skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

Hanes Neuadd y Ddraig Goch Dre-fach Felindre

Y sefyllfa cyn dyfodiad  y neuadd gyntaf yn 1922
Yn y llyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr a gyhoeddwyd yn 1899 nid oes unrhyw gyfeiriad o gwbl gan yr awdur Daniel Jones  at yr hyn a oedd yn digwydd yn lleol yn ddiwylliannol ac yn adloniadol yn yr ardal e.e. dim cyfeiriad at bel droed a chlwb Bargod Rangers na hefyd at eisteddfodau a chyngherddau a chorau a bandiau a digwyddiadau eraill lleol.  O edrych ar yr adroddiadau yn y Carmarthen Journal yn unig fe welwn fod llawer iawn o wahanol bethau’n cael eu cynnal a hynny mewn pob math o adeiladau pwrpasol. Yr Ysgoldy, sef Ysgol Penboyr, oedd y lle mwyaf poblogaidd i gynnal digwyddiadau o’r fath yn ogystal ac yn y capeli lleol ac hyd yn oed mewn ambell sgubor fferm.
Dyma rhai enghreifftiau:  Yn 1897 cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol a Choronog Dyfed ‘mewn Pabell i gynnwys 6000 o Bobl yn Drefach-Felindre.’ (Dyma’r Eisteddfod yr enillodd Daniel Jones y wobr am ysgrifennu ‘Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr’.)
 1900 - Cynhaliwyd  Eisteddfod Flynyddol Llun y Pasg, Drefach yn y capel ac erbyn 1910 adroddwyd – ‘gobeithio y gwnaiff y pwyllgor weled ei ffordd yn glir i gael ‘pavilion’  erbyn blwyddyn nesaf’. Fe ddigwyddodd hynny ac fe gynhaliwyd eisteddfodau mewn pabell fawr.  1900 -  2nd Annual Poultry Show at Llwynderw on New Years Day.  Cyfarfod  ‘Helynt y Gwehyddwyr’ yn Assembly Rooms, New Shop Inn.
1900 – Eisteddfod Soar Penboyr ar brynhawn Dydd Nadolig (Cychwynnwyd yn 1899) hefyd Eisteddfod Felindre ar Nos Calan. 

1907 – Noson arbennig yn yr Ysgoldy i gyfarch S.O. ar ennill cadair.  Noson Lawen a Gwledd yn Ystafell y New Shop Inn.     1909 – Eisteddfod yn Ffermdy Cwmbran. Cyfarfod  Cystadleuol  yn Pwllmarl i fechgyn ifainc.    1911 – Dr Jenkins yn dechrau ‘Ambulance Class’ yn Ysgol Felindre.    1914  - Drefach War Concert yng Nghapel Drefach.  Mae llun ar gael o Eisteddfod Drefach-Felindre 1920 mewn pabell mewn cae nesaf at iard gefn yr ysgol gyda phabell lai yn iard gefn yr ysgol ei hun..
(Ceir manylion am yr Adloniant a’r Diwylliant lleol, Corau ac yn y blaen mewn rhan arall o’r casgliad ‘STORI FAWR DRE- FACH FELINDRE’)
Mae’n werth nodi trwy haelioni teulu’r Lewesiaid, Llysnewydd fod Neuadd (Institute) wedi ei chodi ym mhentref Henllan yn ymyl yn 1908.  Yn y papur ar 4.9.1908 wrth sôn am Gor Meibion Bargod Teifi cawn yr adroddiad  -  “The Henllan New Hall was crammed for a rehersal concert given by the boys of Bargod Teifi”.  Ac yna ar 11.9.1908 wrth sôn am y Cor – “They had no proper place to train until Col. Lewes, Llysnewydd, seeing their want, soon built for their benefit at great expence, a spacious Hall furnished with chairs, seats etc. for concert use as well.” 

Ym Mai 1912 cawn adroddiad am Gwmni Drama Felindre yn perfformio’r ddrama ‘Twm Sion Cati’ yn neuadd Henllan. Roedd hyd yn oed Bwrdd Billiards wedi ei osod yno hefyd gan fod adroddiad yn y Carmarthen Journal Ebrill 6ed 1915 yn dweud “Billiards Match at Henllan Institute between Cilwendeg and Henllan. Highest break – D Williams, Cilwendeg -  26.”
 
Mae’n amlwg bod dyfodiad neuadd newydd i Henllan wedi cyffro pethau yn ardal Drefach-Felindre oherwydd ceir yr adroddiadau canlynol yn y Carmarthen Journal
Ionawr 24ain 1908   “THE NEW HALL.  A public meeting was held at Drefach on Tuesday evening, presided over by Ald. Lewis, Meiros Hall. The object of the meeting was to consider the idea of erecting a Public Hall in the place. It was decided to form a committee to report to the next meeting and bring on a suggested scheme as to the carrying of the work. The following persons were named:  Rev. W Williams, Llangeler,  Rev. W V Edwards, Saron, Mr Jones C.M. Saron, Rev. T Jones, Penboyr Rectory,  Rev. W Talfan Davies, Closygraig, Mr T Williams, Pontbren,  Messres. D Williams Cilwendeg,  J Lewis Cambrian Mills, S Jones, Pensingrug, T Williams, Oaklands, Eben Evans, Perthiteg, Alderman Lewis, Meiros Hall, Mr John Jones, Gwalia, Rev J G Owens, Soar.  Mr Sam Lewis, Meiros Hall to act as secretary. A report is to be presented at Tuesday’s Public Meeting.”
(Ni welwyd unrhyw adroddiadau yn y Carmarthen Journal yn yr wythnosau na’r misoedd wedyn ynglŷn a’r pwyllgor na’r cyfarfod cyhoeddus ynglŷn a neuadd newydd.) Yna, flwyddyn yn ddiweddarach gwelwyd yr adroddiuad hwn:
Ionawr 15ed 1909  - “Felindre a’r Cylch.  Mae syniad prysur yn yr ardal yma yn awr mewn  mudiad o gael neuadd newydd yn y lle. Mae y mudiad wedi cychwyn yn y man priodol gyda’r dynion ieuanc ac edrychir ar y datblygiad gyda llawer o ddyddordeb. Os parha yr un brwdfrydedd a deimlir ar hyn o bryd bydd y cynllun yn sicr o weld golau dydd. Yn ddi-ddadl mae lle i’r neuadd yn yr ardal ac eiddina pawb i’r bobl ieuanc bob llwyddiant i weled datblygiad eu hegnïon yn yn cyfeirad yma.”

Mis yn ddiweddarach yn yr un papur:
Chwefror 12ed 1909   “Felindre a’r Cylch.  Drama – Heno, sef nos Wener perfformir y ddrama ‘My Sweetheart’ yn Ysgoldy Felindre gan gwmni o Landysul, ac mae’r elw yn mynd at neuadd newydd a fwriedir adeiladu. Yn wir mae cryn ddisgwyl am y wledd yma.”

Ond erbyn 1911 mae’n amlwg fod mwy o anghytuno ynglŷn a’r syniad o neuadd newydd gan i lythyr ymddangos yn y Carmarthen Journal a oedd yn dangos anghytundeb:
Chwefror 17 1911  “ ...yr oedd un dosbarth neilltuol am gael ‘Liberal Hall’ yn y lle a dywedir fod Mr Davies Closygraig (Parch. W Talfan Davies) wedi bod yn ddigon gwrol a rhydd-agored i siarad yn erbyn syniad mor gul a dywedyd mai yr hyn oedd angen ei gael oedd neuadd gyhoeddus i’r lle.  Ni ellir llai na edmygu Mr Davies am ei ryddfrydigrwydd sy’n  suddo ymgais plaid ac enwad o’r golwg mewn cwestiwn o’r fath...  Mae yna ddigon o dasg i ardaloedd fel Felindre a Drefach i gael neuadd lwyddiannus pan mae pawb yn ddiwahân yn rhoddi’r ysgwydd o dan y llwyth.”

Ond, ni lwyddwyd i gael neuadd i bentref Drefach-Felindre cyn y Rhyfel Mawr 1914 -18 ac mae adroddiadau’n dangos mai yn Yr Ysgoldy a’r Capeli yn bennaf y cynhaliwyd pob math o ddigwyddiadau yn ystod ac ar ôl y rhyfel, e.e. Chwefror 1919 – Cyngerdd Croeso Adref i’r milwyr yn Yr Ysgoldy. Chwefror 1919 – 70 o gyn filwyr wedi eu gwahodd i swper yn yr Ysgol. Yna, rhaglen o adloniant.       Mai 1919 – Eisteddfod Velindre Schoolroom.
Tybed a oedd y neuadd yn ei lle ar Mehefin 22ain 1922 achos roedd adroddiad yn y papur yn sôn am Bazar yn cael ei chynnal yn y ‘Felindre Schoolroom.’
Ond mae adroddiad yn y Carmarthen Journal ar Medi 22ain 1922 yn dweud o dan Drefach-Felindre...   “On Wednesday last week a Social tea was held at the Red Dragon Hall Institute to celebrate the triumphs of the well known Bargoed Teify Choir at recent eisteddfodau. The evening concret was presided over by the Rev. D. Jenkins, Rector.  Taking part were Willaim Davies, Penlon (a ddaeth yn ganwr yn Covent Garden maes o law ac fe geir ei hanes mewn rhan arall o ‘Stori Fawr Drefach- Felindre’),  J Baker Jones, Albert Evans, Llewellyn Evans. Accompanist  Mr T S F Morgan, School Teacher,   Conductor – R G Owen – ‘enthusiastic reception from the large gathering.’ Gwyddom felly bod y Neuadd yn ei lle erbyn canol Medi 1922.
 
Y NEUADD GYNTAF
“Codwyd Neuadd y Ddraig Goch yn 1922. Un o goed a sinc ydoedd a phrynwyd hi yn Calne, Wiltshire. Codwyd hi gan filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf ac nid oedd yn neuadd gyhoeddus. Er hynny cafodd pob enwad a phlaid ei defnyddio. Costiodd £80 yn Carne a £112 am ei chludo gyda’r trên a bu’n dipyn o broblem i glirio’r draul. Rhoddodd Col. Lewes, Llysnewydd y darn tir am rhyw swllt y flwyddyn. Yn 1932 cliriwyd y ddyled a phrynwyd y tir yn 1944.
Yn y cyfamser gosodwyd byrddau biliards ynddi a daeth Neuadd y Ddraig Goch yn gyrchfan i fechgyn yr ardal ac erbyn heddiw mae’n rhan o fywyd y pentref. Heb Neuadd y Ddraig Goch nid pentref Drefach-Felindre mohono.
Yn ystod y rhyfel 1939-45 bu yn noddfa ac yn gartref i filoedd o filwyr a oedd yn gwersylla ger llaw. Wedi’r rhyfel darlledodd y B.B.C. lawer rhaglen o’r neuadd.”
Dyna gynnwys tri pharagraff cyntaf B.D.Rees (Cadeirydd) yn ei ragair i ‘Rhaglen Agoriad Swyddogol’ y Neuadd Newydd a agorwyd ar Fedi’r 12ed 1964 ar draws y ffordd i’r Neuadd Gyntaf.
FFURF Y NEUADD GYNTAF
Mae mwyafrif o ffurf hen adeilad y neuadd gyntaf yn dal yn yr un lle yng nghanol pentref Felindre – rhwng Camwy a’r Garth (2016) ac yn cael ei defnyddio gan ddau fusnes lleol. Un adeilad hir o sinc a phren oedd hi ar y dechrau gyda un bwrdd biliards yn y pen nesaf at y ffordd.  (Yn ol Alwyn Davies, Llanerch, Felindre, roedd e’n Is-gadeirydd pwyllgor y neuadd pan ond yn 21 oed a bu’n ysgrifennydd y neuadd newydd am 12 mlynedd.)
 
 Yr arferiad oedd codi llwyfan dros ben y bwrdd biliards pan yn cynnal rhyw ddigwyddiad.  Maes o law fe adeiladwyd rhaniad i’r neuadd gan osod tri bwrdd biliards yn yr ystafell fawr nesaf at y ffordd ac yna llwyfan (pren eto) a’i gefn at yr Ystafell Filiards gyda ystafell newid wrth ochr y llwyfan gyda drws yn arwain o’r Ystafell Filiards i’r neuadd gyhoeddus. Roedd oledd yn codi o flaen y llwyfan i gefn y neuadd gyda rhaniad hanner ffordd. Fel arfer roedd pris tocynnau i eistedd mewn cadeiriau tu blaen i’r rhaniad yn ddrutach na’r gost o eistedd ar y fforymau yn y cefn tu ôl i’r rhaniad. Roedd drws ochr yn y blaen ar gyfer y seddau blaen a drws ochr yn y cefn ar gyfer y fforymau cefn.
Bydd llawer yn cofio (o’r 1940’au ymlaen?) mai mewn ’hatsh’ bychan pwrpasol ar ochr y neuadd yng nghornel yr ystafell filiards a nesaf at y ffordd y byddai pob tocyn mynediad i unrhyw ddigwyddiad yn cael ei werthu. Nid oedd yr un sedd gadw yn bod – heblaw i Gadeirydd y Noson. Y cyntaf i brynu ei docyn fyddai’n dewis ei sedd.
Yr arferiad arall oedd i blant eistedd ar feinciau yn syth o flaen y llwyfan mewn rhyw ddwy res pan gynhaliwyd drama neu gyngerdd. Mae’n rhaid fod plant yr oes honno’n well gwrandawyr a byth yn aflonyddu!!
Yn y dechrau y cyn filwyr oedd yn rhedeg y neuadd ac yna fe benderfynwyd dewis pwyllgor o 12 cyn filwr a 12 o’r pentrefwyr trwy etholiad. Cadwyd cofnodion mewn llyfrau o hynny ymlaen.
 
PYTIAU ERAILL
Pictures /Cinema)
Yn y 1940’au ychwanegwyd ‘projector room’ uchel at gefn y neuadd gyda thyllau sgwâr i daflu’r ffilm ar y sgrin ar y llwyfan.  Bydd llawer ohonom yn cofio am MR BOB  BLISS yn troi’r neuadd yn Sinema a daeth ‘mynd i’r pictures’ yn rhan o fywyd naturiol yr ardal pob nos Sadwrn ddiwedd y ‘40au a’r ‘50au. Ar ei ôl ef fe ddaeth Mr Bob Thomson (a fu’n berchen ar Eglwys y Carcharorion yn Henllan wedyn a thad James Thomson) i redeg y sinema. Bu eraill yn ei chynnal wedyn am ychydig o flynyddoed ond fe ddaeth i ben ar Dachwedd 15ed 1958 gan i’r cofnodion ddweud  “ Mr Donald Davies, 7, Picton Terrace, New Quay yn gorffen rhedeg y sinema oherwydd diffyg presenoldeb ar Tachwedd 15ed. Y rheswm oedd fod y Castle Cinema Castellnewydd Emlyn yn denu plant a phobl.
Llwyfan
Y carcharorion rhyfel yng ngwersyll Henllan wnaeth baentio’r olygfa gefn llwyfan ar gynfas eang, a bu yno tan agor y neuadd newydd yn 1964. Roedd hi’n olygfa o’r afon Teifi wrth ichi edrych arni’n llifo am Bont Henllan gyda’r coed a’r tyfiant gwyrdd wedyn ar y fflatiau ar ochrau’r llwyfan.
Roliwyd y gefnlen gynfas hon i fyny a’i gosod ar lawr yng nghefn llwyfan y neuadd newydd ond bellach nid oes neb yn gwybod beth a ddigwyddodd i’r paentiad hwn.
Roedd ‘footlights’ i’r llwyfan gyda rhes o fylbiau wedi eu gosod ar draws blaen y llwyfan gan daflu golau llachar ar gyrff a wynebau pawb oedd ar y llwyfan.
Cofnodion
Mae’n bwysig fod yr holl gofnodion sy’n dal ar gael o’r hen neuadd a’r neuadd newydd yn cael eu cadw fel rhan o gasgliad STORI FAWR DREFACH-FELINDRE yn Amgueddfa Wlan Cymru yn y pentref.
Digwyddiadau
Mewn rhan arall o gasgliad STORI FAWR DREFACH-FELINDRE fe gewch hanes y math o ddigwyddiadau a fyddai’n cael eu cynnal yn yr hen neuadd a’r neuadd newydd – EISTEDDFODAU, DRAMÂU, PANTOMEIMIAU, CYNGHERDDAU, CYFARFODYDD AMRYWIOL a llawer iawn mwy.  Bydd hanes y Biliards a’r Snwcer yn dod o dan Yr ADRAN CHWARAEON yn y casgliad.
Llyfrgell a Chymhorthfa
Yn y pumdegau defnyddiodd y meddyg ardal Dr Owen yr ystafelloedd newid yn y neuadd fel cymhorthfa feddygol a’i cynnal yno rhai boreau’r wythnos.  Hefyd byddai llyfrau’n cael eu cadw mewn bocsus pren gan Adran Llyfrgell y Cyngor Sir fel y gallai’r bobl ddod yno ar amser penodedig bob wythnos i newid eu llyfrau darllen.
Gofalwyr
Ar ôl yr ail ryfel byd y gofalwyr oedd Dai a Marged Evans, Trefeca, Drefelin. Bydd pawb yn cofio sut y llwyddai Marged i gadw trefn ar y bechgyn yn y Neuadd Filiards. Roedd honno ar agor bob nos a byddai pawb yn crynhoi o gwmpas y ‘stof fawr’ i siarad ac i edrych ar y chwaraewyr yn chwarae mwy o snwcer na biliards ar y prif fwrdd nesaf at y stof. Fe roddodd Dai a Marged wasanaeth hir fel gofalwyr Neuadd y Ddraig Goch cyn i Bessie a Ianto Jones, Landwr, Drefelin (cymdogion i Dai a Marged) gymryd at y gwaith wedyn. Symudodd Bessie a Ianto fel gofalwyr i’r neuadd newydd wedyn yn 1964. Yn yr un modd a chynt – Bessie fyddai’n cadw trefn ar y bois wrth y fordydd snwcer yn y neuadd newydd ac ar ambell ddawns go ddi-drefn yn y neuadd fawr hefyd yn ôl y galw. Diolch am ddisgyblaeth y gofalwyr a’r ddawn o gadw trefn ar ambell grwt drygionus!
 
Atgofion
Gan mai sinc oedd ochrau’r neuadd byddai’n demtasiwn fawr yn aml i rywun ar y tu allan yn ystod perfformiad neu ddigwyddiad  i redeg o’r cefn i’r blaen gyda darn o bren yn ei law a’i lusgo ar hyd y sinc gan greu sŵn byddarol y tu mewn. Go brin y byddai’n werth i rywun ruthro allan gan y byddai’r euog wedi’i baglu hi i’r tywyllwch cyn i neb gyrraedd y drws!
 
Wrth fynd i mewn i’r neuadd, yn enwedig i eisteddfod fe fyddech chi’n cael stamp ar eich llaw ac yn aml byddai’n  anodd cael ei wared am ddyddiau!
 
 
COFNODION YR HEN NEUADD
Ar hyn o bryd dim ond cofnodion o Bwyllgor yr Hen Neuadd yn cychwyn ar 7ed RHAGFYR 1956 tan i’r neuadd newydd agor yn 1964 ry ni wedi llwyddo i’w gweld, ac o’u darllen dyma grynodeb sy’n rhoi darlun i ni o’r hyn a ddigwyddodd. Cofnodion yn Saesneg a gadwyd ar y dechrau ac am nflynyddoedd lawer.
 
Yr enw swyddogol oedd ‘RED DRAGON INSTITUTE, Velindre, Llandysul, Cards.
Roedd pwyllgor swyddogol gyda Tabl Presenoldeb Aelodau ar flaen pob llyfr cofnodion.
Tom Jones, Pendre oedd cadeirydd y neuadd yn 1956 ac wedi bod ers 20 mlynedd, ond bu farw’n sydyn a thalwyd teyrnged uchel iddo am ei ffyddlondeb i’r ‘institute’.
Ym Mawrth 1957 etholwyd aelodau o Bwyllgor yr Institute sef ‘Civilians’ a ‘Ex-service men’.
Ym Mehefin 1957 Dr E L Davies, Llandysul yn cynnig 7 swllt a 6 cheiniog y sesiwn am gael cynnal cymhorthfa yn y neuadd.
Y Billiard Hall oedd yr enw swyddogol ac ym Medi 1957 dewis Billiards Committee a threfnu y Twrnament Nadolig i ddau ddosbarth – y rhai gore a’r lleill!
Y neuadd yn cael ei bwcio gan AL ROBERTS A DOROTHY. Bu’r ddau yn dod yn gyson yn y 1950’au tan ddiwedd y 60’au i berfformio yn y neuadd. Sioe o noson gyfan o driciau a phethau hud yn y Gymraeg.  (Personol – Cofio hynny’n dda fel plentyn – PHG)
Mae’n amlwg mai Pwyllgor y Neuadd oedd yn edrych ar ôl y gofeb i’r milwyr ar Sgwâr y Gat hefyd gan ei fod yn talu am ei gwella gyda llythrennau aur a’i glanhau.
Roedd tal i fod yn aelod o’r Institute ac aelodau yn unig yn cael chwarae snwcer.
Chwefror 1958 Rex Williams yn cynnig dod i roi arddangosfa biliards a snwcer i’r neuadd am ddim gan roi’r arian i’r National Spastics Society.
Y neuadd yn cael ei bwcio gan y BBC i recordio rhaglen “Shw Mae Heno” ar 5ed Mawrth 1958.
Daeth llawer pencampwr snwcer a biliards i roi arddangosfa a chwarae’r bechgyn lleol yn y 50’au a’r 60’au gan roi 21 o bwyntiau iddyn nhw ar ddechrau’r gem!  (Personol – Cofio Joe Davis a’i Frawd Fred Davis, Walter Donaldson, John Pullman a Jack Rae yn rhoi 1,000 Bristol Tipped Cigarettes os gawsen nhw eu curo gan unrhywun lleol.. – PHG)
25 Medi 1958   TOMBOLA & HOUSIE HOUSIE – “...and considering its gambling aspect it was agered that no games be played”.
16 Hydref 1958 – “It was agered that we refrain from smoking at future meetings.”
Cwmni Drama Edna Bonell yn perfformio ‘Gwr Mrs Jones’ Rhagfyr 12ed 1958.
Cyfarfod Blynyddol 12ed Chwefror 1959.  Diolch i’r gofalwyr (Mr Mrs David Evans, Trefeca, Drefelin) am flynyddoedd o wasanaeth.
Cais gan Llyfrgell y Sir am gael gosod llyfrau ar silffoedd (yn lle mewn bocs) ar gyfer y Llyfrgell leol. Gosodwyd y silffoedd o amgylch y neuadd filiards i gynnwys 1500 o lyfrau. Problem symud y bwrdd dartiau oherwydd y silffoedd newydd!!
13 Ionawr 1960 – Cwmni Edna Bobell yn perfformio’r ddrama ‘Rhoi Pethau’n Iawn’ ac yn codi £12.12.0
Mr J Morgan Nicholas (Trefnydd ac arweinydd Gŵyl Dyffryn Teifi ac yn dod i’r pentrefi i ddysgu corau lleol i ymuno i ganu gweithiau fel Yr Elijah ac eraill yn Neuadd Tysul, ac awdur yr emyn don ‘Bryn Myrddin’ -  yn dweud bod angen tiwnio’r piano.
25 Ionawr 1960 – Y Cadeirydd John Evans (Jac y Gof) a fu’n gadeirydd am flynyddoedd lawer yn dweud  -‘Ni allaf ddychmygu sut le byddai’r ardal hon i bobl ifanc heb yr Institute.”
1 Mawrth 1960 – Eric Davies (Vaynor) Ysgrifennyd Clwb Pel Droed Bargod Rangers yn gofyn am gael cynnal Dawns ac am estyniad tan 1 o’r gloch y bore. Yn y cofnodion trwy’r 1960’au fe ddaeth dawnsiau yn beth poblogaidd iawn – yn enwedig yn y neuadd newydd. Mae’n amlwg bod elw da o ddawnsiau ond llawer o wrthwynebiad oherwydd y sŵn yn y pentref a’r difrod i’r neuadd newydd.
10 Tachwedd 1960 – sefydlu ‘Youth Club’ newydd yn y pentref ac yn cwrdd yn y neuadd.
8ed Rhagfyr 1960 – derbyn y ‘Pantomime Scenary which had been used fôr pantomimes held several years ago. This had been received from Mr William Davies, Milford House, the scenary having being stored at Dyffryn Woolen Mills.

 

 

Pantomein yn yr hen neuad Neudd y Ddraig GochNeudd y Ddriag Goch

16 Tachwedd 1961 – Cyfeiriad cyntaf at y neuadd newydd a’r pwyllgor hwnnw.
  Cyfarfod Blaynyddol 18 Mehefin 1962  - Mr Evan Powell (cyn brifathro Ysgol Penboyr) am ymddeol o’i swydd fel trysorydd ers agor y neuadd yn 1920. Diolchodd i bawb, yn enwedig yr help a gafodd rhwng 1920 a 1932 yr amser a gymerodd hi i glirio’r ddyled am y neuadd.
Awgrymwyd bod Mr Evan Powell yn casglu hanes y neuadd o’r cychwyn. (Sylw – a wnaeth e hynny a ble mae’r hanes? PHG)  Cafodd Binoculars yn anrheg am ei gyfraniad godidog.

27 Medi 1962 – Dewis Mrs Bessie Jones, Landwr, Drefelin yn ofalwraig newydd i ddechrau 1af Tachwedd 1962 yn dilyn David a Marged Evans, Trefeca, Drefelin – (Dai a Marged Trefeca!) Cyflwyno Cloc ac arysgrif arno i Dai a Marged ar 19 Rhagfyr noson rownd derfynol y Gystadleuaeth Snwcer gyda the i bawb. (Gohiriwyd oherwydd salwch.)
10ed Ionawr 1963 – trafod beth fyddai’n digwydd i’r hen neuadd gyda dyfodiad y neuadd newydd.   Trefnwyd Gyrfaoedd Chwist yn aml iawn i godi arian tuag at gostau rhedeg y neuadd.
13 Chwefror 1964 Problemau gyda’r ‘Projection Room’ yr hen sinema. A fyddai’n well ei dynnu lawr?
12 Mawrth 1964 – Derbyn amcangyfrif Messrs Clare & Son Liverpool i symud y dair ford biliards i’r neuadd newydd am £30.
11 Mai 1964 – Trefnu i Bwyllgor yr Hen Neuadd gwrdd gyda Phwyllgor y Neuadd newydd i drafod y trosglwyddo.
22 Mai 1964 – Penderfynu hysbysebu’r hen neuadd i’w gwerthu.
9ed Gorffennaf 1964 – Marwolaeth sydyn  Cadeirydd yr Institute ers llawer blwyddyn a byth yn colli cyfarfod  – y Cynghorydd John Evans, Cilgraig, Drefelin (Jac y Gof)
Yn y cyfarfodydd nesaf llawer iawn o drafod am y ceisiadau i werthu’r hen neuadd a’r cynhigion a ddaeth i alw. Yn y diwedd Mr John Anthony wnaeth ei phrynu am £1200 a 2/6 ceiniog a’i throi yn garej.  Trosglwyddo iddo ar y 1af Hydref 1964.
Etholwyd Willie Davies (Vaynor) yn gadeirydd mewn cyfarfod arbennig ar 17 Gorffennaf 1964.
 Bu’n gadeirydd ar y neuadd newydd hefyd hyd at y 1970’au.
Penderfynwyd agor y ‘Billiard Room’ yn y neuadd newydd am 5.30 p.m yn dilyn yr agoriad swyddogol o’r neuadd yn y prynhawn. Y Cadeirydd, Is-gadeirydd a’r trysorydd i chwarae’r gem gyntaf ar y byrddau.  
3ydd Medi 1964 – Gofyn i John Jones Y Gables, Castellnewydd Cemlyn (ffotograffydd) i ddod i dynnu lluniau o’r hen neuadd i’w hongian yn y neuadd newydd.

 

  • Mewn cyfarfod arbennig 3edd Medi 1964 ar gais ymddiriedolwyr y neuadd newydd –

  • Cawn gofnod llawn fod Mr John Lewis yn rhoi’r arian ar 4 amod. Y gyntaf oedd –Dim diod o gwbl mewn unrhyw ran o’r neuadd.

  • Cafwyd grant gan yr Adran Addysg ac fe gofnodwyd y neuadd yn elusen.

 
Ebrill 28 1964  Pwyllgor Cyntaf y Neuadd newydd – NEUADD Y DDRAIG GOCH
Cadeirydd – B D Rees (Prifathro Ysgol Penboyr) O ddarllen cofnodion yr hen neuadd a’r neuadd newydd bu cyfraniad B D Rees yn aruthrol i fywyd y neuadd ac i fywyd y pentref yn gyffredinol. Roedd e’n berson gweithgar tu hwnt a bu ei ddylanwad yn un arbennig – ac mae’n bwysig nodi hynny gan mai gwr yn gweithio yn yn cefndir yr oedd ef yn bennaf.
Ysgrifennhydd – Mr John Daniel Jones, Bangor House.
Mae rhestr lawn o aelodau’r pwyllgor o dan y cofnod hwn.
GORFFENNAF 25ain 1964 – Cynhaliwyd Cyfarfod Cyhoeddus i gadarnhau’r swyddogion ac aelodau’r pwyllgor a hefyd cynrychiolwyr o’r mudiadau. Y rhai a enwyd oedd: The Mens Institute, W.I., Sports Clubs, Youth Club.

  • Gweler grynhodeb allan o lyfrau Cofnodion y neuadd newydd 1964 tan y presennol ar ddiwedd manylion pellach am y neuadd.

 
Llun o bwyllgor yr hen neuadd  o dan yr arwydd o flaen yr hen neuadd.
Cefn  (chwith i’r dde) – Dan Rees Pendre, Arthur Jones, Landwr, Eric Davies, Vaynor, Gordon Evans, Trevor Walters.
Eistedd :  Evan Jones, Landwr, Alwyn Davies (Yr ysgrifennydd am gyfnod hir), Willie Davies, Vaynor (Cadeirydd am flynyddoedd lawer), David Evans, Trefeca, B D Rees (Ysgolfeistr Penboyr), Alun Evans, Central Stores.
 

Y NEUADD NEWYDD 
Yn  Rhaglen Agoriad Swyddogol Neuadd y Ddraig Goch, Drefach-Fekindre ar Ddydd Sadwrn Medi 12ed 1964 mae Cadeirydd y Pwyllgor Mr B.D.Rees (Prifathro Ysgol Penboyr) yn dweud-
“Rwyn siŵr mai dyma’r adeg (ar ôl y rhyfel) y gwelodd Mr John Lewis, Cambrian ei gwir werth, ac yn ystod y cyfnod yma y rhoddodd £3,000 ar gyfer adeiladu neuadd newydd. Yn anffodus bu Mr Lewis farw cyn codi’r neuadd newydd. Yn ei ewyllys gadawodd £5000 arall. Yn awr roedd y £3000 wedi tyfu’n £5000. Ffurfiwyd pwyllgor i fynd ati i gael neuadd yn deilwng o’r lle, ond er cymaint yr arian yr oedd y rhwystrau’n fawr. Yr oedd darn newydd o dir gennym, ond yr oedd rhaid cael ychwaneg o arian. Aeth rhai blynyddoedd heibio, ac yn 1962 cafwyd grant o £3,330 oddi wrth y Weinyddiaeth Addysg drwy’r Community Council.
Aeth y pwyllgor ati o ddifri ac ar y 29ain o Dachwedd 1962 cafodd Mri George Lewis a’i Fab, Caerfyrddin y contract am £15,059. Bu’n aeaf caled dros ben a methwyd dechrau cyn yr ail o Ebrill 1963. Erbyn diwedd mis Medi yr oedd yr adeilad dan do.
Yn ystod yr haf hwn (1964) bu rhaid glanhau, gwastodi a pharatoi ar gyfer yr agoriad, a’r peth barodd y syndod mwyaf i mi oedd parodrwydd pawb i weithio, rhoi benthyg peiriannau, neu gyfrannu’n ariannol at y mudiad. Mae’r gwragedd hefyd wedi bod yn brysur yn trefnu ar gyfer lluniaeth yn ystod yr wythnos.
Mae’r pwyllgor a minnau yn dra diolchgar am eich cefnogaeth. Eich neuadd chwi yw Neuadd y Ddraig Goch.”
Gweler y ‘Rhaglen Agoriad Swyddogol Neuadd y Ddraig Goch, Drefach-Felindre' ar wefan Casgliad y Werin.

 
Agoriad Neuadd y Ddraig Goch
Neuadd y DDraig Goch
Neuadd y DDraig Goch
Neuadd y DDraig Goch
Lluniau o’r agoriad swyddogol 1) Y Dorf Tu Allan.  2) Ann (Winston) Pash, Peter Hughes Griffiths a Norma (Winston) Jones (Enillwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe) a fu’n cymryd rhan yn ystod Yr Wythnos Ddathlu.

 

Nodiadau Ychwanegol am WYTHNOS DATHLU AGOR Y NEUADD NEWYDD
 
Fe fyddwch wedi gweld cynnwys ‘Rhaglen yr Agoriad Swyddogol’ gan ddechrau gyda’r agoriad swyddogol gan weddw Mr John Lewis – yr un a gyfrannodd mor hael ac a dalodd am y rhan fwyaf o gost adeiladu’r neuadd. John Lewis oedd perchennog Ffatri Cambrian.
Sylwer ar y rhannau agoriadol o’r seremoni wedyn tu fewn i’r neuadd sef Yr Ymgysegriad yn gyntaf. Gofynnwyd i mi (Peter Hughes Griffiths) i gyfansoddi pennill o emyn i’w ganu fel rhan o’r ymgysegriad. Canwyd ar y don Blaenwern.  Cefais i a’r ddwy chwaer Ann a Norma Winston gyfle i gymryd rhan hefyd yn yr agoriad swyddogol. Cafwyd anerchiad gan B.D. Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Adeiladu a’r Gwr Gwadd oedd Aneurin Talfan Davies, Pennaeth Rhaglenni Cymraeg BBC, a mab Y Parch W Talfan Davies cyn weinidog Capel Closygraig ac a gyfeiriwyd ato yn y llythyr hwnnw yn y Carmarthen Journal yn Chwefror 1911. Treuliodd Aneurin Talfan Davies llawer o’i blentyndod yn yr ardal ac mae pennod gyfan ganddo yn ei lyfr Crwydro Sir Gar gyda’r teitl ‘Lle Bum yn Gware Gynt’ pan yn sôn am ardal Drefach-Felindre.
A’r noson honno ar ôl yr agoriad swyddogol cafwyd ‘Celebrity Concert’ gan Y Lyrian Singers o Gaerdydd – cantorion hynod o boblogaidd ar y pryd ac un o’r aelodau oedd David Thomas gynt o Benlon Newydd (neu Dai Diened i’w ffrindiau). Sylwer mai’r Dr Gareth Crompton oedd Llywydd y Noson.  Da nodi mai Gareth Crompton oedd Llywydd y noson gyntaf a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddraig Goch ar nos Wener 12ed Gorffennaf 2013 i lawnsio’r prosiect ‘Stori Fawr Drefach-Felindre.’
Nos Sul  -  Canu Cynulleidfaol ym Methel Drefach.
Nos Lun – Cyngerdd Talentau lleol gyda’r anfarwol Tom Morgan, Dancapel yn arwain.
Cafwyd eitem allan o’r Opera ‘Merch y Glannau’ a berfformiwyd gan yr un cyn-aelodau o’r Urdd a’i pherfformiodd flynyddoedd cynt.  Fe gymerodd William Jones (Wil Velindre View) ran yn y noson ac adrodd darn llawn hiwmor. Arferai Wil arwain nosweithiau gyda phartïon Albert Evans  (Yr Wythawd) pan yn teithio’r wlad yn cynnal cyngherddau. Dyma’r unig dro i mi weld a chlywed Wil yn perfformio ar lwyfan.
Ar ôl ennill yn yr Adran Lenyddol yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe mis Awst cyn yr agoriad swyddogol cafodd Peter Hughes Griffiths wahoddiad i gyflwyno eitem yn y Srermoni Agoriadol ar lwtfan y neuadd newydd.  Canodd Peter y penillion canlynol ar yr alaw Mari Fach.
 
              CYFARCHION I’R NEUADD NEWYDD
 
Wel beth sy yma heddi
Gwedwch wir, Gwedwch wir,
Ar Sadwrn ym mis Medi,
Gwedwch wir!
Fe gododd pawb yn fore,
Ma’ pawb sy yn y pentre
Yn casglu am y gore
Odyn wir, Odyn wir,
Diwrnod mawr Felindre,
Ie, wir.
 
Wel dod i agor heddi
Rydyn ni, Rydyn ni
Ein hyfryd neuadd newy’
Rydyn ni.
Ein cyfaill wnaeth ein cofio
Drwy roi i ni ‘ny’r henfro
Ganolfan i’w defnyddio,
Ie wir, Ie wir,
Rhaid dweud – ‘Wel diolch iddo’,
Ie, wir.
 
Mrs Lewis drodd yr allwedd
I’w hagor hi, I’w hagor hi,
A miwn y detho ninne
I’w gweled hi.
A gwrando oddi ar y llwyfan
Ar un o’i phlant ei hunan
Ddaeth adref i’w hen drigfan,
Croeso nol, Croeso nol
I’n cyfaill Aneurin Talfan,
Croeso nol.
 
Rôl gweithio’n gyson gyson,
Chware teg, Chware teg,
I’r pwyllgor ein llongyfarchion,
Chware teg.
I B.D.Rees ein sgwlyn,
John Daniel a’r ddau Alun,
Tywi, Gordon, Trefor, Alwyn
Da iawn bois, Da iawn bois,
Jac Dolwyon a Tom Felin
Yw’r ‘trustees’ bois!
 
I’r W.I. a’r Clinic,
Crand o le, Crand o le,
I’r henoed bydd yn donic,
Crand o le.
Rhen stof sy wedi cilio,
Daeth lectric nawr i’n twymo,
A pleser mwy fydd ‘snwcro’,
Crand o le, Crand o le,
I Bessie ac i Ianto
Eu seithfed ne’.
 
Ac felly i’r dyfodol,
Bant a ni, Bant a ni.
Mae pawb nawr yn ei chanmol,
Bant a ni.
Ac felly, nawr te ffrindie,
Da chi , wel dowch yn growde
I’w llenwi ar bob cyfle
Gadewch T.V.,  Gadewch T.V,
Fe godwn bro Felindre
Trwy’n neuadd ni.                                (P.H.G.)
 
Nos Fawrth – Te i Bawb
Nos Fercher – Snooker Tournament yn Yr Ystefell Snwcer ac yn y Neuadd ‘Ymryson y Beirdd’ - yr oeddwn i’n gyfrifol amdani. Cafwyd noson arbennig iawn. Ond cofiaf yn bennaf berfformiad  Eirwyn Pontshan y cymeriad hynod o ddigri hwnnw. ‘Fe dynnodd e’r lle lawr!’ – er i rai gredu ei fod e wedi mynd tamed bach dros ben llestri!!
Nos Iau – Ffilmiau i’r plant
Nos Wener – Twmpath Dawns (helpais i’w threfnu)
Nos Sadwrn – Snowball Whist Drive.
Mr John Daniel Jones, Bangor House oedd yr Ysgrifennydd Cyffredinol ac fe gafwyd wythnos arbennig i ddathlu agoriad  Neuadd y Ddraig Goch newydd.
 
 
 
COFNODION PWYLLGOR NEUADD NEWYDD – NEUADD Y DDRAIG GOCH.
Mae’r cofnodion cyntaf mewn llyfr ‘copy book’ bach coch clawr meddal ond yn fuan wedyn cofnodwyd mewn llyfr mawr trwchus clawr caled (fel ‘ledger book) gyda’r geiriau ‘ MINUTES BOOK’ wedi ei argraffu arno.
28 Medi 1964 – Ar ôl agor y neuadd newydd cawn ddarlun clir o’r hyn oedd yn digwydd ynddi.
Etholwyd Willie Davies (Vaynor) yn gadeirydd a bu yn y swydd am flynyddoedd lawer a byth yn colli cyfarfod) Gwelir bod y canlynol yn defnyddio’r neuadd : W.I., Cwmnïau Drama, y Cor lleol, Youth Club, Parish Council, Football Meeting, Union Meetings, Extra Mural, Whist Drives, Bazaar, Cyngherddau a Dramâu, Eisteddfodau, Clinic y Babanod, Cymorthfa Doctoriaid Jones ac Enoch, Llandysul,, Llyfrgell.  Gwasanaeth Chiropody, Al Roberts a Dorothy eto.
Trafodwyd y llwyfan a phenderfynu cael llenni i gefn ac ochrau’r llwyfan. Angen mwy o gadeiriau. Difrod adeg y ddawns ddiwethaf – angen stiwardiaid. Tipyn o drafferth gyda’r gwresogi a phawb yn parcio tu allan yn ystod y dydd gan gynnwys loriau.
‘Minute book’ newydd gyda Mr Alwyn Davies yn ysgrifennydd y neuadd. Mae’r cofnod yn fanwl a chlir gan Alwyn.  Cofrestr Presenoldeb aelodau’r pwyllgor ar flaen y llyfr.
20 Awst 1965  - Pwyllgor y neuadd yn trerfnu’r Carnifal lleol.
4 Ebrill 1965 – Trafod sefydlu ‘Cardiganshire Snooker League’.
Dawnsiau yn beth mawr a chyson yn y neuadd yn y cyfnod hwn ond yn creu problemau oherwydd sŵn yn lleol a thorri’r drysau gwydr.
Cyfarfod Blynyddol 22 Medi 1966 – Enw Mrs Brynmor Williams, Neuadd Wen, yn ymddangos ar y cofnodion am y tro cyntaf. Enw menyw felly yn aelod am y tro cyntaf yn hanes Neuadd y Ddraig Goch.
5 Medi 1967 – Diolch am ‘gift of a Bardic Chair’ gan Mrs R G Owen late of Llysarfon.
6 Mai 1968 – Gordon Evans yn cynnig cynnal y pwyllgorau yn y neuadd fawr fel bod pawb sydd am smocio yn gallu gwneud!
Y maes parcio wedi ei darmarcio, nawr angen ei farcio.
9 Hydref 1968 – Mr Stewart Rees yn barod i werthu’r ‘scenary’. Derbyniwyd hyn.  (Nodyn – Pa olygfeydd tybed – yr olygfa o Bont Henllan yng nghefn yr hen neuadd a’r coed ar y fflatiau ar yr ochr?  - PHG)
2 Rhagfyr 1968 – Elgan Jones yn agor ‘keep Fit Class’ yn y neuadd.  Gosod Coeden Nadolig gyda goleuadau y tu allan.
26 Ebrill 1969 – Eisteddfod Seiloh yn cael ei chynnal ac un Hermon newydd fod.
Mae’n amlwg fod y Billiard Hall yn cael ei rhedeg ar wahân gan iddyn nhw gael Cyfarfod Blynyddol 14 Mai 1969. 
Trefnu Croeso 69 – Arddangosfa Tan Gwyllt a Mabolgampau.
1af Hydref 1969 – Eto trafodaeth am y dawnsiau a’r trafferthion yn lleol e.e. codi gatiau’n hwyr y nos!
16 Medi 1970 Cyfarfod arbennig. Apwyntio Mrs RA Timperley yn ofalydd newydd.
Llawer o drafferthion gyda’r neuadd – y to, awyru, gwres canolog. Arwydd ‘No Smoking’ wedi ei osod fyny. Mr John Newcombe yn gwrthwynebu.
25 Mawrth 1971 – ‘Summer Entertainemnt’ yn amlwg yn rhan o waith y pwyllgor ers sawl blwyddyn.
15 Mai 1971 – Penderfynu peidio cynnal y Carnifal eleni oherydd diffyg cefnogaeth.
Cynnal ‘Community Singing’ nos Sul 12ed Medi 1971. Mrs Watkin Llandysul i arwain.
13 Rhgafyr 1971 – Aelwyd yr Urdd yn cwrdd yn y neuadd.
27 Ionawr 1972 –  Mr B D Rees am ymddeol fel Trysorydd am fod aelodau yn dweud ei fod e’n cael ei dalu ac yntau ddim. Ail gymerodd yn y swydd ar ôl derbyn cefnogaeth y pwyllgor.
Ond, codwyd materion gan Defi John Jones a bu llawer o anghytuno yn y pwyllgorau.
Cyfarfod Blynyddol  27 Medi 1972.  Willie Davies (Vaynor) yn gorffen fel cadeirydd ar ôl blynyddoedd maith yn y gadair. Etholwyd David John Jones yn ei le ac ail ethol Alwyn Davies yn Ysgrifennydd. Nid oedd y Trysorydd Mr B D Rees yn bresennol i roi ei adroddiad blynyddol. Mae’r rheswm am hynny yn anodd ei ddehongli gan i B D Rees fod ar bwyllgor yr hen neuadd a’r neuadd newydd ers ei hagor ym 1964. Wrth ddarllen trwy’r holl gofnodion gwelwyd bod cyfraniad B D Rees wedi bod yn un arbennig a ffyddlon iawn. Am rhyw reswm ni fu B D Rees yn gysylltiedig a phwyllgor y neuadd o hynny allan ac etholwyd Mr Michael Davies yn Drysorydd yn ei le.
29 Tachwedd 1972 – Cyfarfod anodd iawn arall gyda aelodau’n cyhuddo eraill. Trefniadau i anrhydeddu am eu gwasanaeth i Willie Davies (Cyn gadeirydd) a B D Rees, (Cyn drysorydd).
Gwrthododd B D Rees dderbyn unrhyw gyfraniad. (Diwedd trist iawn i gyfraniad tu hwnt o werthfawr prifathro’r ysgol.)
5 Tachwedd 1973 – Aelodau o’r ‘Youth Club’ yn achosi cryn broblemau gyda’u hymddygiad a thorri cadeiriau ac yn y blaen.
20 Mai 1974 – Mrs RA Timperley yn gorffen fel gofalwraig y neuadd ac yn gofyn i Mr Mrs Evan Jones , Landwr Drefelin i ail gydio yn y swydd.
Cynhaliwyd Eisteddfod Capel Seiloh yn 1975.
4 Gorffennaf 1975 – Pwyllgor y neuadd yn trefnu’r ‘Festive Week’ (Hon yn parhau i gael ei threfnu gan Bwyllgor y Neuadd hyd heddi 2016.
29 Medi 1973 – Trafod gosod ‘Gaming Machine’ yn y Neuadd Filiards gan benderfynu ar 6 mis yn y lle cyntaf.
25 Gorffennaf 1978 – caniatâd i ‘Judo Classes’.
11 Gorffennaf 1979 – ‘Karate Class’
Mae’n amlwg yn y cyfnod hwn, ac ar hyd y blynyddoedd fod y pwyllgor yn gweithio’n galed i gynnal y neuadd trwy rhoi o’u hamser yn ymarferol i wahanol dasgau ac yn gyson yn trafod y to, gwresogi, cynnal a chadw a chodi arian
25 Ebrill 1980 – y Clwb Badminton am farcio’r llawr. Trefnu’r ‘Wythnos Garnifal’.
Gwnaethpwyd penderfyniad i ethol Cadeirydd y Neuadd am 3 blynedd ar y tro yn hytrach na’n flynyddol. Etholwyd David John Jones.
14 Medi 1983 – trafod estyniad i’r neuadd a threfnu cynlluniau ac yn y blaen.
3ydd Hydref 1983 -  Y cadeirydd yn nodi bod yr ysgrifennydd (Alwyn Davies, Llanerch, yn awr 2016) wedi bod yn ei swydd am 25 mlynedd. Fe’i anrhegwyd gyda decanter a 6 gwydr chwisgi. ( O ddarllen  cofnodion Pwyllgor y Neuadd o 1956 tan 1988 ni allaf lai na rhyfeddu at fanylder ei gofnodion o bob cyfarfod o’r pwyllgor ac eithriad prin y collodd yr un cyfarfod dros y cyfnod maith hwn. Mae’r ardal yn wir ddyledus i Alwyn Davies fel Ysgrifennydd Neuadd y Ddraig Goch ac am ei waith diflino am gyfnod mor faith. Gwr arbennig iawn yn hanes y fro.

 
  
Drefi John Johns - Neuadd y Ddraig Goch Gordon Evans

Mae’n werth nodi i GORDON EVANS ddweud ei fod e wedi bod ar y pwyllgor am yr un cyfnod ac Alwyn ac er na fu Gordon yn swyddog roedd ei ffyddlondeb a’i gyfraniadau yntau’n werth eu nodi. Ei bresenoldeb a’i waith yn amlwg iawn iawn gyda’r neuadd a phwyllgor y biliards.
 
25 Ebrill 1984 – am y tro cyntaf yn y cofnodion –  Snooker Club Annual General Meeting. Sylwer nid y Billiards Hall AGM. Ennill 7 o’r 9 cwpan yng Nghynghrair Ceredigion.
Adroddwyd bod NORMAN MAHER wedi gwneud 100 o ‘break’ ar 24 Ebrill 1984 – y cyntaf i wneud hynny yn hanes y neuadd.
 
 
10ed Hydref 1984 – Mae’n amlwg mai Pwyllgor y neuadd sy’n edrych ar ôl cyflwr Cofeb y Milwyr ar Sgwâr y Gat gan bod hyn yn dod i’r amlwg ar hyd y blynyddoedd gyda glanhau ac ail lythrennu ac yn y blaen.
25 Gorffennaf 1985 – Canolfan Hamdden yn hen Ffatri Cilwendeg yn effeithio ar weithgareddau’r neuadd ac yn gofyn am fenthyg cadeiriau i gynnal digwyddiadau!
Cyfarfod blynyddol 9ed Hydref 1985 – cododd iaith trafod y pwyllgor ei ben gan i Mrs Horsley ddweud nad oedd hi’n deall beth oedd yn digwydd. Mae’n amlwg mai Cymraeg oedd iaith y cyfarfodydd (er mae yn Saesneg graenus y cadwyd y cofnodion). Nododd y Cadeirydd David John Jones mai Cymraeg oedd iaith y cyfarfodydd ac roedd llawer yn anghysurus yn defnyddio Saesneg. Ni welir unrhyw gyfeiriad pellach at y mater hwn wedyn!
23 Hydref 1985 Cyfarfod Blynyddol – John Crossley yn aelod newydd.
24 Chwefror 1986 – mae’n rhaid bod yr estyniad yn ei le erbyn hyn gan bu trafodaeth am y llenni. Gareth Morris yn y gadair.
  Estyniad i’r Neuadd.
Prin fu’r manylion am yr estyniad i’r neuadd yn y cofnodion ac er bod sôn am ddydd yr agoriad swyddogol i’r estyniad ni nodwyd y dyddiad.
Ond, mae toriad allan o’r papur lleol ar 12ed Ebrill 1986 yn dangos y seremoni gyda’r manylion canlynol o dan y llun:
“An extension to the Red Dragon Hall in Drefach Velindre was opened on Saturday by the Chairman of the Manpower Services Commission in West Wales, Mr D C Williams. The extension was  the subject of a 12 month MSC scheme which provided the labour for the building work. Pictured handing the key of the Hall to Mr Williams is Mr Elgan Jones, Chairman of the Hall Management Committee. Also present were members of the committee and officers and councillors on Carmarthen District Council.”
 
 
 
Cyfarfod Blynyddol 8ed Hydref 1986 fel arfer, ac fel arfer hefyd ar hyd y blynyddoedd cyfarfod cyfethol ar 15 Hydref 1986. Dilynwyd yn patrwm hwn yn flynyddol ers y dechrau.
Pwyllgor Neuadd y Ddraig Goch 28ain Ionawr 1987.
Gwelwyd newid iaith y cofnodion o’r Saesneg i’r Gymraeg am y tro cyntaf yn hanes y neuadd ers 1920 ac yn y cyfarfod nesaf ar 4ydd Mawrth roedd David John Jones a Gwynfor Jones am nodi cyfnod newydd yn ein hanes sef cael y cofnodion yn Gymraeg.
Bu safon Cymraeg y cofnodion o hynny ymlaen yn ardderchog ac yn rhwydd eu darllen.
AGM y Snooker Club 7ed Ebrill 1987 yn dal trwy gyfrwng y Saesneg o hyd.
Yn y cyfarfod hwn llongyfarchwyd Gordon Evans ar 50 mlynedd o wasanaeth i’r clwb. Cyflwynwyd cloc iddo fel anrheg. Nodwyd cyfraniad Gordon eisoes ond mae’n werth nodi, nid yn unig y bu’n ffyddlon a gweithgar i bwyllgor y neuadd ond i bwyllgor y Biliards a'r Snwcer hefyd. Roedd e’n chwaraewr snwcer ardderchog. Cyfraniad pwysig iawn gan unigolyn arall i’r fro.

Cofnodion o gyfarfod o Bwyllgor y Neuadd 16 Mawrth 1988 yw’r olaf yn y llyfr cofnodion llawn. Mae’n nodi y byddai’r pwyllgor nesaf ar Ebrill 20ed 1988.
 
Mae’r llyfr cofnodion nesaf sydd ar gael yn cofnodi’r cyfnod rhwng y Cyfarfod Blynyddol ar Hydref 9ed 1991 a Mai 1997.
Y swyddogion yn 1991 : Cadeirydd – John Crossley, Y Ffawydd, Waungilwen. Is-Gadeirydd – Morfyn Jones, Rhydfoyr, Trysorydd – Mrs M Thomas, Melin Bargod, Drefach. Is-Drysorydd – Gwynfor Jones, Awelfor, Drefach,  Ysgrifennydd – Alwyn Davies, Llannerch, Felindre. Cofnodion – Mrs Eileen Freeman, Angorfa, Felindre.  Snwcer – Dilwyn Smith, Parc y Delyn, Drefach.
Mae’r pwyllgor yn cwrdd yn gyson er mwyn gwneud pob math o drefniadau ac yn enwedig i godi arian e.e. Noson Gawl Mawrth 13 1992. Penderfynu cynnal Carnifal arferol yn yr haf.
Y Cylch Meithrin yn dal i gael ei gynnal yn y neuadd ac yn y blaen.
Mawrth 31ain 1992 Cyfarfod Blynyddol y Clwb Snwcer. Etholwyd : Cadeirydd - Elgan Jones,(Siop)  Ysgrifennydd- Dilwyn Smith. Pwyllgor – David Newcome, Gordon Evans, John Kilburn, Marc Rees, Peter Williams, Norman Maher, Andrew James.
Mae’n werth nodi yr adroddiad am y timau yn y ‘Ceredigion Snooker League’ a llwyddiant y bechgyn fel Dominic Dale a Donald Newcombe, a Brian Newcombe a Vernon Maher. Llongyfarch Doninic Dale am ddod yn ‘runner up’ yn y ‘World Amateur Championship’ yn Thailand ac ennill y Welsh Amateur Championship. Llongyfarch Dilwyn Smith am fod yn ddyfarnwr yn y Welsh Amateur Championship yn 1992.   Dymuno’n dda i Dominic Dale a Donald Necombe ar ddechrau eu cyfnod fel chwaraewyr proffesynnol.
 
Pwyllgor y neuadd yn trefnu ‘Dewis Brenhinaes i’r Carnifal 15ed Mai 1992 a gwneud trefniadau’r Carnifal. (Mae’r pwyllgor yn dal i drefnu’r carnifal o hyd yn 20016)
Derbyn grant o £8,025 gan y Swyddfa Gymreig tuag at wella’r neuadd a chyflogi Alan Jones, Pantycelyn fel Pensaer.
Mrs Thelma Davies yn parhau yn ofalwraig ar y neuadd snwcer a’r adeilad yn gyffredinol.
Noson Gawl adeg Gwyl Ddewi yn cael ei chynnal yn flynyddol a hefyd Noson De o bryd i’w gilydd yn boblogaidd.
Cyfarfod Blynyddol y Clwb Snwcer yn llongyfarch y tri pherson proffesynnol gan fod Dilwyn Smith hefyd yn awr yn Ddyfarnwr Snwcer Proffesynnol. Penderfynwyd cael llun o Dilwyn a Gordon Evans y Llywydd Oes, a’i arddangos yn y neuadd snwcer.
Swyddogion y Neuadd ar Hydref 20ed 1993 :  Cadeirydd – Defi John Jones, Is – Gadeirydd – Alwyn Davies, Ysgrifennydd – Norman Maher, Trysorydd – Gareth Morris.
Y Clwb Snwcer yn ei gyfarfod blynyddol ar 12 Ebrill 1994 yn rhoi teyrnged i Mr Gordon Evans a fu farw yn ystod y flwyddyn. Heb os bu Gordon yn un o’r chwarewyr gorau yn hanes y pentref.
Yn Hydref 1994 daeth Alwyn Davies i’r Gadair a Delyth Evans yn Ysgrifenydd ac Iris  Evans yn is-ysgrifennydd.
Yng nghyfarfod Ionawr 1995 trerfnwyd Wythnos o Weithgareddau yn arwain at y Carnifal blynyddol – Cymanfa Fodern Gyrfa Chwist, Helfa Drysor, Ras Hwyaid, Disgo i’r Plant a’r Carnifal Sadwrn 22 Gorffennaf 1995.
Rhaid nodi ffyddlondeb aelodau o Bwyllgor y Neuadd e.e. 15 Mawrth 1995 roedd 21 yn bresennol.
Ym Medi 1995 fe wnaed cais gan Yr Ysgol Feithrin am gael defnyddio’r neuadd am 5 bore’r wythnos gan fod y galw mor fawr.
Ionawr 1996 tarmaco o flaen y neuadd.
Yn y Cyfarfod Blynyddol Hydref 1966 dewiswyd Mrs Olive Campden fel Is-gadeirydd.
Penderfynu glanhau’r gof golofn ac ail baentior llythrennau am gost o £474.
Yng nghefn y Llyfr Cofnodion ceir rhestr o aelodau’r pwyllgor o 1991 tan 1997 a’i presenoldeb yn ystod pob blwyddyn.  Mae’r pwyllgor yn cynnwys cynrychiolwyr o’r gwhanol gyrff a’r mudiadau sydd yn yr ardal yn ychwanegol at yr aelodau arferol.
Mae’n amlwg hefyd fod defnydd helaeth o’r neuadd gan wahanol fudiadau yn ystod y dydd a’r hwyr ac mae hyn yn golygu llawer o waith trefnu i’r pwyllgor a rhaid eu hedmygu am eu gweithgarwch cyson ac mae’r un enwau’n dod lan yn gyson fel rhan o’r trefnu.
Mae Delyth Evans yr ysgrifennydd yn cofnodi’n fanwl holl drafodaethau a phenderfyniadau Pwyllgor y Neuadd. Mae hyn yn gofnod rhagorol o fywyd Dre-fach Felindre yn y 1990’au.
 
Mae Llyfr Cofnosion newydd yn dechrau ym Mai 1997 ac ar flaen y llyfr mae ‘Rheolau Gwaith yr Ofalwraig o Ionawr 1998 ymlaen’.  Mae’r rheolau’n fanwl gan fod problemau gofalu am y neuadd wedi codi llawer gwaith o 1991 ymlaen.
Mae’n amlwg fod y meddygon lleol yn cynnal eu cymorthfeydd yn y neuadd ers blynyddoedd a phenderfynwyd parhau’r contract am dair blynedd arall.
Mae parcio loriau tu allan i’r neuadd wedi bod yn broblem ers sawl blwyddyn hefyd.
Mae Stephen Jones yn cynnal arwerthiant dodrefn yn gyson ar ddydd Gwener yn y neuadd ac yn achosi problemau i’r Ysgol Feithrin ar ddydd Iau ac Ymarfer Cor Bargod Teifi ar y nos Iau – ond mae’r tal am ddydd yr arwerthiant yn dda.
Prynu ‘bunting’ parhaol ar gyfer wythnos y Carnifal.
Yng nghyfarfod Mawrth 1999 trafodwyd y mater o ddod ac alcohol i’r neuadd mewn perthynas a dathlu’r mileniwm. Nodwyd bod y diweddar John Lewis y gwr a roddod yr arian ar gyfer adeiladu’r neuadd wedi dweud yn 1964 bod amod na ddylid dod ac alcohol i’r neuadd. Cafwyd pleidlais a phenderfynwyd o 19 pleidlais i 2 na chaniateir alcohol yn y neuadd.
Am y tro cyntaf trefnwyd nosweithiau Bingo yn y neuadd i godi arian.
Yn rhyfedd iawn nid oes unrhyw gofnod ynglyn a dathlu’r mileniwm newydd yn y flwyddyn 2000 o gwbl.
Yn y Cyfarfod Blynyddol 4 Hydref, 2000 cafwyd yr adroddiad ariannol gyda £9547 wrth gefn a £481 yng nghyfri’r Gof Golofn ar Sgwar y Gat.
Mae’r pwyllgor yn trafod cwynion hefyd fel rhan o’u cyfrifoldeb. Yn 2002 trafodwyd hyn gyda’r ofalwraig ynglyn a llogi’r neuadd a’r glan hau a’r gwresogi.
Y Clwb Snwcer yn llongyfarch Dilwyn Smith ar gael ei ddewis i ddyfarnu yn yr Embassy World Ladies Snooker Championship yn Swindon.
Ym Mehefin 2002 fe ymddiswyddodd yr ofalwarig oherwydd ei hiechyd. Er hysbysebu’r swydd ni chynigiodd neb ac am gyfnod fe drefnodd y pwyllgor rota o edrych ar ol y neuadd.
Yng nghyfarfod Medi 2002 gofynodd Alwyn Davies am gael ei ryddhau o’r gadair a hefyd Danny Jones fel aelod o’r pwyllgor. Bu cyfraniad y ddau i’r neuadd yn un diflino am flynyddoedd lawer ac Alwyn fel Ysgrifennydd am flynyddoedd maith cyn dod yn Gadeirydd ers dros 10 mlynedd.
Yn y Pwyllgor Cyfethol yn Hydref 2002 etholwyd John Crossley yn gadeirydd newydd ar Bwyllgor y Neuadd gyda rheol yn nodi os fydd aelod o’r pwyllgor yn colli 3 chyfarfod yn olynol – yna fe fyddai’n colli ei le ar y pwyllgor. Cafwyd gofalwyr newydd sef Chris a Brigg.
Derbyniwyd rhodd o £1500 o ewyllus y diweddar Jac Jones, Neuadd Wen.
Ym Mehefin 2003 apwyntiwyd Mai Davies yn ofalwraig.
Ym mis Ionawr 2004 adroddwyd ar y gwaith o wella’r neuadd – y to, goleuadau’r llwyfan ac ail wneud y llawr a llawer o bethau eraill i wella safon yr adnoddau. Sicrhawyd yr arian i dalu am hyn trwy Antur Teifi.
 
Mae Llyfr Cofnodion newydd yn decharu yn Chwefror 2004.
Bydd lle nawr i eistedd 350 yn y neuadd.
Ar ol 10 mlynedd fe orffennodd Delyth Evans fel ysgrifenyddes ac fe etholwyd Shelly Rees i ddechrau yn Ebrill 2004. Diolchwyd i Delyth am ei gwaith ardderchog ar hyd y blynyddoedd.
Gofynodd y Trysorydd Gareth Morris (ers 15 mlynedd) i gael ei ryddhau hefyd o’i swydd ac etholwyd Delyth Evans yn Drysorydd.
Mae’r cyfarfod yn Ebrill 2004 yn un pwysig gan i’r Pwyllgor wneud trefniadau i ‘ail agor y neuadd’ yn swyddogol ar 26ain Mai 2004.
Dyma ddarnau o’r cofnodion -  Rhan 1 o’r gwaith wedi ei dalu – dros £60k a £15k o goffrau’r neuadd... Cais eto i Gyngor y Celfyddydau am £35k drwy Antur Teifi.   Y cloc wedi cyrraedd, gwerth £1k+ yn anrheg gan Windgem.  Noson Agoriadol – gwahodd pwysigion y Cyngor Sir. Y Cyng. Wilf Davies i agor yn swyddogol gan roi sylw arbennig i Alwyn Davies ac yntau wedi gwneud cymaint ar hyd y blynyddoedd. Alwyn i roi ychydig o hanes y neuadd ar y noson. Nodir yr achlysur trwy ddadorchuddio plac addas. Plant Ysgol Penboyr i ganu yn ystod y noson.
Henry Griffiths  Cnwc,  erbyn hyn yn gofalu am y neuadd.

Cor Bargod Teifi
Cor Bargod Teifi
Cor Bargod Teifi

Côr Bargod Teifi.

Hysbyswyd y pwyllgor bod Cor Bargod Teifi yn dod i ben ac na fyddent yn defnyddio’r neuadd bellach a’u bod yn cyflwyno’r piano electronog i’r neuadd.
Yn y cyfarfod 19 Ionawr 2005 trefnwyd i dderbyn arian gan y Cyngor Sir mewn tair rhan ac yn gyntaf i wella holl wasanaeth y toiledau. Yn ystod y flwyddyn prynwyd 15 bwrdd a 100 o gadeiriaun newydd.
Medi 21, 2005  Bwrdd Gweithredol y Cyngor Sir yn rhoi £142,000 tuag at welliannau’r neuadd.
Daeth llythyr o gwyn yng nghyfarfod 14 Rhagfyr 2005 fod bar wedi ei drefnu yn y neuadd ar noson Gyngerdd.  Nid oedd hyn yn ddrebyniol gan nad oedd trwydded gan y neuadd ar gyfer bar.
Posibilrwydd o brynu tir wrth y neuadd gan berchenog newydd Felindre House. Bydd rhaid cynllunio cegin a chwpwrdd storio  ac ystafell dechnegol hefyd.
Mai 18ed Shelly Rees yn gofyn am gael ei rhyddhau o gyfrifoldeb ysgrifenyddes.
Hyd at y cyfarfod ar Gorffennaf 12ed 2006 roedd y cofnodion wedi eu cadw mewn llawysgrifen ond fe gychwynnwyd teipio’r cofnodion a’i gludo yn y Llyfr Cofnodion.
Fe wnaeth hynny barhau tan 2012.  Dechreuodd Emma James fel ysgrifenyddes yn Hydref 2006.
Yng nghyfarfod mis Chwefror 2008 fe wnaed trefniadau ar gyfer agoriad y neuadd ar ei newydd wedd yn dilyn yr holl waith. Y dyddiad fyddai Ebrill 4ydd gyda Alwyn Davies yn agor y noson ac eitemau gan Ysgol Penboyr, Clwb y Dreigiau a Cathrine Ayers.
Erbyn diwedd 2008 cynhaliwyd Cyngerdd Nadolig Ysgol Penboyr, Cyngerdd yr Ysgol Feithrin gyda chynllun ar gyfer ‘Bowlio Mat Byr’ yn y flwyddyn newydd.
Yn y cyfarfod ar 21 Ionawr 2009 penderfynwyd gwneud ymholiadau ynglyn a thrwydded gwin i’r neuadd.
Eistyeddfod Cylch yr Urdd yn awr yn cael ei chynnal yn y neuadd.
Ym Mawrth 2010 mae Camerau CCTV yn eu lle wrth y fynedfa snwcer.
 
Dyma edrych yn awr trwy’r Llyfr Cofnodion presennol yn hanes Neuadd Y Ddraig Goch, Felindre. Mae’r cychwyn ar 18ed Ebrill 2012 ac yn gorffen yn Ebrill 2016.
Mae trefnu’r Wythnos Garnifal Flynyddol yn cael llawer o sylw yn y cofnodion wrth arwain at fis Gorffennaf bob blwyddyn. Yn 2012 penderfynwyd cyflwyno Tarian i Scott Williams yn y carnifal ar ennill capiau yn chwarae rygbi dros Gymru. Hefyd llongyfarchwyd Ken Howell ar gael ei ethol yn Gynghorydd Sir Gaerfyrddin dros blwyf Llangeler yn enw Plaid Cymry gan ddilyn John Crossley o’i flaen.
Penderfynu ar Sustem Sain newydd ar Awst 2012 gyda Dilwyn Smith yn cyflawni’r gwaith. Manylion llawn yn y llyfr cofnodion.
O Hydref 17, 2012 mewn llawysgrifen mae’r cofnodion unwaith eto tan y presennol.
Fe ddaeth gwybodaeth bod £12,000 o nawdd ar gael ar gyfer uwchraddio’r gwasanaethau yn y neuadd gan gynnwys y sustem sain a gosod uwchdaflunydd digidol ac yn y blaen.
Yng nghyfarfodydd Tachwedd bob blwyddyn gwneir trefniadau ar gyfer y Goeden Nadolig a’r noson o gwmpas troi’r golau ymlaen a’r Groto a Sion Corn.
Bu farw Megan Lodwig – un a fu’n aelod gweithgar o’r pwyllgor am flynyddoedd maith. Derbyniwyd rhodd ariannol oddi wrth ei theulu tuag at y neuadd.
Mae  Paneli Solar wedi eu gosod ar do’r neuadd ers sawl blwyddyn a nodir hynny eto gyda’r bwriad o roi mwy eto.
Penderfynu prynu copi wedi ei frramio o Murlun Stori Fawr Dre-fach, Felindre a’i osod yn barhaol yn y neuadd.
Paratoi ar gyfer dathlu 50 mlynedd y neuadd bresennol ym mis Medi 2014.
Mehefin 17, 2014 – Drerbyn arian am drydan y Paneli Solar ar y neuadd. Daw’r tal i mewn yn gyson.
Dathlwyd 50 mlynedd y neuadd ar ffurff Noson Caws a Gwin ar Nos Wener Ebrill 17, 2015.
Alwyn Davies ac Alan Campden oedd y gwyr gwadd gyda adloniant gan Bois y Frenni. Byddai’r rhaglen deledu Heno yn darlledu’n fyw o’r neuadd. Cafwyd adroddiadau yn y Carmarthen Journal a’r Tivy Side. Cynhaliwyd Arddangosfa hefyd ar y noson o hen luniau ac adroddiadau am y neuadd.

Cyfarfod Blynyddol 30 Medi 2015.
Cadeirydd – John Crossley.  Is-gadeirydd – Olive Campden. Ysgrifenyddes – Emma James. Is- ysgrifenyddes – Iris Evans.  Trysorydd – Delyth Evans.  Is –drysorydd – Arwyn Davies. Snwcer – Dilwyn Smith + Alan Jones, Alwyn Davies ac Alan Campden. Yna, mae rhestr o bobl yn cynrychioli’r capeli, eglwysi a’r mudiadau a’r clybiau yn yr ardal.
 
SYLWADAU CYFFREDINOL Peter Hughes Griffiths.
A minnau’n ysgrifennu’r nodiadau hyn wrth gofnodi hanes NEUADD Y DDRAIG GOCH, Felindre yn Ebrill 2016 ni allaf lai na rhyfeddu at ffyddlondeb unigolion lleol sy’n rhoi o’u hamser i redeg y neuadd. Mae’r swyddogion presennol yn eu swyddi ers deuddeg mlynedd a llawer un ohonyn nhw naill ai wedi bod yn  swyddog arall neu aelod o’r pwyllgor. Mae’r un peth yn wir am aelodau’r pwyllgor hefyd. Rhagorol yw cofnodi mae yn y GYMRAEG y mae’r cofnodion yn dal i gael eu cadw.
Mae dyled Dre-fach, Felindre yn fawr iawn i’r bobl hyn ac i’r lleill ar hyd y blynyddoedd gan i mi weld y gwaith caled sy’n mynd yn ei flaen i gynnal adeilad fel hwn, i drefnu’r holl weithgareddau wythnosol ac i godi arian  tuag at goffrau’r neuadd.
Mae’r gweithgarwch ar hyd y blynyddoedd, ac yn y presennol yn rhyfeddol. Peth peryglus yw dechrau enwi unigolion am eu gwaith gan fod cyfraniad pawb mor bwysig i fodolaeth Neuadd y Ddraig Goch, ond, mae un person a’i enw yn ymddangos yn amlach na neb yn 2016 a bob amser yn cyflawni cymaint yn ymarferol, a hynny ar ochr y snwcer a’r neuadd. DILWYN SMITH yw’r person hwnnw, ond, mae’n bwysig diolch ar ran yr holl fro i’r holl weithwyr cyson ar hyd y blynyddoedd ac ers dyddiau’r hen neuadd ar draws y ffordd i’r presennol.
Byddai bywyd Dre-fach, Felindre wedi bod yn fywyd cymdeithasol, diwylliannol, adloniadol, addysgiadaol a chelfyddydol llwm iawn heb fodolaeth  Neuadd y Ddraig Goch. Yma mae calon yr ardal wedi bod, ac yn dal i guro.
Pob dymuniad da i’r dyfodol.
 
Peter Hughes Griffiths.  Ebrill 2016.