skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

Fy Stori i yn Nre-fach Felindre

gan Peter Hughes Griffiths
fel rhan o STORI FAWR DRE-FACH FELINDRE yn ystod ail hanner yr 20ed ganrif
*Byddai’n dda i’r darllenydd gael copi o’r llyfr ‘Canrif o Luniau – Plwyf Llangeler’ (Cyhoeddwyd yn y flwyddyn 2000) wrth ddarllen y cyfraniad hwn.

Fe ges i fy ngeni yn Llwynbedw sydd yn un o’r tai cyntaf o dan y ffordd wrth ichi adael pentref Dre-fach Felindre am Gwmpengraig. Yn ei lyfr Hanes Pwyfi Llangeler a Phenboyr gan Daniel Jones (1899) mae’n cyfeirio at Llwynbedw fel hyn :

O bosibl taw llygriad o Llwyn Meudwy ydyw. Mae y gair  ‘llwyn’ mor gyffredin mewn enwau lleol fel y credwn ei fod wedi myned yn gyfystyr a ‘lle i fyw ynddo’. A digon tebyg ei fod wedi dod i lawr o’r amser pan yr oedd yr hen Frytaniaid yn byw mewn ogofau, a phyllau a llwyni. Yn y canol oesoedd yr oedd meudwyaid wedi ymsefydlu mewn amryw fannau ar hyd a lled y wlad. Cymharer Trebedw (tre meudwy) yn ymyl Henllan.   Yn Llwynbedw y ganwyd y Parch J Gomer Lewis DD, Abertawe. Ei dad, John Lewis, adeiladodd ffatri’r Dyffryn ar y cyntaf.

Mae llun o angladd Y Parch J Gomer Lewis (1843 – 1914) ar dudalen 29 o’r llyfr "Canrif o Luniau Plwyf Llangeler".
Claddwyd ym mynwent Saron. Hon oedd yr angladd fwyaf a welodd y plwyf erioed. Llogwyd dau drên i ddod a galarwyr o Abertawe i orsaf rheilffordd Henllan.

Agladd

Roedd fy mam a nhad John a Margaret Griffiths, a Beti Hughes Griffiths fy chwaer, newydd symud i fyw i Lwynbedw pan ges i fy ngeni.  Symudodd y teulu o Lodge Pantyrathro, Llangain, ochr draw i Gaerfyrddin i Lwynbedw. Roedd Phyllis, nith i Jack Richards, perchennog Pantyrathro,  lle’r oedd fy nhad yn stable boy, wedi priodi Roy Jones mab Dangribyn sydd rhyw bum can llath fyny’r cwm i gyfeiriad Cwmpengraig, ac wedi gwahodd fy mam a nhad  i ddod i fyw a ffermio’r fferm fach Llwynbedw ac i weithio yn ogystal fel garddwr a chauffeur iddyn nhw a thad Roy Jones y Dr Benjamin Jones, a oedd yn gyn arbenigwr meddygol yn Harley Street, Llundain, ac wedi dod nol i ymddeol i Ddangribyn. (Mae beddau’r teulu ym mynwent Eglwys Sant Barnabas yng nghanol pentref Felindre. Wrth fynd drwy’r fynedfa o Sgwâr y Gat, fe welwch ar y chwith, a thua hanner ffordd draw, gof golofn uwch na’r cerrig beddau eraill gyda chwrbin sgwâr o gwmpas y bedd.)
 
Mae tri thy mewn rhes o dan y ffordd ac ar lan yr afon Esgair. Llwynbedw yw’r cyntaf a’r mwyaf, yna Bronllys, a thy arall gyda’r enw Llwynbedw hefyd pryd hwnnw ond Dolafon yn awr.  Roedd lon braidd yn serth yn arwain o’r hewl fawr i glos Llwynbedw, lle ‘r oedd y stabl a’r beudy yn sownd wrth y tŷ, a gyferbyn roedd hen sgubor a darn arall o dir ar lan yr afon Esgair.  O groesi’r afon roedd sied wair a chaeau’r fferm fach. Yng nghanol un o’r caeau roedd yr enwog Ffynnon Beca, a chofiaf yn dda mynd yno sawl gwaith ar ddydd o haf i yfed ei dwr clir a rhyfeddol o oer.

Ffynnon Beca. 
"Yn y llyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr" (1899) ceir cyfeiriad at:

Ffynnon Beca ym Mharc y Beca, ger Llwynbedw.  Ffynnon Metalaidd (Chalybeate Spring). Mae rhai ffynhonnau metelaidd i’w cael yn y plwyf, i’r rhai y cyrchir gan lawer o ddieithriaid yn ystod misoedd yr haf. Nid yw y Cynghorau Plwyfol a Dosbarthol, na’r plwyfolion hyd yn hyn, wedi cymeryd y drafferth leiaf i wneud y ffynhonnau hyn yn hysbys, na’u haddurno mewn un modd er eu gwneud yn atyniadol, onide, diamheu y buasent yn gyrchfannau llawer rhagor o ddieithriaid.  Dywed Carlisle yn ei “Topographical Dictionary” taw tua diwedd y ganrif ddiwethaf (cyn 1800)  y darganfyddwyd y ffynnon hon. Saif mewn dyffryn hynod o dlws a theg, ond erys o bosibl mor ddiaddurn, ac os nad mwy felly nag oedd bedwar ugain mlynedd yn ôl.

Clywais y diweddar Mrs Brynmor Williams (Cewch ei hanes o dan Enwogion a Chymeriadau Dre-fach Felindre ar wefan Stori Fawr Dre-fach Felindre), yn son am y torfeydd yn dod yn ystod yr haf i yfed o ddŵr Ffynnon Beca. Mae’n amlwg i’r ffynnon barhau’n boblogaidd yn rhan gyntaf yr 20ed ganrif. Nid oes cof gen i yn blentyn o weld llawer yn dod i yfed dwr iachus y ffynnon hon.

Dyma rhan o erthygl Mrs Brynmor Williams a ymddangosodd yn "Y Garthen".

"GWIN Y GORFFENNOL
Bu Plwyfi Llangeler a Phenboyr yn gyfoethog iawn o ffynhonnau ond yn anffodus nid oes llawer ohonynt yn agored heddiw. Yr un yr wyf fi yn gwybod orau amdani yw Ffynnon Beca. Ffynnon fetalaidd (chalybeate spring) yw hon ym Mharc Beca ar dir Llwynbedw, Felindre. Yr oedd hon yn enwog iawn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg am ei ffrydiau iachusol, ac yn boblogaidd iawn gan ddieithriaid, llawer ohonynt yn dod o draethau Ceredigion, o Aberaeron a Chei Newydd mewn ‘’Brakes’ ac yn aros yn y pentref am wythnos neu ragor er mwyn yfed dwr y ffynnon, ac yn ôl yr hanes yn cael adferiad iechyd.
Yr oedd y ffynnon hefyd yn gyrchfan i lawer o’r plwyfolion ar nosweithiau hyfryd o haf, i gael sgwrs a chanu emynau a chaneuon serch. Nid oedd prinder cantorion yn yr ardal ar ddechrau’r ganrif pan oedd ugeiniau o wehyddion yn gweithio yn y ffatrïoedd gwlân, a Chor Bargod Teifi yn ei anterth. Byddai Richard Griffiths, a oedd yn denor swynol iawn, yn arwain y canu o gylch y ffynnon ar nos Sul.”

Mae’n amlwg bod y ffynnon yn boblogaidd cyn ysgrifennu Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr (Tudalen 417), gan i Daniel Jones yn 1899 gynnwys y gerdd hon gan Samuel Owens a oedd yn byw yn ymyl yn Dyffryn Mills.

FFYNNON BECA
Mae swynion byw i’m calon i
O gylch y ffynnon fechan,
Fe deimlais ganwaith wir fwynhad
Uwchben ei ffrydiau arian.
Darpariaeth fendigedig yw
Osododd Duw yn natur,
A sicr fod ei dyfroedd glan
Yn falm i lawer dolur.
 
Ar daen mae’i chlodydd yn ddi-ball,
Mae’n enwog hwnt ac yma,
Mynega llawer gwritgoch rudd
Rinweddau Ffynnon Beca.
Torfeydd sy’n dod o bellter gwlad
Bob haf i ddrachtio’n helaeth;
Mor bur, mor syml; ac mor rhad
Yw’r hyfryd feddyginiaeth.
 
Gerllaw y ffynnon teimlwyd cur
Cyn hyn yn gorfod ‘madael;
Hapusrwydd a dedwyddwch pur
Geir ar ei glannau tawel.
Yn uwch yng ngolwg dynol ryw
Yr elo’i rhin iachusol,
O hyd dylifed dyfroedd byw
Y ffynnon fach rinweddol.
 
Erbyn heddiw (2019) mae Llwynbedw ar ei newydd wedd a’r cae lle mae Ffynnon Beca wedi ei ddatblygu yn faes hyfryd.
 
Fe fuon ni fel teulu yn byw yn Llwynbedw hyd nes yr oeddwn i tua deg oed. Drws nesaf yn Bronllys roedd Bryn a Minnie Evans yn byw gyda’u plant Olive a Gareth. Yr hyn a gofiaf am Bryn yw fod ganddo ‘rownd laeth’. Roedd ganddo fan i gario’r llaeth mewn poteli peint a rheini  mewn cretiau haearn yng nghefn y fan. Byddai Minnie yn golchi’r boteli mewn adeilad wrth y sgubor ar y clos ar ddiwedd pob prynhawn ac yna’n eu llenwi gyda llaeth a gosod sêl ar dop pob botel yn y bore cyn i Bryn fynd ar ei rownd.  Adeg y gwyliau fe fyddwn i’n mynd gyda Bryn yn ei fan a’i helpu i ddosbarthu’r llaeth gan osod y boteli ar garreg drws pob tŷ a chasglu’r poteli gweigion a’u rhoi nol yn y cretiau yn y fan. Byddai’n mynd mor bell a Phentrecwrt i ddosbarthu’r llaeth. Bob dydd Gwener fel arfer fe fydde fe’n casglu’r tal am y llaeth hefyd gyda’r rhan fwyaf yn gadel y tal mewn darn o bapur o dan y botel wag ar garreg y drws. (Pwy fyddai’n barod i wneud hynny heddiw tybed?) Ond, os oedd hi’n dwym ar ddydd Gwener, a ninne’n gorffen y rownd ym Mhentrecwrt, byddai Bryn yn cael ei demtio i alw mewn i dorri ei syched ym Mhlasparce  a’m gadel i yn y fan tu fas i’r dafarn.  Weithiau, byddai’n aros yno am amser rhy hir a phrofiad go nerfus oedd teithio adref wedyn gyda safon gyrru Bryn wedi dirywio, a finne’n falch o gyrraedd adref yn un pishyn!

Fe wyddai Bryn yn dda ar y prynhawniau rheini, y byddai tafod siarp Minnie yn ei ddisgwyl adref ac yntau wedi gwario rhan o ‘elw’r rownd laeth’ yr wythnos honno!
Fe symudodd Bryn a Minnie wedyn i Ardwyn  ym mhentref Drefelin cyn ail agor siop  Emlyn House yng nghanol pentref Felindre.
Fe aeth y mab Gareth i’w hyfforddi fel syrfëwr a gweithio am rhan fwyaf o’i oes gyda chyngor Gwynedd yng ngogledd Cymru.
Hyfforddwyd Olive fel athrawes ac fe ddaeth yn brif athrawes Ysgol Brynsaron maes o law.
Priododd gyda Alan Campden, Glyn Noddfa, Felindre, ac mae’r ddau wedi byw yn lleol ar hyd eu hoes, a bellach yn byw yn’ Coed y Pry’, sydd ar y ffordd sy’n arwain i Alltpenrhiw. Mae Olive, gyda chymorth Alan, wedi cymryd rhan bwysig iawn ym mywyd pentref Dre-fach Felindre. Mae hi yn un o’r merched mwyaf blaenllaw yn hanes yr ardal ac mor weithgar a diflino ei chyfraniad. Mae hi’n berson arbennig iawn, ac ni allwn anghofio waith cyson a thawel Alan ei gwr hefyd ar hyd ei oes. Mae gwybodaeth ac atgofion a hanes Dre-fach Felindre ar flaenau eu bysedd ac wedi ei gofnodi, ac mae hynny wedi digwydd trwy Stori Fawr Dre-fach Felindre. Mae ein dyled yn fawr iawn i’r ddau.
 
Yn y tŷ pellaf wedyn (a enwyd hefyd yn Llwynbedw) roedd Daniel a May Phillips yn byw a’u merch Nana. Gan fod Beti fy chwaer a Nana tua’r un oed, yn naturiol fe ddaethon nhw’n ffrindiau da, ac er mai Methodistiaid oedden ni a theulu Bronllys drws nesaf, i eglwys Sant Barnabas roedd Nana yn mynd, ac am ba reswm bynnag, i Sant Barnabas, gyda Nana yr aeth Beti fy chwaer hefyd,  a bu’n aelod yno tan iddi briodi.  Mae cof gen i am Nana fel merch ifanc bert iawn. Fe ddaeth hi yn Frenhines Carnifal Felindre. Ond yn fwy na hynny, fe ddaeth hi yn Frenhines Carnifal Tref Caerfyrddin. Yn y cyfnod hwnnw byddai dwsinau o ferched yn ymgeisio am y fraint a byddai’r ‘beirniaid’, fel pe mewn eisteddfod, yn gorfod dewis y pertaf i gael y fath anrhydedd. Mae llun arbennig iawn gen i o Nana yn Frenhines Tref Caerfyrddin yn sefyll wrth fy ngwely yn Ysbyty Glangwili, a finne yno ‘yn cael fy nhonsils mas’. Roedd y wardiau y pryd hwnnw mewn hen hytiau mawr crwn ar ôl y rhyfel, ac rwy’n trysori’r llun yn fawr iawn. Bu cryn dipyn o syndod pan aeth Nana ati i hyfforddi ei hun i fod yn heddwas (Police Woman). Hi oedd un o’r merched cyntaf i fod yn heddwas yn nhref Caerfyrddin. Roedd gweld merch yn heddwas am y tro cyntaf y pryd hwnnw yn rhyfeddod pur yng ngolwg y bobl.
 
Yn rhyfedd iawn, ac mewn un ystafell yn unig uwchben cartref Dan a May a Nana Phillips roedd Samuel Owens yn byw. Mae peth cof gen i amdano gan mai fy mam ac Anti May Phillips (Bilis i mi) oedd yn edrych ar ei ôl yn ei hen ddyddiau. Roedd e’n hen ac yn fusgrell iawn ac yn dlawd iawn hefyd ar ol treulio ei fywyd yn gweithio yn ffatrïoedd gwlân yr ardal.

Clywais lawer amdano gan fy mam wedi i mi dyfu. Roedd e’n berson hynod o swil, ac yn enwedig gyda’r merched gan mai ‘hen lanc’ fuodd e ar hyd ei oes. Ond, yr hyn a oedd yn arbennig amdano oedd y ffaith ei fod e’n fardd rhagorol ei gyfnod. Enillodd gadeiriau lawer ac fe gyhoeddwyd ei waith ym mhapur wythnosol y Tivy Side ar hyd y blynyddoedd, ac mai casgliad o rhai o’i weithiau gen i.  Yn fy hunangofiant "O Lwyfan i Lwyfan" rwy’n son amdano ac yn cynnwys y stori a adroddai fy mam am yr hen Sam Owens ar ei wely angau yn dymuno priodi Rachel Isaac, Bancyfelin (modryb i Norah Isaac) cyn mynd o’r hen fyd yma. Mam wedyn yn mynd i nol Rachel ac yn defnyddio’i modrwy hi ei hunan i gyflawni defod yr uniad, ac yntau druan bron yn tynnu ei anadl olaf. Ar ôl i mam orffen y ‘seremoni’, agorodd yr hen fardd ei lygaid a llefaru’n wan –

“Na ni te, dere miwn i’r gwely ata i nawr – ni’n briod.”

Yn ei ewyllys fe adawodd Samuel Owens ei holl eiddo i fi a Beti fy chwaer. Mae’r darn papur yr ysgrifennodd e ei ddymuniad arno gen i o hyd. Yn anffodus, gorfod i mam fynd ati i werthu ei ychydig eiddo i dalu am ei angladd. Ond, fe gadwodd un peth er cof amdano, sef Cadair Eisteddfod Capel Soar, Cwmpengraig 1910. Fe gedwais y gadair fawr gref honno ar landin ein tŷ ni  ar hyd y blynyddoedd. Pan gynhaliwyd Arddangosfa o Hen Eisteddfodau Dre-fach Felindre yn Amgueddfa Wlan Genedlaethol Cymru i lansio’r prosiect Stori Fawr Dre-fach Felindre, fe roddais gadair Sam Owens i’r arddangosfa. Bellach mae hi yno’n barhaol yn yr amgueddfa ichi ei gweld.

Claddwyd Sam Owens wrth dalcen Eglwys Castell Newydd Emlyn, gan mai un o’r dref honno oedd e. Yn 1988 trefnais ddigwyddiad yn Felindre ‘ I GOFIO DAU FARDD’. Fe wnaethon ni osod cofeb ar wal Pendre, Felindre i gofio am y bardd DS Jones (Mae ei hanes ymhlith  enwogion Dre-fach Felindre ar wefan Stori Fawr Dre-fach Felindre), ac fe osodon ni arysgrif ar fedd tad a mam Samuel Owens ym mynwent Eglwys Castell Newydd yn nodi ei fod e wedi ei gladdu yno. Mae’r garreg ychydig i’r chwith o borth yr eglwys.

Fel hyn y soniodd Mrs Brynmor Williams amdano mewn darn yn y papur bro Y Garthen.

Hanai o Gastell Newydd Emlyn, ond treuliodd dros 60 mlynedd yn Felindre ac yn gweithio yn Ffatri’r Dyffryn. Bu’r perchennog yn garedig iawn wrtho, gan rhoi rhan o dy Llwynbedw iddo i fyw tan ei farwolaeth. Ysgrifennodd ddarn o farddoniaeth hyfryd am Ffynnon Beca. Bu S.O. farw yn 1944 yn 85 mlwydd oed, ac fe’i claddwyd ym mynwent Eglwys Castell Newydd Emlyn. Ond, erys atgofion melys am y bardd mwyn a charedig.

y bardd Samuel Owens
Mae llun o’r bardd Samuel Owens gyda’i gadeiriau ar dudalen 22 o’r llyfr Canrif O Luniau Plwyf Llangeler.

Pentref Felindre.

Mae’n werth sylwi  ar yr hyn sydd gan Daniel Jones i ddweud am bentref Felindre yn ei bennod ‘Enwau a Hanes Lleol’ yn ei gyfrol Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr. (1899)
Camgymeriad yw meddwl mai’r gair ‘melin’ fel yn melin wlân sy’n rhan o’r gair sy’n gywir. Yn ôl Daniel Jones ystyr melin yw ‘cartref y bileiniaid, y taeogion, neu eillion, sef y caethion perthynol i’r arglwydd – y rhai oedd yn gweithio i’r arglwydd yn y cwmwd.  ( Tudalen 106-7).
Mae’n cyfeirio hefyd at hen enw’r pentref sef Felindre Siencyn a chredir taw oddi wrth enw Siencyn ap Llywelyn, yr Arglwydd Emlyn yn amser Owain Glyndwr y tarddodd yr enw hwnnw.
Fel hyn y soniodd Daniel Jones am y pentref yn 1899 :
Mae pentref Felindre fel ag ydoedd hanner can mlynedd neu ragor yn ôl (cyn 1850), gyda’i fythynnod isel a’u to gwellt cynnes, bargodion trwchus, ffenestri bychain a’u gwelydd gwyngalchog bron yn llwyr wedi diflannu – a rhoddodd ei le erbyn hyn (1899) i bentref masnachol llawn o annedd-dai helaeth, hardd a masnachdai destlus.
Mae hyn yn dangos fod y diwydiant gwlân wedi codi safon byw yr ardal. Ar dudalennau 108 a 109 yn Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr  ceir cyfeiriad at ffordd geffylau hynafol yn dod o gyfeiriad y Goetre a heibio i gefn yr ysgol ac o flaen Spring Gardens gan groesi i Dolwyon a bod ôl palmant y ffordd wrth Tŷ Cornel sydd gyferbyn a Spring Gardens. Yng nghlos yr ysgol wrth yr afon tyfai derwen fawr Dolgerrig. 
Adeiladwyd y bont bresennol (1899), tua deunaw mlynedd yn ôl ... Yr unig enwau lleol awgrymiadol yn y pentref ydynt Llainffald a Phantyrodyn. Saif y llythyrdy presennol ar y fan yr oedd Ty Gat dechrau’r ganrif (1800) yr hwn a ddinystriwyd gan Beca yn 1848)."

Mae’n werth nodi nad yw Daniel Jones wedi cynnwys dim cyfeiriad at ‘Drefach’ yn y bennod hon, dim ond cyfeirio at Gapel Drefach a Pharcysdy, Drefach. Nid yw’n son am bentref Drefach o gwbl.

Edrych tuag at Ty-Cornel Felindre 1920Mae llun o bentref Felindre tua 1920  ar dudalen 18 o Camrif o Luniau Plwyf Llangeler. Ar y chwith fe welwch Pendref a Bangor House a gyferbyn mae Dangraig a Siop Hindes ac Emlyn House. The Hall yw’r adeilad mawr ar y gwaelod ar y dde gyda ffenestri siop, ac uwch i fyny siop arall Glenview.   Tŷ Cornel yw’r tŷ bychan gwyngalchog pendraw’r  llun.

AM DRO O LWYNBEDW TRWY BENTREF FELINDRE – ar yr ochr chwith ar ôl Y Rectory.

Byddai fy chwaer Beti, a oedd ddeng mlynedd yn hyn na fi yn rhedeg bob bore i ddal y bws wrth hen Neuadd Y Ddraig Goch yn y pentref, ac yn hwyr yn codi’n gyson. Doedd dim amser i gael brecwast, felly, yr hyn wnaethai mam oedd rhoi llwyed o malt iddi ei fwyta wrth iddi redeg am y bws. Byddai Beti’n gorffen y malt, mae’n debyg, a chuddio’r llwy yn y clawdd cyn cyrraedd y Rectory.  Problem fawr Beti yn gyson oedd cofio yn iawn ble yn union roedd hi wedi cuddio’r llwy yn y bore. Rwy’n ofni bod sawl llwy wedi ei gadael ac wedi hen rydu bellach rhwng Llwynbedw a’r Rectory.

Ie,  Y Rectory neu Tŷ Ffeirad oedd y tŷ mawr cyntaf ar y dde ac ar y groesffordd sy’n arwain i Benboyr a Drefelin. Dyma gartref offeirad parchus Eglwysi Sant Barnabas a Phenboyr. Cofiaf yn dda taw’r Rheithor Samuel Evans a’i wraig Mrs Evans oedd yn byw yno ym mlynyddoedd fy ieuenctid. Rwy’n cofio ‘Sam Ffeirad’ fel person gwyllt a chyflym iawn ei leferydd ac yn tueddu i ail ddweud geiriau fel “Ie wir, ie wir” yn ddi-stop.  Pryd bynnag y byddwn yn galw gyda rhyw neges a chnocio’r drws, byddai Mrs Evans yn agor y ffenest yn ymyl y drws ac yn derbyn eich neges oddi yno. Does dim cof gen i fy mod wedi cael mynd i mewn i’r Rheithordy erioed. (‘The Shutters’ yw’r enw presennol ar y lle!)

Rheithordy

Mae llun o’r Ficer  Samuel Evans, gyda’i goler gron ar dudalen 72 o’r llyfr Camrif o Luniau Plwyf Llangeler.

Agoriad swyddogol gatiau newydd Ysgol Penboyr 1953. O'r dde: David Jones, John Evans (John y Gwas), Margaret Evans, John Owen, Christine Davies, Nan Owen, Samuel Howells, Johnnie Jones, Parchedig Sam Evans.

Agoriad gatiau newydd Ysgol Penboyr 1953

Roedd Dyfrig y mab yn berson cryf iawn o gorffolaeth ac yn ganwr urddasol ac uchel ei barch. ‘Dyfrig Ffeirad’ oedd e i bawb ac fe aeth yn fyfyriwr i Goleg y Brifysgol Aberystwyth. (Ychydig o flynyddoedd yn ôl pan yn sgwrsio gyda’r cerddor a’r cerdd dantiwr enwog  Aled Lloyd Davies, a finne’n son mai yn Nre-fach Felindre y magwyd fi, ei ymateb oedd – “Roedd yna fyfyriwr yr un cyfnod a fi o Dre-fach Felindre yng Ngholeg Aberystwyth – Dyfrig Evans. Roed e’n ganwr da ac yn berson arbennig iawn.”   Cofiaf am y siarad mawr a’r rhyfeddu yn y fro  -  bod Dyfrig Ffeirad, mab i ffeirad parchus Sant Barnabas a Phenboyr wedi priodi Americanes o Hawaii.  Yn y cyfnod hwnnw roedd peth felly bron a bod yn annerbyniol. Diolch fod agweddau felly wedi newid bellach! Fe aeth Dyfrig i fyw i’r Amerig am gyfnod.

Mae hanes bywyd Dyfrig Evans i’w weld o dan ‘Enwogion a Chymeriadau Lleol’ ar wefan  Stori Fawr Dre-fach Felindre)

Pan yn grwt, cofiaf am y pentrefwyr yn son llawer am y ficer cyn Samuel Evans, sef Ficer Renowden. Roedd ganddo ddau fab disglair, Raymond a Glyndwr, a chyn ddisgyblion Ysgol Ramadeg Llandysul. Roedd y ddau yn ysgolheigion dawnus ac fe aeth y ddau yn offeiriadon gyda Raymond yn ymddeol fel Deon Eglwys Gadeiriol Sant Asaph yng ngogledd Cymru.

Yn ôl y stori roedd eisteddfod neu Penny Reading ym mhentref Felindre, ac un o’r cystadlaethau oedd llunio brawddeg gyda phob gair yn dechrau gyda’r lythyren  ‘R’. Cofier mae Rhydychwyrn yw enw’r fferm fechan gyferbyn a’r Rectory, ac mae’r ymdrech hon enillodd y gystadleuaeth y noson honno;

Rhechodd Raymond Renowden Rectory rech ryfeddol rhwng rhychiau radish Rhydychwyrn.”  Yn rhyfedd iawn bu’r linell honno ar gof a chadw ac ar leferydd plant a phobl yr ardal hyd y dydd heddiw!
 
Beth am fynd am dro trwy bentref Felindre felly, a galw heibio i bob tŷ sydd ar yr ochr chwith yn gyntaf, er mwyn cael darlun o’r pentref ym mhedwardegau, pumdegau, chwedegau a saithdegau’r ganrif ddiwethaf:
 
Yn Rhydychwyrn, sydd o dan y ffordd, ond gyferbyn a Thŷ’r Ffeirad roedd tri o frodyr a chwaer yn byw, ac yn rhedeg eu ffatri wlân eu hunain yn ogystal a chadw ychydig wartheg yn y caeau a ffiniau gyda Llwynbedw. Does dim cof gen i erioed o weld y chwaer na dau o’r brodyr, ac yn ôl a gofiaf roedden nhw’n ddynion  swil iawn ac yn cadw iddyn nhw eu hunain. Cofiaf Tom Rhydychwyrn, un o’r brodyr yn dda. Byddai ef yn ei glocs a’i ddillad brethyn yn dod i’r pentref i siopa’n ddyddiol bron. Byddai bob amser yn cario basged o wiail gyda chlawr i’r fasged a handl yn y canol i’w chario. Felly, welson ni erioed beth oedd gan Tom yn y fasged!

Gan fod Rhydychwyrn o dan y ffordd a chlawdd uchel yn ein cuddio rhag gweld y fangre, roedd rhyw  anwybodaeth am y lle yn ein cynhyrfu ni’r plant. Ein hoff hobi bob hyn a hyn (nid yn gyson sylwch!) ar y ffordd adref o Ysgol Penboyr, oedd casglu ychydig gerrig ar fin y ffordd a’u taflu dros y clawdd gan wybod y bydden nhw’n disgyn ar ben sied wair sinc brodyr Rhydychwyrn.  Roedd clywed cerrig yn disgyn ar do sinc yn sain derbyniol iawn i ‘blant drwg’!  Ar ôl taflu, yna rhedeg adref fel y cythrel i gyfeiriad Cwmpengraig. O bryd i’w gilydd gwelem un o’r brodyr yn rhedeg i ben yr hewl, dim ond i’n gweld ninnau yn diflannu yn y pellter.  Rhyw unwaith yr wythnos y bydden ni’n taflu cerrig ar ben sied wair Rhydychwyrn. Roedd hi’n amlwg fod yr hen fois wedi cael digon ar gythreuldeb y plant ysgol, a heb wybod i ni fe gynllunio nhw i roi stop ar yr anfadwaith hyn unwaith ac am byth trwy baratoi’n gyfrinachol i’n dal.  Heb yn wybod i ni roedden nhw’n barod amdanom bob dydd am wythnos gyfan.

Rwy’n cofio fel tase hi ddoe, yng nghwmni Eric Tŷ Hen ac un neu ddau arall  i ni daflu cawod o gerrig dros y clawdd fel arfer ar ben sied wair Rhydychwyrn, ac yna, dechrau rhedeg am Gwmpengraig. Ond, pwy neidiodd allan o’r clawdd ychydig i fyny’r ffordd a’n hwynebu gyda clamp o fastwn yn ei law ond un o’r brodyr. Yn hytrach na rhedeg fel arfer i gyfeiriad Cwmpengraig doedd dim amdani ond troi i’r chwith a lan ychydig o Rhiw Cyrff a throi wedyn heibio’r Temple lawr am Drefelin a’r hen foi ar ein holau. Do, fe wnaethon ni ddianc, ond ni thaflwyd yr un garreg fyth wedyn dros y clawdd ar ben sied wair Rhydychwyrn. (Ein ffordd ni o gam ynganu enw’r lle oedd Rhydywhyrn.)
Mewn blynyddoedd daeth perthnasau i’r brodyr sef Nan Jones a’i thad i fyw i Rhydychwyrn. Fe wnaeth Nan gyfraniad mawr yn ddiwylliannol i fywyd y pentref, ac wedi iddi golli ei thad a’r tri brawd fe werthodd hi’r lle i Peter Moody a’i warig a ddaeth yn Drefnydd Mathemateg yn Adran Addysg Cyngor Sir Dyfed. Bellach mae Peter yn siarad yr iaith Gymraeg yn rhwydd ac yn genedlaetholwr pybyr ac yn weithgar iawn yn lleol ac yn Eglwys Sant Barnabas. Dyma enghraifft glodwiw o Saeson rhonc yn ymsefydlu mewn pentref gwledig ac wedi mynd ati i ymdoddi i fywyd Cymraeg a Chymreig yr ardal.
 

Preswylfa

Ar ben hewl Rhydychwyrn mae Preswylfa sy’n dy mawr a hyfryd iawn. Cofiaf mai Mr Mrs Davies oedd yn byw yno, ond am eu mab Dewi y cofiaf yn bennaf – Dewi Davies. Roedd Dewi’n athro rhywle yn y gogledd – Abergele rwy’n credu, ac yn bel droediwr da er yn foel ei ben yn ifanc iawn. Byddai’n chware gyda Bargod Rangers bob tro byddai gwyliau ysgol ac yntau’n dod adref at ei fam a’i dad i Breswylfa. Ond, roedd hyn yn golygu  gadael un o’r bechgyn a fyddai’n chware bob Sadwrn fel arfer allan o’r tim, a byddai hynny’n creu cynnen yn aml ymysg y chwaraewyr. Cofiwch, nid oedd eilyddio yn rhan o’r gem y pryd hwnnw - yr un unarddeg trwy’r gem, ac nid oedd caniatâd i neb arall ddod ar y cae os oedd rhywun wedi ei niweidio ac yn methu cario ymlaen. Na, dim eilyddion, ac os nad oeddech yn yr unarddeg cyntaf doedd dim gobaith am gem.

Gan fod Preswylfa’n dy mor fawr roedd Mr a Mrs Mann yn byw mewn rhan arall ohono. Y cwbl a gofiaf amdanyn nhw oedd fod Mrs Mann bob amser yn cyfeirio at y ffaith ei bod hi wedi cwrdd a Princess Margaret, chwaer y frenhines.

Ar ôl dyddiau Mr a Mrs Davies fe symudodd ‘Nan Danwarin’ (chwaer Mrs Brynmor Williams) a’i gwr i fyw ym Mhreswylfa, sef Mr John a Mrs Nan Owen. Roedd ganddyn nhw Siop Gigydd yng Nghastell Newydd Emlyn gyda John o Langrannog ac wedi bod am flynyddoedd ar y mor.  Am rhyw reswm y cof sydd gen i am Nan yw ei bod hi’n siarad mewn rhyw ddull arbennig o dyner a mwyn a’i bod yn wraig urddasol iawn a bob amser yn swanc ei golwg.

Mae llun o Mr a Mrs John Owen yn agor gatiau newydd swyddogol Ysgol Penboyr yn 1953 ar dudalen 72 o’r llyfr Canrif O Luniau Plwyf Llangeler. Yn y llun hefyd mae Mrs Brynmor Williams chware Nan Owen.

Rhiw Rock oedd yr enw ar y rhiw sy’n arwain i mewn i bentref Felindre o’r cyfeirad hwn am mai Tafarn Y Rock, yn yr hen ddyddiau a arferai fod ble mae’r Llysgwyn presennol ac ychydig yn is na Phreswylfa.

Y mecanic ceir Gwilym Eynon Griffiths a’i wraig Lena a’u mab Edward rwy’n cofio’n byw yno’n gyntaf. Roedd Edward ychydig o flynyddoedd yn hyn na fi, ond bu’r ddau ohonom yn chware ar yr un amser i dim pel droed Bargod Rangers. Yng nghanol y cae y chwaraeai Edward  o hyd ac roedd ganddo rhyw steil hamddenol iawn o drin a phasio’r bel. Yn wir, fel bachgen o natur hamddenol y cofiaf am Edward bob amser. Bu hynny’n help mawr iddo mae’n siŵr wrth iddo fynd i’r weinidogaeth a threulio ei fywyd yn pregethu ac yn gweinidogaethu gyda’r Annibynwyr. Mae Edward wedi ymddeol bellach ac yn byw yn Ffairfach, Llandeilo gyda’i briod  Rhiannon, ac mae’n gyn aelod o gor enwog Bois y Castell. Eu meibion yw Owain sy’n Brif Swyddog Menter Iaith Dinefwr a Rhodri sy’n ŵr camera teledu.

Mae llun o’r Parch Edward Griffiths, gyda’r chwe gweinidog arall a fagwyd yng Nghapel Soar, Penboyr ar dudalen 98 o’r llyfr  Canrif o Luniau Plwyf Llangeler.

Sait Pregethwyr o Gapel Soar

Fe symudodd May Phillips (Anti Bilis) i fyw i Llysgwyn yn dilyn marwolaeth ei gwr Dan, a bu Nana ei merch a Vivian ei gwr hithau yn byw gyda hi yno am gyfnod. Symudodd Nana a Vivian i fyw i Shepton Mallet maes o law a chael dau o blant – Denise a Garry. Symudodd May Phillips i fyw yn agosach at Nana ei merch a bu farw mewn cartref ger Shepton Mallet.
Claddwyd Daniel a May Phillips mewn bedd sydd o flaen bedd fy mam a nhad ym mynwent Drefach.
 
Hubert a’i fam a’i dad oedd yn byw yng Nglynhebog, y tŷ nesaf lawr o Lysgwyn. Roedden nhw’n ffermio ychydig o dir tu draw i’r afon Esgair yng nghanol y pentref. Adeiladwyd byngalo ar y tir hwnnw maes o law iddyn nhw fyw ynddo.
 
Y ddau dy nesaf yw Pendre a Bangor House, dau dy bychan yn sownd i’w gilydd. Roedd ‘Tom Jones Pendre’ yn flaenor yng Nghapel Closygraig, ac yn byw gyda Tom a’i wraig roedd eu mherch Jenny a’i gwr Dan Rees y crydd lleol. Roedd  mab Tom a Mrs Jones yn wyddonydd ac yn  fardd poblogaidd iawn. Fe enillodd DS Jones, Llanfarian, Aberystwyth ugeiniau o gadeiriau, a llawer o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Trefnais i osod plac uwchben drws Pendre i nodi mai hwn oedd cartref y bardd a’r gwyddonydd DS Jones. Mae DS Jones wedi ei gladdu ym mynwent Eglwys Llangeler.

Cewch hanes DS Jones o dan y pennawd ‘Enwogion a Chymeriadau Lleol’ ar wefan Stori Fawr Dre-fach Felindre.

Pendre a Bangor House yw’r ddau dy ar y chwith yn y llun o’r pentref sydd ar dudalen 18 o’r llyfr ‘Canrif o Luniau’.

Pendre a Bangor House ar y chwith yn y llun.

Ym Mangor House, drws nesaf i Bendre roedd John Daniel Jones yn byw gyda’i ferch Bronwen. Gweithio yng ngorsaf rheilffordd Henllan roedd John Daniel a’i frawd oedd y Parchedig Gwyn Davies Jones, Capel y Morfa, Cydweli. O ddarllen ‘Hanes Neuadd y Ddraig Goch’ ar wefan Stori Fawr Dre-fach Felindre fe welwch fod John Daniel wedi bod yn weithgar iawn ar bwyllgor y neuadd ac wedi dal gwahanol swyddi ar hyd y blynyddoedd.

Ond, fe ddaeth Bangor House yn ganolfan gerddorol y pentref wrth i Bronwen roi gwersi piano i genedlaethau o blant, a pha bryd bynnag y byddech chi’n cerdded heibio i’r tŷ fe glywsech seiniau nodau go amrywiol yn dod o’r ystafell ffrynt nesaf at yr hewl.  Fedra i ddim llai na edmygu a chanmol amynedd John Daniel ei thad na theulu Pendre, drws nesaf, wrth orfod gwrando ar rhywrai digon angherddorol fel fi yn pwnio’r piano trwy’r dydd a chyda’r nos.  Do, fe fues i’n ddisgybl i Bronwen pan yn grwt gan fod mam yn ffyddiog fod dyfodol i mi fel pianydd. Drwg gen i gyhoeddi mai siom i mam a Bronwen oedd sylweddoli nad oedd dyfodol i mi yn y maes hwnnw! Er hynny, cofiaf ymarfer canu, fel rhan o wythawd, yn ystafell ffrynt Bangor House gyda Bronwen ac yn canu’r ‘Bwthyn ar y Bryn’ mewn pedwar llais, a finne gyda Ieuan Nant yn canu bas ar gyfer rhyw eisteddfod leol. At Bronwen yr es i hefyd i ymarfer yr unawd ‘Yn y Bwthyn Bach To Gwellt’ ar gyfer Eisteddfod Gŵyl Ddewi Ysgol Ramadeg Llandysul pan yn y chweched dosbarth, a chael cam eisteddfodol unwaith eto!
 

8awd Bargod Teifi
Mae llun o Bronwen Jones gyda pharti Albert Evans yn  Wythawd Bargod Teifi ar dudalen 95 o’r llyfr Canrif o Luniau Plwyf Llangeler.

Roedd Bangor House yn fwrlwm cerddorol y cyfnod hwnnw a Bronwen hefyd yn organyddes yng Nghapel Closygraig, ac yn cyfeilio mewn eisteddfodau lleol yn ogystal a chyfeilio mewn pob math o gyngherddau ac i bartïon lleol amrywiol. Arhosodd yn hen ferch ar hyd ei hoes.

Edith a’i mherch Annie May a’r twins oedd yn byw yn Aberafon,  y tŷ nesaf lawr. (Doedd neb yn dweud ‘efeilliaid’ y pryd hwnnw.) Dwy ferch hardd iawn oedd Mary ac Ann. Fe aeth Mary yn athrawes i Lundain ac Ann i Gaerdydd.

Wil a Mary Anna Davies oedd yn byw yn Glennydd, a hithau’n aelod ffyddlon yng Nghlosygraig.

Yna, roedd dau dy yn sownd wrth ei gilydd. Y cyntaf oedd Glyn Noddfa ac yno roedd Mr David a Mrs Sarah Ellen Campden yn byw. Ar y rheilffordd roedd Defi Campden yn gweithio, a gweinyddes oedd Mrs Campden. Roedd ei hystafell waith yn llawn o ddillad gyda bwrdd bach a ‘mashin winio’, yn yr ystafell ffrynt. Roedd pawb yn dod at Mrs Campden i ymestyn neu newid pob math o ddilledyn ac i greu dillad newydd hefyd. Roedd e’n le prysur iawn a hithau’n gweithio’n ddi-stop tan hwyr y nos.

Mae un peth rwy’n ei gofio’n dda am Glyn Noddfa. Byddai fy mam a fi’n mynd lawr i’r pentref ar nos Sadwrn a byddai mam yn mynd at Mrs Campden tra byddwn i’n mynd i’r pictiwrs i Gastell Newydd  neu i gael tsips ac i chwarae snwcer yn Neuadd y Ddraig Goch. Ar nos Sadwrn hefyd byddai Sammy a Sally Jones, Groesffordd, Capel Iwan yn dod i Glyn Noddfa yn eu Austin 7 bach a hwnnw’n ‘sheino fel pwrs milgi ar y glaw’ (maddeuwch yr hen ddywediad lleol i ddisgrifio rhywbeth yn disgleirio ac yn lan fel pin!).  Byddai Sally yn ymuno gyda fy mam yn ystafell wnïo Mrs Campden i gloncan am oriau tra byddai Sammy a Defi Campden yn mynd lawr i’r New Shop Inn (tafarn John y Gwas) i gael cwpwl o beints. Nid oedd breathalizer wedi ei ddarganfod y pryd hwnnw.  Galw nol am mam fyddwn i’n wneud wedyn a mynd am adref.

Roedd gan Mr a Mrs Campden ddau o blant sef Beryl ac Alan.  Roedd Beryl yn ferch ddawnus iawn ac yn cystadlu mewn eisteddfodau ac yn aelod o barti canu enwog Mrs Jones Trecoed – ‘Adar Bargod’

Adar Bargod
Mae llun a hanes ‘Adar Bargod’ ar dudalen 110 o’r llyfr Canrif o Luniau Plwyf Llangeler.

Priododd Beryl gyda Edwin Jones, brawd i’r prifardd T Llew Jones. Roedd yntau’n barddoni hefyd a bu’n ysgrifennydd Adran Llenyddiaeth Eisteddfod fawr Rhys James, Panyfedwen yn Llambed am ddeugain mlynedd.
Bu Alan y mab yn gweithio fel cynorthwydd i’r deintydd Mr Hickey yng Nghastell Newydd Emlyn cyn gweithio wedyn yn yr Adran Gofal Cymdeithasol yng Nghaerfyrddin. Priododd gyda Olive, sef merch Bryn a Minnie Evans. Soniais am gyfraniad diflino y ddau ohonyn nhw yn gynt i fywyd cymdeithasol Dre-fach Felindre.
 
David a Novello Williams oedd yn byw yn Angorfa, drws nesaf i Glyn Noddfa gyda eu  tri phlentyn Eileen, Bill a Hillary.   Saer oedd David Williams a gwr uchel iawn ei barch yn yr ardal. Roedd e’n ddiacon yng Nghapel Soar ac yn weithgar iawn yn lleol. Y cof sydd gen i am Novello ei wraig yw ei bod yn edrych yn llwyd ac yn dost iawn yn barhaol a heb adael ei chartref rhyw lawer, ond yn aml yn sefyll ar garreg y drws.  Mae Eileen y ferch yn dal i fyw yn Angorfa heddiw.
 
Tom a  Mrs Young oedd yn byw yn Llwynderw, a’r ddau yn ymddangos yn hen i mi, ond yn sydyn iawn fe ddaeth Mrs Young yn boblogaidd fel enillydd ar limrigau a man gystadlaethau llenyddol mewn eisteddfodau ar hyd a lled y wlad. Mae’n siŵr roedd ganddi gasgliad helaeth iawn  o limirigau ar hyd y blynyddoedd – ond i ble yr aethon nhw i gyd ar ei hol?
 
A dyma ni wedyn yn Spring Gardens lle'r oedd tŷ o faint sylweddol ac adeiladau eraill yn sownd wrtho. Yma yr oedd Rees Jones yn cadw ei lori cludo gwartheg a chofiaf amdano fel dyn byr o gorffolaeth a bastwn bob amser yn ei law ac yn cerdded fel pe bai yn stiff ac yn dioddef o’r riwmatig. Gyda chaniatâd Mrs Jones, yn y sied yn ymyl y tŷ roeddwn i a phlant Cwmpengraig yn parcio ein beics bob bore cyn dal y bws i Ysgol Ramadeg Llandysul. Byddai criw ohonom yn dod un ar ôl y llall i lawr Rhiw Rock a thrwy’r pentref fel cath i gythrel cyn brecio’n galed a throi i mewn ar ongl i Spring Gardens a pharcio’n beics yn y sied am y dydd. Fel arfer, fe fydden ni’n nol y beics gyda’n gilydd ar y ffordd adref o’r ysgol a reidio’n griw blinedig tua Cwmpengraig.  Roedd tri phlentyn yn Spring Garden – Sylvia a aeth yn athrawes a byw gyda’i gwr Arwyn (golwr tim pel droed Bargod Rangers yn fy nghyfnod i) yn y Barri ar hyd eu hoes. Bu Eifion yn gweithio gyda’i dad ac mae’n briod ac yn byw nawr yn Nhrelech ac mae Petra’n briod ac yn byw yn Llandysul.
 
Dim ond Penbont  sydd ar ôl cyn croesi pont Afon Esgair ac Ysgol Penboyr ac yna Sgwâr y Gat.   Dai Timperley a Mrs Timperley oedd yn byw ym Mhenbont. Ty a’i seiliau yn is na’r ffordd a chithe’n gorfod mynd lawr y steps i’r drws ffrynt. Bu Mrs Timperley yn glanhau am flynyddoedd i deulu Jones Dangribyn a Dai yn gweithio i gwmni adeiladu. Roedd ganddyn nhw ddwy ferch sef Margaret a ddaeth i fyw i Gaerfyrddin. Roedd hi’n aelod yng Nghapel Y Priordy ac roeddwn yn ei hadnabod yn dda, ond bu farw yn 2016. Mae Thelma yr ail ferch yn dal i fyw yn y pentref ac yn y tŷ sydd tu draw yr afon i Spring Gardens. Bu Thelma yn gogyddes yn Ysgol Penboyr am flynyddoedd lawer ac yn weithgar iawn yn y pentref ac yn edrych ar ôl y neuadd hefyd am gyfnod.

Ni holais erioed o ble y daeth yr enw Timperley i ganol pentref Dre-fach Felindre, ac ni ddes i ar draws Timperley arall erioed. Bydd rhaid holi Thelma am hyn. Nid yw Penbont yno bellach.
 
 

AM DRO TRWY’R PENTREF O LWYNBEDW – yr ochr dde y tro hwn.

Rwyf eisoes wedi son am Y Ficerdy a oedd yn dafarn yn yr hen amser yn ôl Daniel Jones yn ei lyfr "Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr". Dyma mae e’n ddweud –

“Yr oedd tafarn arall yn Nhroedyrhiw, lle mae y rheithordy yn awr. Parhaodd y dafarn yno hyd ein hoes ni (1899).
Roedd enw’r dafarn honno’n addas iawn gan fod y lle wrth droed Rhiw Cyrff.”


Y tŷ cyntaf ar y dde wedyn oedd Hillside, ar waelod Rhiw Rock. Yma roedd Jos Williams a’i wraig yn byw ac yn rhedeg Siop Nwyddau Hillside. Wel, Mrs Williams oedd yn rhedeg y siop gan y byddai Jos a’i geffyl a’i siop ar ffurf bocs mawr ar ei gert ddwy olwyn yn mynd o gwmpas yr ardal i werthu ei nwyddau. Math o carriage oedd y cert yn llawn o fwydydd ar gyfer ffermydd yr ardal.

Gan mai Siop Hillside oedd yr agosaf at Lwynbedw, yno yr awn i amlaf dros fy mam ac i nol pecyn o  Woodbines i fy nhad. Mae cof clir gen i o gario’r ‘Llyfr Dogni’ (Ration Book) amser yr ail ryfel byd, wrth fynd i Siop Hillside a gweld Mrs Williams gyda’i sishwrn yn torri darn bach sgwâr gyda ¼ arno wrth i mi brynu chwarter o loshin. Bob Nadolig byddai hi’n gwerthu tocynnau raffl gan arddangos y gwobrau ar y cownter.  Do, fe enillais i un o’r gwobrau – y wobr gyntaf i mi ei hennill mewn raffl erioed, ac rwy’n cofio’r rhif hyd y dydd heddi – 140, ac rwy’n cofio’r cyffro a’r boddhad – boddhad llwyr crwt bach.
 
Y tŷ nesaf yw Dangraig, a hyd y gallaf gofio roedd tair chwaer a Wil y bachgen anabl yn byw yno ac yn gorfod cael ei gario i bobman.

Edrych tuag at Ty-Cornel Felindre 1920
Dangraig yw’r tŷ cyntaf ar y dde ar dudalen 18 o’r llyfr Canrif o Luniau’ .  Emlyn House yw’r tŷ nesaf gyda’i ffenest siop

A dyna ni wedyn wedi cyrraedd siop Emlyn House gyda dwy ffenest fawr bob ochr i’r drws ffrynt.  Hon oedd siop enwog William Hindes yn Felindre tua’r 1920’au gyda’r enw HINDES uwchben y drws.

Er bod hi’n amlwg fod siop wedi bod yno, ni allaf gofio ei bod ar agor nes y daeth Bryn a Minnie Evans i fyw yno gan ail agor siop groser a nwyddau o bob math.

Yn Emlyn House (sef y tŷ wrth y siop) roedd Mr Evan Powell, Prifathro Ysgol Gynradd Penboyr yn byw. Os cofiaf yn iawn, fe briododd Evan Powell gyda merch William Hindes a byw yn Emlyn House ar ôl dod yn athro i Ysgol Penboyr a chyn dod yn brifathro.

Kirby House oedd y tŷ nesaf ac yna Caer y Glyn lle’r oedd Alice, a modryb i fy ffrind Alan Howells yn byw.

siop William Hindes
Mae llun o William Hindes yn sefyll tu allan i’w siop ar dudalen 48 o’r llyfr Canrif o Luniau Plwyf Llangeler.

Mynedfa i lwybr a oedd yn arwain i ffatri Dolwyon ac i Alltpenrhiw oedd nesaf. Cross Lane oedd enw’r tŷ a’i gefn at y llwybr. Fe fuodd Eddie, Jeff a Les James,  meibion Cross Lane yn chwarae gyda fi yn nhîm Bargod Rangers. Roedd hwn yn lwybr prysur iawn gan mai dyma’r ffordd agosaf ar droed i gyrraedd nifer o dai yn Alltpenrhiw.  Roedd rhaid croesi afon Bargod ac roedd ‘pompren’ ar draws yr afon i’r cerddwyr a’r gweithwyr yn Ffatri Dolwyon.  A’i dalcen at y llwybr roedd Cross Lane lle magwyd llond tŷ o blant y Jamesiaid. Phill a Eddie a Les a Jeff (tua’r un oed a mi)  ond roedd sawl chwaer hefyd. Chwaraeodd Les gyda thîm Bargod Rangers am flynyddoedd ac er iddyn nhw symud oddi yno maes o law – Les Bach, Phill Bach, Eddie Bach a Jeff Bach Cross Lane oedd y bechgyn i mi.
 
Cyn cyrraedd siop Glenview roedd dau dy. Yn gyntaf Cross Vale ac yna Arfon.  Nyrs Adams oedd yn byw yn Cross Vale a brawd i Tom Morgan yn Arfon.

Gyferbyn a Glyn Noddfa ac Angorfa fe wnaeth Emrys Owen Griffiths agor Siop Groser yn Glenview pan oeddwn i yn Ysgol Ramadeg Llandysul. Roedd ei siop yn llawn o ddanteithion braf i ni blant a phobl ifainc, a chofiaf yn dda, ar ôl casglu’n beics o Spring Gardens, y stop nesaf fyddai Siop Emrys Owen i ni griw Cwmpengraig (a minnau’n byw yn Llyfnant ar ben hewl Dangribyn erbyn hynny). Os bydden ni wedi cynhilo digon efallai y gallen ni fforddio ambell hufan ia Walls neu chwarter neu  ddwy owns o ‘ddom llygod’ fel y galwen ni’r loshin bach pob lliw rheini. Byddai ‘mintoes’ yn well fyth achos bydden nhw’n para fwy yn y geg. O bryd i’w gilydd, ac os bydde cinio’r ysgol yn ddiflas, a ninne biti starfo, fe fydde’n ni’n prynu torth gyfan rhyngon ni, a phawb yn torri bobo gwlffyn i’w fwyta. Brenda Yr Ogof, Iwran Pantyffynnon, Gareth Crompton, John Dai Ffynnonbedr a Nesta Brynbedw – ac wrth gwrs Eric Tŷ Hen. Dyddie da oedd dyddie plant beics Cwmpengraig!

Fe welwch luniau o Siop Glenview, yna Cartref ac yna The Hall ar y dde cyn dod i Tŷ Cornel sydd yn eich wynebu pendraw’r pentref ar dudalen 18 o’r llyfr Canrif o Luniau.

Edrych tuag at Ty-Cornel Felindre 1920

Mae’r arwydd ‘Tea Rooms’ yn dal yn glir ar wal flaen Glenview hyd y dydd heddiw – arwydd o brysurdeb adeg oes aur y ffatrïoedd gwlân a phoblogrwydd Ffynnon Beca mae’n siŵr.
 
Cyn dod i The Hall roedd y ddwy chwaer Miss Jenkins Fawr a Miss Jenkins Fach yn byw yn Cartref.  Rwyf yn eu cofio yn iawn, y naill yn glamp o fenyw a’r llall yn un bitw fach. Roedd hi’n ddigon hawdd gweld pam roedd pobl yr ardal yn eu galw felly. Ond, yn ein drygioni fel plant roedd rhywun wedi dysgu rhigwm i ni am y ddwy Miss Jenkins. Ni wn pwy, ond mae’r rhigwm hwnnw’n dal ar gof fy nghenhedlaeth i, a dyma fe:

“Miss Jenkins Fowr a Miss Jenkins Fach
Mynd mas i’r ardd i gaca,
Miss Jenkins Fowr a Miss Jenkins Fach
Yn sychu thin a porfa!”


Brawd i’r ddwy oedd yr enwog Daniel Jenkins, Prifathro Ysgol Penboyr, lle bu’r ddwy hwythau yn athrawesau ac yn gerddorol iawn. Daniel Jenkins oedd arweinydd a hyfforddwr Cor Meibion Bargod Teifi pan enillwyd y brif wobr i’r Corau Meibion yn Eisteddfod Genedlaethol, Caefyrddin yn1911. Mae cofgolofn iddo ef a’i ddwy chwaer ar y dde wrth prif ddrws y fynedfa i Eglwys Sant Barnabas. Ar dudalen 44 o Canrif o Luniau fe welwch lun o Eglwys Sant Barnabas. O edrych yn ofalus fe welwch chi y gofgolofn yn glir ger drws yr eglwys.  Cewch hanes Daniel Jenkins yn Adran ‘Enwogion a Chymeriadau Lleol’ ar wefan Stori Fawr Dre-fach Felindre.

‘Jonnie Mamgu’ oedd yn byw yn Nhy Cornel, a dyna’r cwbl y gwn i amdano er ei fod yn ddyn ifanc, yno yn byw ar ei ben ei hun, ond wedi bod yn byw gyda’i famgu mae’n debyg. Mae Tŷ Cornel yn eich wynebu wrth ddod lawr trwy’r pentref a chyn cyrraedd Tafarn John y Gwas.
 
Drws nesaf, ac yn ymyl  Tŷ Cornel roedd gweithdy Dan y Crydd sef Daniel Rees a gwr Jennie Rees, Pendre. Byddai sawl un yn  galw yn y gwethdy, a tra byddai Dan wrthi’n ‘tapo sgidie’ wrth y ffenest byddai eraill yn eistedd ar y fainc yn y cefn yn trafod ac yn rhoi’r byd yn ei le – a finne yn eu plith. Fe fyddwn i wrth fy modd yng ngweithdy Dan y Crydd gyda arogl hyfryd y lledr fel pe bai’n gosod awyrgylch ddymunol i bob math o sgwrs ac o ddadlau. Dyn diwylliedig iawn oedd Dan Rees ac wrth ei fodd yn trafod llyfrau a barddoniaeth. Rwy’n meddwl yn aml pam roedd crwt ifanc fel fi wrth ei fodd yng nghanol ‘hen fois’ y pentref, ac mor barod i wrando a chyfrannu at bob sgwrs – ac i ddysgu gwerthoedd bywyd. Diolch am y profiad, a diolch i’r Cymro da - Dan y Crydd.
 
A dyma fi wedi cyrraedd tafarn y New Shop Inn. Dyna oedd yr enw swyddogol ar y lle, ond  ‘Yr Alsop’ neu ‘John y Gwas’ oedd pawb yn galw’r dafarn am mai John Evans a Leisa ei wraig oedd yn rhedeg y dafarn.  Roedd colofn wythnosol gan John y Gwas yn y Carmarthen Journal o dan y teitl ‘Dwy Ochr y Teifi’. Roedd e’n hanesydd, bardd ac ysgrifennwr a chasglwr brwd. Beirniad ac arweinydd eisteddfodau a chynghorydd  sir Llangeler ar Gyngor Sir Caerfyrddin am flynyddoedd lawer. Os gwelech chi John y Gwas yn gwisgo ei fowler fe wyddech chi ei fod e ar ei ffordd i’r Cyngor yng Nghaerfyrddin.
John y Gwas oedd un o’r bobl mwyaf arbennig a nodedig a welodd ardal Dre-fach Felindre erioed.

Hyd y gallaf gofio, fues i erioed tu fewn i dafarn y New Shop Inn ym mhentref Felindre. Bob dydd Calan byddai John y Gwas yn sefyll wrth ddrws y dafarn a bydden ni’r plant yn ein tro yn dod ac yn canu ac yn dymuno ‘Blwyddyn Newydd Dda’ iddo, a bob amser bydde fe’n rhoi pishin tair gloyw y flwyddyn newydd i ni.  Rhyfeddem at allu’r dyn – yn medru rhoi darn arian i ni ar ddydd cynta’r flwyddyn a dyddiad y flwyddyn newydd honno arno. Dim ond dyn  arbennig allai wneud sut beth!
 
A dyma ni wedi cyrraedd Llainffald sy’n dy mawr ei faint. Yno roedd y ddwy chwaer Nan a Hettie yn byw gyda’r athro Addysg Crefyddol yn Ysgol Ramadeg Llandysul ar y pryd sef David Leslie Baker Jones.  Heb os, dyma’r academydd mwyaf galluog a godwyd yn yr ardal erioed. Bellach wedi ymddeol ac yn byw yn ‘Dangribyn’, Cwmpengraig, bu’n gweithio, ar ôl bod yn athro, yn adran archifau Sir Gaerfyrddin. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ac roedd e’n organydd dawnus. Bu farw Leslie Baker Jones ar 21ain Ionawr 2019. Braint oedd cael bod yng nghwmni Y Parch Towyn Jones a’r Dr Gareth Crompton ynghyd a’ra’rynghyda’r teulu agos yn ei angladd yn Eglwys Sant Barnabas. Fe’i claddwyd ym mynwent Eglwys Llangeler.  Bydd erthygl ar y Dr  D L Baker Jones yn cael ei gosod yn Adran Enwogion a Chymeriadau Lleol gwefan Stori Fawr Dre-fach Felindre.

Stryd

Mae dau dy ar ôl cyn cyrraedd y bont a’r afon Esgair. Y cyntaf yw Bridge House a’r nesaf at yr afon yw Glanyrafon. Dau enw pwrpasol iawn. Ni allaf gofio o gwbl pwy oedd yn byw yn y ddau dy. Yn Glanyrafon yr agorodd Albert Evans ei siop gyntaf cyn adeiladu tŷ  a siop y ‘Central Stores’ gyferbyn a hen Neuadd y Ddraig Goch.

Ar ôl croesi’r bont, ac ar y chwith mae Ysgol Gynradd Penboyr.  Fe gewch hanes llawnach yr hen ysgol mewn adran arall o wefan Stori Fawr Dre-fach Felindre.
Rwyf bob amser yn adrodd y stori fod fy mam a finne wedi dechrau yn Ysgol Penboyr ar yr un diwrnod yn 1945. Yn syth ar ôl yr ail ryfel byd cychwynnwyd ‘Cinio Ysgol am Ddim’ i bob plentyn trwy’r wlad. Fy mam oedd cogyddes gyntaf cinio ysgol yn Ysgol Penboyr ac fe ddaeth yn adnabyddus fel ‘Mrs Griffiths y Cook’.

Ysgol Penboyr heddiw
 
 

Fy Nghyfnod yn Ysgol Penboyr.

Hyd y cofiaf Evan Powell oedd prifathro Ysgol Penboyr pan y cychwynnais yn yr ysgol yn 1945. Athrawes y babanod oedd ‘Maggie Ty Gwyn’, Pentrecagal – Mrs Maggie Davies. Heb os, roedd hi yn enghraifft berffaith o’r hen deip a’r hen ddull o redeg dosbarth y babanod. Roedd pawb yn crynu o’i hofn hi a byddai’n rhedeg y dosbarth fel ‘sergant major’.

Byddai hi yn eich dysgu i wneud popeth yn ôl ei dymuniad hi. Un o’r pethau rheini oedd dysgu pob plentyn i fwyta pob bripsyn o’i ginio ac yn bwysicach fyth i fwyta yr hyn yr oeddech yn ei gasáu fel plentyn.
Mae cof wedyn gen i o Rachel Ann Pensarn yn ein dysgu ac yna John Phillips o Lanpumsaint yn syth o’r coleg. Fe ddaeth ‘Phillips Bach’ yn Bennaeth ar Ysgol y Dderwen yng Nghaerfyrddin maes o law a chofiaf ef yn dweud wrtha i mai fi a Llyr oedd y tad a’r mab cyntaf iddo eu dysgu yn ystod ei yrfa fel athro. Roedd John Phillips yn actor rhagorol a bu’n chwarae rhannau blaenllaw gyda chwmnïau drama T James Jones (Jim Parcnest) yng Nghaerfyrddin ac yna mewn cyfresi fel ‘Nyth Cacwn’ ar S4C.

Daeth B D Rees, mab Nantllun, Plwyf Penboyr, yn brifathro wedyn a byw yn Llyfni House gyferbyn a hen Neuadd y Ddraig Goch. Byddai B D yn smocio’n drwm a bob amser chwarae byddai’n ymuno gyda fy mam a Martha Jane Brynbedw yn y gegin ac yn cael mwgyn ar ôl mwgyn yn y fan honno. Byddai cael cegin i baratoi bwyd ysgol yn llawn o fwg sigarennau yn gwbl annerbyniol erbyn heddi!
Cofiaf Marged Jenkins yr HMI yn dod i’r ysgol a BD Rees yn gorfod cyflwyno gwers o’i blaen er mwyn gweld beth oedd safon yr addysg a iaith plant Ysgol Penboyr. Yn ystod y wers ar ffermio fe ofynnodd BD i ni
“Os oes ‘stand laeth’ ar ben hewl y fferm, beth mae hynny’n golygu?”

Codais fy llaw a dweud, “Mae hyn yn dangos bod y fferm yn cynhyrchu llaeth Syr”. Ar ddiwedd y wers fe ddaeth Marged Jenkins ata i a dweud ‘da iawn’ am ddefnyddio gair fel ‘cynhyrchu’. Roedd hi wedi cael argraff dda o safon iaith y dosbarth a diolchodd BD i fi wedyn ar ôl iddi fynd.

Deng mlynedd yn ddiweddarach Marged Jenkins ddaeth i fy asesu i fod yn gymwys fel athro yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Adroddais  stori’r ‘cynhyrchu llaeth’ wrthi, ac roedd hi wrth eu bodd.
Gyda llaw, Marged Jenkins ddysgodd i fi y ddawn o ‘ysgwyd llaw’.  Wrth gael fy nghyflwyno iddi tu allan i fy ystafell ddosbarth yn Yr Ysgol Gymraeg fe ysgwydaisysgwyddais ei llaw, ac medde hi’n swrth braidd,
“Gwasgwch! Gwasgwch!    Mae’n bwysig bo chi’n gwasgu llaw rhywun yn gryf. Mae hyn yn dangos cynhesrwydd bob amser.”   A dyna rwy wedi ei wneud byth oddi ar hynny!

Yr unig beth arall rwyf yn ei gofio yn dda am Ysgol Penboyr yw mynd lawr i Gastell Newydd Emlyn i eistedd y ‘Scholarship’  Os oeddech chi’n llwyddo, yna fe fyddech chi’n mynd i Ysgol Ramadeg Llandysul. Os yn methu yna i Ysgol Fodern Henllan ar y pryd ac yna Ysgol Fodern Emlyn maes o law. Capten Lewis a thad fy ffrind Bryan Lewis, Rhianfa (gyferbyn a’r parc) aeth a ni’n dau yn ei gar mawr.  Fe ges i dipyn o lwc. Roedd tri thestun i ni ddewis ysgrifennu amdanyn nhw, ac yn eu plith roedd ‘Awr y Plant’.  Roedd ‘Awr y Plant’ yn rhaglen boblogaidd iawn iawn unwaith yr wythnos ar y radio a finne byth yn ei cholli. Ysgrifennais bopeth a wyddwn amdani gan gynnwys y gyfres boblogaidd ‘Galw Gari Tryfan’. Heb os, ‘Awr y Plant’ a’n helpodd i basio’r ‘scholarship’, a mam yn prynu beic BSA i fi am lwyddo.  Fe reidiais i’r beic hwnnw nol a mla’n i’r pentref o Llyfnant i ddal y bws i Ysgol Ramadeg Llandysul am flynyddoedd lawer.

  • Mae gen i lun o’r dosbarth gyda Eurwen Davies Tŷ Canol yn athrawes arnon ni. Nid wyf fi yn y llun. Pan oeddwn i yn naw oed fe ges i ‘rhumatic fever’ a gorfod i mi fod adref yn y gwely am rhyw chwe wythnos. Doeddwn i ddim yn yr ysgol pan dynnwyd y llun hwnnw.

Mae’r tŷ School House yn rhan o’r ysgol a phen draw yr iard o flaen yr ysgol. Dan Evans y saer coed (a brawd i’r enwog Albert Evans)  oedd yn byw yno gyda’i wraig Maggie yn fy amser i gyda’u plant Eirian ac Iris, ac mae Iris yn dal i fyw yno o hyd.  Y prifathro Morgans oedd yn byw yno cyn i Evan Powell ddod yn bennaeth.

Gyferbyn a’r ysgol mae Felindre House.  Axa ac Edith rwy’n cofio oedd yn byw yno ynghyd a’r cymeriad arbennig iawn Ieuan Francis. Fe gasglodd Ieuan wybodaeth am y pentref ar hyd ei fywyd cyn gwerthu Felindre House a symud i fyw i fferm Dandinas, Waungilwen. I ni’r plant rhyw le anweledig yng nghanol y pentref ac ar Sgwâr y Gat oedd Felindre House gan fod cloddiau mawr gyda thyfiant gwyrdd yn cuddio’r lle.

Mae Daniel Jones yn ei lyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr yn dweud fel hyn  ar dudalen 108 -   
“ Yn y ganrif o’r blaen, y prif dy yma oedd Felindre Inn – Felindre House presennol (1899) – tŷ David Jones arwerthwr poblogaidd ac adnabyddus. Yn y tŷ hwn cynhelid festriau y plwyf am flynyddoedd lawer.”
 
A dyma ni wedi cyrraedd Sgwâr y Gat.  Fel mae’r enw’n cyfleu – do, bu gat yma ar un amser ond fe’i chwalwyd yn y flwyddyn 1843 adeg gwrthryfel Beca. Dyma fel mae Daniel Jones yn cofnodi ymdrechion Beca yn yr ardal yn ei lyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr (tudalen 326 ymlaen).

“Ionawr 16eg 1843 dinystrwyd Tŷ’rgat, Trefechan. Cyrhaeddodd y cynnwrf y plwyf hwn ym mis Chwefror. Ar yr 21ain o’r mis hwnnw dinistrwyd gat Bwlchclawdd. Mai 3ydd, Tŷ gat, Pontweli ac un Troedrhiwgribyn yr un noswaith.

Ar y15ed o Fehefin (1843) galwyd heibio i Tŷ-gat, Felindre, ac wedi rhoi yr amser arferol i’r rhai oedd  yn tŷ i ddod allan, gwnaed y cyfan yn garnedd adfeiliedig mewn tua chwarter awr, ac ar yr 16eg dinistrwyd Tŷ-gat, Bwlchclawdd, Llangeler.”

 

NODYN ER GWYBODAETH: Dadorchuddiwyd gwenithfaen, sydd wedi ei gosod ar wal mynwent yr eglwys, ac arni’r geiriau SGWÂR Y GAT gennyf i Peter Hughes Griffiths yn 2014.
Roedd ‘pillbox’ ar Sgwâr y Gat adeg ac ar ôl yr ail ryfel byd. Cofiaf  mynd i mewn iddo gan ddychmygu beth oedd ei bwrpas ar gyfer saethu’r gelyn.

Wrth Sgwâr y Gat mae Eglwys Sant Barnabas. (Ceir hanes yr eglwys Sant Barnabas ar wefan Casgliad y Werin, ac ar wefan Eglwys Sant Barnabas.)

Hyd y cofiaf ychydig iawn o weithiau y bues i yn yr eglwys hon pan yn blentyn ac yn tyfu lan yn y pentref gan mai i Gapel Closygraig yr oeddwn i yn mynd er mai i Sant Barnabas yr aeth Beti fy chwaer a hynny gyda’i ffrindiau, ac yno y priododd hi.

Ond, fe fues i laweroedd o weithiau yn y fynwent sydd o gwmpas yr eglwys, ac yn enwedig y rhan honno oedd rhwng yr eglwys a’r ysgol. Y rheswm am hynny oedd i nol y bel. Bob amser chwarae bydden ni’r bechgyn yn chwarae pel droed ar yr iard gefn. Wrth y wal rhwng y fynwent a’r iard fyddai un o’r goliau, a chan fod y wal braidd yn isel a’n rheolaeth ni o’r bel ddim yn rhy dda byddai’r bel yn gyson yn hedfan dros y wal ac i’r fynwent. Roedd un rheol bendant yn bodoli, sef, pwy bynnag giciodd y bel i’r fynwent ei gyfrifoldeb ef oedd mynd i nol y bel. Do, gorfod imi fynd dros y wal laweroedd o weithiau yn ystod fy nghyfnod yn Ysgol Penboyr.

Pillbox
Mae llun artist o Sgwar y Gat gyda’r ‘pillbox’ ar dudalen 62 yn y llyfr Canrif o Luniau.

Tŷ’r Gat.  Dyma’r tŷ, oedd a sydd yn union ar Sgwâr y Gat, a dyna oedd pawb yn ei alw.Yn ei lyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr  (tudalen 109) mae Daniel Jones yn dweud ... "saif y llythyrdy presennol ar y fan yr oedd Tŷ’r Gat dechrau y ganrif, yr hwn a ddinistriwyd gan y Beca yn 1843".

Roedd y ‘Post Office’ yn dal i fod yn Tŷ’r Gat yn fy nyddiau i yn y pentref, ac oddi yno byddai’r holl lythyrau a pharseli’n cael eu dosbarthu i’r holl ardal. Os cofiaf yn iawn ‘Sam Post’ oedd yn byw yno. Bu’r ‘Post Office’ yno hyd nes ei symud yn 1955 i ofal   Douglas  ac Annie Daniels Jones yn y tŷ nesaf at Maesyberllan ac ar y chwith i gyfeiriad Waungilwen.   (Tad a mam Stephen Jones, Y Garth, Felindre a chadeirydd cyntaf prosiect Stori Fawr Drefach Felindre.  Caiff Stephen ei alw’n ‘Steve Post’ gan ei ffrindiau o hyd!).

Mae atgofion melys gen i o godi’n fore i fod yn bostmon adeg gwyliau’r haf a chyn y Nadolig gan helpu i ddosbarthu’r llythyron a’r parseli. Fy nhaith i oedd canol y pentref yn gyntaf cyn mynd i gyfeiriad Cwmhiraeth. 
Ar Sgwâr y Gat fydden ni’r bechgyn yn cwrdd yn gynnar bob bore cyn i fws y Western Welsh ddod i’n cario ni  i Ysgol Ramadeg Llandysul. Roedd hi’n gyfle da i gicio pel at y gol. Y gol fyddai’r ddau biler yn y wal o flaen y gofgolofn. Roedd cyfle i feithrin ein sgiliau pel droed trwy gadw’r bel yn is na lefel wal y fynwent – rhag i’r bel fynd i ganol y beddau. Unwaith y gwelen ni’r bws coch Western Welsh yn dod o gyfeiriad Waungilwen byddai’r gem yn dod i ben yn sydyn a phawb yn cydio yn ei satshel a rhedeg lawr at Camwy, gyferbyn a Siop Albert i ddal y bws.

Gadewch i ni droi i’r dde ar Sgwâr y Gat a chadw i’r chwith ar ein taith tuag at Drefach.

Y tŷ cyntaf ar y chwith oedd Glyncoed a chofiaf Mrs Davies, gweddw’r Parch J.H.Davies gweinidog Closygraig o 1932 tan ei farwolaeth yn 1947, yn byw yno. Gwraig garedig iawn oedd Mrs Davies a pharch mawr gan bawb iddi. Bu ei mab Dr Jerry James yn feddyg poblogaidd iawn yn Ysbyty Caerfyrddin ac yn byw yn  yyn tŷ braf cyntaf ar y chwith yn Heol Y Prior wrth Eglwys San Pedr.

Yn y llyfr  ar hanes Eglwys Clos y Graig 1754 – 1954 mae lluniau y Dr A Lewis, M.A., D.Litt. Aberystwyth a’i wraig Mrs Elizabeth Lewis, M.A. Aberystwyth.  Yna, ar dudalen 19 ceir y nodyn hwn –
Yn y flwyddyn 1945 cafwyd swm o arian oddi wrth cymynrodd Mrs E A Lewis, Aberystwyth, sef £5,070, y llog i’w ddefnyddio at y weinidogaeth (yng Nghlos y graig) ac anghenion cyffredinol. Un o’r ardal – Glyncoed, Felindre – oedd Mrs Lewis, a gadawodd ddau dy Glyncoed hefyd i’r eglwys.

Mae’n amlwg fod gweddw’r Parch D H Davies wedi symud i Glyncoed i fyw.

Yn y Glyncoed arall yn ymyl cofiaf am Mrs Freeman a’i merch Vivienne yn byw. Roedd hi yn chwaer i Tom Morgan (wele ei hanes o dan Enwogion a Chymeriadau Drefach Felindre).

 

A dyma ddod wedyn i The Nook, sef tŷ bychan – un lawr ac un lan – gyda tho asbestos iddo. Yn y tŷ bach clud hwn roedd Mr a Mrs Yeomans yn byw. Cymeriad o Sais oedd Yeomans ac yn cerdded o gwmpas yn aml yn ei wisg Home Guard.  O edrych ar y llun enwog o Home Guard Drefach Felindre ar dudalen 38 o’r llyfr Canrif o Luniau Plwyf Llangeler fe welwch Mr Yoemans yn eistedd yn yr ail res ac un o’r pen ar y dde. Wrth ei ymyl (y trydydd o’r dde) mae fy nhad. Yn rhyfedd iawn roedd fy nhad ac yntau yn dipyn o ffrindiau a chofiaf fynd gyda fy nhad ambell nos Sadwrn i The Nook i dreulio noson wrth yr hen stof lo. Yr unig reswm pam rwy’n credu bod fy nhad a Mr Yeomans yn ffrindiau oedd y ffaith bod y ddau yn ddilynwyr brwd o’r Cwn Hela sef y Tivy Side Hunt. Hyd y cofiaf nid oedd dim arall yn gyffredin rhwng y ddau. Un o ferched Gwalia oedd ail wraig Mr Yeomans.
 
Yn y fan lle mae Siop brysur y pentref yn awr roedd Gwalia House, ac yno roedd Lisi Jones Gwalia a’i chwaer arall yn byw.  Dim ond brith gof sydd gen i ohonyn amdanyn nhw.

Gwalia
Mae llun o The Nook a hen Siop Gwalia House tua 1916 ar dudalen 28 o’r llyfr Canrif o Luniau.  Siop Nwyddau fodern sydd yno heddiw.

Yna, fe ddown at un o dai mwyaf enwog y pentref bellach sef Camwy. I’r tŷ hwn y dychwelodd John Davies a’i ferch Ellen  neu Nel Fach y Bwcs i Gymru o Batagonia yn 1901 ac enwi’r tŷ ar ôl y dyffryn hardd hwnnw yn Y Wladfa.

Mae holl stori ramantus ‘Nel Fach y Bwcs’ ar gof a chadw mewn dau lyfr. Bellach mae’r ddwy gyfrol yn un o dan y teitl ‘O Drelew i Drefach’.

Heb wybod dim am stori hanesyddol Camwy fe fues i yn grwt ifanc yn palu ac yn  trin yr ardd tu ôl i’r tŷ i’ri Frances y fam a’r ddwy ferch Gwyneth a  Frances? yn flynyddol i ennill peth arian poced.
Bu Frances? yn athrawes am gyfnod maith yn Ysgol Gynradd Llangeler.  Dwy hen ferch fubu ‘Merched Camwy’ ar hyd eu hoes.
 
A dyma ni nesaf wedi cyrraedd y man lle roedd Neuadd y Ddraig Goch. Mewn lle arall ar y Wefan Stori Fawr Drefach Felindre rwyf wedi ysgrifennu’n fanwl hanes Neuadd y Ddraig Goch. Dyma oedd canolfan holl weithgareddau’r ardal yn ystod fy nghyfnod i fel plentyn a thyfu lan yn yr ardal.  Roedd tri bwrdd snwcer a biliards ardderchog yno ers cyfnod y rhyfel cyntaf mewn ystafell eang gyda stof fawr ar un pen iddi. Os na fyddech chi’n chware neu yn disgwyl am gem, yno, o gwmpas y stof byddai pawb yn eistedd. Rhan amlaf bydden ni’n prynu potel o bop a phacyn o Smiths Crisps gyda pwt bach o ddarn papur sgleiniog glas tua maint top eich bys yn dal yr halen tu fewn i’r pecyn. Crisps plain oedd yr unig fath o grisps oedd yn bod a’ch dewis chi wedyn oedd gwasgaru’r halen allan o’r pecyn bach glas dros y crisps cyn eu bwyta. Y pop mwyaf blasus oedd y Dandileion and Burdock.  Ni phrofais flas mor arbennig ers y dyddiau hynny.

Yno, yn y Snooker Hall bob nos fel y cloc roedd Defi Caffi (Defi Evans). Ni wydden ni y bois lleol beth yn y byd oedd yn bod ar Defi, ond roedd e’n gwbl wahanol i ni. Ni fedrai gerdded na siarad yn iawn ac roedd ei gorff yn ysgwyd yn ddi stop.  Ond, yn rhyfeddol iawn medrai gadw’r sgôr yn berffaith wrth i’r bechgyn chwarae eu gemau snwcer. Daeth pawb yn araf bach i ddeall ei ffordd ef o siarad trwy ystym ac ail adrodd tra byddai Defi wrrthi’n parablu a’i wefusau’n ffroth i gyd. Roedd Defi yn ffrind i bawb a phawb yn ffrind i Defi. Yna, tua’r naw o’r gloch byddai ei fam neu un o’r teulu yn dod i’w nol a mynd ac ef adref i’w gartref yn Llys Herber ar draws y ffordd.  Mae atgofion hynod o felys gan drigolion Dre-fach Felindre am Defi Llys Herber, ac er gwaethaf ei anabledd roedd pawb yn ei garu. I’w deulu roedd dod ag ef i Neuadd y Ddraig Goch ac i ganol ei bobl yn siŵr o fod yn resbite  haeddiannol iddyn nhw.

Er i mi dreulio llawer awr wrth y bwrdd snwcer, dyma ichi gamp na lwyddais i flodeuo ynddi. Chwaraewr cyffredin iawn oeddwn i, ond roedd Arthur a Peter Landwr yn gallu potio peli’n feistrolgar iawn cyn iddyn nhw gyrraedd eu pymtheg oed.  Pawb a’i ddawn!

Elen Jones Graigwen
Mae llun o Ellen Jones (Nel Fach y Bwcs) ar dudalen 19 o’r llyfr Canrif o Luniau

Mae llawer iawn o atgofion melys gen i am fynd yn gyson i’r neuadd ei hun pan yn grwt ac wrth dyfu lan.  Cofiwch ddarllen hanes Neuadd y Ddraig Goch sydd ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre.
 
Y tŷ nesaf ar y chwith yw Y GARTH.  Yno, hyd y cofiaf, roedd John Lewis a’i wraig yn byw. I mi roedd Jonnie Lewis yn ŵr arbennig iawn gan fod pawb yn dweud ei fod yn filiwnydd a’i fod wedi gwneud ei arian yn y diwydiant gwlân yn Nre-fach, Felindre. Yn fy nghyfnod i yn grwt fe oedd berchen Ffatri Cambrian, safle presennol Yr Amgueddfa Wlan Genedlaethol. Roedd e’n gwisgo siwt drwsiadus dywyll  bob amser ac wedi cyflogi rhai cannoedd o bobl leol i weithio yn ei ffatri ar hyd ei oes, a phawb a rhyw barchedig ofn tuag ato gan ei fod yn gul iawn ei agwedd ac yn gryf iawn yn erbyn  ‘y ddiod gadarn’.
John Lewis roddodd arian sylweddol tuag at adeiladu y Neuadd y Ddraig Goch newydd, ac fel rhan o reolau defnyddio’r neuadd ni chaniateir gwerthu nac yfed diod. Mrs Lewis ei wraig agorodd y neuadd newydd yn swyddogol gan i John Lewis farw ychydig cyn hynny. (Cewch y manylion yn llawn yn hanes Neuadd y Ddriag Goch sydd ar wefan ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’. )   John Lewis hefyd sicrhaodd i Glwb Pel Droed y Bargod Rangers eu cae chwarae presennol ar Barc Puw gan ofalu bod cae o’r safon uchaf gan y tim lleol ar ôl chwarae am flynyddoedd maith ar ‘Llysnewydd Meadow’ ar waelod y pentref.

A wedyn daw Islwyn, a’r unig beth a gofiaf mai hen ŵr ‘Jonnie Islwyn’ oedd yn byw yno gyda’i fab Alfred a weithiau fel ‘charge nurse’ yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.
 
Y tŷ nesaf yw Maesyrafon.  Yno roedd John Lewis yn byw ac aelod o dim Pel Droed Bargod Rangers ac enillwyr Cynghrair Ceredigion yn 1948. I mi, aelodau o dim y Bargod Rangers oedd fy arwyr pan yn tyfu. Ar dudalen 68 yn y llyfr ‘Canrif o Luniau’ fe welwch John Lewis Manorafon yn eistedd y cyntaf ar y chwith yn y llun.  Daeth John yn rheolwr banc gan sefydlu yn Aberteifi.  Roedd John yn un o’r gwahoddedigion yn agor yr arddangosfa ar ‘Hanes Chwaraeon Lleol’ yn yr Amgueddfa Wlan Genedlaethol yn 2016.
Roedd ei fam yn un o deulu enwog Square Hall, Drefach.
 
A dyma ni’n dod i Glaniwmor lle roedd siop a gweithdy yn y cefn a chanolfan busnes JR Jones Glaniwmor sef tad Richard Jones Trecoed, a Goetre bellach. Roedd y siop yn gwerthu nwyddau amrywiol fel rhyw fath o ironmonger   a JR Glaniwmor a’i fusnes adeiladwyr ar yr un safle.

Yna mae dau dy arall wedyn sef Maesyrywen a Maesycapel. O ddarllen y llyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr tudalen 184/5 mae Daniel Jones yn son am y Capel Bach oedd yn y darn tir rhwng y tai hyn a’r afon. ‘Cafodd y Capel Bach ei adeiladu yn 1713 ac yn gangen o Eglwys y Plwyf (Eglwys Penboyr mae’n debyg) a’i galw’n Eglwys y Drindod (cyn codi Eglwys Sant Barnabas), ac yn yr hen ddyddiau roedd mynwent o gwmpas y goeden ywen fawr yn tyfu yno. Bu’n ysgol wedyn ond erbyn 1899 dim ond adfail oedd yno yn ôl Daniel Jones. Does dim rhyfedd i’r tŷ arall sydd yn agosach at yr afon gael ei enwi yn Ywen Las.
 
Croesi bont afon Bargod wedyn cyn dod i Rhandir a chartref y gweinidog a’r pregethwr Y Parch.  Gwyn Davies Jones, Cydweli,  a brawd i Daniel Jones, Bangor House ym mhentref Felindre. Cofiaf am Gwyn Davies Jones yn dod ar ei wyliau haf yn flynyddol at ei chwaer yn Rhandir ac yn pregethu un Sul bob mis Awst yng Nghlosygraig.

Yna, Derwlwyn, a chofiaf Ena Derwlwyn yn byw yno. A dyma ni’n cyrraedd Dolwerdd lle roedd Jonnie Dolwerdd yn byw. Gwr cryf a boliog o gorffolaeth ac yn mynd o gwmpas mewn Humber mawr. Bu ef yn berchen ar Ffatri Meiros ac o’r hyn a gofiaf fe wnaeth e ennill arian mawr ar ‘Y Pools’. Roedd e yn ynganu’r llythyren ‘s’ fel ‘th’.
 
A dyma ni nawr ar Sgwâr Pensarn
 

Dyma gychwyn eto o Sgwâr y Gat am Drefach gan nodi’r tai ar y dde.

 
Caeau Felindre House oedd ar y dde cyn cyrraedd Central Stores neu Siop Albert. O flaen y siop byddai  pob bws gwasanaeth Caerfyrddin i Gastell Newydd Emlyn yn aros. Dyma ganolfan siopa mwyaf prysur y pentref a chofiaf am Albert Evans a’i wraig yn dda yn rhedeg eu siop llawn o fwydydd – siop groser go iawn. Ar wefan ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’ rwyf wedi ysgrifennu am gyfraniad cerddorol enfawr Albert Evans yn lleol. Rwy’n cofio gweld Albert yn sleiso cig bacwn gyda’r peiriant troi a llaw – gwaith digon peryglus, ac os cofiaf yn iawn roedd un o fysedd Albert wedi dioddef damwain mewn rhyw fodd? Yn yr un tŷ roedd Alun eu mab a Linda ei wraig yn byw – Alun Siop Albert. Roedd e’n athro yn Ysgol Ystrad Tywi yng Nghaerfyrddin.  Mae Eirlys y ferch wedi cyflwyno nifer o drysorau cerddorol Albert Evans i gasgliad Y Stori Fawr.
 
Roedd rhyw fath o Ganolfan Cysylltu Teleffonau wedyn drws nesaf lawr cyn dod i Llynfi House cartref BD Rees, Prifathro Ysgol Gynradd Penboyr a mab Nantllin, Penboyr. Roedd Nellie ei wraig yn cadw Siop Esgidiau yn Llynfi House ac fe fues i yno gyda mam lawer gwaith yn prynu esgidiau. Bu Gerallt y mab hynaf yn brifathro yn Hwlffordd, Sir Benfro, ond cadwodd gysylltiad agos iawn gyda’i hen ardal a chyda Eglwys Penboyr. Mae ei frawd yn dal i fyw yn yr hen gartref. Fe wnaeth BD Rees gyfraniad mawr yn lleol, nid yn unig fel prifathro ac addysgwr ond hefyd yn gymdeithasol a bu’n flaenllaw iawn yng ngwaith Neuadd y Ddraig Goch. (Ceir mwy amdano yn Hanes Neuadd y Ddraig Goch, ond am rhyw reswm fe ddaeth y cysylltiad hwnnw i ben yn sydyn iawn!) Treuliodd fy mam gyfnod hir fel cogyddes Ysgol Penboyr tra roedd BD Rees yn brifathro.  Roedd BD Rees yn ysmygwr trwm iawn ac yn dod bob amser chwarae’r ysgol i’r gegin i gael mwgyn gan nad oedd ystafell staff y pryd hwnnw – ac yn y cyfnod pan allech chi smocio ym mhobman bron – ac eithrio yn y capel neu’r eglwys!!
 
Y nesaf ar y dde yw Neuadd Wen a’r bwtshwr lleol Dai Danwarin oedd yn byw yno. Mab teulu Danwarin, Drefelin oedd David Evans ac yn mynd o gwmpas i werthu cig yn ddyddiol yn ei fan.
Y pryd hwnnw roedd gan pob bwtshwr ei daith ddyddiol ac wythnosol gan gyrraedd pob lle tua’r un amser bob tro. Ar ôl iddo golli ei wraig fe ddaeth ei chwaer Margaret Evans (Maggie Danwarin) i fyw ato. Person arbennig oedd hi ac rwyf wedi ysgrifennu amdani ar wefan ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’ o dan Enwogion Lleol.  Fe briododd Margaret Evans gyda Brynmor Williams yn y Rhondda a bu yn byw yno am gyfnod. Ond, fe ddychwelodd hi a’i gwr i fyw i’r Neuadd Wen ac fe ail gydiodd Mrs Brynmor Williams ym mywyd prysur y pentref a dod yn gynghorydd dros yr ardal hefyd. Brawd i Mrs Brynmor oedd Cecil Evans, Nythfa, Waungilwen (Cess Danwarin). MerchMerchM iddo ef yw Ann Evans, Nythfa gynt ond Porth Tywyn ger Llanelli yn awr.
 
A dyma ni wedyn yn Erwlon.  Ainsleigh Evans oedd yn rhedeg modurdy yno ac yn gwerthu petrol. Am rhyw reswm fe roddodd e’r gore i hynny a mynd i weithio yn Evans Motors Caerfyrddin. Roedd e’n organydd yng Nghapel Bethel Drefach. Ar ôl priodi fe aeth e i fyw i Felinfach ger Aberaeron.
 
Drws nesaf lawr mae Llys Herber cartref Defi y soniais amdano wrth son am yr hen Neuadd y Ddraig Goch.  Yno hefyd roedd Gordon Evans a’i ail wraig Margaret yn byw am gyfnod. Athro oedd Gordon ar Ysgol Penwaun, rhwng Capel Iwan a Threlech, a mab i David a Marged Evans Trefeca, Drefelin, a arferai edrych ar ôl Neuadd y Ddraig Goch. Mae mab Gordon, sef Colin yn athro yn Sir Benfro.
 
Yna, fe ddown at Teifi House lle’r oedd siop a popty bara Daniel Isaac. Roedd Marian y ferch ychydig yn henach na fi yn Ysgol Ramadeg Llandysul a ‘Marian Cafe’ oedd hi i ni. Hyd y cofiaf roedd yno siop a lle pobi a gwerthu bara, er nad wyf yn cofio bod cafe yno.
 
A dyma gyrraedd Trecoed cartref Richard Jones (Goetre nawr) ac unig fab TJ a Sarah Jones.
Ei dad yn fab Glaniwmor ar draws y ffordd a’i fam yn ferch fferm y Goetre, Felindre. Soniais am TJ gyda ei gwmni adeiladu ond bu cyfraniad Sarah Jones yn un nodedig iawn yn hyfforddi plant yn gerddorol ac mor weithgar ym mywyd pentref Dre-fach, Felindre.
(Ysgrifennais amdani ar wefan ‘Stori Fawr Dre-fach, Felindre’ o dan y teitl Enwogion Lleol.)
 
Cyn cyrraedd Pont afon Bargod roedd toiledau cyhoeddus newydd sbon y pryd hwnnw, a aeth yn adfeilion maes o law. Bellach mae tŷ newydd wedi ei godi ar y safle hwn.
 
A dyma gyrraedd Pensarn sef fferm fechan John ac Elisabeth Evans (John Pensarn) a diacon parchus yng Nghapel Closygraig pan oeddwn i’n blentyn yno.  Yn ôl yr hanes fe ddaeth John Evans (mab Tŷ Newydd, Drefelin – wrth Gapel Closygraig) o dan ddylanwad y Diwygiad yn 1904. Roedd yr ysbryd hwnnw fel pe bai’n dal yn fyw ynddo o wrando arno’n gweddïo o’r frest yng Nghlosygraig. Roedd e’n weddïwr teimladwy iawn a chanddo’r eirfa afaelgar honno sydd gan ambell un i gyfleu ei brofiadau.    Yn dilyn marwolaeth  aelod o’r capel, John Evans o’r set fawr fyddai’n cydymdeimlo’n gyhoeddus ar ran yr aelodau. Cafodd wir effaith arna i gan fy mod yn cofio’n dda amdano’n llefaru mor huawdl a hiraethus gan achosi i sawl un golli deigryn wrth wrando arno.  Mair a Rachel Ann oedd ei ddwy ferch a bu Rachel Ann yn athrawes arna i yn Ysgol Penboyr cyn priodi a byw yn Llanllwni.
Y tŷ ar Sgwâr Pensarn ac ar waelod y rhiw oedd Castle Square. Pan symudodd Samuel a Rachel Ann Davies o Pensarn Cottage i fyw yno fe newidion nhw yr enw i Aneddwen.

 

Y daith nesaf yw o Sgwâr Pensarn i waelod pentref Drefach.

Fe ddechreuwn ar yr ochr chwith.

Ar y gornel roedd tŷ bychan o’r enw Penbont. Yno yn byw roedd mam a thad Rees Goytre a Jonnie a redai siop tsips enwog yn Llandysul, a mamgu a thadcu y Dr Gareth Crompton. Prin y cofiaf i hynny, ond cofiaf Emrys Owen Griffiths ( a ddaeth i fyw i Dolwerdd wedyn) yn gwerthu menyn Bargod Meadow Butter  ar y safle. Roedd y tŷ yn pwyso nol dros y ‘pownd dwr’ a gariau’r dwr ar gyfer troi olwyn ddŵr Ffatri Square Hall. Mae’r tŷ bellach wedi ei ddymchwel.

O dan y ffordd a rhwng yr Afon Bargod roedd dol fechan, a’r hyn sy’n sefyll yn y cof yw’r ‘rasus ceir’ a gynhaliwyd yno. Roedd gan John Griffiths (John Pensarn i ni) a mab Emrys Owen Griffiths, rhyw racsyn o gar Austin 7 i’w yrru fel cath i gythrel o gwmpas y cae cyfyng hwn. Mawr oedd y siarad yn yr ardal am yr arfer hwn gyda’r hwyr a sŵn y car yn diasbedain trwy’r fro. Daeth y cyfan i ben yn sydyn. Roedd Goronwy Thomas yn athro yn Birmingham ac wedi dod lawr ar ei wyliau at ei fam a’i dad a hwythau’n byw tu cefn i dafarn y Red Lion yn y pentref. Doedd Goronwy ddim yn gyfarwydd a’r trac ond roedd rhaid cael cynnig ar yrru yn y Silverstone lleol.  Bu damwain ddifrifol a chafodd Goronwy ei anafau’n ddrwg a bu’n dioddef yn hir ar ôl hynny.

Yr adeilad nesaf o dan yr hewl oedd Ffatri Meiros. Roedd hwn yn adeilad mawr braf yn dangos i ni maint a phwysigrwydd y diwydiant gwlân yn yr ardal. Teulu Lewisiaid Meiros Hall oedd y perchnogion a phrin y cofiaf am Eiffel Lewis, Meiros Hall er bod llawer iawn o son amdano. Roedd cyfnod y ffatri yn dod i ben a chofiaf amdani’n cau. Bu’n wag wedyn am hir cyn i Gwmni Manwerthwyr Bwyd Kardov ddefnyddio’r lle i ddosbarthu eu nwyddau ar hyd a lled gorllewin Cymru. Yn dilyn Kardov fe fu Fedwen Tentage yno yn cadw eu holl nwyddau.
 
Y tŷ nesaf ar ochr y ffordd oedd Glanbarod,  a’r unig beth a gofiaf yw fod Keisha Fach a Keisia Fawr yn byw yno. Roedd Keisia Fawr yn chwaer i Dafi’r Gof yn Anville House drws nesaf lawr, ac os cofiaf yn iawn roedd ei chwaer wedi ymfudo i’r America ac roedd cryn sylw yn lleol pan fyddai rhai o’r teulu a ymfudodd yn dod nol am dro. Ces wybod yn ddiweddar bod chwaer Keisia ar y llong enwog y ‘Lucitania’ a suddodd, ac mae carreg goffa iddi ym mynwent Capel Penrhiw.

Mae fy nghyfaill Eifion Davies wedi gwneud peth ymchwil i hanes y teulu hwn ac yn eu cofio yn dod draw o’r Amerig. Diolch iddo am y sylwadau canlynol:
Dyma sydd ar y garreg fedd ym Mynwent Penrhiw:

SERCHUS GOF AM
JOHN JONES, GLANBAROD, DREFACH
BU FARW Rhagfyr 21,  1905 yn 62 MLWYDD OED
HEFYD AM
KEZIA ANN THOMAS EI WYRES
BU FARW Mawrth 21, 1905 YN WYTH MIS OED
HEFYD AM
MARY HANNAH Ei FERCH A’i PHRIOD
SUDDWYD YN Y LUCITANIA MAI 7, 1915.

Ar waelod y garreg fedd mae y rhybudd hwn:

 Ti fedd-dorrwr cymer rhybudd,
Gad weddillion rhain yn llonydd,
Teilwng iddynt yw llonyddwch
Ar ôl lludded yr anialwch.

Mae Eifion Davies wedi cofnodi’r hanes fel hyn –

“Y stori yw fod yna deulu o saith (er bod adroddiad arall yn dweud teulu o naw) yn byw yn Glanbargod tua 1900 – y fam a’r tad John Jones, (nid yw enw’r fam ar y garreg fedd ym mynwent Penrhiw!), un mab a phedair merch. Y mab oedd Dafi Gof, a’r merched oedd Keizia (fawr), Mary Hannah, Lizzie Jane,  Gladys ac un arall a aeth i fyw i Caerau, Maesteg. Priododd Mary Hannah gyda gwr o’r enw Ernest Thomas, dyn o Hendygwyn ar Daf, ac ar ôl colli un plentyn fe ymfudodd y ddau i’r America. Ymfudodd Lizzie Jane a Gladys hefyd i Winnipeg, Canada. Maes o law, ar ôl priodi, ymfudodd y ddwy o Ganada i America.

Ganwyd dau o blant i’r chwaer a aeth i fyw i Caerau, Maesteg sef Keizia (Fach) ac Emlyn. Wedi marwolaeth ei mam yn y Caerau fe symudodd Keizia Fach ac Emlyn yn ôl i Glanbarod ac yno y bu Keizia Fach yn byw am weddill eu hoes. Ymfudodd Emlyn hefyd i’r America.

Yn 1915 penderfynodd Mary Hanna ac Ernest ei gwr ddod nol am dro i Gymru, ond yn anffodus fe suddwyd eu llong y Lucitania gan long danfor Almaenig ger Old Head oddi ar y Kinside, Iwerddon. Boddwyd 1198 o bobl, ond achubwyd 761. Daethpwyd o hyd i gorff Ernest Thomas ac fe’i claddwyd yn Cork, ond ni ddarganfyddwyd corff Mary Hannah. Yn ôl yr hanes mae’n debyg fod Dafi Gof (brawd Mary Hannah) wedi mynd i Cork i gwrdd a’i chwaer a’i frawd yng nghyfraith ond suddwyd y llong cyn cyrraedd Cork

Gallwn ddychmygu fod hwn wedi bod yn ddigwyddiad mawr yn hanes pentref Drefach Felindre ar y pryd.  Mae Eifion Davies yn cofio teulu Keizia, Glanbargod yn dod ar eu gwyliau o’r America – mam a merch ac yn galw yn Pensarn Cottage. Bu peth hanes yn y papur bro Y Garthen tua ugain mlynedd yn ol gan gynnwys llun Ernest (mab Dafi Gof) gyda Einsley Evans Erwlon yn sefyll wrth y gof golofn arbennig yn Cork, Iwerddon.


Wedyn dyma gyrraedd Anville House sef hen efail y gof ac a oedd yn rhyw hanner modurdy hefyd. Mae’n amlwg mae efail y gof oedd y lle yn bennaf gyda Dafi Gof yn gweithio yno. Roedd ganddo bump o feibion sef Ernest, Defi John, Trevor a Roy. Bu’r mab arall farw tua 1899 yn 29 oed. Mae carreg fedd y mab hwnnw a Keizia (fawr) ar ochr y garreg fedd a nodwyd ym mynwent Penrhiw a’r nesaf atyn nhw wedyn bedd Keizia (Fach). Y bechgyn wrth geisio moderneiddio’r lle a drodd yr efail yn fodurdy. O flaen y tŷ roedd pwmps gwerthu petrol gyda Ernest yn bennaf yn delio gyda’r gwerthiant. Aeth Defi John a Roy wedyn i redeg modurdy newydd yn Saron. Mae’r modurdy hwnnw yn dal yno. Cofiwch mae’r pryd hwnnw doedd dim hawl i’r modurwr gyffwrdd a’r pwmps petrol ac roedd rhaid aros nes i Ernest ddod a gosod y petrol yn y car ichi.

Cododd Ernest y tŷ drws nesaf at Anville House sef Llys Aeron. Bu ef a’i wraig yn byw yno wedyn gan fagu eu dau blentyn – Raymond ac Elaine.    

Gwynfor Jones a’i wraig Briallen brynodd Anville House a newid enw’r lle i Awelfor. Roedd Gwynfor wedi ei fagu yn Ivy House yn ymyl a Briallen ei wraig yn dod o Garreg Hollt, Cefneithin. Bu’r ddau’n byw yno am ran helaeth o’u bywyd priodasol ac yno y magwyd Nia eu merch. Fe wnaeth y ddau gyfraniad mawr i fywyd cymdeithasol y pentref.
 
Mae bwlch wedyn a’r ffordd yn mynd lawr tuag at Ffatri Meiros. Yna tri thŷ bychan yn ymyl y ffordd – Central House, Erw’r Delyn ac Ivy House. Mr Mrs Evans (perthnasau i Gordon Evans Trefeca, Drefelin) oedd yn byw yn Central House ac yna Elfed y Barbwr yn Erw’r Delyn.

 Yn ymyl hen Ysgol John Phillips yng Nghastell Newydd Emlyn roedd Siop Farbwr Elfed a’r son oedd am Elfed ei fod yn torri gwallt pawb yn ystod y dydd fel y torrai wallt y person cyntaf y bore hwnnw. Doedd dim son am steil na ffashwn  y  dyddiau hyn y pryd hwnnw – short back and sides yn llythrennol oedd hi. Roedd un ‘goes bren’ gan Elfed yn dilyn damwain gyda pheiriant torri gwair pan yn ifanc. Bu’n torri gwalltiau hefyd mewn ystafell fyny’r grisiau yn Noddfa y tŷ nesaf lawr o Ivy House.

Ac yna dyma ni’n dod i Ivy House.  Defi ac Annie Jones a’i mab Gwynfor oedd yn byw yn Ivy House. Er i Gwynfor fod yn athro ac yn brifathro yn ardal Caerfyrddin, yn Nrefach y buodd e fyw erioed. Bu ei gyfraniad oes i’w filltir sgwâr yn arbennig iawn. Roeddwn i yn ffrind personol ac agos iawn i Gwynfor, ond am garedigrwydd ei fam a’i dad tuag ata i hefyd y byddaf yn cofio am y teulu hwn. Roedd Defi yn dioddef yn ddrwg iawn o’r crud cymalau a phoen parhaol yn ei esgyrn o ganlyniad i weithio tan ddaear yn y Rhondda. A minnau’n dysgu yn Aberystwyth a fy mam yn yr ysbyty ac yna mewn cartref yno oherwydd ei hafiechyd, byddwn yn dod adref pob penwythnos ac adeg y gwyliau i gadw’r cartref i fynd yn 3, Llysnewydd Cottages ar waelod y pentref. Pryd bynnag y byddwn yn galw yn Ivy House a mynnai Annie wneud pryd o fwyd i mi, a hi yn fwy na neb fu fel ail fam i mi wrth i mi geisio byw yn Aberystwyth a Drefach ar yr un pryd. Wna i fyth anghofio caredigrwydd teulu Ivy House.
 
Tu ôl, ond wrth ymyl Ivy House roedd Noddfa, lle’r oedd Josh a Martha a’i mab Ken yn byw. Roedd wal wrth ochr y ffordd wedyn a gardd y tu mewn iddi ac yna agoriad i’r ffordd yn arwain lawr at Ffatri Wlan Square Hall  ar lan yr Afon Bargod. Hyd y dydd heddi adeilad i storio a gwerthu pob math o ddodrefn fu’r adeilad y pryd hwnnw ac yw’r lle o hyd.

Yn ymyl roedd Hettie a Tom yn byw yn Cai. Roedd Ivy a Shirley yr un oed a fi ac fe’i cofiaf yn dda.

Y tŷ nesaf yw Tycoed ac yno roedd Moses Davies yn byw, Gwr arbennig iawn oedd Moses Davies ac yn gweithio yng Ngwasg Gomer yn Llandysul. Roedd e’n gymeriad diwylliedig iawn a phan ddaeth e i’r ardal o’r gweithie fe aeth e ati i sefydlu Aelwyd Yr Urdd yn y pentref gyda David Walters Waungilwen. Bu’r aelwyd yn un llwyddiannus dros ben ac fe gofir o hyd am y perfformiad o’r ddrama gerdd “Merch y Glannau”. Roedd e hefyd yn cystadlu yn yr adran lenyddol yn yr eisteddfodau lleol.

Mab iddo oedd Rhys Davies a fu’n chwarae i dim pel droed Bargod Rangers am flynyddoedd ac yn chwaraewr snwcer o safon uchel iawn. Gweler llun o Rhys yn gapten Tim Pel Droed Bargod Rangers ar dudalen 68 ac eto fel aelod o’r tim snwcer ar dudalen 113 o’r llyfr Canrif o Luniau.

Y tŷ nesaf oedd y Police Station. Davies y Bobi oedd heddwas y pentref. Roedd Alun ei fab ychydig yn ifancach na fi ac fe ddilynodd ei dad i’r heddlu.   Aeth Alun i wneud cwrs yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth pan yn blismon ac aros yn Hostel Pantycelyn, ac yn gyfleus iawn (!)  roedd e  yno yr un pryd a’r  Tywysog Charles pan oedd  hwnnw yn fyfyriwr am dymor yn unig yn y coleg ac yn aros ym Mhantycelyn.

Fe ddaeth Ken Evans yn blismon ar yr ardal wedyn – brawd i Delme Evans a fu’n swyddog uchel gyda’r heddlu yng Nghaerfyrddin a chyn gludydd y cledd mawr yn yr Orsedd. Brawd arall iddyn nhw oedd Max Evans y Siop Ddillad enwog yng Nghaerfyrddin.

Newidiwyd enw’r tŷ i Ty Gwyn pan ddaeth Mrs Maggie Davies i fyw yno o Tŷ Gwyn Pentrecagal. Roedd pawb yn ei hadnabod fel ‘Maggie Tŷ Gwyn’ gan mai hi oedd athrawes dosbarth y babanod yn Ysgol Penboyr am gyfnod hir iawn, a bydd cenedlaethau o blant  yn cofio’n dda amdani.  Roedd hi yn perthyn i steil yr ‘hen infant teacher’ yng ngwir ystyr y gair, a hi oedd fy athrawes gyntaf i yn Ysgol Penboyr. Clywais sawl un yn cyfeirio at y math hon o athrawes fel  ‘battle axe’ o fenyw, ond nid oedd hynny’n hollol wir am Miss Davies Tŷ Gwyn, ond fe ddysgodd hi y ’3 R’s’ i ni heb os nac oni bai – a doedd dim byd mas o le yn hynny!


Tim Bargod Rangers

Tim dartiau

Hi ddysgodd ni i fwyta ein bwyd i gyd amser cinio – pob bripsyn, hyd yn oed os nad oeddech chi’n hoffi yr hyn oedd o’ch blaen chi. Fy mam, Mrs Griffiths, oedd ‘cook’ Ysgol Penboyr gyda phawb yn ei chanmol am ei bwyd blasus a phawb yn cael llond bola. Cofiaf am un diwrnod pan  oedd panas yn un o’r llysiau gyda’r cig a’r grefi. Gwyddai fy mam fy mod i yn casáu panas, ac wrth ddod a nhw o gwmpas i roi ar ein platiau, fe aeth mam heibio i mi yn bwrpasol gan osgoi rhoi llwyed o banas ar fy mhlât cinio.  Fel bwled, fe welodd llygad barcud Miss Davies Tŷ Gwyn hyn ac meddai,

“Mrs Griffiths, dych chi ddim wedi rhoi panas ar blât y crwt bach hyn fan hyn,” (amdana i!).
Ateb fy mam oedd,  “Ond dyw e ddim yn lico panas Miss Davies!”  Ac meddai hithau –
“Rhowch lwyed dda ar ‘i blât e  – fe ddaw e i’w lico nhw!” Ac yn seicolegol rwy’n dal i osgoi panas hyd at y dydd heddi!

Ysogl Penboyr 1956

Mae llun o Mrs Maggie Davies yn ystafell fwyta Ysgol Penboyr, a fy mam Mrs Griffiths ar dudalen 46 o’r llyfr Canrif o Luniau.

Drws nesaf lawr i Tŷ Gwyn mae Trewern sef cartref Jonnie Lewis perchennog Ffatri Cambrian, cyn iddo symud i fyw i’r Garth yng nghanol pentref Felindre. Mae brith gof gen i amdano, bob amser yn gwisgo siwt ac yn smart, a phawb gyda rhyw barchedig ofn ohono gan ei fod wedi cyflogi cymaint o bobl yr ardal a rhoi bywoliaeth i gymaint o deuluoedd lleol. 

Cofir amdano fel person hael iawn ac yn gyfrifol am gyllido Neuadd y Ddraig Goch newydd a’r cae pel droed Parc Puw i dim y Bargod Rangers.

Yna, mae Ardwyn cartref Tom Owen Clos. Roedd Tom Owen yn perthyn i Alwyn Davies a chofiaf ef fel gwr tal llwydaidd a thost iawn ei olwg gan ei fod yn peswch bron yn ddistop. Yn ôl fy nghyfaill Eifion Davies, roedd hanes am Tom Owen yn perfformio fel ‘ghost’ yn un o sioeau Stuart Rees yn hen neuadd Y Ddraig Goch. Yn ôl y bobl a welodd y perfformiad,  hwn oedd y ‘ghost’ cyntaf iddyn nhw glywed yn peswch drwy’r amser!

A wedyn dyma ni yn dod i Glasdir. Yno, roedd Bob a Gwen Winstone yn byw gyda’u dwy ferch ddawnus Ann a Norma. Merch yr anfarwol Tom Morgan (wele hanes Tom Morgan o dan Enwogion ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’) oedd Gwen ac un o blant Capel Closygraig ac wedi priodi Robert Winstone, brodor o Abertawe. Ar ôl dod i fyw i’r ardal fe ddysgodd Bob siarad Gymraeg.  Gan ddilyn doniau eu tadcu Tom Morgan fe ddaeth Ann a Norma yn enwog fel adroddwyr campus ac ennill yn gyson yn yr eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae llun da o Ann, Norma a finne ar ddydd agoriad Neuadd y Ddraig Goch, gyda’r tri ohonom wedi ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe y flwyddyn honno. Fe gymerodd y tri ohonom ran yn agoriad swyddogol y neuadd newydd y diwrnod hwnnw.

Fe aeth Ann (Pash wedyn) ymlaen i fod yn feirniad adrodd a llefaru yn y genedlaethol ac yn athrawes Gymraeg yn Ysgol y Preseli. Mae Ann yn byw yn Heol Caerfyrddin, Castell Newydd Emlyn a Norma yn Perthi, Drefach Felindre. Plant Capel Closygraig fu’r ddwy fel finne.
 
Mae tŷ neu ddau wedyn – Geler View oedd un, ond nid wyf yn cofio fawr ddim amdanyn nhw nes dod i Vaynor. Yno, roedd un o gymeriadau mwyaf annwyl Drefach Felindre yn byw, sef yr anfarwol Eric Vaynor. Roedd Eric Davies yn byw gyda Wil Vaynor a’i ddwy fodryb. Roedd Eric a fi yn Ysgol Penboyr ar yr un pryd, a buan y sylweddolon ni fel plant nad oedd Eric mor chwimwth ar ei draed a ni pan yn chwarae pel droed, ac nid oedd ei leferydd mor glir a ni hefyd, ac roedd e’n driflo wrth siarad. Heblaw am hynny, roedd e cystal a ni ym mhopeth. Oedd, roedd gwendid corfforol arno ac er yn ddwl am bel droed ni allai redeg yn gyflym fel eraill. Felly, pasio’r bel i Eric er ei fod yn sefyll yn stond oedd y patrwm fel y gallai ef wedyn daro ergyd am y gol ar iard yr ysgol.

Fe dyfodd Eric Vaynor i fod yn biler cadarn tim Pel Droed Bargod Rangers fel Ysgrifennydd, Trysorydd a Rheolwr y tim am flynyddoedd maith ac yn ystod fy nghyfnod i fel chwaraewr o 1957 ymlaen.  Mae ei lun i’w weld wrth ochr chwaraewyr tim Bargod Rangers yn gyson ac oni bai am Eric byddai Bargod Rangers wedi dod i ben sawl tro. Mae e yno yn y lluniau pan enillodd y clwb y tri chwpan yn 1957 ac eto ar ddechrau’r 60’au.

Hoffai Eric gymdeithasu yn y Red Lion yn y pentref a sawl tafarn arall. Yn wir, yn ôl yr hanes, ni allai neb gystadlu gyda Eric am yfed ambell beint. Roedd e’n unigolyn poblogaidd iawn a phwy bynnag fydd yn cofnodi ac ysgrifennu hanes Clwb Pel Droed Bargod Rangers bydd lle anrhydeddus i gyfraniad Eric Vaynor.

Bu Eric farw yn dra sydyn a rhyfedd o ddigwyddiad oedd hwnnw pan ddaeth torf anferth i ffarwelio gyda Eric yn Amlosgfa Arberth. Cafwyd angladd arbennig iawn iddo a’i hen gyfeillion o bell ac agos wedi dod ynghyd i ddangos eu gwerthfawrogiad o’i gyfraniad.

Ymhen ychydig ddiwrnodau ar ôl yr angladd yn Arberth fe sylweddolwyd bod yr ymgymerwr wedi gwneud camgymeriad ac wedi cymysgu rhwng dau gorff yn  ei gapel gorffwys. Oherwydd hyn cynhaliwyd ail angladd i Eric. Yr eironi yw i un o brif gymeriadau lliwgar Drefach Felindre gael dwy angladd – ond yr oedd yn llawn haeddu hynny!

Bu Wil Vaynor yn gadeirydd ar Bwyllgor Neuadd y Ddraig Goch am flynyddoedd lawer (Wele’r cyfeiriad ato yn ‘Hanes Neuadd y Ddraig Goch’ ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’.)

Y tŷ nesaf at Vaynor oedd Rhianfa, cartref Bryan a David Lewis a’u chwaer Doreen a chyd ddisgyblion i mi yn Ysgol Penboyr ac Ysgol Sul Capel Closygraig. Capten llong oedd eu tad a phawb yn cyfeirio ato fel Capten Lewis. Byddai’r capten i ffwrdd ar y mor am gyfnodau hir ac adref am sbel go lew wedyn. Yng nghar Capten Lewis, a gyda Bryan ei fab, yr aethon ni lawr i Gastell Newydd Emlyn i eistedd yr 11+. Hwn oedd yr arholiad i bob plentyn 11 oed ar ddiwedd ei gyfnod yn yr ysgol gynradd. Os oeddech chi’n pasio yna fe fyddech yn mynd i Ysgol Ramadeg Llandysul, ac os yn methu i Ysgol Fodern Henllan. Fe basiodd Bryan Rhianfa a fi yr 11+. Fe aeth Bryan a’i frawd David ymlaen i’r Brifysgol ond bu’r ddau farw yn eu canol oed. Athro yn sir Benfro oedd Dai Rhianfa ac mae Ann ei weddw yn dal i fyw yn Arberth. Bu farw Doreen eu chwaer rhyw bum mlynedd yn ôl.

Adeiladwyd Police Station newydd drws nesaf i Rhianfa gyda swyddfa i’r heddwas lleol. PC Morgans o ardal Penygroes, Rhydaman a ddaeth yno. Cymeriad llawer rhy addfwyn i fod yn blisman oedd hwn a’i draed fel ‘chwarter i dri’ ac yn enwog am eistedd gyda’i ffrindiau ar y fainc tu allan i Barc Puw yn edrych ar y byd yn mynd heibio.

Parcerrig oedd yr unig dy y pryd hwnnw cyn cyrraedd Llwyniorwg a Bodafon. Yno y magwyd y bwtshwr enwog ‘Sam Parcerrig’. Cefais y fraint o fyw drws nesaf i Sam yn 3, Llysnewydd Cottage ar waelod y pentref. Magwyd ei frawd Llew Parcerrig yno hefyd a bu Frances eu chwaer yn byw yno ar hyd ei hoes. Maes o law fe godwyd tŷ newydd ar y safle ac yno y bu Gwilym Parcysty a Nesta Tŷ Hen yn byw ar ôl ymddeol. Rheolwr banc fu Gwilym ar hyd ei oes ac roedd Beti fy chwaer a Nesta yn ffrindiau agos ers dyddiau ysgol. Brawd Nesta – Eric Tŷ Hen oedd un o fy ffrindiau agosaf pan yn yr ysgol. Yn fy llyfr Hiwmor Sir Gar mae fy stori gyntaf yn adrodd am Eric, ac yn ei lyfr yntau Hiwmor Y Cardi mae Emyr Llewelyn wedi rhoi’r lle blaenllaw i Eric hefyd.  Yn dilyn marwolaeth Nesta ar ôl ei gwr Gwilym, fe gafodd yr holl ardal syndod wrth ddeall eu bod wedi gadael symiau mawr o arian i wahanol achosion lleol, a’r farn oedd eu bod hi a Gwilym  yn filiwnyddion.

Cartref Elfed Davies a’i wraig Rachel Mary a’u dau fab Arwyn ac Alan oedd Llwyniorwg. Roedd Arwyn yn dal i weithio yn yr Amgueddfa Wlan tan yn ddiweddar. Teulu hynod o weithgar oedd y teulu hwn yn yr ardal a drws nesaf roedd Bodafon cartref Caroline a Bertie.

Y safle pwysig nesaf yw Yr Amgueddfa Wlan Genedlaethol sy’n dangos y math o le oedd Ffatri Wlan y Cambrian cyn ac yn ystod fy nghyfnod i yn byw yn y pentref. Yno, roedd nifer fawr o bobl yr ardal yn gweithio ac mae’r hanes am ‘oes aur’ y ffatrïoedd gwlân lleol yn rhoi darlun clir i ni o bwysigrwydd y gwaith gwlân yn hanes Drefach Felindre.  Mae digon o lyfrau wedi eu hysgrifennu i gofnodi bwrlwm y gwahanol gyfnodau pwysig  “brethyn gwlân y defaid man”.
 
 
Ar ôl mynd heibio Ffatri Cambrian (Yr Amgueddfa bresennol) fe ddown i Glungwyn ac yna Llwynbrain. Yn Llwynbrain roedd Trevor a’i wraig yn byw gyda’r plant Gillian a Jean ac Euros ac Elin. Rownd laeth oedd gan Trevor a’r merched, a chofiaf am Trevor fel un o’r chwaraewyr snwcer gorau yn Neuadd y Ddraig Goch.

Roedd un bwthyn arall ar dro Aberbudrell – Aberbudrell Cottage. Yno roedd Ricey yn byw ar ei ben ei hun. Cymeriad a adroddai storïau lliwgar iawn oedd Ricey gan ychwanegu llawer at y gwirionedd yn aml!  Ar ôl hynny bu Pat O’Sullivan a’i wraig a’r plant Terry, Winona a Marion yn byw yno.

Bwythyn

Bellach nid yw’r bwthyn yno, (Wele llun o’r bwthyn ar dudalen 21 yn y llyfr Canrif o Luniau.)

 
 

Mae un daith arall ar ôl, sef o Sgwâr Pensarn hyd Bont Henllan gan gadw ar yr ochr dde.

Pensarn
 yw’r tŷ cyntaf sydd ar waelod rhiw Pensarn. Yr hyn rwyf fi yn ei gofio yw bod dau frawd yn byw yno, sef Harry (Harry Pensarn) a’i frawd Jim Davies. (Mae llun o Jim fel aelod o’r Master Singers  ar dudalen 65 o’r llyfr ‘Canrif o Luniau’, a llun o’r ddau yn yr un llyfr ar dudalen 95 – Harry Davies a James Davies).  Roedd son am y ddau fel tenoriaid da ac rwy’n weddol siŵr eu bod nhw yn aelodau o Gor Meibion Bargod Teifi, enillwyr y brif wobr i Gorau Meibion Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin 1911.

Yna, Pensarn Cottage, cartref fy nghyfeillion Dyfrig ac Eifion (yr ymchwilydd da i hanes lleol Drefach Felindre), a’u dwy chwaer Janice ac Elinor. Yno fe’u magwyd cyn symud i Castle Square ( y tŷ ar waelod rhiw Pensarn). Fe newidio nhw enw’r tŷ i Aneddwen.  Plant oedden nhw i Samuel a Rachael Ann Davies. Do, fe dreuliais i llawer o amser yn eu cwmni nhw yn Pensarn Cottage gan fwyta sawl pryd blasus yno hefyd. Fe fuodd Dyfrig, Eifion a finne yn chwarae gyda’n gilydd i dim y Bargod Rangers am flynyddoedd lawer. Roedd Samuel Davies yn fab i John Davies a ddaeth nol o Batagonia i fyw i Camwy. Roedd ‘Sam Pat’ fel y galwen ni e felly yn hanner brawd i ‘Nel Fach y Bwcs’. Mae hanes bywyd Elen Jones yn y llyfr ‘O Drelew i Drefach’.

8 awd Bargod Teifi
Master Singers
 

Fe ddown ni wedyn i Meiros Hall, sef y tŷ mawr braf ychydig yn ôl ac uwch na’r  ffordd. Roedd teulu enwog Lewisiaid Meirtos Hall yn berchnogion ar Ffatri Wlan Y Meiros ar draws y ffordd, ac fe godwyd Meiros Hall heb os ar lwyddiant y ffatri honno. Yn fy nghyfnod i Mr Mrs John Exton a’u plant Robin ac Ann  oedd yn byw yno.  Maes o law fe brynson nhw Gwesty’r Hebog (The Falcon Hotel) yn Heol Awst, Caerfyrddin. Robin eu mab sy’n dal i redeg y gwesty hwnnw ac mae’n byw ym Mheniel ger Caerfyrddin.

Cofiaf y bobl leol yn son am Eiffel Lewis Y Meiros fel cymeriad lliwgar yn yr ardal ychydig cyn fy amser i, ond rwyf yn cofio am Miss Lewis Y Meiros yn dal i fyw yno. Roedd hi yn flaenllaw iawn gyda’r Groes Goch yn Sir Gaerfyrddin a gwahanol fudiadau eraill ac fe gafodd ei anrhydeddu am hynny gan y Frenhines.
Mae lluniau o Ffatri Meiros yn y llyfr ‘Drefach Felindre a’r Diwydiant Gwlân’ gan J Geraint Jenkins ar dudalen 39 ac 80. Mae llun wedyn o’r tŷ Meiros Hall ar dudalen 35 o’r llyfr ‘Canrif o Luniau’. Meiros Hall yw’r tŷ sydd ar y dde pellaf yn y llun gyda Ffatri Meiros yr adeilad olaf ar y chwith.)

Meiros Hall

Y tŷ nesaf ar fin y ffordd yw Greenfield.  Yma roedd Yvonne yn byw gyda’i thad Tom Albert Griffiths a’i mhâm Beti. Mae lluniau o Tom Albert a Beti ar dudalen 74 o’r llyfr Canrif o Luniau  Tom Albert yw’r pedwerydd o’r dde yn y tu blaen yn ei grys.  Beti wedyn yw’r trydydd o’r chwith yn y llun o drip Ysgol Sul Capel Bethel Drefach yn y 50’au.

Roedd Yvonne ychydig o flynyddoedd yn hyn na fi ac yn gantores dda iawn ac yn ennill mewn eisteddfodau ac yn dilyn ei thad gan fod Tom Albert hefyd mewn sawl parti canu a chôr lleol. Ar ôl priodi a byw yn Aberteifi fe ymfudodd Yvonne a’i gwr i Ganada a magu teulu yno. Bu’n gweithio’n galed gyda’r Cymry yng Nghanada a’r Cymdeithasau Cymraeg ac yn drefnydd eu Cymanfaoedd Canu. Derbyniwyd hi i’r Orsedd am ei gwaith ardderchog gyda’r Cymdeithasau Cymraeg yng Nghanada. Bu hi ar ymweliad a’r fro a Chymru yn 2017 ac mae hi yn cadw cysylltiad agos a’u theulu a’u ffrindiau yng Nghymru dros y ffon a’r gwefannau cymdeithasol.
 

Trip Ysgol Sul

O droi fyny’r lon fe ddowch i Pensingrug. Yno roedd May Tegfan yn byw ac yn gymeriad o fenyw ac yn berchen llais cryf ac yn llym ei thafod. Un stori dda amdani oedd honno pan alwodd hi yn Siop Laura yn ymyl i brynu ffrwythau. Gofynnodd May i Laura -
“Os bananas ‘da chi?”
“Mae’n ddrwg gen i, werthes i’r un ddwetha ginne fach,” medde Laura.
“Os orenjis da chi te?”
“Wel na beth od, wi’n dishgwl nhw miwn y prynhawn ma,”
“Os pêrs da chi te?”
“Na, sneb yn gofyn am pêrs.”
“Wel os fale da chi te?” holodd May.
“Os, os, ma fale da fi.” atebodd Laura.
“Fale cadw yn nhw?”
“Ie, fale cadw  y’n nhw.”
“Wel cadwch nhw te!” medde May a cherdded mas.


Y tŷ nesaf ar fin y ffordd oedd Brohyfryd ac yno roedd y teulu Young yn byw. Cofiaf yn dda am Evelyn Young a’i brawd Michael a oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod cyn mynd yn athro. Brawd arall oedd Teifryn, ac fe aeth Dennis yn weinidog ac ymddeol i Sir Fon. Mae e’n dal i fyw yno.

Drws nesaf roedd Siop Laura Eynon. Siop nwyddau yng ngwir ystyr y gair gyda’i gwr a’u mab Clive Eynon a oedd ychydig yn iau na fi.

Mr Mrs Darcy Morwood oedd yn byw yn y tŷ nesaf Bargoed Villa gyda’u mherch Ann. Roedd Mr Morwood o ardal Abertawe ac fe ddysgodd yntau Gymraeg yn reit dda ac roedd e yn gefnogwr brwd o dim pel droed Abertawe. Casglwr insiwrans oedd Darcy Morwood. Fe briododd Ann gyda Tyssul Williams, Penpwll, Saron - fy ffrind gorau yn Ysgol Ramadeg Llandysul. Roedd Tyssul yn chwaraewr pel droed arbennig iawn ac fe ddaeth yn feddyg yn ardal Llanymddyfri a bu farw yn llawer rhy ifanc. Mae Ann a’r plant yn dal i fyw yn Llanymddyfri ac fe enillodd y mab Aled Wiiliams nifer o gapiau yn chwarae maswr dros Gymru.

Mae dau dy arall cyn cyrraedd Bethel, Capel y Bedyddwyr, ac yn un o rhain roedd Mr Cole Jones yn byw a thad Teifi, Towy a John Cole Jones. Mae John yn byw ym Mronwydd, ger Caerfyrddin ac wedi ymddeol o fyd insiwrans. Roedd John a fi yn Ysgol Penboyr gyda’n gilydd a thua’r un oedran. Mae Towy yn byw yn Dancapel sef y tŷ nesaf ar ôl  capel Bethel gyda’i wraig Hazel.

Yn Ffatri Cambrian y bu Towy yn gweithio ac fe ddaeth yn awdurdod lleol a chenedlaethol ar yr holl broses o greu gwlanen a dillad, ac yn rhan bwysig o greu yr Amgueddfa Wlan leol.  Mae gan Towy hefyd un o’r casgliadau gorau lleol o hen luniau yr ardal a llawer iawn mwy o ddefnyddiau am y gorffennol. Casglodd drysorau ar hyd ei fywyd ac mae’n awdurdod ar bob agwedd hanesyddol o ardal Drefach Felindre. Bu Towy farw ym mis Rhagfyr 2019.

Yn fy nghyfnod i Tom Morgan oedd yn byw yn Dancapel ac rwyf wedi ysgrifennu am Tom a dangos Adran Enwogion a Chymeriadau.’ Gwr arbennig iawn oedd Tom Morgan.

Yn sefyll fan hyn mae Capel Bethel, Drefach. Roedd y pregethwr enwog Y Parch Tom Davies, Drefach yn weinidog ar Bethel yn ystod fy magwraeth i. Mae ei lyfr Prynu’r Amser  yn fy meddiant yn ogystal a llungopïau o rhai o’i ddarlithiau ar Ofergoeliaeth ac Ofergoelion, ynghyd a llawer o ddeunydd arall yn ei lawysgrifen ei hun. Roedd y Parch Tom Davies yn un o hoelion wyth pulpudau Cymru yn y tri a’r pedwardegau. Enillodd ei fab Oswald Davies ei gap pel droed i Dim Cenedlaethol Amatur Cymru a bu’n chwarae i dim Abertawe. Mae ei grys a’i gap rhyngwladol yn yr Amgueddfa Wlan Genedlaethol.

Fe ysgrifennodd Alun Jones (Alun Brynafon) lyfryn ar hanes Capel Bethel ac mae copi o hwnnw yn fy meddiant.
‘BOM’ oedd pawb yn ei alw, ond Daniel Tom James oedd yn byw drws nesaf i Dancapel. Roedd ‘Bom’ yn gymeriad enwog iawn yn lleol ac yn frwd dros chwaraeon. Mae llun ohono ar dudalen 40 o’r llyfr Canrif o Luniau fel hyfforddwr Tim Hoci Merched Drefach Felindre 1931 – 32.

Tim hoci
 

Yn y tŷ pen o’r stryd fechan hon roedd Mr Mrs Thomas a’u tair merch yn byw – y dair o gwmpas fy oedran i.  Mae cof clir gen i ohonyn nhw fel merched pert iawn – Jean ac Ann a Hazel. Daeth Hazel yn wraig i Towy Jones ac mae nhw’n byw yn Dancapel.

Ond yn fy machgendod roeddwn i yn hoff iawn o Jean ac Ann am eu bod yn union yr un oed a fi, ac am rhyw reswm roeddwn i yn meddwl eu bod nhw yn hoff ohono i hefyd! Fy swildod bachgenaidd a’m rhwystrodd rhag mentro’n agosach atyn nhw. Ond, i fi, yn dawel bach – nhw oedd y pertaf yn y pentref!

Priododd Jean maes o law gyda Gareth Morris ac fe aeth yntau i’r weinidogaeth ac aros yn lleol. Priododd Ann hefyd a byw yn Llandysul.  Mae’r ddwy wedi ein gadael bellach.
 

A dyma ni yn dod i’r Red Lion, y dafarn leol gyda Mrs Rees y dafarnwraig, ac ni allaf adrodd mwy am na chroesais i drothwy’r lle erioed yn y cyfnod hwnnw a does dim cof gen i groesi trothwy’r New Shop Inn (Tafarn John y Gwas) chwaith. Bu’r Red Lion yn le poblogaidd iawn ymhell cyn fy amser i ac adeg ‘oes aur’ y ffatrïoedd gwlân gan mai yno y byddai’r prynwyr a’r bobl fusnes yn aros.   Tawel iawn oedd hi yno yn ystod fy ieuenctid i heblaw am yr hen stabl neu’r ystafell honno yn ymyl ble roedd tim y Bargod Rangers a’r gwrthwynebwyr yn newid cyn cerdded lawr i chwarae ar Dol Llysnewydd (Llysnewydd Meadow oedd yr enw swyddogol), gyferbyn a Llysnewydd Cottages sef y tai olaf cyn mynd am Bont Henllan.  Da y cofiaf, fel llawer un arall, dod nol ar ôl y gem a golchi wedyn mewn un padell fawr ar ganol y llawr. Dyddiau da yn hanes pel droed lleol. Sdim llawer ohono ni ar ôl bellach a all ddweud mai yn un o dai mas y Red Leion yr arferen ni newid a molchi – heb fynd unwaith i’r dafarn wedyn gan nad oedd bwyd ar gael i neb y pryd hwnnw ar ôl y gem.

Cofiaf Mr Mrs Jack Thomas yn byw mewn fflat tu cefn i’r Red Lion gyda’u meibion Goronwy a Melville.  (Symudodd Jack thomas a’i wraig wedyn i fyw i’r tai yn ymyl Capel Closygraig yn Nrefelin ar ôl i’r bechgyn adael y fro.)  Soniais am Goronwy yn mynd yn athro i Birmingham ac yn dod nol ar wyliau i Drefach, a dyna pryd y cafodd y ddamwain wrth yrry’r car yng Nghae Dolwerdd.

Yn dilyn ei gyfnod National Service fe aeth Melville i Goleg y Drindod, Caerfyrddin. Roedd e ar ei ail flwyddyn ac yn Is Lywydd y myfyrwyr pan es i i Goleg y Drindod yn 1958. Priododd Melville gyda Janet Cook, Penparc, Cwmpengraig. (Y teulu Cook oedd y teulu cyntaf i ddod i’r ardal i ffermio o Loegr.) Priododd Jean , efail Janet, gyda un o feibion Emlyn Garage, Castell Newydd Emlyn a bu David eu brawd, sy’n byw yn Saron yn awr, yn gweithio adref ar y fferm. Fe aeth Melville i ddysgu i Birmingham hefyd a chael tri o blant, ac wrth deithio yn ôl i Birmingham yn eu car, ar ôl bod am dro i Drefach Felindre, fe laddwyd y teulu oll mewn damwain erchyll rhwng y Drenewydd a’r Trallwm. Fe gafodd hyn effaith fawr iawn ar yr ardal.

Drefach

Os edrychwch chi ar dudalen 35 yn Canrif o Luniau fe welwch chi y rhan uchaf o bentref Drefach fel yr wyf wedi son amdano gyda lleoliad y tai. Y tŷ mawr ar y dde yw Meiros Hall. Yna daw Greenfield a Brohyfryd gyda Pensingrug y tu ol iddyn nhw. Y tai nesaf  yw’r rheini cyn dod i Gapel Bethel gyda stryd o dai wedyn a’r Red Lion y tu ôl iddyn nhw ac yna Square Hall. Ar y gwaelod ar y chwith mae Ffatri Meiros a Glanbarod wedyn sydd gyferbyn a Greenfield a Bro hyfryd.

 

Ar ôl y Red Lion fe ddown i Square Hall, ac yno rwy’n cofio Mr Mrs Fleming yn byw. Merch perchnogion Ffatri Square Hall oedd Mrs Fleming ac i mi yn ymddangos fel dynes ‘posh’ yn ei gwisg a’i ffordd o fyw.

Rhyw frith gof sydd gen i am Sam yn byw ym Mro Gynnydd, ond symudodd Y Parch Gareth Morris a Jean i fyw yno wedyn.
 
Mae hewl yn arwain yn syth wedyn i’r dde ac ar draws y wlad i Langeler.  Meiros Lane oedd enw’r ychydig dai oedd yn wynebu Parc Puw yr adeg hynny, ac yn un ohonyn nhw roedd Mr Mrs Emlyn Davies yn byw gyda’u plant Michael, Elonwy a Melfyn. Postmon a pherson poblogaidd iawn oedd Emlyn ac yn gefnogol iawn i’r tim pel droed. (Mae ei lun yn sefyll ar y dde gyda thîm Bargod Rangers ar dudalen 68 o’r llyfr Canrif o Luniau.)  Fe gyfrannodd Michael Davies y mab yn fawr iawn at glwb pel droed y Bargod Rangers yn y 70’au wrth i’r clwb chwarae yng Nghygrair Canolbarth Cymru am dymor neu ddau. Yna, fe aeth yn athro Addysg Arbennig yn Sir Forgannwg. Bu Elonwy wedyn yn byw yn San Cler ac yn athrawes yn Ysgol Hafodwennog, Trelech. Bu’r ddau farw ar ôl ymddeol o fewn chwe mis i’w gilydd.

Tim Bargod Rangers

Mae Emlyn Davies yn sefyll ar y dde gyda thîm Bargod Rangers ar dudalen 68 o’r llyfr Canrif o Luniau.

Enwyd un o’r tai ym Meiros Lane yn Newport.  Ychydig cyn fy amser i Newport oedd cartref teulu’r Morganiaid a’u rhieni yn aelodau yng Nghapel Closygraig.   Cafodd James neu Jim Morgan y mab ei eni yn 1913. Priododd gyda Margaret a mynd i fyw i Garden Cottage, Pentrecagal. Roedd Eira ei ferch yn yr un dosbarth a mi yn Ysgol Penboyr a Llandysul.

Mae’r hanes am Jim Morgan yn yr ail ryfel byd ac ar ôl hynny, a’r hyn a ddigwyddodd iddo ef a’r Eidalwr Antonio Vasami yn rhyfeddod llwyr. Mae Jon Meirion O Jones, Llangrannog wedi ysgrifennu erthygl am hynny o dan y pennawd ‘Diferyn o Ddŵr’.  

Fe fydd copi o’r erthygl o dan adran ‘Enwogion y Fro’ ar y wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’. Mae’n erthygl sy’n son am rhywbeth syfrdanol ddigwyddodd i Jim Morgan, Newport, Drefach Felindre.
 
Cyflwynwyd y cae chwarae Parc Puw i’r ardal gan John Lewis, perchennog Ffatri Cambrian. (Yr un John Lewis a roddodd arian at godi’r Neuadd y Ddraig Goch newydd.) Fe ddaeth cae pel droed Bargod Rangers i fod  gyda’r gorau yn y gorllewin ac fe chwaraewyd gem ryngwladol Ysgolion Cymru dan 15 oed yno. Ar Barc Puw y mae Bargod Rangers yn dal i chwarae. Do, fe gollais inne sawl pwys o chwys yn chwarae ar y cae hwn! (Mae hanes tim pel droed Bargod Rangers yn rhan o gasgliad ‘gwefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’. )

Bu llawer o holi yn ddiweddar pam yr enw Parc Puw. Pwy oedd Puw?  Yn ôl Eifion Davies eto – ar fap 1895 o Drefach yr hyn sydd lawr yw ‘Parc Pugh’ wedi ei ysgrifennu mewn pensil.
 
Yr unig ddau dy tu hwnt i Barc Puw ar y ffordd i Langeler oedd Parc y Gors a Pharcysty.

Les a Mair Evans oedd yn byw ym Mharcygors a’u hunig blentyn Glanville.  ‘Gos’ oedd Glanville i bawb, a bu ei gyfraniad yntau i fywyd ardal Drefach yn aruthrol ac yn arbennig eto i Glwb Pel droed Bargod Rangers ac Eglwys Llangeler a sefydliadau eraill.

Nid wyf yn cofio fawr ddim am Parcysty, dim ond mai yno roedd Gordon (Don) Havard yn byw. Roedden ni’n dau yn yr un dosbarth yn Ysgol Penboyr. Rwyf wedi adrodd hanesyn am Don Havard ar dudalen 53 o fy Hunangofiant O Lwyfan i Lwyfan.  Mae’r stori honno yn werth ichi ei darllen.
 

Ar ôl Parc Puw fe ddown i res o Dai Cyngor y Pentref  a godwyd yn y pumdegau. Yn y tŷ cyntaf roedd Rhys Davies a’i wraig Lovainne a’r teulu yn byw. Roedd Rhys, fel y soniais, yn fab i Moses Davies Tycoed ac yn chwaraewr pel droed da i dim Bargod Rangers ac yn gapten am flynyddoedd. Mae llun ohonno ar dudalen 68 o’r llyfr Canrif o Luniau. Roedd ei feibion Peter a Wyn tua’r un oed a fi a Joy y ferch ychydig yn ifancach. Bu Wyn a’i dad Rhys yn chwarae yn yr un tim i Bargod Rangers. Wrth ysgrifennu’r nodiadau hyn yn Rhagfyr 2019 deallaf bod Lovainne yn dal i fyw yn yr un tŷ a’i bod wedi dathlu ei 100 oed.

Mewn un o’r tai cyngor eraill roedd fy ffrind ysgol Victor Cole Jones yn byw a mab i’r gwr arbennig Danny Cole Jones. Cafodd Jean, chwaer Victor, ei lladd mewn damwain car pan yn ferch ifanc iawn.

Tim Bargod Rangers

Mae llun ohonno ar dudalen 68 o’r llyfr Canrif o Luniau.

Am rhyw reswm fe ystyriwyd ‘Danny Cole’ fel cymeriad lliwgar oherwydd ei storïau anodd eu credu! Dyma ichi un.  

“Fe es i draw ar gefen y beic i nol Dr Jenkins i Henllan gan fod y wraig ar fin geni ein plentyn cyntaf. Ro’n i’n mynd mor gloi rown i’n pasio’r pyst telegraff fel dannedd crib, a phan ddes i adre fe hongianes i’r beic fel arfer yn y sied. Pan godes i fore trannoeth a mynd mewn i’r sied, rodd y whils yn dal i fynd rownd.”

Ar ôl y tai cownsil fe ddown i Oaklands. Yr unig beth rwy’n gofio yw bod dwy chwaer yn byw yno a’r lleiaf ohonyn nhw bob amser yn gwisgo ‘two piece’ tywyll a chrys a choler a thei. Roedd gweld menyw yn gwisgo fel hyn yn beth anarferol iawn yn y cyfnod hwnnw.

Doedd dim rhagor o dai wedyn nes cyrraedd Aberbudrell lle roedd Tom James a’i wraig yn byw gyda’u dwy ferch Rena a Mair. Fe fydden i yn helpu ar y gwair yn Aberbudrell ar ôl symud i fyw i 3, Llysnewydd Cottage yn ymyl. Gyferbyn ac Aberbudrell fe fydden ni, gyda Rena a Mair, yn dal y bws bob bore i fynd i Ysgol Ramadeg Llandysul gyda Mair yn yr un dosbarth a fi. Bu Mair fyw yno ar hyd ei hoes ar ôl priodi gyda Aeron. Mae’r ddau wedi ein gadael bellach ynghyd a Rena.

A’r pedwar tŷ diwethaf yw rhifai 1, 2, 3 a 4,  Llysnewydd Cottages. Ar ôl i fy nhad orffen gweithio i Roy Jones yn Dangribyn, Cwmpengraig fe symudon ni i fyw i rhif 3, Llysnewydd Cottages a finne tua 15 oed.
Llewellyn a Nesta Jones oedd yn byw yn rhif 1. ‘Llew Parcerrig’ oedd Llew i bawb a bu caredigrwydd y ddau tuag atom ni fel teulu yn rhywbeth wna i fyth ei anghofio yn dilyn salwch fy nhad a fy mam. Symudodd y teulu hwn wedyn i’r ail dy cyngor yn Nrefach a drws nesaf i Rhys Davies ac mae Nesta yn dal i fyw yno.  Rhaid nodi dawn gerddorol Nesta. Bu’n chwarae’r organ yn Nghapel Bethel Drefach ar hyd ei hoes ac yn cyfeilio mewn cyngherddau ac eisteddfodau. Ond, fel cyfeilydd i’r ddeuawd enwog a phoblogaidd Vernon a Gwynfor y daeth Cymry gyfan i’w hadnabod. Mae llun o Nesta yn cyfeilio i’r ddau ar dudalen 108 o’r llyfr Canrif o Luniau. Wedi iddyn nhw symud fe ddaeth Alwyn a Morfudd Davies  i fyw yn rhif 1, Llysnewydd Cottage gyda’u plant Steven a Ruth. Bu cyfraniad Alwyn yn fawr i’w ardal ac yn ysgrifennydd Neuadd y Ddraig Goch am 32 o flynyddoedd. (Fe gewch mwy o hanes ei gyfraniad o ddarllen Hanes Neuadd y Ddraig Goch ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’)

Yn 2, Llysnewydd Cottages roedd Mr Mrs Davies yn byw. Mr Davies oedd Ciper Stad Llysnewydd, a bob dydd fe welech chi e yn ei fritsh a’i legins a’r spaniel o gwmpas ei draed yn edrych ar ôl y ffesantiaid ac yn paratoi ar gyfer y saethu blynyddol – ‘y shoot’ o gwmpas y Nadolig. Ar ôl ymddeol fe aeth Mr Mrs Davies i gadw’r Siop Chips tu ôl i’r hen Neuadd y Ddraig Goch sydd ar y ffordd i Waungilwen. Pobl o Sir Benfro oedd y ddau ac fe’u claddwyd ym Mrynberian.

Nesta yn cyfeilio
Mae llun o Nesta yn cyfeilio i’r ddau ar dudalen 108 o’r llyfr Canrif o Luniau.

Dyfrig, brawd Eifion Davies adroddodd y stori wrtha i am Davies y Chips a rhyw hen gath wedi dod mewn i’r siop ac wedi dringo lan ac wedi sleidro i mewn i’r saim lle bydde Davies yn ffreio’r chips pan oedd y saim yn oer. Fe dynnodd Davies y gath mas o’r saim a’i dal wrth ei gwddwg a thynnu ei law dros ei chorff a’i blew sawl gwaith er mwyn i’r saim redeg nol i’r badell saim. Roedd achub pob bripsyn o saim yn bwysig y dyddiau hynny, cyn gadael y gath yn rhydd.

Fi a fy mam a nhad oedd yn byw yn 3, Llysnewydd Cottages.  Nid oedd iechyd fy nhad yn dda o gwbl ar ôl derbyn sawl llawdriniaeth mewn ysbytai yng Nghaerdydd. Mae cyfnod byw yn 3, Llysnewydd yn sefyll mas yn y cof yn gliriach na’r cyfnodau cyn hynny gan fy mod yn fy nhyfiant ac yn fy arddegau ac yn cofio’n gliriach am Ysgol Ramadeg Llandysul a Choleg y Drindod Caerfyrddin.

Roedd mam yn dal yn gogyddes yn Ysgol Penboyr, a phrif ddiddordeb fy nhad oedd garddio a bu’r ddau ohonom yn codi pob math o lysiau a blodau yn 3, Llysnewydd. Roedd yr ardd yn werth ei gweld bob amser. Rwy’n cofio’n dda codi gyda’r wawr i dynnu’r moron a’r panas a’r tato a’u golchi nhw yn ofalus cyn mynd i’w harddangos  mewn  Horticultural Shows  mewn mannau fel Pencader a Llangrannog a llawer lle arall. Mae’r cwpanau a enillodd fy nhad gen i o hyd. Yna, fe gafodd wahoddiadau i feirniadu’r ffrwythau a’r llysiau a’r blodau mewn llawer sioe arall.

A minnau yn y Coleg yn Aberystwyth yn astudio dwyieithrwydd fe ddaeth y newyddion fod fy nhad wedi marw ac fe ddaeth Llew Jones drws nesaf i fy nol o Aberystwyth..
Cyn i  mam orffen fel cogyddes yn Ysgol Penboyr fe gafodd drawiad cas a syrthio gan dorri ei choes. A finne bellach yn athro yn Aberystwyth fe fuodd hi yn gyfnod anodd iawn wrth i mi deithio’n ddyddiol nol a mlaen i Aberystwyth nes iddi wella’n ddigon da i mi ddod adref dros y penwythnosau yn unig. Maes o law gorfod i mi drefnu i mam ddod i’r ysbyty North Road Aberystwyth, a minnau wedyn yn dal i gadw’r cartref i fynd. Cyn i mam farw yn 1970 gorfod i mi roi tenantiaeth 3, Llysnewydd i fyny a’i rhoi nol i Stad Llysnewydd y perchnogion. Cyfnod anodd iawn oedd cau yr hen gartref a dosbarthu eiddo’r teulu.

Drws nesaf yn 4, Llysnewydd Cottages roedd Mr Mrs Samuel Jones yn byw. Roedd pawb yn adnabod ‘ Sam Parcerrig’ neu ‘Sam y Bwtshwr’ ar hyd a lled y wlad. Mewn hen adeilad ar ôl y rhyfel tu ôl i’r tŷ oedd stordy cig Sam ac fe dreuliais oriau lawer yn ei gwmni ac yn gwrando arno’n siarad.  Wrth fynd o gwmpas y wlad gyda’i fan i werthu’r cig fe sylweddolais bod un gwendid mawr ganddo – ni allai fynd heibio unrhyw dafarn heb alw i mewn i gael diod. O ganlyniad byddai’n dod adref yn hwyr iawn bron bob nos. Wedi iddo gyrraedd adref byddai Mrs Jones yn anhapus iawn! Roedd Sam yn ‘chain smoker’ ac yn smocio hyd at hanner cant bob dydd. Yn rhyfedd iawn ni fyddai yn smocio yr un sigarét nac yfed yr un diferyn o ddiod ar y Sul, dim ond eistedd yn hamddenol yn y tŷ trwy'r dydd yn darllen y papurau Sul.  Yn ei henaint fe aeth Mrs Jones i’r cartref yn Henllan ac fe gefais y fraint o fod yn ei pharti penblwydd yn 100 oed. Bu byw yno nes iddi gyrraedd 105.
 

Plas Llysnewydd. Rhwng pentref Drefach Felindre a Phont Henllan ac ar y chwith oddi ar y brif ffordd roedd Plas Llysnewydd. Mae brith gof gen ni am Cyrnol Lewis, Llysnewydd yn dod i’r pentref yn ei gar go fawr, ac er i mi fod yn un o’r ‘beaters’ ar ddiwrnod y ‘shoot’ blynyddol pan oeddwn yn y coleg, nid oes cof gen i o fynd i’r plas o gwbl. Bydden ni yn cael ein cinio ar ddydd y ‘shoot’ yn nhy Bellamy y ciper ger Rhydfach. Ar ‘Llysnewydd Meadow’ roedd tim pel droed y Bargod Rangers yn chwarae ers blynyddoedd ac rwy’n cofio chwarae yno cyn symud i Barc Puw. O edrych ar hanes y pentref gwelwch mai ar Dol Llysnewydd roedd llawer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ers dechrau’r ganrif a cheir hen bosteri yn hysbysebu Mabolgampau gyda “Daylight Fireworks Displays” yno.

O ddarllen y gyfrol Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr fe welwch fod Teulu Lewisiaid Llysnewydd wedi chwarae rhan flaenllaw ym mywyd y plwyf. Roedd hyn yn naturiol gan mai nhw oedd perchnogion nifer fawr iawn o’r ffermydd. Roedd Stad Llysnewydd yn ddylanwad mawr. Cofiaf fynd i’r dafarn yn Henllan i dalu rhent ein tŷ ni yn 3, Llysnewydd Cottages ddwy waith y flwyddyn a chwrdd a ffermwyr o’r ddau blwyf yn dod i wneud yr un peth. Dirywiodd y stad a’r Cyrnol Lewis rwyf fi yn ei gofio oedd yr olaf o’r Lewisiaid.

plas Llysnewydd
Mae’r Plas wedi ei ddymchwel bellach ond mae lluniau ohono yn y llyfr Canrif o Luniau  ar dudalen 25.
 

Dyna fi wedi dod i ddiwedd fy nhaith trwy bentrefi Drefach Felindre pan oeddwn i yn blentyn ac yn tyfu fyny yn yr hen ardal.

Ond, mae sawl taith arall i ddod – lan i Gwmpengraig – draw i Drefelin ac Alltpenrhyw, yna draw i Waungilwen a Chwmhiraeth a lan i Benboyr.

About the Stori Fawr Dre-fach Felindre Project

Through the website you can see old photographs over the past hundred years and read old documents and reports.

Dre-fach Felindre district - the villages of Cwmhiraeth, Cwm-pen-graig, Dre-fach, Drefelin, Felindre, Penboyr and Waungilwen - home of the National Wool Museum and very many woollen mills years ago, Bargod Rangers Football Club, the Red Dragon Hall, Penboyr School, St Llawddog and St Barnabas churches, Bethel, Clos-y-graig, Pen-rhiw and Soar chapels and innumerable annual carnivals!




Back to Top