TEULU’R LEWISIAID a'r Diwydiant Gwlân
Sgwrs gan Peter Hughes Griffiths – Dydd Agored Gwefan ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’
(I gofio am gyfraniad y diweddar Olive Campden) yn yr Amgueddfa Wlan Genedlaethol 29 Mehefin 2024)
Heb os, Teulu’r Lewisiaid oedd y mwyaf dylanwadol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif yn natblygiad y diwydiant gwlân yn ardal Drefach Felindre.
Yn y sgwrs hon fe soniaf yn fras am y teulu a changhennau’r teulu a’r holl ffatrïoedd yn eu perchnogaeth – gan roi sylw arbennig i dri ohonyn nhw sef John Lewis, Meiros Hall, Johnny Lewis Cambrian a’r Parch John ‘Gomer’ Lewis, Abertawe.
Dowch gyda fi’n gyntaf – nol i bentref bach Cwmhiraeth achos yno mewn lle o’r enw PANTGLAS roedd TEULU’R LEWISIAID yn byw - a’r teulu hwn a’u ddisgynyddion fu’n arweinwyr ac yn entroperneriaid y diwydiant gwlân yn lleol a thu hwnt.
DAVID LEWIS - JOHN LEWIS - a DANIEL LEWIS - i gyd yn bobl fawr yng Nghapel Y Bedyddwyr Drefach.
Fe ddechreuwn ni gyda JOHN LEWIS a’i wraig ELIZABETH. Fe symudon nhw o BENSARN i fyw i LWYNBEDW sydd ar y ffordd o bentref Felindre i Gwmpengraig. Diacon gyda’r Bedyddwyr yn Drefach. Yn 1835 fe sefydlodd e ffatri yn Llwynbedw a cael y ‘billy’ cyntaf i’r ardal yn lle’r ‘jac’ (120 yn lle 40!) ac yn troi ar ddŵr. Adeiladodd ei ferch a’i fab yng nghyfraith FFATRI PANTYBARCUD. Priododd ELINOR eu plentyn hynaf gyda SAMUEL WILLIAMS ac adeiladu FFATRI’R DYFFRYN yn 1871. Heb os arloeswyr blaenllaw yn y diwydiant - a’r ffatri gyntaf i gynhyrchu’r defnydd o’r dechrau i’r diwedd yn un broses. Adeiladodd DWY OLWYN DDŴR gyda dwr un olwyn yn syrthio i droi olwyn arall o dani a creu dwy waith gymaint o bŵer. Dyma’r cyfnod yr adeiladwyd y tŷ mawr braf LLYSDERI yn ymyl. (Cofiaf yn dda am y ffos ddŵr a redai ar ochr y ffordd o lyn Llysderi, a hwnnw’n cael dwr o lyn dwr a Ffatri Dangribyn gyda’r ‘sliws’ yn cymryd y dwr o’r afon Esgair wrth tro Yr Ogof.)
Sefydlodd y teulu Siopau yn Middlesborough i werthu eu cynnyrch. Fe wnaeth ANN – merch Samuel ac Elinor Williams Ffatri’r Dyffryn briodi JOHN LEWIS (Meiros Hall wedyn). Roedden nhw yn gefnder a chyfnither.
SAMUEL DAVID LEWIS mab hynaf Meiros Hall fuodd wedyn yn rhedeg Ffatri’r Dyffryn a’i ferch ef briododd gyda SAMUEL WILLIAMS arall. Fe fuon nhw yn Middlesborough yn byw ac yn gwerthu deunydd Ffatri’r Dyffryn, ac yna dod nol i redeg y ffatri Ffatri’r Dyffryn. Ond bu farw Samuel Williams yn 35 oed a bu rhwyg fawr yn y teulu – pan wrthododd Lewisiaid Meiros Hall i weddw Samuel Williams (a mamgu Ken Howell) i redeg y Ffatri. Gorfod iddi hi a’i thri phlentyn - Sam Williams (Gwastod Penboyr wedyn), Eleanor (mam Ken Howell) a Jonnie Davies Williams (Jonnie Penlanfawr wedyn) fynd i fyw i Benlan fawr.
Brawd arall PANTGLAS oedd DANIEL ac yn 1881 roedd ef yn rhedeg FFATRI BRONDEG, Cwmhiraeth.
DAVID LEWIS Pantglas adeiladodd Ffatri Cambrian yn 1910-12. Symudodd y peiriannau o Bantglas a chael peiriannau newydd modern i Cambria a dod i fyw i Llwyndrain yn ymyl. Roedd e’n briod a ANN ac fe gawson nhw dri o blant sef JOHN (Johnny Lewis Cambrian wedyn), Tom a aeth i fyw i’r Bermo a Gwilym (Ffatri Derw Mills Pentrecwrt). Fe gymrodd Johnny Ffatri Cambria oddi wrth ei dad a’i rhedeg tan 1951. Cyflogai dros 50 o weithwyr. Brawd ei dad oedd John Lewis Meiros Hall ac felly yn ewythr i Johnny Lewis Cambria.
Fel y gwelwch eisoes roedd gan y LEWISIAID rwydwaith o ffatrïoedd yn yr ardal a dyma ganolbwyntio yn awr ar un ohonyn nhw sef JOHN LEWIS MEIROS HALL.
Yr Henadur JOHN LEWIS, Meiros Hall 1851 – 1943
Adeiladwyd FFATRI MEIROS yn y 1890’au. Distrywiwyd gan dan yn 1920 ac fe’i hail adeiladwyd mewn briciau coch. Fe wnaeth gau yn y 1940’au. Un o arweinwyr blaenllaw cyfnod ‘oes aur’ y diwydiant gwlân yn ardal Drefach Felindre oedd JOHN LEWIS, MEIROS Hall. Fe adeiladodd FFATRI’R MEIROS.
Daeth yn Gynghorydd Sir Gaerfyrddin dros yr ardal pan sefydlwyd y Cyngor Sir ac yn Henadur yn 1892. Yna yn Ynad Heddwch erbyn 1910 a derbyn y CBE yn 1918.
Roedd Ann ei wraig yn ferch i Samuel ac Elinor Williams Ffatri’r Dyffryn a Llysderi. (Ann yn wyres felly i John Lewis Llwynbedw ac yn gyfnither i’w gwr.) Bu John Lewis Meiros Hall yn ddiacon yng Nghapel y Bedyddwyr Drefach am dros 70 mlynedd. Rhyddfrydwr brwd a chefnogwr a ffrind i Lloyd George. Mae Robin Exton ei or-wyr yn cofio’r teulu yn son amdano yn mynd i’r Cyngor Sir yng Nghaerfyrddin mewn trap a phoni y diwrnod cynt. Yna, aros yn y Llwyn Iorwg am ddwy noson a dychwelyd adref y diwrnod ar ôl y Cyngor.
Daliodd nifer o swyddi blaenllaw yn ystod ei yrfa. Roedd e’n un o Lywodraethwyr Ysgol Ramadeg Llandysul pan y cafodd ei sefydlu yn 1895, a bu’n gadeirydd y Corff Llywodraethol. Mae ei lun ar dudalen 124 y llyfr Canmlwyddiant Addysg Uwchradd Llandysul gan Arwyn Pearce ac mae ‘John y Gwas’ yn rhoi teyrnged iddo ar dudalen 138 o’r un llyfr pan fu farw John Lewis Meiros yn 1943.
Dros yr 20 mlynedd rhwng 1882 a 1902 fe anwyd 10 o blant i John ac Ann Lewis Meiros Hall and bu farw 4 pan yn fabanod.
Dyma’r plant
Samuel David Lewis – rhedeg Ffatri’r Dyffryn
Albert Williams Lewis – rhedeg Ffatri Wlan yn Llandudoch
Eiffel Sydney Lewis – wedi ei enwi ar ôl y Twr Eiffel ym Mharis – rhedeg Ffatri Meiros gyda’i dad.
Georgina May Lewis – mam John Meiros Exton a mamgu Robin Exton.
Helen Lewis – priodi a byw yn ardal Lerpwl. Helen MacDonald, PenyBedw.
Lilian Beatrice Lewis – Cafodd yr OBE yn 1987 – Prif Berson y Groes Goch yn Sir Gaerfyrddin.
JOHN (Johnny) LEWIS, Cambrian
Priododd EIFFEL LEWIS (mab John ac Ann Lewis Meiros Hall) gyda AMELIA DAVIES a mynd i fyw yn Y GARTH yng nghanol pentref Felindre.
Priododd JOHNNY LEWIS gyda ESTHER (HETTY) chwaer i Amelia a mynd i fyw i TREWERN gyferbyn a’r Red Lion.
Fe wnaeth Eiffel Lewis ac Amelia wahanu ac fe aeth ei mab TOM (enwog fel Tom Y Garth) i fyw at ei wncwl a’i fodryb JOHNNY a HETTY i Trewern.
Cafodd TOM Y GARTH ei ladd yn ŵr ifanc mewn damwain awyren adeg yr ail ryfel byd yng Nghaerefrog (Yorkshire). Claddwyd TOM Y GARTH, AMELIA ei fam a HETTY ei chwaer a JOHNNY LEWIS yn yr un bedd ym mynwent Drefach.
Bu JOHNNY LEWIS yn ddiacon parchus gyda’r Bedyddwyr yn Nrefach. Prynodd FFATRI CAMBRIAN oddi ar ei dad DAVID LEWIS (Pantglas gynt a Llwynbrain wedyn). David Lewis gododd Ffatri Cambrian yn 1910-12. Rhedodd Johnny Lewis hi tan 1951. Dyma’r Amgueddfa Wlan Genedlaethol yn awr.
Aeth JOHNNY i fyw i’r Garth wedyn. Bu farw Hetty ei wraig yn 1949. Ail briododd Johnny gyda Rachel o Gaerdydd a bu farw yn 1954.
Sonnir amdano fel cyflogwr caled ond rhoddodd waith i dros 80 yn ei ffatri. Ond, bu cyfraniad JOHNNY LEWIS yn un pellgyrhaeddol i ardal Drefach Felindre gan rannu ei gyfoeth i wneud hynny. Fe brynodd a rhoddi’r tir ar gyfer MYNWENT CAPEL Y BEDYDDWYR DREFACH a’i hagor yn 1929.
Yn 1954 fe brynodd PARC PUW gan ddraenio’r cae a gosod wyneb newydd arno ar gyfer tim pel droed BARGOD RANGERS. Yn dilyn dwy rodd ariannol hael iawn ganddo agorwyd NEUADD Y DDRAIG GOCH newydd yn 1964 gan ei weddw Rachel Lewis. Rhaid cofio mae haelioni JOHNNY LEWIS sy’n gyfrifol am dri sefydliad gwerthfawr iawn yn ardal Drefach Felindre.
Y Parchedig JOHN ‘GOMER’ LEWIS 1844 – 1914
Yn ôl y cylchgrawn Christian Age roedd Gomer Lewis mor boblogaidd roedd ei enw yn adnabyddus i bob cartref yng Nghymru.
Do, fe ddaeth e yn enwog trwy Gymru fel pregethwr huawdl a darlithydd poblogaidd. Pan fu farw gwelwyd un o’r angladdau mwyaf a welodd Cymru yn Nrefach Felindre.
Ganwyd JOHN LEWIS ym Mhensarn, Drefach yn 1844 yn fab i JOHN ac ELISABETH LEWIS, a’i dad yn un o feibion Pantglas Cwmhiraeth. Pan oedd John yn bedair oed fe symudon nhw i LWYNBEDW a sefydlu ffatri wlân yno, ac yna Ffatri’r Dyffryn gyda Elinor y ferch a Samuel Williams ei gwr.
Fe gafodd addysg yn y Capel Bach ac Ysgol Ramadeg Castellnewydd Emlyn. Yna, yn ifanc iawn fe ddechreuodd bregethu yng Nghapel Y Bedyddwyr Drefach.
Yn 1867 cafodd John ‘Gomer’ Lewis ei ordeinio yn Salem Bedyddwyr Maesteg, Aeth y capel yn rhy fach yn fuan ac adeiladwyd capel newydd i ddal mil o bobl. Roedd torfeydd yn dod i wrando arno a bedyddiodd dros 450.
Ar ôl 11 mlynedd symudodd i Abertawe i’r Belle View gyda dim ond 44 o aelodau. Fe aeth y capel hwn yn rhy fach eto ac fe adeiladwyd capel newydd a’i enwi yn ‘Capel Gomer’ ar ôl Joseff Harris golygydd ‘Seren Gomer’. Dyma pryd y mabwysiadodd John Lewis ei enw newydd - GOMER LEWIS.
YN 1893 fe aeth Gomer Lewis i FFAIR Y BYD yn Chicago, America ac fe ddaeth yn enwog trwy Gymru am ei ddarlith fawr ‘Ffair y Byd’. Dywedir iddo ei thraddodi mwy na 500 o weithiau. (Mae Daniel Jones yn ei lyfr ‘Hanes Plwyfi Penboyr a Llangeler (1898)’ yn dweud ‘dros 300 o weithiau’ pan yn son am Gomer Lewis.
Bu farw yng nghartref ei chwaer (merch John ac Elisabeth Lewis Llwynbedw) ar 11eg Gorffennaf 1914 yn FRONDEG Cwmhiraeth, a’i gladdu yn mynwent Capel Saron. Yn y fynwent mae cofeb uchel i’w gweld yn glir ac mae Teulu Lewisiaid Meiros Hall yn ymyl. Y Parch John Gomer Lewis (ei ewythr) briododd John ac Ann Lewis Meiros Hall yng Nghapel Drefach.
Daeth miloedd ynghyd i’r angladd a’r gwasanaeth yng Nghapel Drefach. Llogwyd dau drên o Abertawe i Orsaf Henllan. Mae’r lluniau yn dangos yr hers a’r ceffylau a’r galarwyr.
Tybed sut gafodd y cannoedd hyn eu bwydo ar y dydd?
Heb os roedd GOMER LEWIS yn un o fawrion y genedl yn ei gyfnod.
Mewn crynodeb byr fel hyn hawdd deall sut y bu cyfraniad TEULU’R LEWISIAID mor fawr yn ardal Drefach Felindre trwy ‘oes aur’ y diwydiant gwlân.
Peter Hughes Griffiths Mehefin 2024