HEN ENWOGION (Gan mlynedd a mwy yn ol.)
Yn llyfr Daniel Jones ar Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr y cawn restr o ‘Enwogion’ y ddau blwyf gyda’r rhan fwyaf yn ffeiradon neu weinidogion. Ond, mae eraill a wnaeth gyfrainiad sylweddol mewn gwahanol feysydd.
Dafydd ap Gwilym
Dafydd ap Gwilym oedd un o feirdd mwyaf Cymru ac ar dudalen 259 o Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr mae Daniel Jones yn dangos yn glir gysylltiadau bardd mawr y 14eg ganrif gyda’r ardal ac yn enwedig Fferm Y Cryngae yn ymyl Drefach. Dyma rhai dyfyniadau o’r llyfr:
“Rhwng 1300 a 1368 y blodeuodd efe… Mam Dafydd ap Gwilym oedd Ardudful ferch Gwilym Fychan o’r Cryngae yn Emlyn… Yma y cyfarfyddodd a’i ewythr Llywelyn Fychan o’r Cryngae, pan welodd ef ei nai ieueng prydferth a thalentog, toddodd ei galon tuag ato, a chymerodd ef yn ol gydag ef i’r Cryngae a’r Ddolgoch ar lannau Teifi a Bargod ac yma y bu byw hyd farwolaeth Llywelyn… Mae amryw ardaloedd wedi ceisio honni eu hawl ynddo, ond os priodol i unrhyw gymdogaeth yng Nghymru ei hawlio yn fwy na’r llall, diamheu taw i’r plwyf hyn y perthyn hynny, ac os byth y codir colofn i’w goffadwriaeth, ar lan Bargod yn ddiamheu y mae ei lle.”
Elizabeth Jones, Panteg, Drefelin.
Ganwyd hi ym Mhanteg, Drefelin yn 1832. Cafodd hi a’i chwaer Hannah eu penodi’n nyrsis yn Ysbyty Sant Bertholomew, Llundain a phan y digwyddodd i Dywysog Cymru gael ei gymeryd yn glaf fe gawso nhw fynd i weini arno. Yn ol Y Times Miss Elizabeth Jones a Mrs Thomas, y ddwy Gymraes oedd yr unig nyrsis a gawsai fynd i ystafell y Tywysog. Fe enillodd Elizabeth serch ac edmygedd y teulu a bu hithau’n treulio gweddill ei hoes yn gweini gyda’r Tywysog a’i deulu.
Bu farw ar Mai 31ain 1881 a Thywysoges Cymru ei hun yn gweini arni. Ar ei bedd yn Cemetry Brompton gosododd y Dywysoges gofadail hardd ac arni
“In memory of ELIZABETH JONES, who died May 31st 1881. For 14 years she was a faithful servant and friend of Alexandria, Princess of Wales, by whom this monument is erected.”
• Teg nodi a all rhywun dystio fod y gofgolofn i Elizabeth Jones i’w gweld yn Cemetry Brompton o hyd? (PHG)
Brawd i’r ddwy chwaer oedd John Harries Jones (Ioan Geler oedd ei enw barddol). Dringodd i uchelfannau y byd busnes yn Llundain pan yn ifanc iawn. Yr oedd hefyd yn fardd rhagorol, ond fe aeth y casgiad o’i waith ar goll. Roedd e’n gynghaneddwr a dyma enghraifft o un englyn o gyfres
‘Cyn hir, yn asur Rwsia – a lluoedd
Gorllewin Ewropa,
Ffrainc, a Lloegr a ga
Yn llawen gydchwedleua.’
Bu farw o’r darfodedigaeth yng Nghastell Newydd Emlyn ar Fehefin 28ain 1851 yn 26 oed. Claddwyd ef ym mynwent Llangeler. Nodir ei fedd a chof-addurn syml o lun croes ar ochr ddwyreiniol i’r eglwys gerllaw y gamfa.
Y Parch. John Harries Jones. 1827 – 1885.
Mae cofgolofn iddo tu allan i Gapel Closygraig, Drefelin.
Roedd e’n fab i John ac Elizabeth Jones, Penbanc ger Closygraig ac wedi ei godi yn y capel.
Cymaint oedd mawredd y pregethwr hwn fel y cyhoeddwyd "Cofiant Y Parch J.Harries Jones, M.A., Ph,D." gan neb llai na Edward Matthews a J. Cynddylan Jones yn 1886, blwyddyn ar ol ei farw. Mae copi o’r llyfr yn fy eiddo i (PHG), a byddaf yn ei gyflwyno i gasgliad Stori Fawr Dre-fach Felindre yn yr Amgueddfa Wlan Genedlaethol yn Nre-fach, Felindre.
Mae iddo hanes tra diddorol, ac yn berson galluog iawn. Enillodd Fedal Aur Prifysgol Glasgow wrth dderbyn ei M.A., am ei wybodaeth fanylaf o’r iaith Roeg. Ar ol bod yn yr Almaen a Prwsia ac ennill ei Ph.D., dychwelodd i Gymru. Etholwyd ef yn Athro Clasuron Coleg Trefeca yn 1865. Bu farw yn 58 oed ac fe’i claddwyd o flaen Capel Closygraig a chodwyd cof golofn hardd iddo yno. (Mae ei gofiant yn dystiolaeth fanwl o hanes bywyd un o fawrion yr ardal – PHG)
Griffith Jones (Llanddowror) 1683 – 1761
Diwygiwr crefyddol ac addysgwr ac yn enwog am sefydlu’r Ysgolion Cylchynnol gan ddysgu gwerin Cymru i ddarllen mewn cyfnod tywyll iawn yn addysgol.
Ganwyd ym Mhant-yr-Efail, Plwyf Penboyr. Bu yn ysgol y pentref ac yna aeth i fugeilio defaid. Penderfynodd fynd yn glerigwr a chafodd ei ordeinio.
Mae hanes Griffith Jones yn sefydlu ‘Ysgolion Griffith Jones’ ar hyd a lled y wlad yn un o ryfeddodau Cymru. Dysgodd genedl gyfan i ddarllen – trwy ddarllen y Beibl Cymraeg. Teg dweud ei fod ef wedi bod yn gyfrifol, yn ei gyfnod, am achub yr iaith Gymraeg. Mae llawer wedi ei ysgrifennu amdano ac fe gaiff ei gofio fel gwr tra phwysig yn hanes ein cenedl.
Ceir mwy o fanylion am Y Parch Griffith Jones gan ddisgyblion Ysgol Penboyr.
Griffith Jones, Llanddowror gan Geraint H Jenkins- Gwasg Gomer 1983.
Seiri Cenedl, Gwynfoir Evans Tudalen 153, Gwasg Gomer 1986.
John Lewis (Gomer Lewis 1844 – 1914)
Ceir mwy o fanylion ar ein tudalen Y Parchedig JOHN GOMER LEWIS gan Peter Hughes Griffiths (Medi 2021).
Ceir manylion llawn amdano ar dudalen 521 o ‘Y Bywgraffiaduir Cymreig Hyd 1940’ a gyhoeddwyd yn 1953.
Gweinidog gyda’r Bedyddwyr ac areithydd enwog. Ganwyd ym Mhensarn, Drefach. Yn 1878 ymsefydlodd yn Abertawe ac ar ol agor Capel Gomer yn Abertawe yn 1891 ychwanegodd yr enw ‘Gomer’ at ei enw ei hun. Bu’n enwog fel darlithydd a’I huodledd a’I ffraethineb a’I feistrolaeth o gynulleidfa. Daeth yn Llywydd Bedyddwyr Cymru. Bu farw yn Brondeg, Cwmhiraeth, Felindre ar 11eg Gorffennaf 1914. Claddwyd ym mynwent Capel Saron, Llangeler. Hon oedd yr angladd fwyaf a welodd y plwyf erioed. Llogwyd dau dren o Abertawe i orsaf Henllan i gludo’r galarwyr.
Llun o’r cynhebrwng o’r llyfr ‘Canrif o Luniau’ Cyhoeddwyd ym Mehefin 2000. (Cliciwch i'w wneud yn fwy).
Peter Hughes Griffiths 2017
