Nyrs Elizabeth Jones, Panteg, Drefelin
Ganwyd Elizabeth Jones yn ferch i Dafydd a Mary Harries Jones, Panteg, Drefelin yn 1832. Roedd hi yn chwaer i John Harries Jones –“Ioan Celer.” (Mae’r hanes am Ioan Celer ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’ o dan y pennawd ‘Beirdd ac Awduron Lleol’.)
Fe ddaeth Elizabeth Jones yn nyrs enwog a fu’n gofalu am Dywysog Cymru ac yn ffrind agos i’r Dywysoges Alexandra. Y rhain a gafodd eu urddo yn nes ymlaen yn Frenin a Brenhines -sef Edward VII ac Alexandra.
Cafodd hi a’i chwaer Hannah eu penodi’n nyrsis yn Ysbyty Sant Bartholomew, Llundain pan gymerwyd Tywysoges Cymru yn glaf o Rheumatic Fever ac fe gawson nhw weini arno. Rhai blynyddoedd wedyn bu i Dywysog Cymru bron a marw o Typhoid Fever. Mewn sawl ffordd roedd hwn yn haint tebyg i Covid mewn blynyddoedd diweddar- yn hynod o heintus, ac yn peri marwolaeth canran uchol o ddioddefwyr. Yn ôl y papur y Times, Miss Elizabeth Jones a Mrs Hannah Thomas oedd yr unig nyrsis a gawsai fynd i ystafell y Tywysog. Fe enillodd Elizabeth serch ac edmygedd y teulu ac fe dreuliodd hithau weddill ei hoes yn gweini gyda’r Tywysog a’r Dywysoges a’u teulu.
Bu Elizabeth Jones farw ar Fai 31ain 1881 yn 48 oed gyda Thywysoges Cymru yn gweini arni. Ar ei bedd yn Cemetry Brompton Llundain gosododd y Dywysoges gofadail hardd ar ei bedd ac arni’r geiriau -
“In Memory of Elizabeth Jones who died May 31st 1881. For 14 years she was a faithful servant and friend of Alexandra Princess of Wales, by whom this monument is erected.” (Wele llun o’r garreg fedd).
Mae’r cerdyn angladdol wedi bod ym meddiant y teulu ers hynny, ac yn awr gan Mr Wil Thomas. Gellir gysylltu gyda fe, pe dymunir drwy yr e bost canlynol: jklwms42@gmail.com
Cyflwynodd Wil Thomas rhagor o wybodaeth am Elizabeth Jones a’i chwaer Hannah Thomas a’i brawd Ioan Celer ynghyd a’r lluniau perthnasol isod:
Mae Cyfrifiad 1881 ar gyfer St Martins in the Field yn Llundain yn nodi bod Elizabeth Jones yn byw gyda’r teulu yn Marlborough House, Pal Mal, Llundain. Hwn oedd tŷ Tywysog Cymru yr adeg honno.
Priododd ei chwaer Hannah weinidog yr efengyl o’r enw y Parch Evan Thomas a byw yn Ealing, gogledd Llundain mewn tŷ a enwid yn Pant-teg. Fe gawson nhw ferch o’r enw Hannah a mab o’r enw William Henry Thomas a oedd yn llawfeddyg. Bu farw Mrs Hannah Thomas ar 27ain Tachwedd 1903.
Cliciwch ar y lluniau i'w gwneud yn fwy.







