skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

Alun Brynafon sef Alun Lewis JonesAlun Brynafon

Alun Lewis Jones (03/08/1930 – 03/01/2010)

Ganwyd Alun Lewis Jones neu Alun Brynafon i’w ffrrindiau ar y 3ydd o Awst 1930 yng nghartref y teulu yn 10, Maesycoed Road, Ynys Meudwy, Pontardawe. Roedd ei ddatcu yn gweithio fel glowr ym mhwll glo Tareni ac fe aeth e a’i chwaer Nesta (ganwyd 21.2.1932) i Ysgol Gynradd Godre’r Graig, Ynys Meudwy. 

Penderfynodd mamgu symud y teulu nol i gartref ei mham i Brynafon, Drefelin, Drefach Felindre ac yno y magwyd Alun a’i chwaer Nesta.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Penboyr ac Ysgol Ramadeg Llandysul ac yna ymlaen i Goleg y Drindod, Caerfyrddin a chafodd ei swydd gyntaf fel athro yn Aberteifi pan oedd tua 23 oed.
Bu’n athro Cymraeg ac Addysg Grefyddol yn Ysgol Uwchradd Aberteifi nes ymddeol yn 1990.

Yn 1964 priododd gyda Elizabeth Ann Harries  (Betty) yn Nhrefdraeth. Fe gawso nhw ddau o blant sef Aneurin Wyn Jones a Meleri Wyn Jones.  Mae Aneurin yn byw yn yr hen gartref yn Saron, Llandysul, ac wedi gweithio i nifer o gynghorau lleol ar draws y blynyddoedd, ac ar hyn o bryd yn gweithio i Gyngor Telford yn Swydd Amwythig. Mae Meleri yn byw yng Nghaerdydd ers chwarter canrif ac yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Glan Taf.

Bu Betty eu mham farw yn 1979.

Ar ôl hyn cafodd Alun nifer o flynyddoedd pleserus yng nghwmni Owenna James o Aberaeron. Bu farw ar y 3ydd o Ionawr 2010 ac fe’i claddwyd ym Mynwent Drefach yn dilyn gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Bethel ar ddiwrnod trwchus o eira.

Ei Gyfraniad Amrywiol

Bu cyfraniad Alun Brynafon yn fawr ac amrywiol i fywyd ardal Drefach Felindre. Mae’n siwr mae ef a chwaraeodd am y cyfnod hiraf yn hanes holl chwaraewr tim Pêl droed Bargod Rangers. Mae lluniau ohono yn y tim yn niwedd y 40’au a hyd at ganol y 60’au. Er yn denau o gorffolaeth cofiwn amdano yn chwarae ym mhob safle gan gynnwys y gol. Bu ei wasanaeth i Glwb Pêl Droed Bargod Rangers yn rhyfeddol.

 

Bargod Rangers- Alun Brynafon in goal
Bargod Rangers- Alun Brynafon in goal
Bargod Rangers- Alun Brynafon in goal

Gan fod tri bwrdd snwcer a biliards yn Neuadd y Ddraig Goch fe ddatblygodd i fod yn chwaraewr snwcer penigamp a bu’n chwarae i dim Drefach yng Nghyngrair Ceredigion. Byddai chwaraewyr proffesiynol yn dod yn flynyddol i roi arddangosfa snwcer a biliards i Neuadd y Ddraig Goch gyda’r lle’n llawn dop. Fe fydden nhw’n chwarae yn erbyn y bechgyn lleol er mwyn dangos eu doniau. Ar un ymweliad fe gurodd Alun y chwaraewr byd enwog Rex Williams. Tybed a’i Alun yw’r unig un a lwyddodd i guro’r holl bencampwyr snwcer a fu yn Neuadd y Ddraig Goch? Roedd Alun yn chwarae i Glwb Bowlio Castell Newydd Emlyn ac yn llwyddo’n rhyfeddol yn y camp honno hefyd.

Roedd Alun yn aelod ffyddlon o Gapel Y Bedyddwyr Bethel, Drefach, a phan ond yn 25 oed cafodd ei ethol yn flaenor ifancaf y capel erioed. Ysgrifennodd Hanes Achos Y Bedyddwyr – Drefach 1793 – 1993 ac mae’n croniclo holl hanes Y Bedyddwyr yn lleol.

Fe aeth Alun ati o ddifri i farddoni a bu’n aelod o Ysgol Farddol Caerfyrddin gan feistroli’r cynghaneddion gan gyfansoddi beth wmbreth o ddarnau safonol.  Enillodd 25 o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol ac fe olygodd sawl cyfrol o farddoniaeth – Tafell o Ddyffryn Teifi, a Gardd o Gerddi, a dderbyniodd Wobr Tir Na Nog yn 1986. Bu’n aelod o nifer o dimau  Talwrn y Beirdd  mewn eisteddfodau ac ar y radio a threuliau oriau lawer yn Y Babell Len yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ef hefyd oedd un o olygyddion y llyfr lluniau am Blwyfi Penboyr a Llangeler i ddathlu’r mileniwm sef  Canrif o Luniau 2000.

Fe oedd un o sylfaenwyr y papur bro Y Garthen yn 1981 gyda Emyr Wyn Thomas. Cyfrannodd i’r papur hwnnw’n fisol tan y diwedd ac ef oedd yn gyfrifol am Y Golofn Farddol.

darn o'r papur newydd Darn allan o bapur newydd - clic i'w weld yn fwy.
(Cliciwch ar y lluniau i'w gwneud yn fwy)

Ond, fe gofir yn hir amdano fel un a wasanaethodd ei bobl a’i ardal gan iddo fod yn Glerc Cyngor Cymuned Llangeler a Phenboyr am 30 mlynedd.  (Bu Edward Crompton, Danffynnon, Cwmpengraig yn Glerc y Cyngor am 50 mlynedd o’I flaen.) Dyma ddwy record go brin y cant eu torri yn hanes y ddau blwyf.  Bu hefyd yn cynnal dosbarthiadau i ddysgwyr y Gymraeg ar ol ymddeol o’i swydd fel athro.

Mae llawer un wedi holi pam mai ‘Bocsi’ fyddai ei ffrindiau agosaf yn ei alw, ac yn ol Nesta ei chwaer nid oes neb yn siwr o darddiad yr enw hwnnw. Yn ôl Nesta fe fyddai’n cael ei alw’n Bocsi ers o leiaf ddechrau ei gyfnod yn Ysgol Ramadeg Llandysul os nad yn nyddiau olaf ysgol Penboyr.  Yn ôl y Dr Gareth Crompton roedd diddordeb mawr gan Alun mewn bocso ac fe ddaeth yr enw ‘Bocsi’ i fod yn ystod gornest fawr yn Harringay Arena ym Mai 1947 pan oedd Bruce Woodcock yn ymladd Joe Bukasi yn yr ornest gyn derfynnol cyn pencampwriaeth y byd.  Felly, fe dreiglodd Bacsi i Bocsi neu Boxing I Bocsi.

Hyd y gwelir mae hyn yn rhoi goleuni ar pam roedd ei ffrindiau agos yn galw ‘Bocsi’ ar Alun. Ond, fel ‘Alun Brynafon’ oedd e i bawb arall.

Casgliadau

Wrth dalu teyrnged i Alun ar ol iddo farw yn rhifyn Chwefror 2010 o’r Garthen mae Emyr Wyn Thomas yn dweud fel hyn –
“ ...roedd e’n berchen ar fesur haelionus o hiwmor, ond cymerau ei waith, ei ddiddordebau a’i deulu o ddifri calon, a chofiwn amdano fel person didwyll a thrylwyr ym mhob peth.”

Bu cyfraniad Alun Brynafon i fywyd Drefach Felindre yn hir ac yn werthfawr gan iddo fyw yn ei filltir sgwar ar hyd ei oes. Roedd e’n gwmniwr da a bob amser yn datgan ei farn yn glir. Roedd e’n Gymro twymgalon ac yn dilyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddi fwlch ar hyd y blynyddoedd. Sosialydd Cymreig a Chymraeg oedd Alun, ac o gofio am gefndir ei fagwraeth fore yn Ynys Meudwy, yngyhyd a dylanwad hawliau gweithwyr y ffatrioedd gwlan yn ardal ei hun, doedd dim rhyfedd pam fod Alun yn dal y safbwyntiau gwleidyddol rheini.

Diolch am gyfraniad sylweddol Alun Jones i fywyd amrywiol ei ardal yn ystod yr 20ed ganrif.

Ysgrifennodd Dic Jones gywydd i Fois Parcnest ar y cae peldroed gan nodi’r gem Gwyl San Steffan yn erbyn Bargod Rangers. Dyma ddetholiad byr lle mae’r cyfeirio at Alun Jones – Bocsi.

Roedd y frwydr rhwng y ddwy fro
Fel rhyfel Sarajevo.
Brynhawn gwyl San Steffan stil,
Hanner chwarae a chweryl,
 A Bargod yn dod yn her
Acw i gae y ficer.
Ond dim neb yn ein tim ni
Yn becso dam am Bocsi.
Tra byddai’r drindod brodyr
Yn wal oedd yn dal fel dur
Yn y maes, neu’n ymosod
Yn dan pan fyddai’r cyfle’n dod.......

Rhai darnau o farddoniaeth Alun Jones:

         Y BWTHYN
Aur eithin dros ei drothwy. – darfu’r ardd
     Darfu’r hwyl a’r tramwy,
Yn anwar le diarlwy
Heb noddfa mam ynddo mwy.

             GLO
O dreisio daear isod – a rhodio
   Rhwng parwydydd trallod;
Daw o lygredd rhyfeddod
Y gorau berlau sy’n bod.


ENGLYNION COFFA I

               GLYN HOWELL  
Hwn a fu I’w deulu’n dwr – a’I hael law
     I lu’n gymwynaswr;
I’r gweryd rhoi brogarwr,
A nos oer ar ddawnus wr.

                 RAYMOND
(a fu farw trwy ddamwain yn 12 oed)
Pur egin wedi crino  -  addewid
    Ni ddaw I flaguro;
Ei ruddin heb ireiddio,
A briw ar berllannau’n bro.



            CERDDI’R PLANT

          DOCTOR WHO
Dewch gennyf ar y Tardis
Yng nghwmni’r Doctor Who,
I droedio bydoedd eraill
A syllu arnyn nhw.

Fan draw rwy’n gweld y Dalecs –
Hen robots, dyna’i gyd,
A’u lleisiau od yn taeru,
“Nyni yw meistri’r byd.”

A dyma wyr y Seiber,
Rhai salw ar y naw,
A daeth rhyw gryndod drosof,
Mae’n well in’ gadw draw.

Welwch chi’r bodau rhyfedd
Sy’n dyfod lan o’r mor?
Bydd rhaid bod yn ofalus –
Mae trwbwl mawr mewn stor.

Nawr gwylier! dyna’r Neimon
Yn poeri’i wichlyd sen;
Na! peidiwch mynd yn agos
I’r polyn ar ei ben.

Ond peidiwch chi a becso
Rwy’n nabod  Doctor Who;
Ar ddiwedd pob hanesyn –
Mae ef yn drech na nhw.

Peter Hughes Griffiths  Ionawr 2017