skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

I Alltpenrhiw am dro

Taith i Alltpenrhiw gan gofio’r lle a phwy oedd yn byw yno o ganol yr 20ed ganrif ymlaen yng nghwmni Peter Hughes Griffiths.

Mae tair ffordd o gyrraedd Alltpenrhiw sydd yn ddim mwy na rhes o dai ar draws y bryn gyda choedwig serth tu ôl, ac yn edrych lawr ar bentref Drefach Felindre. Fe allwch gyrraedd y lle ar hyd dau lwybr – un o gyfeiriad Drefelin a heibio i Danwarin, a’r llall o ganol pentref Felindre wrth Cross Vale a chroesi’r bompren dros afon Bargod a heibio i Ffatri Dolwyon gynt.

Ond yr unig ffordd yn y car yw fyny’r rhiw o Sgwâr Pensarn a throi ar y dde gyferbyn a mynwent Capel Bethel Drefach.

Fe gychwynnwn ni y daith hon o Sgwâr Pensarn.

Yn syth ar y dde mae lon fechan yn arwain at rhyw bedwar tŷ, a’r unig gof sydd gen i o’r tai hyn oedd i mi fynd i angladd mamgu fy ffrind Gwynfor Jones Ivy House. Roedd gwasanaeth angladdol yn y tŷ ac fe sylweddolais mae angladd ‘cario’r arch’ oedd hi a fyny’r rhiw i fynwent Drefach.

Hwn oedd y profiad cyntaf i mi gael o gymryd rhan mewn angladd cario’r arch, rhywbeth a oedd yn gyffredin yn yr hen amser wrth gwrs. Byddai chwech yn cario’r arch ar eu hysgwyddau am rhyw bellter ac yna chwech arall yn cymryd trosodd, a newid eto sawl gwaith cyn cyrraedd glan y bedd. Roeddwn i yn un o’r chwech cyntaf a’r olaf i gario’r arch a sylweddoli fy mod yn un o’r archgludwyr fyddai hefyd yn gollwng yr arch i’r bedd. Yn grwt ifanc nid oedd y profiad hwnnw  erioed wedi dod i’m rhan. Roedd hwnnw’n ddigwyddiad a wnaeth aros yn fy nghof trwy fy oes.  Hwn oedd y tro cyntaf i mi fod yn rhan o’r ddefod o ollwng yr arch yn y bedd a’r genhedlaeth olaf mae’n siŵr a gafodd y profiad o gario’r arch yn yr hen  dull mewn angladd.

Yr unig un arall a gofiaf oedd a sy’n byw yn y tai hyn yw’r cyfaill Dilwyn Smith. Rwy’n cofio ei fam a’i dad yn yn dda yn byw yno.  Mae cyfraniad Dilwyn i fywyd cymdeithasol  Drefach Felindre wedi bod yn un nodedig iawn, ac yn dal i fod. Mae Dilwyn yn trefnu, helpu a gwasanaethu ei ardal yn ddiflino, a hynny mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Gwr arbennig iawn yw Dilwyn Smith a diolch iddo am ei wasanaeth.
 
Y tŷ cyntaf ar y chwith wrth ddringo Rhiw Pensarn yw Cnwc. Ni chofiaf pwy oedd yn byw yno ond erbyn hyn Henri Griffiths a’i deulu sydd yno. Fe wnaeth Henri Pensarn gyfraniad teilwng iawn i fywyd y pentref ac yn enwedig gyda Neuadd y Ddraig Goch.

Wrth fynd fyny’r rhiw ac ar y tro mae dau dy yn eich wynebu – dau dy Brynmeiros.

Yn y cyntaf roedd yr adeiladydd Dan Jones, Brynmeiros yn byw a’i iard fechan yn ymyl y tŷ.

Roedd Marian Brynmeiros y ferch yr un oed a minnau ac fe fuo ni yn yr un dosbarth yn Ysgol Penboyr ac Ysgol Ramadeg Llandysul. Roedd Marian yn ferch fywiog a phert iawn. A minnau’n chware rhan Dewi Sant mewn ‘Pasiant Mamau Cymru’ y W.I. lleol adeg The Festival of Britain yn y pumdegau cynnar, fe ges i fenthyg dres las square neck Marian Brynmeiros i wisgo! Byddwn bob amser yn son am hynny  wrth Marian. Priododd Marian gyda’r Dr Ogfryn Evans Penrhiwllan a fu’n chwarae gyda Bargod Rangers am sawl blwyddyn. Roedd Ogfryn yn feddyg yn Ysbyty Casnewydd ac yno y treuliodd y ddau y rhan fwyaf o’u bywydau. Yn achlysurol byddai Marian yn fy ffonio ac roedd hi’n dal i hiraethu am ei hen ardal. Mae Ogfryn a Marian wedi ein gadael bellach.

(Mae llun o Marian Brynmeiros yn Ysgol Penboyr ar dudalen 96 o fy hunangofiant "O Lwyfan i Lwyfan". Hi yw’r bumed o’r chwith yn eistedd gyda phlethau yn ei gwallt.)

Drws nesaf, a gyda’r un enw Brynmeiros roedd Dafi yn byw – Dafi Brynmeiros. Cofiaf yn dda mynd yno gyda fy nhad i dorri ein gwalltau.  Pwy oedd y Dafi Brynmeiros hwn tybed?
 
Y tŷ nesaf ar y rhiw oedd Berwyn sef Mans Gweinidog Capel Bethel y Bedyddwyr, Drefach, ac rwy’n cofio am y Y Parch Thomas Davies a oedd yn un o bregethwyr mawr y cyfnod yn byw yno.  Fe ddaeth  yr enw ‘Davies Drefach’ yn enw mawr ym mhulpudau Cymru ac yn y cyflwyniad i’w lyfr ‘Prynu’r Amser a Phregethau  Eraill’ fe ddywed y Parch EJ Williams a ddaeth yn weinidog ar Bethel Drefach ar ei ôl amdano –

"Enillodd ers blynyddoedd ei le fel un o ddoniau mawr y pulpud..."

Cofiaf am ei ferch Meima yn byw yn y tŷ ar y dde ar ôl Bont Henllan wrth fynd am Gastell Newydd Emlyn ac fe enillodd ei fab  Oswald Davies  gapiau am chware dros dim pel droed amatur Cymru pan yn chwarae gyda Abertawe.

Mae gen i yn fy meddiant lungopïau o ddarlithoedd Y Parch Thomas Davies, Drefach.
 
Cofiaf Y Parch EJ Williams yn dilyn Thomas Davies ac yn byw yn Berwyn, ac yna y Parch John Lewis a’i wraig gerddrol ddawnus  Rachel Ann Lewis (Pencerddes Duad).  Bu hithau yn arweinydd Cor Cymysg Bargod Teifi am flynyddoedd lawer gan gipio’r drydedd wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberteifi.  Mae penillion gan Eric Griffiths (Eric Tŷ Hen) amdani yn dilyn y fuddugoliaeth honno.
 
Down wedyn i’r fynedfa i Fynwent Bethel Drefach a agorwyd yn 1923. Yma y gorwedd fy mam a nhad a llawer iawn o bobl fy milltir sgwâr gan gynnwys sawl ffrind da. Mae mynd o fedd i fedd gan ddarllen y cerrig beddau yn fy atgoffa o’r bobl rheini a fu’n rhan o’r gymdeithas y ces i fy magu ynddi. Hedd i’w llwch i gyd, a diolch am gael eu hadnabod.
 
Mae lon yn rhedeg draw i’r chwith wrth fynedfa’r fynwent i Ffynnonwen.  Er na fues i yno erioed roedd Dewi Rees a’i chwaer Beti yn byw yno. Roeddwn i yn arfer gweld Dewi o bryd i’w gilydd ar y stryd yng Nghaerfyrddin a bob amser bydden ni yn atgoffa’n gilydd am rai o gymeriadau Drefach ac Ysgol Penboyr pan yn blant.
 
Gyferbyn a’r fynedfa i Fynwent Drefach mae yna ffordd gul ar y dde sy’n arwain at Alltpenrhiw, ac yno wrth y fynedfa mae Mynwent Capel Undodaidd Penrhiw. Hwn oedd y capel a symudwyd garreg wrth garreg i Amgueddfa Werin Sain Ffagan yng Nghaerdydd yn y 1952.   Cofiaf am y Capel Bach yn y lleoliad hwn yn glir a chofiaf hefyd pan yn blentyn fynd i wasanaethau yno gyda fy mam ar brynhawn Sul yn yr haf, gan mai dim ond yn yr haf y byddai’r Undodiaid yn cynnal eu gwasanaethau yno. Roedd yn arferiad gan bobl yr ardal i ddod i wasanaethau Capel Penrhiw ar brynhawn Suliau yn yr haf o bob enwad. Bu cyfnod wedyn pan na chynhaliwyd gwasanaethau o gwbl yn yr hen gapel cyn ei symud i’r Amgueddfa Werin yn 1952.  Pan yn ymweld a Sain Ffagan mae’n brofiad braf i mi i gael galw mewn yn y capel bach unwaith yn rhagor.  Does dim llawer iawn ohono ni all ddweud bellach – ‘fues i yn y capel hwn cyn iddo gael ei symud o Drefach Felindre.’ Adeiladwyd y capel gwreiddiol ym mlwyddyn ‘y tair caib’ sef 1777.  Mae mwy o wybodaeth am Gapel Pen-rhiw ar wefan Casgliad y Werin.

Yn y fynwent hon mae bedd Daniel Jones awdur y gyfrol enwog  Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr. Mae hon yn gyfrol hanesyddol wych iawn a’r trydydd llyfr a argraffwyd gan Wasg Gomer, Llandysul yn 1897.

Capel Penrhiw yn Nre-fach Felindre cyn 1952
Capel Penrhiw cyn mynd i Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

Capel Penrhiw yn Sain Ffagan
Capel Penrhiw yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan.
Mae llun a manylion am y capel ar dudalen 76 o’r llyfr Canrif o Luniau.

Mae dau dy newydd bellach ar y chwith sef cartref fy nghyfaill Eifion Davies (Eifion Pensarn gynt) sydd wedi gwneud cyfraniad teilwng iawn i ardal Drefach Felindre trwy gynnal y tim pel droed Bargod  Rangers ac yntau’n gyn chwarewr, ynghyd a chasglu deunydd hanesyddol gwerthfawr am yr ardal. Mae Eifion wedi byw ar hyd ei oes yn y pentref ac mae ei wybodaeth hanesyddol lleol mor werthfawr.

Coed y Pry yw cartref Alan ac Olive Campden, ac rwyf eisoes wedi son am eu cyfraniad sylweddol hwythau i fywyd eu hardal, ac mae eu gwybodaeth wedi nbod mor bwysig. Diolch i’r ddau am eu gweithgarwch diflino.

Gyferbyn a’r ddau dy mae’r bwthyn Penrhiw, ac mae gen i frith gof bod y wraig a oedd yn byw yno yn aelod yng Nghapel Closygraig.

Ar dudalen 44 o’r llyfr Canrif o Luniau fe welwch lun o’r tai nesaf rwyf am son amdanyn nhw yn Alltpenrhiw. Yn yn coed ac yn y pellter ar y chwith mae Bronwyon a Velindre View, ac yna Myrle Hill ar ei ben ei hun yn y coed. Dolwyon yw’r tŷ nesaf a Ffatri Dolwyon yw’r adeilad o dan y tŷ. Mae gweddill y tai wedyn ar y dde yn y coed yn y pellter.

St Barnabas, yr eglwys ac Alltpenrhiw

Mae’r lon yn gul iawn o hyd, ac fe ddown i Bronwion a Velindre View  uwchben y ffordd.  Dyma ddau gartref pwysig i’w nodi gan mai ym Mronwion y magwyd y ddau frawd Lynn a Roy James – y ddau ond ychydig flynyddoedd yn hyn na fi.   Fe ddaeth Lynn yn Brif Lyfrgellydd Sir Gaerfyrddin a bu’n gyfrifol am gyhoeddi copi ffacsimili gwerthfawr o’r gyfrol Hanes Plwyfi Penboyr a Llangeler. Cyfraniad tu hwnt o werthfawr. Mae Lynn yn byw nawr yn Cross Hands.   Fe ddaeth ei frawd Roy yn Brif Arolygydd Ysgolion Cymru gyfan ac mae e’n byw ym Mhenryncoch ger Aberystwyth. Roedd Roy yn berson galluog iawn.

Drws nesaf mae Velindre View (enw perffaith ar gyfer tŷ sy’n edrych lawr ar bentref Felindre) a chartref  teulu enwog y Jonsiaid. Mae hanes am  John Jones, Velindre View, fel un o arweinwyr cyntaf  gweithwyr lleol y ffatrïoedd gwlân ac yn fawr ei barch. Fe wnaeth gyfarch Cor Meibion Bargod Teifi a’r dorf wrth Orsaf Rheilffordd Henllan ar ôl ennill y brif gystadleuaeth i Gorau Meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1911.  Fe ddaeth Will ei fab yn enwog fel adroddwr, actiwr ac arweinydd cyngherddau ar hyd a lled y wlad. Cofiaf amdano, ac yntau mewn oedran da yn adrodd ar y llwyfan yn ystod agoriad swyddogol Neuadd y Ddraig Goch newydd yn 1966.

Lansiad Llyfr.
Mae llun o’r ddau frawd ar dudalen 112 o’r llyfr Canrif o Luniau mewn digwyddiad i lansio’r gyfrol ffacsimili Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr.

Master Singers
Mae lluniau o Will Jones (Will Velindre View) ar dudalen 65 o’r llyfr Canrif o Luniau gyda’r ‘Master Singers’ lleol, ac eto ar dudalen 68 (y cyntaf sy’n sefyll ar y chwith) fel llumanwr i dim pel droed Bargod Rangers. Gweithio ar y ffordd i’r Cyngor oedd e, ond yn hynod o dalentog ar lwyfannau ein gwlad.

Tim Bargod Rangers
Dyma llun o Will Jones (Will Velindre View) ar dudalen 68 o’r llyfr Canrif o Luniau (y cyntaf sy’n sefyll ar y chwith) fel llumanwr i dim pel droed Bargod Rangers. Meibion iddo yntau oedd Defi John Jones a fu’n gadeirydd pwyllgor Neuadd y Ddraig Goch. Bu’n chware gyda Bargod Rangers ac roedd e’n denor swynol iawn. Mae llun ohono yntau ar dudalen 68 hefyd o’r llyfr Canrif o Luniau -  y cyntaf i’r dde o’r golwr.

Myrtle Hill  oedd y tŷ nesaf a phrin y cofiaf pwy oedd yn byw yno, ac yna down i Dolwyon – y tŷ a’r ffatri.   Hon oedd yr ail ffatri wlân (1820) i gael ei sefydlu yn yr ardal. Johnnie Jones Dolwyon oedd yn rhedeg y ffatri wlân hon. Mae llun ohono ar dudalen 95 o’r llyfr Canrif o Luniau – yr olaf yn sefyll ar y dde. Priododd Jac neu Johnnie gyda Miss Llywellyn, athrawes Saesneg yn Ysgol Ramadeg Llandysul, a byw yn Ffordd Caerfyrddin, Castell Newydd Emlyn. Fe gawson nhw ddau fab gyda un ohonyn nhw wedi llwyddo yn eithriadol yn ariannol.

Ond ma hanes TEULU ADAMS, Dolwyon yn rhyfeddol. Mae’n werth darllen tudalennau 135 a 136 yn llyfr hanes Daniel Jones Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr,  sy’n adrodd hanes y teulu Adams a sut y daeth John Adams a’i fab John Quincy Adams yn Arlywyddion America yn 1797 a 1825.  Mae’r hanes am Dolwyon ar y ddwy dudalen hon yn werth eu darllen.

O fynd heibio Dolwyon fe ddown wedyn at stryd o dai sydd wedi eu torri i mewn i’r llethr a’r coed, a’u hadeiladu yno fel stryd a’r ffordd yn mynd heibio o’u blaenau. A pen draw’r stryd go brin bod lle i gar i droi yn ei ôl.

cor 8 awd
Mae Johnnie Jones Dolwyon ar dudalen 95 o’r llyfr Canrif o Luniau – yr olaf yn sefyll ar y dde

Y tŷ cyntaf yw Green Oak ac yna Llysteg.  I Lysteg y symudodd Y Parch Edward Griffiths, Llandeilo i fyw gyda’i fam a’i dad pan yn blentyn o Llysgwyn yn y pentref.  Bellach, mae’n amlwg pam y galwen ni e yn ‘Llys’ yn hytrach na Edward.

Go brin y cofiaf am y tŷ a enwir yn awr yn Llygad yr Haul, ond cofiaf am deulu’r Daniels yn Oakford  (Islawr Coed yn awr) yn dda.  Dafi a Leisa Daniels oedd y rhieni a hithau’n aelod yng Nghlosygraig. Mae llun o Leisa ar dudalen 83 o’r llyfr Canrif o Luniau.  Hi sy’n sefyll, gyda’i het ddu fawr, y nesaf at Nel Fach y Bwcs sy’n dal ei ymbarél yn y canol yn y tu blaen.

Cofiaf enwau y rhan fwyaf o’r plant – Daisy (mam Nesta Brynbedw), a  Morfudd a oedd yn nyrs yng Nghaerfyrddin ac fe ddaeth Annie yn Bostfeistres Felindre a’i mab yw Stephen (Post) Y Garth, Felindre. Yna’r bechgyn – Harry Daniels yn fferyllydd yng Nghaerdydd a Glyn gyda’r heddlu yn Sir Benfro. Os cofiaf yn iawn roedden nhw i gyd cyn siosialwyr brwd ac yn gefnogol i achos y gweithwyr.

Y tŷ nesaf yw Maesteg ac yno roedd hen ŵr rhyfedd iawn gyda barf hir yn byw. Sais oedd Mr Buckridge ac yn arlunydd os cofiaf yn iawn.

Closygraig

Drws nesaf mae Milford House ac yno roedd William Davies neu ‘Wil Penlon’ yn byw gyda’i wraig. Ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre rwyf wedi ysgrifennu am y gwr arbennig hwn  a  fagwyd ym mwthyn Penlongilfach, Saron, ac a aeth yn ganwr proffesynnol cyn dod nol i fyw i Milford House. Yn y pumdegau fe a’i wraig fu’n gyfrifol am baratoi sioeau cerdd a phantomeimiau blynyddol yn Neuadd y Ddraig Goch gyda phobl ifanc yr ardal yn cymryd rhan. Do, fe gesi y profiad o gymryd rhan yn un o’r sioeau. Dyddiau da oedd rheini ym mywyd pentref Drefach Felindre. Mae llun o gast un o’r Pantomeimiau ar dudalen 71 yn y llyfr Canrif o Luniau, ac mae William Davies a’i wraig yn sefyll gyda’i gilydd, yr olaf ar y dde.

Grwp ar y llwyfan

Mae un tŷ arall ac yna Graigwen. Hwn oedd cartref Ellen Jones a ddaeth yn enwog wedyn fel ‘Nel Fach y Bwcs’ wedi i Marged Jones ei merch yng nghyfraith ysgrifennu dau lyfr yn adrodd ei hanes yn ymfudo i Batagonia yn blentyn bach ac yna yn dod nol gyda’i thad yn 1901 i fyw i Camwy yn y pentref. Yna, fe briododd hi a mynd i fyw i Graigwen, Alltpenrhiw. Cofiaf amdani’n dda yn dod i Gapel Closygraig yn hen wraig ac yn eistedd yn y sedd tu ôl i’r organ ar ganol y llawr.  Mae ei hwyres Eiry Palfrey wedi crynhoi ei hanes mewn un llyfr sef O Drelew i Drefach.  Mae’n werth darllen hanes nel Fach y Bwcs neu Mrs Jones Graigwen fel y galwen ni hi. Mae llun ohoni ar dudalen 23 o’r llyfr Canrif o Luniau.

Mae Bargod View yn dy arall wrth y llwybr serth sy’n eich harwain wedyn yn ôl i Drefelin heibio i Danwarin, ac yn edrych lawr ar yr afon Bargod yn llifo trwy’r dolydd rhwng Alltpenrhiw a’r pentref.  Yno, roedd fy ffrind ysgol Alan Howells yn byw ac yn cael ei fagu gan ei fodryb ar ôl iddo golli ei fam pan yn fach iawn. Roedd Sam Howells ei dad yn yrrwr bysiau’r Western Welsh yn yr ardal. Fe ddaeth Alan yn rheolwr banc maes o law yn ardal Tregaron a bu farw yn llawer rhyw ifanc.  Ei frawd yw’r Parch Eirfyl Howells sy’n Gaplan  Ysbyty Glangwili ac yn weithgar iawn o fewn yr Eglwys yng Nghymru yn ardal Caerfyrddin.
 
Mae’n werth sylwi ar y math o dai a godwyd yn Alltpenrhiw. Tai cadarn a reit fawr a chyfforddus yn y cyfnod hwnnw. Hyn eto yn adlewyrchu amser llwyddiannus y ffatrïoedd gwlân yn yr ardal.  Mae’n rhyfedd meddwl pam y codwyd tai Alltpenrhiw mewn lleoliad mor drafferthus.

Ar lafar fe alwyd ardal Drefelin ac Alltpenrhiw yn  ‘Y Borough’. Roedd tim snwcer ‘Y Borough’ yn Neuadd y Ddraig Goch a bu cor o’r ‘Borough’ yn cystadlu yn yr eisteddfodau lleol.

Nel Fach y Bwcs

About the Stori Fawr Dre-fach Felindre Project

Through the website you can see old photographs over the past hundred years and read old documents and reports.

Dre-fach Felindre district - the villages of Cwmhiraeth, Cwm-pen-graig, Dre-fach, Drefelin, Felindre, Penboyr and Waungilwen - home of the National Wool Museum and very many woollen mills years ago, Bargod Rangers Football Club, the Red Dragon Hall, Penboyr School, St Llawddog and St Barnabas churches, Bethel, Clos-y-graig, Pen-rhiw and Soar chapels and innumerable annual carnivals!




Back to Top