Stori Fawr Dre-fach Felindre

Casgliad o EIRIAU, YMADRODDION a DYWEDIADAU ardal Dre-fach Felindre a ddefnyddiwyd ar lafar gwlad tua ail ran yr 20ed ganrif

gan Peter Hughes Griffiths. ( Haf 2023)

Yn ei lyfr a r ‘Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr’ (1899) mae'r awdur Daniel Jones wedi cynnwys pennod ar 'Arferion a Llengwerin' yr ardal, ac ar dudalennau 388 i 391 cawn enghreifftiau o ddiarhebion a dywediadau llafar yr ardal yn ogystal a deunydd sy’n cynnwys llawer iawn o ymadroddion cyffredin y cyfnod ar ddiwedd y 19ganrif.

Dyma egluro rhai o’r ymadroddion rheini a oedd yn dal ar lafar gwlad yn ystod yr 20ed ganrif:

Troi’r gath yn y badell = newid y sefyllfa
o’r ffrimpan i’r tan = dim gwahaniaeth
dodi’r cart o flaen y ceffyl = gwneud pethau go chwith
prynu cath mewn cwd = prynu rhywbeth heb wybod  ei werth
fel dwr ar gefn hwyad = ddim yn sefyll yn hir
iach yw cachgi trannoeth = gwell peidio mentro gormod
cwympo rhwng dwy stôl = wedi methu
tablen = diod/cwrw
cymryd llwybr tarw = cymryd y ffordd syth
labwstyn o ddyn = dyn mawr cyhyrog
cwpse =  golwg drist ar wyneb rhywun
hwrni = chwyrni
sticil = camfa bren
rhewyn dwr = y gwter oedd yn rhedeg gyda ychydig bach o ddŵr

shibeders = yn yfflon rhacs
yn ei gwrcwd = yn plygu ei gefn a’i gorff yn agos i’r ddaear
whap iawn  =  yn fuan iawn
cawdel  =  popeth ar draws ei gilydd
tolio = bod yn gynnil
jogel  =  llawer
wedi pwdu  = gweld yn chwith
cafflo = twyllo
yn borcyn = yn noeth
bracso = traed yn y dwr
cagle = casgliad o fryntni
wedi diwel neu moelyd = troi trosodd
garlibwns = syrthio dros ei ben
hwpo = gwthio

Rhagor o eiriau ac ymadroddion a gasglwyd gan Peter Hughes Griffiths.   (Nodir rhai geiriau/ymadroddion fwy nag unwaith gan eu bod yn dod o wahanol gasgliadau.)

bita = pan fod cosi ar y croen
rwto yn erbyn = yn cyffwrdd
browlan  =   siarad llawer
bagla hi  o ‘ma = ewch oddi yma
paldario = siarad gwag
blacardio = dweud yn ddrwg
bwgwth rhywun  =  herio rhywun
mynd yn gloi  = mynd yn gyflym
yn feddw gaib/ hyd ei styden/ yn gorlac = wedi meddwi yn ofnadwy
crafu gwaelod y gasgen  =  yn anobeithiol braidd
wedi mynd yn nos ar rhywun = wedi dod i ben
lapswchan = rhyw gusanu anhrefnus
mas o wynt = colli anadl
pecial/pecialad = gollwng gwynt trwy’r geg
cwtsho lan  =  bod yn agos i rhywun
croen ei din ar ei dalcen = rhywun anhapus
codi pais ar ôl pisio = rhy hwyr
mynd a’i gwt yn ei din =  wedi methu
cwpwl o glowts = ergydio rhywun a’i ddwylo
fel gwaed mas o garreg  =  anodd iawn
calon galed  = fawr o gydymdeimlad
dwylo blewog = dwyn
bolgi = hoff o’i fwyd
trontol = yr handlen i gydio ynddi mewn gwydr – peint o gwrw
tipyn o dderyn = rhywun sydd yn llawen
tafod siarp = rhywun sy’n ymateb yn gyflym
cwpla = gorffen
dal dy dafod = peidio ymateb
pisho yn erbyn y gwynt = fawr o obaith
celwydd golau = dweud celwydd amlwg
rhoi cic yn ei din = angen i rhywun symud ymlaen
ddim yn tynnu ei bwysau = heb fod yn gwneud ei ran
mynd fel cath i gythrel = mynd yn gyflym iawn
yfflon rhacs  = wedi torri’n ddarnau
bwldagu  =  methu mynegiant wrth siarad
codi mas = pan fod yr arch yn mynd o’r tŷ i angladd
troi’r gath yn y badell = newid pethau
ddim llawn llathen = person heb fod yn gywir yn feddyliol

* Dywediad lleol iawn
mae ei hanner ym Mhenboyr = rhywun heb fod o gwmpas ei bethau
fel ci a’r hwch = anghytuno
rhacs jibiders = wedi torri’n ddarnau
whampyn  = rhywbeth mawr
wedi difaru  =  yn flin am wneud rhywbeth
carco = gofalu
clatsho bant  =   mynd ymlaen
trwco = cyfnewid
yn lyb stêcs = wedi gwlychu
torri’n yfflon  = wedi torri’n ddarnau
hwpo  = gwthio
hwp e miwn = gwthio i mewn
gwychal = sgrechian
mynd dan ganu = hapus
hen drwyn = am rhywun ffroen uchel
yn feddw gorlac = yn feddw iawn
bob whip stitsh = yn gyson
hollti blew = gwamalu

 

TAFODIAITH LLANGELER    (gan awdur anhysbys)

Os cregyn gwag fydd yn y sach
Cregyn ddaw allan bobol bach.

Ma’ dy dra’d di fel crychydd trwy’r nyth.                   Doctor Cwac yn gwella mewn smac.

Gwyr y cwils  - cyfreithwyr.
         
Cwm dwr  =  dywediad wrth chwarae marblau, sef gofyn am ganiatâd i symud o fan isel i lecyn uchel neu gosod y farblen ar ben glin a’i thaflu o’r fan honno.

Caseg o’r gymdogaeth a gwraig gydnabyddiaeth,

Pen cam gwmws
Yn yr allt y tifws,
Y sar a’i dechreuws
Y gof a’i dibennws.   Beth yw e?    (Dryll)

Cwrcath glas-las tŷ ni,
Cwrcath glas-las yn tŷ chi,
Mae cwrcath las-las ni
Yn saith mwy glas -las
Na’ch cwrcath glas -las chi!

Melys cwsg, cwsg cawl erfyn. 
    
Cwt, cwt wrth fy nghwt i
Hala’r defaid mas o’r tŷ.                 Amser etholiad : Bliws forefer  -  Reds yn y gwter!

Fe fydd afon Teifi wedi troi nol cyn  gwna i e eto!

Dysgu’r ddafad i bori.

Pam fod defaid gwynion yn pori fwy na’r defaid duon?  Ateb: Am fod mwy ohonyn nhw!

Wrth chwarae Tip-it:   Dicwn, dacwn – pun o’r ddeuddwrn?   Mari Baner dyma fe.

Dic Sion Dafi  -  rhywun am wadu ei iaith.

 
Can yr iâr : 
Ddedwyddes i wy heddiw, ddedwyddes i wy ddoe, 
Ches ddim esgid dan fy nhrod, ble’r ath e?
Y forwn a’i holws, y mishtir a’i bitws – A dyna ble’r ath e.

Mae mochyn diddig yn dod yn ei fla’n.            Y dwymyn doben – ‘Mumps’
Glaw, glaw ar y ffordd draw  -  Haul ar fryn, dere ffor hyn.

Fe aeth fel ci drwg a’i gwt yn ei din.

Hir heb law – O’r dwyrain y daw.

Can y Dryw Bach:
Cer ona rhen sguthan gau
Ddedwest ti ond dau, 
Ddedwes inne bedwar ar ddeg
A rheini’n wynion ac yn deg.

Eira mis Ebrill fel rhinion trwy ridyll.      Llysiau Ebrill yn dda at y peils!

Bara llath enwyn i frecwast yr haf
Bara llath enwyn i ginio ‘run fath,
Bara llath enwyn i swper o’r rhyw,
Bara llath enwyn sy’n cadw fi’n fyw.

Dyma Folant rwyf yn anfon
Atoch chi o fodd fy nghalon,
Gan obeithio y caf gysgu
Gyda chwi ar run gobenni.

Sgidie dal adar – sgidie ysgafn.       Sgidie papur llwyd – sgidie o’r siop

Swper adre’ :  Rhoddid torth haidd a lwmpyn iawn o gaws i bob person am weithio ar y ‘cneia’ (cynhaeaf) yn enwedig cynhaeaf Medi. Gelwid hyn yn ‘Swper adre’. Deuai’r forwyn fach fel rheol a’r swper oddi amgylch.

Ladi Wen fach yn byw yn y plas
Cant o ffenestri rhinti a mas.       Beth yw hi?   Ateb: Lantarn neu gannwyll.

Fe godes yn fore, fe redes yn ffyrnig
I dy Mrs Jones i mofyn calennig.

‘FFocs’  - Y mae hen arferiad adeg y cynhaeaf gwair i fachgen ifanc gydio mewn merch ifanc a’i thaflu ar ei chefn i’r mwdwl o wair ac yna ei chogleisio nes ei bod yn gwychal. Y ferch gai fwyaf o’i ffocso fel hyn ystyried y fwyaf poblogaidd!

Os carodd hi’r bedd fel carodd hi’r gwely
Hi fydd y dwetha i atgyfodi.

‘Bedyddio’r baban ar elor ei fam’ – Pan fyddai’r fam yn marw ar enedigaeth ei phlentyn a’r baban yn fyw, yna roedd arfer i fedyddio’r baban cyn i’r clawr gael ei roi ar arch ei fam ar ddydd yr angladd.

‘Mae cardod yn magu craith,
Mae y graith yn magu nychdod.’

‘Cwinten’ : rhaff ar draws y ffordd a blanced yn hongian oddi arni ar ddydd priodas rhywun pwysig. Yna, byddai disgwyl i’r darpar ŵr daflu arian i’r sawl oedd yn dal y ‘gwinten’.

‘Dyw morwynion y ffatrie ddim gwerth i gadw tŷ.’  (Dywediad lleol ardal y ffatrïoedd gwlân)

Codi pais ar ôl pisho  -  mae’n rhy hwyr i wneud rhywbeth
                                                .................................................................