mae Mrs Mair Thomas gweddw’r gweinidog yn 102 oed bellach (2019) ac yn byw ym Mangor ac rwy’n cadw mewn cysylltiad gyda hi o hyd, ac mae hi wrth ei bodd yn dwyn atgofion am y dyddiau pan oedden nhw’n byw yn Y Mans, Drefelin.
 
Gyferbyn a’r tai hyn, ac ar y dde mae Glanpownd, gan fod y ‘pownd dwr’ yn mynd heibio cefn y tŷ a’r dwr ar ei ffordd i droi y ‘rhod ddŵr’ yn y felin. I ‘Glanpownd’ yr es i i ddysgu’r Rhodd Mam, sef llyfryn bychan yn llawn o gwestiynau ac atebion ysgrythurol a moesol. Menna Jones, ‘Lanpown’ oedd yn ein helpu i ateb y cwestiynau cyn sefyll arholiad wedyn yn festri Capel Closygraig – a chael tystysgrif am wneud hynny. Athrawes oedd Menna a Ieuan ei brawd yn athro ac yna yn brifathro ar Ysgol Brynsaron. Roedd Ieuan yn chwaraewr pel droed da gyda Bargod Rangers a chofiaf ef yn chware pan oeddwn i yn grwt yn cefnogi’r tim.

Nesaf at Glanpownd mae’r Felin Newydd cartref Tom y melinydd a Ronald ei fab. Nhw hefyd oedd yn ffermio’r ychydig gaeau tu ôl i’r tŷ ac ar lan yr afon Bargod. Roedd Ronald tua’r un oed a Beti fy chwaer (deng mlynedd yn hyn na fi), a byddai’n galw yn aml yn ein tŷ ni, ac wrth edrych yn ôl yn awr, tybed a oedd e’n galw gyda’r bwriad i fod yn ffrind i Beti fy chwaer?  Pwy a wyr!  Ond, bydd pawb yn cofio Ronald (ac mae llun gen i ohono) yn arwain yr orymdaith drwy’r pentref ar ddydd y carnifal blynyddol yn ei got goch ar gefn ei geffyl.

Y tŷ nesaf wedyn ar yr un ochr a’r Felin Newydd oedd Ivy Bush.  Pam yr enw hwnnw tybed? Yno roedd Sydney Plaister (?) a’i wraig yn byw, ac yn aelod yng Nghlosygraig. Yn y llun o aelodau capel Closygraig ar dudalen 83 o’r llyfr Canrif o Luniau Sydney yw’r ail berson ar y dde i’r gweinidog gyda llyfr dan ei gesail. (Fi yw’r bachgen sy’n sefyll yn syth i’r dde tu ôl iddo yn y llun).
 
Gyferbyn a’r Ivy Bush ac eto yn uwch na’r ffordd mae Aelybryn 1 ac Aelybryn 2.  Syndod yw sylwi ar sut yr adeiladwyd y tai sydd ar y chwith yn y pentref trwy dorri mewn i’r oledd serth ac hyd yn oed clirio lle i gael gardd tu ôl i’r tai hyn.

Siop Eleanor rwy’n  gofio yn Bancyderi, sef y bwthyn nesaf ar y chwith, a dim ond loshin wnes i ei brynu yno erioed! Mae llun o Bancyderi ar dudalen 36 o’r llyfr Canrif o Luniau. Heblaw am y to gwellt fel yna rwyf fi yn ei gofio hefyd. Tybed a’i Tom Jones yn y llun oedd tad Eleanor Bancyderi? Mae hyn yn debyg gan mai cario ymlaen gyda siop ei thad wnaeth hi siŵr o fod.
 
Yna, gyferbyn a Bancyderi roedd Y Mans – sef Mans Gweinidog Capel Closygraig.
Er bod brith gof gen i am y Parch J H Davies a fu farw yn 1947 ( a minnau’n saith oed), fe ddaeth y Parch Michael Lewis Thomas yno yn 1948 a fe fu’r gweinidog ar Glosygraig adeg fy ieuenctid, a bu ei ddylanwad yn fawr iawn arnaf.  Roeddwn yn dal yn aelod yng Nghlosygraig pan ddaeth Y Parchedig Gwilym Rees yno hefyd. Mae llun o Michael Thomas ar dudalen 83 o’r llyfr Canrif o Luniau yn ei goler gron arferol a’i wraig Mair y cyntaf i’r chwith yn y rhes flaen nesaf at y wraig sy’n dal ei basged.  Mae llun o’r gweinidog gyda’i ddiaconiaid yn y llyfr Eglwys Clos-y-graig 1754 – 1954 Braslun o’i Hanes.
 
Drws nesaf i’r Mans mae Y Glyn, lle’r oedd Donald Johnson a’i wraig yn byw, ac yntau’n ddiacon yng Nghlosygraig. Nodwedd arbennig iawn am Donald oedd ei lais canu baswr cyfoethog iawn. Mae ei lun yntau hefyd ar dudalen 83 o’r llyfr Canrif o Luniau – yn syth tu ôl i Alun Evans sydd ar y dde i’r gweinidog. Hefyd mae ei lun fel un o’r diaconiaid yn y llyfr ar hanes y capel a nodais uchod. Mae llun arall o Donald Johnson fel rhan o Wythawd Bargod Teifi ar dudalen 95 o’r llyfr ‘Canrif o Luniau’.
 

Closygraig
Aelodau Closygraig

8 awd Bargod Teifi
Donald Johnson fel rhan o Wythawd Bargod Teifi

Ar yr ochr chwith wedyn roedd rhes o dai braf Maesyfelin, Brynafon ac Ardwyn.

Brynafon oedd cartref yr enwog Alun Jones, ‘Alun Brynafon’ neu ‘Bocsi’ fel y bydden ni yn ei alw.   Athro oedd Alun yn Ysgol Uwchradd Aberteifi ac yn dra gweithgar yn ei filltir sgwâr.

Mae llun ohono ar dudalen 68 o’r llyfr Canrif o Luniau yn sefyll yn grwt ifanc yn y cefn ar y chwith gyda thîm pel droed Bargod Rangers. Bu’n chware dros y tim am dros 30 mlynedd. Heb os, Alun oedd yr un a chwaraeodd fwyaf dros y tim erioed. Yna, dechreuodd ddilyn yr Ysgol Farddol yng Nghaerfyrddin i ddatblygu ei ddawn fel bardd ac fe feistrolodd y cynganeddion gan ennill sawl cadair a chyhoeddi ei waith mewn gwahanol gylchgronau.

Mae mwy o hanes bywyd Alun Jones ar y wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’ o dan y pennawd ‘Enwogion’. 

Yn Ardwyn bu Bryn a Minnie Evans a’u plant Olive a Gareth yn byw am gyfnod – sef ar ôl Bronllys drws nesaf i fy nghartref Llwynbedw, a chyn cadw’r Emlyn Stores yn y pentrtef.

Bryn a Minnie oedd y rhai cyntaf i gael teledu yn yr holl ardal gyda’r mast ar ben y bryn tu ôl i’r tŷ. Cofiaf yn iawn mynd draw i Ardwyn i weld y ‘Cup Final’ yn Wembley ar y teledu. Y broblem oedd fod hanner y pentref wedi dod yno hefyd, a chofiaf am tua deg ar hugain ohono ni yn yr ystafell yn  edrych ar y gem ar waethaf yr eira gwyn ar y sgrin! Bryn Evans yw’r trydydd yn eistedd yn y llun ar dudalen 55 o’r llyfr Canrif o Luniau.

Yna daw Derwen Deg ac rwy’n cofio Eben John Jones a Eunice yn byw yno gyda’u merch Susanne os cofiaf yn iawn. Roedd hi’n ferch osgeiddig iawn.

A drws nesaf roedd Braemar lle’r oedd Stuart Rees a Harold Small yn byw mewn bwthyn dwy stafell. I ni’r plant doedd y ffaith bod dau ddyn yn byw gyda’i gilydd yn golygu dim, nac i weddill y gymdogaeth am wn i.  Bellach ry ni’n sylweddoli mai dau berson hoyw oedd y ddau.

Tim Bargod Rangers
Alun Jones yn sefyll yn grwt ifanc yn y cefn ar y chwith gyda thîm pel droed Bargod Rangers.

Bois
Cefnogwyr brwd o'r plwyf ar eu taith i Gaeredin in weld y gêm rhwng Cymru a'r Alban yn 1934.  Bryn Evans yw’r trydydd yn eistedd yn y llun.

Roedd Stuart yn arlunydd arbennig ac yn cymryd rhan fel actor amlwg ym Mhantomeimiau enwog y pentref. Yn un o’r pantomeimiau hyn Stuart oedd y diafol a ni yn fechgyn  oedd y gobliniaid bach. Mae llun gen i o Stuart a finne yn cymryd rhan. Yn y pantomeim hwn, gan mae chwarae rhan ‘y diafol’ oedd Stuart, roedd hynny’n golygu ei fod yn gwisgo ‘teits tynn’ am ei goesau a’i ganol. Yn anffodus nid oedd hynny’n gadael llawer iawn  i’r dychymyg, a mawr fu’r siarad a’r rhyfeddu am Stuart yn ei deits, gyda nifer o’r sylwadau yn frith ar lafar ond yn amhosibl i’w hail adrodd mewn ysgrifen!!
 
Y tŷ gyferbyn oedd Danderi ac yno roedd fy ffrind Kenneth Cook yn byw. Roedden ni’n dau yn mynd i Ysgol Sul Closygraig pan yn blant. Collais gysylltiad llwyr gyda Ken ar ôl iddo fynd i ffwrdd, ond, maes o law fe ddaeth e nol i Bentrecwrt i fyw, a phleser bellach yw ail gwrdd ag e yn gyson ar Barc Waundew yng Nghaerfyrddin pan fydd tim Pel droed Caerfyrddin yn chwarae.
 
Mae tai eraill wedyn ar y chwith cyn cyrraedd gwaelod y rhiw sef  Danrhyn, Bronallt a Pantyfedwen.  Cofiaf yn dda am yr hen gyfaill oedd yn byw yn Bronallt gan, yn nol y siarad, ei fod yn dipyn o fardd ac yn Gymro diwylliedig. Wrth i fy mam a nhad symud i fyw o Lwynbedw i Dangribyn ac yna i’r tŷ a newidiwyd o’r hen Ffatri Dangribyn roedd angen enw ar y tŷ. Yr hyn wnaeth fy nhad oedd mynd draw at Lewis Bronallt yn Nrefelin i ofyn a allai awgrymu enw ar gyfer y tŷ newydd. Awgrymodd yr enw LLYFNANT, a dyna oedd yr enw a roddwyd ar y tŷ sydd gyferbyn a Glanesgair ar y ffordd i Gwmpengraig. Yn Llyfnant felly y bues i fyw am flynyddoedd.  (Fe ddes i i wybod maes o law mae dyffryn hardd yw Llyfnant, ac fe allwch droi o’r ffordd fawr iddo ychydig cyn cyrraedd Machynlleth o gyfeiriad Aberystwyth.)

Dan a Jenny Rees rwy’n cofio oedd yn byw ym Mhantyfedwen y tŷ olaf yn y stryd. Fe symudon nhw wedyn i fyw i Pendref ym mhentref Felindre a Dan oedd y crydd lleol. Soniais amdano wrth fynd ar y daith drwy bentref Felindre.

Gyferbyn a’r tai uchod ac ar draws yr afon Bargod roedd Ffatri Dolgoch. Yr anfarwol Gustav Bridlik oedd yn rhedeg y ffatri wlân hon.
Cewch mwy o hanes Gustav Bridlik ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’ o dan y pennawd  ‘Enwogion Lleol.’
 

Panteg yw’r tŷ cyntaf ar y chwith wedyn ar ben y rhiw.  Bu Elizabeth Jones a’i chwaer, merched Panteg, yn gweithio i’r teulu brenhinol ac fe’i claddwyd yn ‘Cemetry Brompton’ yn Llundain.

Mae mwy o’u hanes ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’ o dan y pennawd ‘Mwy o Enwogion Lleol’.
Mae llun o’r bwthyn Panteg ar dudalen 14 o’r llyfr ‘Canrif o Luniau’, a llun o’r rhan hon o’r pentref o Bancyfelin i Banteg ar dudalen 46.
 
Wrth fynd am gyfeiriad Capel Closygraig mae yna ffordd sy’n troi yn sydyn i’r chwith fyny am Saron ac uwchben y troad mae Bancyffynnon. Cofiaf am Defi John y postmon a’i fod yn gymeriad hynod o swil a thawel.

Yna, yn syth o dan y ffordd mae fferm Ffynnondudur. Roedd Daniel Davies yn ddiacon yng Nghlosygraig a chofiaf amdano fel cymeriad braidd yn wyllt ei ffordd. Ond, roedd Elgan ei fab a fi yn Ysgol Sul Closygraig gyda’n gilydd, ac Elgan wedyn a ddilynodd ei dad ar y fferm. Chwiorydd iddo oedd Annie, a Margaret  sy’n byw yng Nghapel Iwan. Mae’r teulu yn dal i ffermio Ffynnondudur o hyd ac yn asgwrn cefn yr achos yng Nghlosygraig.
 
A dyma ni wedi cyrraedd Capel hardd y Methodistiaid Closygraig. (Llun da o’r capel, y Tŷ Capel a’r Festri a beudy Ffynnondudur ar dudalen 88 o’r llyfr ‘Camrif o Luniau’.)  Yng Nghlosygraig y treuliais fy holl blentyndod a’m magwraeth. Roedd fy mam a nhad yn aelodau ffyddlon yno ac mae gen i atgofion lu am y lle.

Roeddwn yn mynd dair gwaith bron bob dydd Sul i Glosygraig. Gwasanaeth yn y bore a’r hwyr a’r Ysgol Sul am ddau y prynhawn. Fydden ni fel teulu fyth yn mynd i’r Cwrdd Gweddi yn ystod yr wythnos ond roedd Y Gymdeithas Ddiwylliadol yn cwrdd yn gyson. Yn fy Hunangofiant O Lwyfan i Lwyfan rwyf wedi rhoi pennod ar’ Y Llwyfan Crefyddol’ yn fy mywyd ar dudalen 145, ac yno rwyf wedi son am gyfnod Closygraig yn fy mywyd yn fanwl iawn, ac mae’r atgofion bob amser yn llifo nol am y cyfnod arbennig hwnnw yn fy mywyd.
Tom Ellis Jones a’i wraig Gwen oedd yn cadw Ty Capel Closygraig.

Mae llun o’r aelodau pan yn dathlu dau canmlwyddiant y capel ar dudalen 83 o’r llyfr Canrif o Luniau. Gweler mwy o luniau ar wefan Casgliad y Werin.
Mae’r llyfryn ‘Eglwys Closygraig 1754 – 1954’ yn rhoi holl hanes y Capel.
 
Tŷ ôl i Gapel Closygraig mae’r fferm Tŷ Newydd.  Cofiaf am bobl dda Tŷ newydd hefyd yn y capel.

O fynd heibio’r capel fe ddown i Landwr, ac fe gofiaf am y teulu hwn yn glir. Teulu Ianto a Bessie Landwr gyda’r plant Marian, Arthur a Peter.   Peter oedd yr un oed a fi ac mae Marian a’i gwr Bennie yn byw yn Nhrawsmawr ger Caerfyrddin a braf yw cael cwrdd a nhw yn y dref bob hyn a hyn. Cofiaf am Arthur fel chwaraewr snwcer arbennig iawn a bu Ianto a Bessie yn gofalu am neuadd y Ddraig Goch yn Felindre am flynyddoedd hir ar ôl David a Marged Evans Trefeca. Roedd Peter Landwr a finne yn Ysgol Penboyr gyda’n gilydd a braf yw cwrdd ambell waith i ddwyn atgofion am yr hen amser.

A dyma ddod wedyn at efail y gof ar y dde, Efail Jac y Gof, ac yntau’n byw yn Cilgraig y tŷ nesaf at yr efail. Lle prysur iawn oedd yr efail a Jac wrthi’n galed drwy’r dydd yn pedoli. Treuliais llawer iawn o amser yng ngefail Jac y Gof yn ei wylio’n pedoli a gwneud pethau allan o haearn. Jac wnaeth y ‘nghylch a bachyn’ cyntaf i mi pan yn grwt. Cylch o haearn oedd hwn gyda darn o haearn ar ffurf bachyn i wthio’r cylch yn ei flaen. Fe fues i’n chware gyda’r cylch a’r bachyn am flynyddoedd maith ac yn medru ei yrru a gwneud llawer o gampau. Mae’r ‘cylch a bachyn’ hwn  yn hongian yn y garej gen i o hyd.

Y peth arall arbennig am Jac y gof oedd mai fe oedd y Cynghorydd John Evans, a bu’n aelod ar Gyngor Gwledig Castell Newydd Emlyn, ac am gyfnod yn Gynghorydd Sir Gaerfyrddin ar ôl John y Gwas.

Panteg
Panteg

Drefelin
Bancyfelin i Banteg 

Closygraig
Capel Closygraig

Closygraig
Aelodau Closygraig

A dyma ni wedyn yn ‘y stryd’ sef rhes o fythynnod bychain wedi eu hadeiladu’n sownd i’w gilydd ar dipyn o oledd. Glynteg, Trefeca, Talgarth a Tŷ Harris.  Fe fydd yr haneswyr Methodistaidd yn sylwi’n syth bod yna arwyddocâd arbennig i Trefeca, Talgarth a Tŷ Harris gan eu bod yn cyfeirio at ran arbennig o Gymru ac at Hywel Harris y pregethwr Methodistaidd enwog yn yr hen ddyddiau.

David a Marged Evans oedd yn byw yn Nhrefeca. Nhw fu’n edrych ar ôl yr hen Neuadd y Ddraig Goch yn y pentref ac fe soniais amdanyn nhw yn ‘Hanes Y neuadd’ sydd ar wefan ‘Stori fawr Drefach Felindre’. Eu mab Gordon Evans fu’n brifathro Ysgol Gynradd Penwaun ger Capel Iwan. Mae llun o Gordon ar dudalen 113 o’r llyfr ‘Canrif o Luniau, gan ei fod yn chwaraewr snwcer penigamp. Mae llun Dai Trefeca ar dudalen 95 ‘Canrif o Luniau’ ac yn aelod o Wythawd Bargod Teifi. Hyn yn nodi ei fod yn ganwr da.

Yn Tŷ Harris roedd Hirrell Thomas yn byw. Roedd hi yr un oed a fi ac yn Ysgol Sul Closygraig gyda’n gilydd. Roedd chwaer ei mam yn byw gyda nhw yn Tŷ Harris ac roedd hi yn ddall. Ganwyd Y Parch David Davies gweinidog yn Saundersfoot yn Tŷ Harris.
 
A dyma gyrraedd Danbanc wedyn, cartref David Henry ac Alwyn Davies ei fab  a wnaeth cymaint dros yr ardal.

Bu Alwyn Danbanc yn brifathro ar Ysgol Gynradd Llanllwni a bu ei gyfraniad i fywyd Drefach Felindre yn fawr iawn, pe bai ond fel ysgrifennydd Neuadd y Ddraig Goch am dros 30 mlynedd.

3 menyw a donci cart
Ar dudalen 8 o’r llyfr ‘Canrif o Luniau’ fe welwch luniau o Margaret Evans Trefeca, Hanna Davies Tŷ Harris a Mary Emily Davies Danbanc yn ferched ifanc.

Ac yna, Troedrhiw sydd yn enw mor addas i’r tŷ ar waelod y rhiw serth sy’n arwain i Saron.

Cofiaf am y ddau frawd yn byw yn y tŷ cyntaf o’r ddau dy.. Haydn oedd un ohonyn nhw a drws nesaf roedd Nelian Evans a’i mhâm Emma yn byw. Bu Nelian mor ffyddlon i gapel Closygraig a chofiaf amdani, er ychydig yn hyn na fi, fel cantores dda iawn ac yn ennill gwobrau am ddeuawdau a phedwarawdau mewn eisteddfodau. Mae hi’n dal yn ffyddlon i’r achos ac yn byw yn Cefen Saron.

O gario ymlaen heibio i Danrhiw fe ddown i gartref Gustav Bridlick y gwr o Siecoslofacia a ymgartrefodd ym mhentref Drefelin. Rhyw fath o feudwy oedd Gustav ac yn byw yn adeilad ei ffatri yn y fan hon.  Daeth ei ddiwedd pan aeth y ffatri fach hon a’i gartref yntau ar dan ac fe’i llosgwyd i farwolaeth.

O gario ymlaen eto ar hyd y cwm fe ddowch i Cwmgilfach. Yr unig beth a gofiaf am y lle hwn yw mai mab Cwmgilfach oedd y Dr Ben Jones, Dangribyn, Cwmpengraig ac iddo yntau a’i ddau frawd (bois Cwmgilfach) fynd yn feddygon gyda Dr Ben yn Harley Street, Llundain cyn dod nol i Gwmpengraig.

Ymhellach i fyny’r cwm o Gwmgilfach ac  i fyny ar y tir uchel wedyn mae tarddiad yr AFON BARGOD.

O gymryd y tro anodd ar ôl Danrhiw ac i fynny’r rhiw serth iawn fe ddowch i’r fferm Penbanc sy’n edrych lawr dros y pentref, cartref Edith, a oedd ychydig yn hyn na fi a Betty ei chwaer, tua’r un oedran a finne. Roedd y ddwy yn ffyddlon yn yr Ysgol Sul ac i Gapel Closygraig. Mae Betty yn byw yn Ardwyn ym mhentref Drefelin erbyn hyn. Dic Penbanc oedd eu tad, ac mae ei lun ar dudalen 55 o’r Canrif o Luniau o Luniau gyda’r bechgyn ar eu ffordd i’r Alban yn 1934. Dic yw’r trydydd o’r chwith yn y cefn. Ac ar dudalen 49 o’r un llyfr fe welwch lun o’r bobl wrth y gwair ar fferm Penbanc, Drefelin yn 1916 – cyn deidiau llawer o’r bobl rwyf newydd son amdanyn nhw yn Nrefelin mae’n siŵr.
 
A dyna ichi olwg fras ar bentref Drefelin  a’i phobl pan oeddwn i yn grwt yn mynd yn ôl ac ymlaen yn gyson i Gapel Closygraig yn y pedwar a’r pumdegau o’r ganrif ddiwethaf.

Hyfryd yw cael dweud fy mod i wedi ymweld a Drefelin arall yn 2005 ym Mhatagonia. Tybed a enwyd y Drefelin hwnnw ar ôl y Drefelin hwn?

 
 

bois gwisgo berets
Cefnogwyr brwd o'r plwyf ar eu taith i Gaeredin in weld y gêm rhwng Cymru a'r Alban yn 1934. Dic Penbanc yw’r trydydd o’r chwith yn y cefn. 

Closygraig
Yn y llun sydd ar dudalen 83 o’r llyfr ‘Canrif o Luniau’ mae nifer o’r rhai y soniais amdanyn nhw uchod yn y llun hwnnw:
Yn y drydedd res ar y chwith mae’r merched canlynol: Marian Landwr, Edith Penbanc, Hirrell Tŷ Harris, Nelian Troedrhiw ac Annie Ffynnondudur.  Gordon Evans Trefeca sy’n dal Colin y mab fyny yng nghanol y llun, ac yn syth o’i flaen mae Dan Rees y crydd, Y bachgen sy’n sefyll yn y cefn tu ôl i bawb ac ar ben ei hun yw Ken Danderi. Haydn Troedrhiw yw’r gwr ifanc sy’n sefyll ar ei ben ei hun yn y cefn ar yr ochr dde ac yn syth o’i flaen mae Gareth Evans, Ardwyn – brawd Olice Campden. Yn y rhes flaen ac i’r dde o Michael Thomas y gweinidog, gyda’r goler gron. Alun Evans mab Albert Evans sy’n sefyll i’r dde y tu ôl iddo. Yna Sydney Plaister yn dal rhaglen yn ei law, ac i’r dde tu ol iddo yntau yn syth rwyf fi Peter Hughes Griffiths yn fachgen 14 oed. Tom Morgan sydd wedyn ac Eben John Jones y tu ôl iddo yntau.  Y plant yn y tu blaen o’r chwith i’r dde yw Gwynfor Bancyfelin, Robin Exton, John Bancyfelin, Eirlys Central Stores (Wyres Albert Evans), O flaen Tom Morgan mae Norma Winston, yna Vivienne Freeman Glyncoed,  Anne Winston a Doreen Lewis Rhianfa. Tu ôl iddyn nhw mae Gwen Winston a Linda Evans.

About the Stori Fawr Dre-fach Felindre Project

Through the website you can see old photographs over the past hundred years and read old documents and reports.

Dre-fach Felindre district - the villages of Cwmhiraeth, Cwm-pen-graig, Dre-fach, Drefelin, Felindre, Penboyr and Waungilwen - home of the National Wool Museum and very many woollen mills years ago, Bargod Rangers Football Club, the Red Dragon Hall, Penboyr School, St Llawddog and St Barnabas churches, Bethel, Clos-y-graig, Pen-rhiw and Soar chapels and innumerable annual carnivals!




Back to Top