skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

Y Parchedig John Towyn Jones FRSA 1942 – 2019 (77 oed)

Y Parchedig John Towyn JonesGweinidog a Phregethwr. Awdur Toreithiog. Darlithydd a Storïwr. Hanesydd ac Arlunydd, ynghyd a llawer o ddoniau a diddordebau eraill.

(Paratowyd y cynnwys gan Peter Hughes Griffiths yn Hydref 2020 o’r nodiadau a baratowyd gan Margaret Edwards.)

Ganwyd John Towyn Jones ym Mlaenpistyll, Bwlchygroes ger Boncath, sef cartref ei fam, ar y 29ain o fis Mai 1942 ac yn unig blentyn i Emrys ac Annie Mary Jones.  Fe’i magwyd ar fferm Y Lan  ar yr esgair rhwng plwyfi Penboyr a Chilrhedyn ac wrth droed Mynydd Moelfre, y darn tir uchaf ym mhlwyf Penboyr. Fferm Y Lan oedd cartref teulu ei dad ers y 1860’au. Yno y magwyd ei famgu May a’i mam hithau Sarah a oedd yn ferch i Thomas a Mary Jones, Y Lan.   Mae beddau  teulu’r Lan ar y chwith wrth ymyl y llwybr sy’n arwain trwy’r fynwent o’r bwlch i ddrws Eglwys Sant Llawddog, Penboyr.

Magwyd ef yng Nghapel yr Annibynwyr Soar Penboyr, Cwmpengraig ger pentref Dre-fach Felindre lle roedd ei dad yn ddiacon a’i hen hen ddatcu Thomas Jones, Y Lan, flynyddoedd lawer cyn hynny.

Mynychodd Ysgol Gynradd Penwaun ac yna Ysgol Ramadeg Llandysul cyn mynd yn gyntaf i Goleg Celf Caerfyrddin oherwydd ei gariad tuag at y celfyddydau cain, ac yna yn fyfyriwr i Goleg Coffa’r Annibynwyr yn Abertawe (1961 - !964) i baratoi ar gyfer y weinidogaeth Gristnogol.

Yn 1964 ordeiniwyd ef yn Weinidog yr Efengyl ar Gapeli Hebron a Nebo yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin ac ar y ffin gyda Sir Benfro.

Priododd yn 1965 gyda Jennifer Lynn Davies ac fe anwyd iddyn nhw ddwy o ferched sef  Catrin Angharad Towyn yn 1968 a Lowri Orinda Towyn yn 1973.

Daeth yn weinidog ar Gapel Heol Awst yng Nghaerfyrddin yn 1974 ac ynghyd a Chapeli Smyrna, Llangain yn 1976 ac Elim, Ffynnonddrain yn 1998.

Ymddeolodd yn 2015 a’i groesawi fel cyflawn aelod yng Nghapel Y Borough, Llundain. Bu’n cynnal gwasanaethau yn y  Capeli Cymraeg yn Llundain ar ei Suliau rhydd a bu ei hoffter o’r ddinas honno yn amlwg trwy gydol ei fywyd.

Dwy nodwedd ychwanegol o’i weinidogaeth yng Nghaerfyrddin oedd y ‘Cyngherddau Nadolig’ a’r ‘Gwasanaethau Plygain’  Ef oedd awdur a chynhyrchydd y cyflwyniadau Nadoligaidd poblogaidd o’r flwyddyn 1974 ymlaen yn Heol Awst, a hir y cofir am sioeau megis ‘Wenseslas’, ‘Stori Tawel Nos’, a ‘Hwyl Haleliwia Handel’ a llawer iawn mwy.

Yn yr un modd yr oedd gwasanaethau’r ‘Plygain’ yn Heol Awst am chwech o’r gloch bob bore dydd Nadolig, gyda brecwast i ddilyn yn y festri yn achlysuron arbennig.  Roedd y naws a grëwyd yn y gwasanaethau hyn yn brofiad i bawb i’w drysori yng ngoleuni’r canhwyllau, ynghyd a sain hudolus unigol y mandolin yn gefndir i’r dathliad.

Cyfarfu Towyn a Margaret Edwards, neu ’Mags,’ wyth mlynedd yn ôl ac fe ddatblygodd perthynas agos ac arbennig iawn rhyngddyn nhw, a byddai yntau wrth ei fodd yn rhannu ei amser rhwng Llundain a’i gartref yn Brynsiriol, Heol y Coleg, Caerfyrddin.

Un o’i brif bleserau oedd treulio amser gyda’i ferched Catrin ac Orinda a’u teuluoedd ac yn  trefnu swper neu farbyciw yn yr ardd gefn a diddanu’r wyron.   Byddai’n trefnu nosweithiau ffilm yn ei stydi yn ei gartref o bryd i’w gilydd gan wahodd criwiau o gyfeillion i gael swper a chlonc i ddilyn. Pryd arall, gwahoddiad i de prynhawn neu ambell ginio yn nhraddodiad arbennig ’Ffest y Cybydd’.  Roedd e’n  un a oedd yn mwynhau ei fwyd a gwin da.

.......................................................................

Mae’r hyn a lwyddodd Towyn Jones i’w gyflawni yn ystod ei fywyd llawn ac amrywiol yn rhyfeddol, ac mae’r rhestr isod yn dangos yn glir ei ymroddiad a’i ddylanwad, nid yn unig fel gweinidog a phregethwr, ond hefyd wrth ymhél a chymaint o feysydd eraill.

  • Cymrawd o’r ‘Royal Society of Arts’.

  • Llywydd Cymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin ers 1996. (Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1905.)

  • Ymddioriedolwr ar Bwyllgor Coffa Elfed, Y Gangell, Blaenycoed.

  • Cadeirydd Cymdeithas y Siorsiaid. (The George Family Society).

  • Aelod hir dymor o’r ‘Ghost Club’ yn Llundain, a ffurfiwyd gan Charles Dickens yn 1862. Anrhydeddwyd fel Aelod am Oes yn 2013.

  • Urdd Derwydd yng Ngorsedd y Beirdd. Ei enw gorseddol oedd ‘Towyn o’r Cwm-du’ am ei fod yn ddisgynnydd o Feirdd Cwm-du. Bu’n gyfrifol am law ysgrifennu tystysgrifau gwobrwyo yn yr Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd lawer a’i ysgrifen ‘Best Copperplate’ cain yn ei alluogi i wneud hynny.

  • Aelod am oes o’r ‘Constitutional Monarchy Association’ a’r ‘Society of King Charles the Martyr’.

Y GWEINIDOG a’r PREGETHWR
Gan fod dylanwad ei fagwraeth Gristnogol yng Nghapel Soar Penboyr yn gryf arno, a’i dad yn ddiacon yno, rhoddodd Towyn ei fryd ar y weinidogaeth, ac fe’i hyfforddwyd  ar gyfer y gwaith yng Ngholeg Coffa yr Annibynwyr yn Abertawe o 1961 tan 1964 o dan gyfarwyddyd y Parchedig Dr. Pennar Davies.

Ordeiniwyd ef yn weinidog i Iesu Grist dros Eglwysi Annibynnol Hebron a Nebo ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn 1964.  Yna, daeth yn weinidog ar Gapel Heol Awst, Caerfyrddin yn 1974 ynghyd a Smyrna, Llangain yn 1976 ac Elim, Ffynnonddrain yn 1998.

Bu’n weinidog cydwybodol iawn, ac roedd ei bregethau ysgolheigaidd a heriol yn ffrwyth paratoi manwl. Roedd ganddo feddwl craff, a’r gallu i ddadansoddi deunydd mewn ffordd greadigol a gwrthrychol iawn. Roedd y ddawn brin ganddo hefyd i gyflwyno ei neges o’r pulpud gyda mynegiant bywiog a diddorol, ac yn aml yn cynnwys hiwmor pwrpasol, ond yn llawn o urddas boneddigaidd a oedd mor nodweddiadol ohono.  Bu’n fynychwr selog o Undeb yr Annibynwyr  ac yn bregethwr gwadd yn Undeb y Barri.  Medrai greu argraff fawr ar ei gynulleidfa ac fe dderbyniodd ganmoliaeth eang am ei bregethau – megis yn Ysgol Haf yr Annibynwyr a Chymanfa’r Tair Sir ym Mwlchnewydd yn y 1970’au.    Ymddeolodd o’r weinidogaeth yn 2015 wedi gwasanaethu’n eithriadol o gydwybodol am 51 o flynyddoedd.
 
YR AWDUR
Fe gyhoeddodd nifer o lyfrau ac amrywiol erthyglau, oac yn arbennig ar Len Gwerin Cymru, a bu’n darlledu’n gyson ar y radio ac ar y teledu ar hyd y blynyddoedd.

Dyma ei gyhoeddiadau:

  • ‘Ar lwybr Llofrudd’  (Gomer 1970)  Astudiaeth o achos o lofruddiaeth yn ardal Cwmduad, Sir Gaerfyrddin yn 1896.  Darlledwyd ffilm/ddrama o’r digwyddiad fel rhan o’r gyfres ‘Dihirod Dyfed’ ar S4C.

  • ‘Ysgol Penwaun – Cofnodion Canrif’, (Pwyllgor Canmlwyddiant yr Ysgol yn 1981)

  • ‘Borley Cymru’ (Gwasg Carreg Gwalch  2001). Hanes achos hynod  Ficerdy, Sant Paul’s, Llanelli.

  • ‘Rhag Ofn Ysbrydion’ (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion 2009).  Chwilio am y gwir mewn storïau ysbryd.   Enwebwyd ar gyfer ‘Llyfr y Flwyddyn’ yn 2009.

  • ‘Llyfryn John Penry 1563 – 1593’ yn Llundain’. (2011)  Arweinlyfr i bererindota a dilyn llwybr y merthyr hwn yn Llundain a’i charchardai. Hyn yn dilyn blynyddoedd o waith ymchwil yn llyfrgelloedd ac archifdai’r ddinas.         

  • ‘Ble Arswydo Angylion’.   Teitl cyfrol a oedd yn barod i fynd i’r wasg ganddo pan fu farw.

  • ‘Llyfryn Pererindota Cyfundeb yr Annibynwyr  Gorllewin Caerfyrddin’    Cyfrol a oedd bron a bod yn barod i’w chyhoeddi cyn ei farwolaeth.

 YR ARLUNYDD
Roedd ganddo ddawn arbennig fel arlunydd, a’i hoffter o’r celfyddydau cain mor amlwg.  Ymhlith ei beintiadau rhagorol mae’r canlynol:

  • ‘Parchedig Athro D.P. Roberts, M.A., D.B.’ mewn olew yn 1964 o faint 60/49.5cm ac yng Nghasgliad  Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

  • ‘Jac Rhydgaled a Tim’,  Arddangoswyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1974.   

  • ‘Trewern’, mewn olew yn 1985.   Y farn gyffredinol yw mai hwn oedd ‘Masterpiece’ Towyn Jones.      Peintiad yw o’r Plasty Tuduraidd Trewern yn Nanhyfer.  Roedd y llun yn hongian uwchben y lle tan yn ei gartref yn Brynsiriol, Heol y Coleg, Caerfyrddin.

  • Lluniodd sawl portread, lluniau a gwaith celf eraill.   Mae’n werth nodi bod yr un ddawn gelfyddydol hon gan ei famgu -  May Davies, Ynysycoed, Heol Cwmpengraig, Felindre  neu ‘May Tŷ-canol,’ (sydd gyferbyn a Chapel Soar Penboyr). Roedd ganddi hi’r ddawn o baentio ar wyneb darn o wydr clir gan greu darluniau i edrych arnyn nhw yr ochr arall i wyneb y gwydr. Golygai hyn baentio’r rhannau olaf yn gyntaf ar y gwydr. Dawn brin iawn!

YR HANESYDD, Y DARLITHYDD a’r DARLLEDYDD
Roedd parch mawr iddo fel hanesydd digwyddiadau lleol.  Bu’n darlithio ar wahanol bynciau trwy ei oes, ac yn arbennig ar ein Llen Gwerin a hanes lleol fel hanes manwl Pont Llandeilo.  Ei fwriad, cyn ei farwolaeth sydyn, oedd cyhoeddi astudiaeth drylwyr o’r traddodiadau sy’n gysylltiedig a Phlas Aberglasne, Llangathen, a chyfrol (a oedd bron yn orffenedig) ar hanes Y Goets Fawr ar ei thaith trwy Sir Gaerfyrddin, ynghyd a hanes Y Fonesig Elizabeth Hills-Johns, Dolau Cothi ger Pumsaint. 

Bu ar y teledu yn son am ysbrydion Calan Gaeaf ychydig cyn ei farwolaeth a’i ymddangosiad cyhoeddus olaf oedd yn Yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin lle bu’n adrodd straeon ysbryd ar noson Calan Gaeaf 2019.
 
DIDDORDEBAU ERAILL
Roedd gan Towyn Jones lu o ddiddordebau amrywiol eraill gan gynnwys Byd yr Opera a Jazz Traddodiadol.  Ond arddangosfeydd a’r Celfyddydau Cain a aeth a’i fryd yn bennaf. Byddai’n cyfeirio yn aml at ei athrawes arlunio Miss Joyce Fitzwilliam yn Ysgol Ramadeg Llandysul a’i anogodd i fynd ymlaen a’i astudiaethau celf ac roedd ganddo y ddawn brin i adnabod gwaith arlunydd oddi wrth ei arddull, a hynny o bell.

Roedd ganddo hoffter o hen blasdai a’u teuluoedd ac ymchwiliau yn gyson i’w hanes.

Roedd Towyn Jones yn freniniaethwr digymrodedd, ac wrth ei fodd yn teithio dros y byd ar dripiau pwrpasol gyda chanolbwynt hanesyddol bob amser i’r teithiau – yn enwedig gyda grwpiau o gyfeillion y ‘Ghost Club’.  Roedd e’n berson cymdeithasol a hael ac wrth ei fodd ac ar ei orau yng nghanol pobl o’r un anian a meddylfryd ag ef ei hun. Roedd ganddo deimladau unigol arbennig iawn tuag at adeg y Nadolig a dotiau at weld yr eira’n disgyn yn drwch ac yn garped gwyn dros y wlad.

(Nodyn personol gan PHG -  Roeddwn yn bresennol un bore Nadolig am chwech o’r gloch yn Y Plygain Foreol yng Nghapel Heol Awst, Caerfyrddin a syndod mawr i bawb yn dilyn y gwasanaeth ar ôl dod allan oedd gweld pob man yn wyn gan eira a’r  wawr ar fin torri. Gafaelodd yr olygfa yn nychymyg Towyn ac fe arluniodd ddarlun cofiadwy o’r Capel ar y bore Nadolig hwnnw.  Bu’r darlun yn un poblogaidd dros ben am hir amser ac mae’r llun ar ffurf cerdyn Nadolig gen i o hyd.)

GWISG
Rhaid nodi bod ei wisg a’i ymarweddiad bob amser mor addas ar gyfer ei amrywiol ymddangosiadau. Gwisgai’n gwbl briodol a phwrpasol ar gyfer pob achlysur ac yn drwsiadus iawn bob amser. Ei hynodrwydd oedd y ffaith y byddai yn ddieithriad yn gwisgo ei dei bo. Eto roedd ganddo amrywiaeth eang o rhain, ac eto yn addas ar gyfer pob sefyllfa. Nodwedd arall oedd mai rhai a fyddai ef ei hun yn eu clymu gyda chryn falchder fyddai pob un tei bo.
 
DIWEDDGLO
Mae ei ferched wedi nodi hoffter eu tad yn arbennig tuag at yr eira, a chymaint oedd ei fwynhad wrth gerdded ynddo a hithau yn ‘bwrw eira’n drwm’.                                                    “Fe gawn gwrdd eto yn y Nefoedd yn yr eira,” oedd eu sylw ar ddydd ei gynhebrwng.
Heb os, roedd gan Towyn Jones dalentau a doniau nodedig ac amrywiol ac yn un o’r cymeriadau disgleiriaf a fagwyd yn ardal Dre-fach Felindre.
Bu farw yn rhyfeddol o sydyn ar y 18ed o Dachwedd 2019 yn ei gartref Brynsiriol, Heol y Coleg, Caerfyrddin, ac yn dilyn gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng Nghapel Smyrna, Llangain fe’i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Llawddog, Penboyr yn agos i fedd ei dad a’i fam Emrys ac Annie Mary Jones. Yn y fynwent hon y claddwyd ei gyn deidiau o deulu’r Lan.

          “Cristion, cymeriad, cymwynaswr.  Yn angof ni chaiff fod.”