Mr Gwilym G Howells
Gwilym was born in Parcesty, a smallholding on the outskirts of Drefach-Felindre in 1900. He worked at Lloyds Bank all his life. He spent part of his working life in Newbridge and whilst there he took an interest in the local rugby club and became their treasurer for many years.
Gwilym returned to West Wales on being appointed manager of Lloyd's branches at Llandyssul and Newcastle Emlyn.
Following his retirement Gwilym and his wife Nesta (the daughter of Tyhen farm, Penboyr) retired to Armerydd Drefach. Gwilym died in 1977 aged 77 and is buried in St Barnabus churchyard, Felindre.
CYNHAEAF GWAIR SLAWER DYDD
Ar ganol mis Mehefin fel arfer bob blwyddyn 'roedd son a siarad am ddechrau'r cynhaeaf gwair gartref yn Parkesty. Cyn mentro ar y gwaith o ladd gwair, yr oedd yn rhaid i'r 'glass' i fynd lan, y gwynt i fod yn y man iawn, a'r 'weather forecast i ddweud fod 'anti- cyclone is situated over the British Isles.'
'Anti-cyclone', dyna ddau air twp i ddisgrifio tywydd teg! Os oedd y tri peth hyn yn ffafriol byddai nhad yn mynd yn syth lan i Cefnllechclawdd i ofyn i Mr. Griffith Davies i ddod i dorri'r gwair ac yntau yn addaw dod y bore canlynol.
Yr oedd yna awyrgylch bywiog iawn pan oedd y ceffylau a'r 'machine' lladd gwair wedi cyrraedd y clos; wrth gwrs 'roedd Nhad wedi bod yn brysur yn torri rownd y cloddiau yn barod, a 'nawr dyma gychwyn y gwaith o 'ladd gwair'. Dau gae oedd i dorri ond yr oedd campwaith a chrefft i arwain a gweithio'r ceffylau cryfion ar ddiwrnod twym o Haf. Wedi cwblhau y gwaith o dorri, nid oedd dim arall i wneud ond byw mewn gobaith bod y tywydd yn parhau i fod yn braf yn ystod y diwrnodau canlynol. Y noswaith hynny, gwyddwn fod Nhad eto yn astudio cyfeiriad y gwynt a gwrando ar hanes y tywydd ar y diwifr.
Hyfryd oedd dihuno bore trannoeth gyda'r tywydd yn braf a ffenestr fy ystafell wely ar agored lled y pen, ac arogl gwair newydd ei dorri yn llanw'r ystafell. Gwaith y diwrnodau nesaf oedd trin, troi a sgwaru'r gwair er mwyn iddo sychu; a byddai llawer o ffrindiau o bentref Drefach yn dod draw i roddi help llaw. Byddai Mam yn gofyn imi roddi'r enwau lawr er mwyn iddi gael talu nôl am helpu a'r gwair.
Pan fyddai'r gwair yn barod i'w hel fewn cofiaf am Mr. John Evans, Pensarn, ac eraill yn cyrraedd gyda chart a cheffyl; Nhad yn barod i gael sgwrs a mwgin bach ond 'roedd uncwl Sam am fynd ymlaen â'r gwaith heb oedi dim.
Byddai'r bechgyn cryfaf yn llwytho yn y cae a'r dynion yn yr ydlan, y merched a'r gwragedd fyddai yn crafu'r gwair ar y cae yn dilyn y llwythi. Bob blwyddyn yr oedd cymanfa o weithwyr gennym pobun yn dod a rhaca neu picwarch ei hunan. Llawer tro y clywais Mam yn gofyn – A ei di draw i'r siop i hol rhagor o 'York Ham' a tin mawr o “Salmon”. Hefyd yn ystod y dydd byddwn yn mynd o amgylch y cae gyda stênaid o laeth enwyn nou “ginger beer” i dorri syched y gweithwyr.
Nes ymlaen gwelwn fasgedaid mawr o fwyd yn cael ei gludo i'r cae a sawl ystenaid o de; y llestri gorau yn cael eu defnyddio a'r dorf o gymwynaswyr yn eistedd mewn man cysgodol i fwynhau y bwyd blasus. Cofiaf am hwn ar llall yn adrodd storiau difyrrus a phawb yn hwylus dros ben. Ail gydio yn y gwaith ar ôl te eto a phob un mor falch fod y tywydd yn dal yn braf; dyna fwynhad oedd gweld y llwyth diwethaf yn 'dod i mewn'. Byddai pobl y pentref wedyn yn dychwelyd i'w cartrefi yr olaf wrth gwrs oedd wncwl Sam, yn smocio ei bib ac yn edrych yn bles ar llwyddiant y diwrnod.
Yr wythnosau ar ol hyn byddai Mam yn corddi a gwneud ymenyn, a'r powndi yn cael eu dosbarthu i dalu'r ffrindiau caredig am eu cymorth yn ystod y cynhaeaf gwair.
Dyma gyfnod pleserus mewn amaethyddiaeth oedd hwn, pan oeddem yn dibynnu cymaint ar ein cymdogion da a diflino. Hyfryd yw cofio yr hen amser hapus ond hiraethus yw ystyried a dweud nad oes llawer o'r hen gymdogion ar ol erbyn hyn.
G.G.H.