VERNON a GWYNFOR a’u cyfeilydd NESTA
(Casglwyd gan Peter Hughes Griffiths – Haf 2020)
Mae’r llun hwn o’r ddeuawd boblogaidd Vernon (chwith) a Gwynfor (dde) gyda’u cyfeilydd Nesta ar dudalen 108 o’r llyfr ’Canrif o Luniau Plwyf Llangeler’ a gyhoeddwyd ym Mehefin 2000 fel rhan o ddathliadau’r Mileniwm newydd.
O’r 70’au ymlaen, yn y ganrif ddiwethaf, fe ddaeth y ddeuawd Vernon Maher a Gwynfor Thomas a’u cyfeilydd Nesta Jones yn boblogaidd ac yn enwog iawn trwy Gymru gyfan a thu hwnt.
Dyma gyfnod pan y cafodd ardal Dre-fach Felindre sylw cenedlaethol o ganlyniad i ganu swynol y ddeuawd boblogaidd ‘Vernon a Gwynfor’ gyda Nesta yn cyfeilio iddyn nhw ar y piano.
Fe fuon nhw’n diddanu cynulleidfaoedd mewn neuaddau a chapeli ar hyd a lled y wlad gan gyhoeddi pump record rhwng 1978 a 1991, ynghyd a chan arbennig ar y record “Welcome” i groesawi’r Pab Ioan Paul II i Gymru yn 1982. Roedden nhw’n ymddangos ar y teledu’n gyson a’u caneuon yn cael eu chwarae ar raglenni Radio Cymru yn aml iawn.
Ar ôl rhoi’r gorau iddi fel deuawd, fe wnaeth Vernon barhau i ganu gan gyhoeddi pump record ar ei ben ei hun, ac mae ef wedi ymddangos sawl gwaith ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ar y ‘Gystadleuaeth Canu Emyn’.
Gan i Gwynfor Thomas farw yn 2018 a bod Nesta Jones erbyn hyn mewn oedran teg, er yn cadw’n dda, fe adroddir ac fe gofnodir stori ryfeddol o lwyddiannus ‘Vernon a Gwynfor’ gan Vernon yn ei eiriau ei hun gan gyfeirio hefyd at ei ddoniau personol yntau fel unawdydd.
Ond, cyn hynny gadewch i ni ddod i wybod mwy am y ddau berson allweddol arall - Gwynfor Thomas a Nesta Jones.
GWYNFOR THOMAS
(Gyda diolch i’r teulu am y wybodaeth amdano.)
Ganwyd Gwynfor Thomas ar Ebrill 2il, 1934 mewn lle o’r enw Pantshoni, Penybont ger Trelech yn Sir Gaerfyrddin ac yntau yr ieuengaf o bump o blant – dau frawd a dwy chwaer.
Enw ei dad oedd Theophulus Thomas, a’i fam Elizabeth Thomas. Pan oedd Gwynfor ond dwy flwydd a hanner oed bu farw ei dad ac yntau ond yn naw ar hugain oed, gan adael ei fam i fagu pump o blant yn y tyddyn bach. Deuai ei dad o deulu Glyngarthen, ac er yn ifanc roedd eisoes yn Arweinydd y Gan a Chodwr Canu yng Nghapel Penybont. O bentref Cwmhiraeth (Dre-fach Felindre) oedd ei fam, a hithau hefyd yn meddu ar lais soprano neilltuol ac yn aelod o sawl cor.
Dysgwyd Gwynfor i adrodd a chanu pan oedd ond yn rhyw saith oed gan Mr Ben Phillips, Fronllan. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, tra roedd Y Parchedig A J Jones yn Ficer ar Drelech-a’r-Betws byddai yn fynych yn galw ym Mhantshoni ac yn ei annog i ganu ac i ymuno gydag ef i ganu emynau, deuawdau a chaneuon poblogaidd y cyfnod. Roedd y Parchedig yn mynychu eisteddfodau gyda Mr Tom Lewis, Ceinfan, gan ennill yn rheolaidd. Mae’n debyg iddynt un tro deithio i Ogledd Cymru i gystadlu gan ganu ‘Y Ddau Wladgarwr’. Cystal oedd y canu fel y bu iddynt yn wir dderbyn ‘encore’ – peth anarferol iawn mewn eisteddfod!
Ymunodd Gwynfor a Chor Cymysg Penybont tra yn ifanc o dan arweiniad Mr Tom Jones, Penrallt, Talog. Un o’r pethau a ddysgodd ganddo oedd bod geiriau yn holl bwysig.
Roedd Capel Penybont a phobl yr Ysgol Sul yn ddylanwad mawr iawn arno ac roedd ef bob amser mor ddiolchgar am bopeth a dderbyniodd ganddynt. Yn wir, yn yr Ysgol Sul y dysgodd ddarllen gyda Anna Scourfield, a hynny cyn dyddiau ysgol.
Byddai yn teithio o gwmpas yr eisteddfodau lleol yn cystadlu gan fod yn llwyddiannus hefyd, ac un tro yn Eisteddfod Foelcwan, o dan glust y beirniad a’r gyn gantores Decima Morgan Lewis, ac yntau yn ei arddegau cynnar yn canu ‘Bugail Aberdyfi,’ fe dorrodd ei lais, ac yn ei sylwadau fe ddywedodd hithau “Druan fach, o glywed llais fel na fyddai’r eneth (yn y gan) fyth yn dod nol!” Ond, fe ddaliodd ati i ganu a chystadlu.
Roedd Gwynfor yn hoff iawn o fabolgampau pan yn ifanc gan gystadlu mewn mabolgampau lleol a phellach. Fe aeth ar ei feic unwaith, bob cam o Benybont i Langoedmor ger Aberteifi i gystadlu ar redeg a’r naid gyda’r polyn, ac ennill a beicio’r holl ffordd adref wedyn.
Yn blentyn fe fynychodd Ysgol Gynradd Penybont cyn mynd wedyn i Ysgol Ramadeg y Bechgyn yng Nghaerfyrddin. Ymunodd a’r awyrlu i wneud ei National Service yn 1952 a bu yno tan 1954 gan fynd y flwyddyn honno yn fyfyriwr i Goleg y Brifysgol Aberystwyth i astudio Cemeg, Ffiseg a Mathemateg. Oherwydd ei hoffter o gymnasteg derbyniodd ‘liwiau’r Brifysgol’ yn y gamp honno.
Graddiodd gyda Gradd BSc yn 1958 a phriodi yng Ngorffennaf y flwyddyn honno yn Eglwys Sant Barnabas, Felindre gyda Gloria Thomas merch Alfred a Margaretta Thomas, Y Glyn, Felindre. Buont yn byw yn Aberystwyth o 1958 tan 1959 tra roedd Gwynfor yn dilyn ‘Cwrs Ymarfer Dysgu’ yn y Brifysgol. Yna, symud nol i fyw i’r Glyn, Felindre yn 1959 a derbyn swydd fel Athro Gwyddoniaeth yn yr Ysgol Uwchradd yng Nghastell Newydd Emlyn.
Dysgodd yn yr ysgol honno ar hyd ei oes ac ymddeol yn 1992 ac yntau erbyn hynny yn Ddirprwy Bennaeth yr ysgol.
Fe gafodd Gwynfor a Gloria ddwy o ferched, ac mae Alyson Evans yn byw yn 25, Heol Arennig, Y Bala, Gwynedd, ac wedi ymddeol bellach fel Cyn Bennaeth Ysgol Beuno Sant, Y Bala.
Mae Mererid Thomas yn byw yn Llanddewi Brefi, Ceredigion, hithau wedi ymddeol o fod yn Nyrs Gymunedol.
Yn 1997 symudodd Gwynfor a Gloria i fyw i Coedperthi, Rhos, Llangeler, i fwynhau cyfeillach y gymdogaeth honno.
Roedd Gwynfor yn berson diymhongar ond yn weithgar dros ben, ac fe gyfrannodd yn helaeth i’r ‘pethe gore’ mewn bywyd. Yn ogystal a’i ymrwymiad i’w swydd fel athro roedd Gwynfor yn aelod ffyddlon yng Nghapel yr Annibynwyr Soar Penboyr, Cwmpengraig, lle y bu’n ysgrifennydd am nifer o flynyddoedd ac wrth ei fodd yno fel athro Ysgol Sul.
Bu yn aelod o Gwmni Drama Mr Beynon ym mhentref Beulah ger Castell Newydd Emlyn gan fwynhau’r cyfle i actio ar wahanol lwyfannau. Arweiniodd hyn at iddo gynhyrchu a hyfforddi llawer o ddramâu gyda’r Ffermwyr Ifainc yn ogystal a phartïon llefaru Merched y Wawr. Bu ei gyfraniad yn un helaeth a gwerthfawr.
Un o’i brif ddiddordebau oedd ‘hen bethau’ a byddai wrth ei fodd yn cynnal nosweithiau ar gyfer sefydliadau a mudiadau, capeli ac elusennau.
Yn fwy na dim roedd Gwynfor yn hoff o gwmni pobl ac yn mwynhau ‘tynnu coes’ ac adrodd storïau a dweud ambell jôc.
Roedd e’n berson egwyddorol dros ben gyda daliadau pendant.
Ymddiddorai mewn canu ar hyd ei oes ac fe ddechreuodd ei gyfnod toreithiog wrth iddo yntau a Vernon gael y cyfle i ganu y rhan-gan yn y darn prawf “Hosanna” gyda Chor Bargod Teifi a sefydlwyd ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1974.
(Fe geir hanes dechreuad y ddeuawd honno yn fanwl gan Vernon yn nes ymlaen.)
Bydd llais melodaidd a swynol Gwynfor a’r asiad hyfryd gyda Vernon bellach ar gof a chadw am byth.
Nesta Mary Jones (Walters)
(Gyda diolch i Gareth a Bethan y plant am y wybodaeth am Nesta)
Ganwyd Nesta Mary Walters yn 1925 yn ferch i David ac Emily Walters yn Rose Villa, Waungilwen, gerllaw Drefach-Felindre. Hi oedd yr ail o dri o blant, gyda brawd hyn Leslie, a chwaer ifancach Petra. Fe’i magwyd ar aelwyd lle'r oedd cerddoriaeth yn chwarae rhan annatod ym mywyd y teulu, gyda’i thad yn rhoi gwersi canu ac yn trefnu côr ieuenctid, a’i mam yn athrawes ysgol gynradd, ac yn organydd yng nghapel Bethel, Drefach. Yn anffodus, bu farw Emily o tuberculosis yn 1929 yn 36 oed, gan adael tri phlentyn, a’r hynaf ddim ond yn saith oed.
Cafodd Nesta wersi piano gan Miss Davies, Pensarn, (Mrs Magi Griffiths, Dolwerdd wedyn) gan gymryd ei arholiadau i Radd 8. Nodwyd gan un arolygydd ei bod yn athrylith ond dan anfantais oherwydd ei dwylo bychain. Pan oedd yn wyth oed, torrodd ei bawd chwith ar botel wydr, ac mae’n cofio i’r meddyg wnïo’r clwyf gan roi pwythau i roi’r bawd nol yn ei le ond heb ddefnyddio unrhyw fath o anaesthetig. Cynigodd y meddyg teulu ail osod y bawd ond gwrthododd Nesta; roedd y poen y tro cyntaf yn fwy na digon! Am gyfnod, fe’i cafodd yn anodd ymestyn ei llaw chwith er mwyn chwarae octef llawn, ond drwy ddyfalbarhau, fe lwyddodd i wneud. Yn rhyfedd, pan oedd yn ei 80au, llwyddodd i chwarae mewn gwasanaeth coffa gyda sblint ar ei llaw, y tro hwn ar ôl syrthio ychydig ddyddiau ynghynt.
Tra’n ddisgybl ifanc yn Ysgol Ramadeg Llandysul, daeth yn gyfeilydd i gôr yr ysgol, dan oruchwyliaeth yr Athro Edward “Ted” Morgan. Byddai’n chwarae yn yr oedfeuon boreol gyda rhywfaint o “swing” wrth i’r disgyblion ymdeithio’n ffurfiol i’r oedfaon, rhywbeth a fyddai’n rhoi gwen a’r wyneb y Prifathro. Byddai’n cyfeilio i’r côr mewn eisteddfodau, cyngherddau a gwasanaethau ysgol, ac yn y gwersi dawnsio, dan oruchwyliaeth Miss Owen. Cymaint oedd y galw arni fel y byddai’n aml yn cael ei hesgusodi o’i gwersi eraill.
Anogodd yr Athro Morgan hi i ddysgu chwarae’r organ, a chafodd wersi ganddo yng Nghapel Seion, Llandysul, yna, te prynhawn gyda Mrs Morgan yn eu cartref. Daeth yn un o organyddion selog Capel Bethel, Drefach pan yn 16 oed, gan roi 77 mlynedd o wasanaeth yno tan iddi ymddeol yn 93 oed. Yn ogystal â’r gwasanaethau ar y Sul, chwaraeodd mewn priodasau ac angladdau di-rif, ac mewn Cymanfaoedd Canu mewn amryw o gapeli yn yr ardal.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd nifer sylweddol o filwyr o Brydain, yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill wedi’u lleoli yn yr ardal. Byddai’n chwarae caneuon poblogaidd y dydd yng nghaffis y pentref er mwyn diddanu’r milwyr. Gofynnodd perchnogion un caffi lleol, Mr a Mrs Ball, ‘Yr Hall’ i dad Nesta am ganiatâd iddi chwarae yno’n rheolaidd gan y byddai’n denu cwsmeriaid. Roedd ei thad yn ddyn crefyddol a gwrthododd y cais gan nodi ei bod hi’n organydd yn y capel, ond yn ddiarwybod iddo, parhaodd Nesta i chwarae gan ei bod yn mwynhau gwneud. Nid oedd angen taflenni cerddoriaeth arni gan ei bod wedi dysgu caneuon gan Vera Lynn, Anne Shelton ac eraill ar ôl eu clywed ar y radio. Bu hefyd yn cyfeilio i Marcelle, merch Mr a Mrs Ball, wrth iddi gynnal cyngherddau ballet yn lleol. Yn gyd-ddigwyddiadol, bu i Marcelle (Ling wedyn) a Nesta briodi ar yr un diwrnod ym mis Mehefin 1947.
Pan oedd yn ei harddegau, sefydlodd ei thad gôr o ferched ifanc dan yr enw “Merched y Glannau”, gyda’r bwriad o berfformio cyngherddau ac operetas. Byddai hi’n canu alto a’i chwaer Petra yn canu soprano yn y côr, a byddai’n cyfeilio yn ôl y gofyn yn yr ymarferion yn ei chartref. Hefyd yn ystod y cyfnod hwn, a hithau yn ei harddegau hwyr, daeth yn gyfeilydd i Wythawd Dynion dan arweiniad Albert Evans. Cynhaliwyd cyngherddau ar nosweithiau Gwener ar hyd a lled yr ardal. Bryd hynny, gweithiai yng ngorsaf drên Castellnewydd Emlyn, a byddai’n cael ei chasglu o’i gwaith er mwyn cyrraedd y lleoliadau mewn pryd. Mae gan Nesta atgofion annwyl o’r cymeriadau yn yr wythawd, a pharhaodd i gyfeilio iddynt tan iddi symud i Aberteifi yn 1947.
Ar ôl priodi gyda Llew Jones, Parcerrig, Drefach yn 1947, aeth Nesta a’i gwr Llew i fyw gerllaw Aberteifi, a bu Nesta yn un o’r organyddion yng Nghapel Bethania. Tra’n byw yn Aberteifi, daeth yn gyfeillgar gydag Eluned Young Jones, a oedd yn dod o deulu adnabyddus o Weinidogion y Bedyddwyr. Roedd Eluned yn gerddorol iawn ac yn athro canu. Byddai’r ddwy yn cynnal cyngherddau mewn amryw o leoliadau, gydag Eluned yn canu a Nesta yn cyfeilio. Byddai ansawdd y pianos yn amrywio o le i le, gydag ambell un wedi colli allweddi, ac eraill angen tiwnio, a gofynnai hyn am fyrfyfyrio creadigol ar ran Nesta! Symudodd hi a Llew yn ôl i Drefach yn 1950 pan ganwyd Gareth, eu mab.
Tua diwedd y 1960au, gwnaeth Vivian Jones, Wenallt, Waungilwen drefnu perfformiad yn Neuadd y Ddraig Goch o’r Cantata Ymgom yr Adar gan Joseph Parry, gyda Nesta yn cyfeilio. Cynhaliwyd perfformiad arall yn ysgol High Mead yn Llanybydder. Mae ei merch, Bethan, yn cofio cymryd rhan dau aderyn. Dyma gyfnod cyffrous i’r plant lleol wrth wisgo a newid dillad lliwgar a grewyd gan amryw o’r mamau.
Yn gynnar yn y 1970au, penderfynodd Iwan Guy, a oedd wedi symud i’r ardal i weithio ym Melin Cambrian, Drefach, ail-ddechrau côr lleol gyda’r bwriad o gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin 1974. Gofynnodd i Nesta gyfeilio i’r côr, gan gyfeirio ati’n aml fel “Dame Myra Hess”. Er na fu Cor Bargod Teifi yn llwyddiannus yn yr Eisteddfod, mwynhawyd y profiad, a pharhaodd y côr am dros bum mlynedd ar hugain.
Byddai dau denor bob amser yn sefyll gerllaw ei gilydd yn y côr, a sylweddolwyd fod eu lleisiau yn cymhlitho’n dda. Dyna oedd dechrau “Vernon a Gwynfor”, a dechrau perthynas hir a hapus, y ddau yn canu a Nesta’n cyfeilio. Byddent yn ymarfer yn nhŷ Gwynfor ar nos Wener, ac i ddilyn y sesiwn, te a chacenni wedi’u paratoi gan Gloria, gwraig Gwynfor. Nesta fyddai’n addasu’r gerddoriaeth a’r cyfeiliant er mwyn gwneud y gorau o leisiau’r ddau. Roedd “V&G” bob amser yn ystyried mai triawd oeddent, oherwydd byddent yn cynnwys Nesta ym mhopeth, gan ddweud yn aml na fyddent wedi dechrau oni bai am gymorth a mewnbwn Nesta. Daethant yn boblogaidd iawn mewn byr amser, drwy gynnal cyngherddau ledled Cymru, rhyddhau recordiau drwy Stiwdio Sain, a thrwy ymddangosiadau ar y teledu.
Roedd y bartneriaeth yn hanfodol i les Nesta pan fu farw ei gwr Llew yn 1983, a hithau ddim ond yn 58 oed. Roedd cyfeillgarwch Vernon a’i wraig Eleanor, a Gwynfor a Gloria yn bwysig iawn iddi yn y cyfnod anodd hwn. O fewn tair wythnos i farwolaeth ei gwr, roedd gan Nesta a’r bechgyn gyngerdd yn Aberystwyth. Nid oedd hi am siomi’r gynulleidfa, a gan ddangos ei hagwedd broffesiynol arferol, cynhaliwyd cyngerdd llwyddiannus, er mae’n siŵr y bu’r noson yn anodd iddi.
Urddwyd Nesta gyda gwisg werdd Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghastell-nedd yn 1994 mewn cydnabyddiaeth o’i chyfraniad i fywyd cerddorol yr ardal. Dewisodd yr enw barddol “Nesta Bargod”, oherwydd dyna yw enw’r nant sy’n llifo drwy Drefach-Felindre, lle threuliodd y mwyafrif llethol o’i bywyd. Roedd hyn yn achlysur hapus i’r teulu, yn enwedig i’w brawd Les, a oedd yn gefnogwr selog o’r Eisteddfod Genedlaethol.
Parhau wnaeth Nesta fel organydd ym Methel, Drefach, lle cafodd ei anrhydeddu wrth iddi ddathlu tri chwarter canrif, ac yna cinio maes o law mewn bwyty cyfagos pan wnaeth hi ymddeol ar ôl saith deg saith mlynedd o wasanaeth. Er i aelodaeth y capel leihau dros y blynyddoedd, byddent yn trefnu ei chludo i’r capel, yn enwedig os fyddai tywydd garw. Ac ni fyddai’r Nadolig wedi gwir gyrraedd tan iddi chwarae cyfres o garolau. Parhaodd fel organydd, hyd yn oed ar ôl iddi gael trawiad ar y galon yn 2010 pan oedd yn 85 oed. Yn y blynyddoedd diweddar, hi oedd yr unig organydd yn y capel, ac felly byddai’n mynychu’r oedfaon bob dydd Sul. Ond gyda marwolaeth ei chwaer Petra yn 2018, a hithau bellach yn 93 oed, penderfynodd ymddeol.
Ar hyn o bryd, mae hi’n 95 oed, ac yn dal i chwarae’n ddyddiol yn ei chartref. Yn aml, clywir y ddwy gyfres o “Welsh Airs” a threfnwyd ganddi pan yn ei harddegau yn swyno’r stryd. A phan fydd yn ymweld â’i merch Bethan a’i theulu yn Dorking, swydd Surrey, bydd ei chymdogion yno yn galw dros y ffens am ddetholiad cyflym. Mae’n dal i chwarae i safon uchel, ac yn feirniadol iawn o’i hun pan fydd y bawd a niweidiwyd yn ei phlentyndod yn taro ambell nodyn anghywir! Mae ei mab Gareth yn byw yn Ton-teg, ger Pontypridd.
Mae cyfraniad cerddorol Nesta i fywyd Drefach-Felindre a’r cylch yn un hir a sylweddol, er ei bod hi’n ddiymhongar wrth feddwl amdano. “Dw i wedi mwynhau pob munud ohono” yw ei sylw hi wrth edrych yn ôl dros y blynyddoedd. Ond yn ddi-os, gwnaeth cerddoriaeth gyfoethogi ei bywyd, fel y gwnaeth i fywydau'r rheini a’i clywodd hi’n chwarae.
VERNON MAHER
(Gan fod Vernon yn dal i ganu, fe wnes i ei wahodd i adrodd ei hanes fel unawdydd yn ogystal a bod yn rhan o’r ddeuawd ‘Vernon a Gwynfor,’ fel bod gyda ni y stori’n gyflawn am Vernon a Gwynfor a Nesta. Trwy wneud hynny, mae e wedi rhoi ar gof a chadw ddarlun byw iawn, yn ei eiriau naturiol ei hun, o gyfnod pwysig yn gerddorol mewn perthynas ag ardal Dre-fach Felindre.) (PHG)
Cefais fy ngeni yn Bodafon, Drefach ar y 12ed o Hydref 1943, (a Cilla, Parcerrig a dderbyniodd fi i’r byd!) Fi oedd yr ieuenga’ o dri, fy chwaer Annette a’m brawd Adrian. Arthur a Muriel Maher oedd fy nhad a’m mam. Pobydd oedd fy nhad a gwraig tŷ oedd fy mam.
Saif Bodafon drws nesaf i Ffatri Wlan Cambrian, (Amgueddfa Wlan Genedlaethol Cymru erbyn hyn), ac ar ben y lon a oedd yn arwain i Y Glyn lle roedd Dan Griffiths a’i wraig yn byw.
Rhedai ‘pownd’ o ddŵr o afon Bargod ar waelod perllan Bodafon, a dyma’r dwr a redai i droi rhod y ffatri wlân yn ymyl. Roedd y lle yn fwrlwm o brysurdeb yn y cyfnod hwnnw.
Cofiaf fynd i’r Ysgol Sul i Glosygraig gyda Tom Morgan, Dancapel yn ei gar Standard 8, ac un tro mewn ‘cwrdde mowr’ yn gwrando ar Tom Nefyn yn pregethu – y lle yn orlawn a finne yn gorfod eistedd ar y grisiau ar y llofft.
Pan oe’n i ychydig dros bum mlwydd oed, fe symudon ni fel teulu draw i fferm fach Pengallt yn Henllan, a saif uwchben yr Eglwys yno.
Yr adeg honno bydden i yn mynd i Ysgol Aberbanc, ac yno y dysgais y modulator, a sylwi fod gen i rhywfaint o lais canu. Bydden ni’n mynychu Capel y Drindod hefyd a chymryd rhan yn yr holl weithgareddau yno.
Ond, yr Eglwys yn Henllan oedd y dynfa fwyaf i fi, ac ar un adeg fe fyddwn yn mynd yno ac i’r capel bob Sul yn rheolaidd. Wedi symud fel teulu i Aberbanc wedyn am rai blynyddoedd deliais i gerdded i Eglwys Henllan o hyd.
Yn Ysgol Aberbanc cymerodd Miss May Jones, Tŷhwnt a Mr D Llewelyn Jenkins y prifathro ddiddordeb mawr mewn canu ag ati. Bum yn ffodus iawn i gael athrawon a gymerai ddiddordeb ynom fel plant, a rhoi pob cyfle i ni i ddangos ein doniau mewn adrodd, canu neu ddrama.
Ar ôl symud unwaith yn rhagor i fyw i Wenallt, Henllan, bu Mrs Lewis, Gelli, sef mam Mair, Margaret a Nansi (Hayes erbyn hyn), yn help mawr i ni’r plant i ddatblygu. Daliodd fy niddordeb mewn canu a chofiaf ateb y drws yn Wenallt un noson, a phwy oedd yno ond Tom Morgan, Dancapel, Drefach. Roedd e’n chwilio am rhywun i gymryd rhan ‘Eifion’ yn yr Opereta “Merch y Glannau,” gogyfer ag agoriad swyddogol y neuadd newydd ‘Neuadd y Ddraig Goch’ yn Felindre. (1966). Sut y gwyddai Tom fod gen i damaid o lais - ni wn! Derbyniais y gwahoddiad a mynd at Mrs JR Jones, Trecoed, Felindre i ddysgu’r rhan.
Bum yn ffodus unwaith yn rhagor, oherwydd cwrddais ag Eleanor Morgan o Waungilwen, a ddaeth yn wraig i mi.
Perfformiwyd “Merch y Glannau” bedair gwaith a chael hwyl arbennig. Ond, fe ddaeth siom fawr i bawb pan fu farw Tom Morgan ac fe ddaeth y cyfan i ben.
Roeddwn wedi dechrau yn y Coleg Celf yng Nghaerfyrddin erbyn hyn am fod gen i rhywfaint o ddawn naturiol mewn arlunio, ac aeth fy ngyrfa ymlaen yn y byd arlunio. Ar wahân i ganu yn yr Eglwys ni fûm yn canu ddim o werth.
Fodd bynnag, ar ddechrau’r saithdegau cefais gais gan y diweddar Dr Leslie Baker-Jones i baentio llun olew o Blas Y Bronwydd, gan nad oedd yr un llun i’w gael o’r Plas mewn lliw.
Roedd hon yn dipyn o dasg oherwydd nid oedd llawer iawn o’r hen Blas ar ei draed erbyn hyn. Ond, fel roedd lwc yn bod, bum yno lawer gwaith yn blentyn ac yn medru cofio am rai pethau manwl yn glir.
Yn Gilwen House, Waungilwen roeddwn yn byw ers rhai blynyddoedd erbyn hyn, a gan fod si yn mynd o amgylch fy mod yn paentio darlun o’r plas fe alwodd Gwynfor Thomas heibio i’w weld. Dyma’r tro cyntaf iddo alw yn ein tŷ, a’r tro cyntaf i ni gael sgwrs. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn hen bethau a’r darlun yn enwedig.
Yn fuan wedyn fe ddaeth y Bonwr Iwan Guy i weithio yn Ffatri Wlan Cambrian ac roedd awydd arno i ddechrau cor yn y pentref, ac felly y bu. Roedd Nesta Jones yn gweithio yn swyddfa’r ffatri, a deallodd Iwan fod y ddawn o gyfeilio ganddi, a hi fyddai cyfeilydd ‘Cor Cymysg Bargod Teifi’ i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1974. Aed ymlaen gyda’r ymarferion a’r darn gosod ‘Anthem Hosanna.’
Rhywsut neu gilydd roeddwn i a Gwynfor yn eistedd gyda’n gilydd gyda’r tenoriaid yn yr ymarferion, ac roedd rhan-gan yn yr anthem i Denor. Rhoddodd Iwan ‘test’ i’r tenoriaid ac fe’m dewiswyd i ar gyfer y rhan.
Fodd bynnag, rhai misoedd cyn yr Eisteddfod fe ddaeth llythyr i ddweud fod rhaid i fwy nag un tenor ganu’r rhan, ac felly Gwynfor gafodd ymuno a fi – a dyma ddechrau Vernon a Gwynfor.
Bu holi a holi – pwy oedd y ddau ganodd yn y mwd yng Nghaerfyrddin, ac aeth y cor ymlaen i gynnal cyngherddau o amgylch yr ardaloedd. Dechreuodd Gwynfor a fi ddysgu ambell gan a sylweddoli fod yna ‘rhywbeth yn wahanol’ i’r arfer gennym. Nesta gydiodd yn yr awenau a hi oedd sylfaen y llwyddiant a gafwyd. Bu ymarferion yn rheolaidd yn Y Glyn, lle’r oedd Gwynfor a Gloria ei wraig yn byw erbyn hyn, ac wrth ganu deuawdau gyda’r cor, fe ddaeth galwadau lu am ein gwasanaeth.
Daethom i glustiau’r byd recordio, ac fe wnaethom y recordiad cyntaf yn Stiwdio Sain yn Llandwrog ym mis Medi 1978. Cafodd y record ‘Vernon a Gwynfor’ ei rhyddhau ddiwedd mis Tachwedd 1978 a bu’r cyfan yn llwyddiant ysgubol. Daeth galwadau am ein gwasanaeth o bob man, a hyd yn oed o Loegr. Bu’n amser prysur ofnadwy. Fe fuon ni’n teithio ymhell ag agos, a chyfarfod a phobl ddeallus iawn, a chael croeso twymgalon ym mhobman, a chael y fraint o rannu llwyfan gyda artistiaid gorau Cymru a gwneud ffrindiau oes.
Fel yr aeth yr amser ymlaen dechreuais gael problemau gyda fy iechyd, a hyn yn y diwedd wnaeth i ni dorri lawr ar y gwahoddiadau. Roedd rhaid i mi wneud fy ngwaith dyddiol fel addurnwr a Gwynfor hefyd i wneud ei waith fel athro ysgol. Bu’n dipyn o straen arnon ni.
Cyhoeddodd Sain record arall yn 1979 sef ‘Ar Lan yr Afon’ gyda llun rhaeadrau’r Teifi ar y clawr. Yna, yn 1981 cyhoeddwyd record arall gan Sain sef ‘Canaf Gan’.
Erbyn hyn gorfod i ni dorri lawr fwy fyth ar ein cyngherddau gan fod fy iechyd yn gwaethygu ymhellach a gorfod i ni roi fyny am beth amser wedyn. Er hyn i gyd roeddwn yn dal i ysgrifennu ambell gan ac yn gobeithio y cawn gyfle i ganu rhai ohonyn nhw rhyw ddydd!
Gwellodd pethau arnaf am gyfnod, a daeth un o’m caneuon yn deitl i record arall yn Sain yn 1984 sef ‘Hiraeth Haf’. Ond, yn anffodus bu rhaid rhoi fyny eto ac ni chlywyd Vernon a Gwynfor ger bron cynulleidfa am amser hir ar ôl hyn, a hon oedd y record olaf i ni yn Sain fel deuawd.
Euthum ymlaen i ysgrifennu mwy, ac ar ôl pedair mlynedd o seibiant cefais y cyfle i recordio rhai o’r caneuon ar ben fy hun i Gwmni Fflach yn Aberteifi yn 1988 sef ‘Atgofion’.
O dipyn i beth cefais y cyfle unwaith eto yn rhagor i ganu gyda Gwynfor a Nesta’n cyfeilio, ac fe aeth pethau’n dda a’r galwadau’n dod i mewn eto.
Recordiwyd ‘Unwaith Eto’ gan Vernon a Gwynfor yn 1991 gan Gwmni Fflach.
Er hynny, nid oedd fy iechyd yn caniatáu i mi wneud llawer a bu’n rhaid gwrthod rhai cyhoeddiadau a chymryd eraill. Ofnwn nad oedd gweithredu felly yn dderbyniol iawn a gorfod i ni roi’r gorau iddi fel deuawd ym Mai 1994, ac yr oeddwn wedi symud i fyw yn ystod y dydd i Gwernafalau, Saron, a’r perfformiad olaf oedd hwnnw yn Abertawe y noson honno. Bedydd diflas dros ben i dy newydd!
Roedd yr afiechyd wedi gwneud ei ôl arna i, a mawr oedd yr hiraeth wrth adael Gwynfor a Nesta a’n cefnogwyr i gyd. Bu hyn yn ddolur arnaf am amser hir wedyn.
Ond, fe ddaliais i ysgrifennu caneuon, ond roedd colli’r bartneriaeth a’r holl hwyl a gawson ni yn gwasgu arna i yn drwm. Roeddwn yn gobeithio mewn amser y gallwn ni ganu rhai o’r caneuon newydd yma fel deuawdau eto, ond gan fod tipyn o wahaniaeth oedran rhyngom ni fyddai’n bosibl i ni ddechrau unwaith eto.
Fodd bynnag, euthum ymlaen gyda’r gwaith o ysgrifennu mwy o ganeuon, ac yn wir daeth hyn a thipyn o bleser i mi ac i geisio llenwi’r bwlch o golli’r bartneriaeth. Rwyf wedi bod yn lwcus bod yr amser ‘segur’ hwn wedi bod yn help i mi gael cryfhau, ac yn wir i recordio nifer o’r caneuon newydd, a hynny yn fy amser fy hun – a heb ddim pwysau arnaf.
Rwy’n dal i alw gyda Nesta a chyda Gloria gweddw Gwynfor, ac yn diolch am yr amser bendigedig gawson ni yn yr ymarferion yn Y Glyn a’r hwyl a’r chwerthin rhyngon ni.
Rhaid i mi ddweud na allai neb gael partner gwell nac oedd Gwynfor i mi – a’i lais tyner a meddal a saif yn fy nghlyw am byth – ac yn fy nghalon.
Rhaid hefyd diolch i Nesta am gyfeilio mor wych i ni’n dau dros yr holl flynyddoedd, ac yn bendant ni fuasai y llwyddiant wedi bod cystal heb y ddawn sydd ganddi.
Yn anffodus iawn bu farw Gwynfor yn 2018, ar yr un adeg y lansiodd Sain fy ngoreuon -‘Tenor Teifi’. Cefais hi’n anodd dweud dim am y record, a braidd y gallwn goelio bod Gwynfor wedi marw er ei fod yn dioddef yn dawel ers peth amser, ond wyddwn i ddim fod ei gyflwr mor ddrwg. Cefais ergyd fawr – ac os oes yna ‘Gor yn y Nefoedd’, Gwynfor fydd y llais melysa yno!
Er gwaetha’r golled, bu rhaid i mi fynd ymlaen i ysgrifennu rhagor o ganeuon, ac rwy’n siŵr mai hiraeth am Gwynfor oedd yr ysbrydoliaeth i mi wneud hynny.
Roedd fy mam a dawn ganddi i ysgrifennu, ac roedd hi bob amser yn brolio ei bod hi yn yr un dosbarth a T. Llew Jones yn Ysgol Brynsaron. Mam oedd awdur y gan ‘Cofio’n Ôl’ ar record gyntaf Vernon a Gwynfor, a hi hefyd a wnaeth ‘Bwthyn yn y Wlad’ ar y drydedd record.
Cyfansoddodd Gwynfor yr emyn hyfryd ‘Mi Wn Pwy Yw Fy Nghyfaill’, ar yr ail record, a fy ngwaith innau oedd ‘Mynd yn Ôl’, a ‘Taith Teifi’ ar y drydedd. Cefais y cyfle hefyd i ysgrifennu dwy gan i Trebor Edwards, sef ‘Diolch’ (can teitl ei record) a ‘Ddoe Ni Ddaw Byth yn Ôl’. Rwy’n dal ati ac ar hyn o bryd ac wedi cyfansoddi rhyw saith deg o ganeuon, gan obeithio y daw rhagor i’w recordio yn y dyfodol.
Hyfryd yw’r atgofion am flynyddoedd a roddodd tipyn o bleser i ni fel deuawd, a gobeithio i eraill hefyd. Ond, heb Nesta ‘Y Maestro’ ni fyddai dim. Roedd hi yn ein hadnabod yn berffaith a’r ddeuawd yn mynd ymlaen yn hollol ddi-ffwdan o gyngerdd i gyngerdd. Yr oedd yr ymarferion yn ‘hwyl’, a dyna sut y daeth y ddeuawd mor boblogaidd a ninnau yn paratoi ac yn gwneud ein gwaith cartref yn fanwl.
Rhyfedd meddwl mai i Y Glyn y daeth Gwynfor i fyw, ar ben y lon lle cefais i fy ngeni – a dyna lle’r oedd yr ymarferion.
Cawsom gyfle i wneud llawer o waith teledu, ond roedd swydd Gwynfor fel athro yn yr ysgol yn gwneud pethau’n anodd.
Roedd y tri ohonom yn hollol gytûn ar yr hyn a wnaed, ac ni fu gair croes rhyngon ni erioed.
Roedd hi yn amser rhyfeddol o’r saithdegau ymlaen ac yn amser a ddeil am byth yn y cof.
RHESTR O RECORDIAU ‘VERNON a GWYNFOR’.
Y Record 1af
"Vernon a Gwynfor" Tachwedd 1978 Cwmni Sain
(Llun y Clawr: Ar Draeth Dinas Dinlle)
Yr 2il Record
‘Ar Lan Yr Afon’ – Vernon a Gwynfor Tachwedd 1979 Cwmni Sain
(Llun ar y Clawr: Ffrydiau Afon Teifi yn Henllan)
Y 3edd Record
‘Clywaf Gan’ - Vernon a Gwynfor 1981 Cwmni Sain
(Llun y Clawr: Tu Fewn i Stiwdio Sain)
Y 4edd Record
‘Hiraeth Haf’ - Vernon a Gwynfor Haf 1984 Cwmni Sain
(Llun y Clawr: Tu allan i Stiwdio Sain)
Y 5ed Record
‘Unwaith Eto’ - Vernon a Gwynfor Tachwedd 1991 Camni Fflach, Aberteifi
(Llun ar y Clawr: Yn Stiwdio Fflach, Aberteifi)
Yn 1982
Can Saesneg gan Vernon a Gwynfor ar y Record ‘WELCOME’ i groesawi’r Pab i Gymru.
Cwmni VIP Records, Brighton.
RHESTR O RECORDIAU VERNON AR EI BEN EI HUN
Record 1af -
‘ATGOFION’ Hydref 1988 Cwmni Fflach
2il Record -
‘CANAF GAN’ Hydref 1993 Busker Jones
3edd Record -
‘VERNON’ Hydref 1996 Camni Sain
4edd Record -
‘GWLEDD O GAN’ 2009 Cwmni Talent Cymru
5ed Record -
‘TENOR TEIFI – VERNON – Y GOREUON’ 2018 Cwmni Sain
RHESTR RHAI O’R LLEFYDD Y BU VERNON A GWYNFOR YN CANU YNDDYNT
TŶ Ddewi
Treffynnon
Bancffosfelen
Hendygwyn ar Daf
Llanwrda
Pontarddulais
Llangenech
Pontnewydd ar Wysg
Llanfair ym Muallt
Llandyrnog
Brechfa
Llandysul
Pontsian
Pontgarreg
Heol Awst, Caerfyrddin
Dinas Cross
Trawsfynydd
Machynlleth
Ffostrasol
Trelech
Abergwaun
Llanelli
Coleg y Drindod, Capel Heol Awst, Canolfan Hamdden, Red Lion, Falcoln Caerfyrddin
Lyric, Caerfyrddin
Woodstock
Llanberis Glanaman
Brynaman
Llandeilo
Llandybie
Llwyndyrus
Lamb Llangeler
Prengwyn
Cartref Boncath
Dinas Mawddwy
Llanrhaeadr ym Mochnant
Bangor
Llanddewi Brefi
Llangrannog
Llangyndeyrn
Maenclochog
Drefach
Pontiets
Aberporth
Llanfyllin
Llanarth
Tregaron
Penygroes
Caernarfon
Pontyberem (3 gwaith)
Aberystwyth
Y Drenewydd
Aberaeron
Trefeglwys
Sant Mallteyrn
Bryste
Pilton, Gwlad yr Haf
Pencoed
Cwmfelin Mynach
Llandysilio
Llanbedrog
Cydweli
Llangefni
Bodorgan
Amlwch
Porthmadog
Pwllheli
Llanymddyfri
Trawsfynydd
Rhoshirwaun
Llangwnadl
Llwyngwair
Aberhosan
Capel Isaac
Soar, Penboyr
Henllan
Pontrhydfendigaid
Llanbedr Pont Steffan
Castell Newydd Emlyn
Dinbych y Pysgod
Llangeitho
Coventry
Porth Tywyn
Aberdyfi
Trefdraeth
Corwen
Brynmorfydd (Dinbych)
Capel Mawr (Dinbych)
Cynwyl Elfed
Casnewydd
Pontarsenni
Llandinam
Llanfair Caereinion
Ciliau Aeron
San Pedr, Caerfyrddin
Pumsaint
Twffton
Llangaffo
Caerdydd
Abertawe
Llandysul
Llanddarog
Tymbl
Theatr Clwyd
Swansea
Sound Theatr
Dylan Thomas
BBC Abertawe
Bethesda
Aberffraw