skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

Ôl-nodiadau: Yr Hen Aelwydydd 

gan John Tudor Jones

Wrth dyfu roeddwn yn dod i nabod enwau’r ffermydd, y tai, a’r bythynnod oddi amgylch inni yn Llwynneuadd a’r bobol oedd yn byw ynddynt.
 

Penparc

Y fferm agosaf atom ni yn Llwynneuadd oedd Penparc a’r ffermwr yno oedd Howell Harries – hen ŵr a chanddo farf gwyn. Y cof cyntaf oedd gen i amdano oedd ei weld yn rhostio afal twmplen ar ben y ffwrn wrth ochr y tân. Wedyn mewn byr amser fe ddaeth Jonny Harries i fyw yno. Mab Penrallt oedd Jonny ac roedd Howell yn ewythr iddo. Roedd gan Jonny wraig o’r enw Lisi Ann; merch fferm Shirald oedd hi ac roedd ganddynt ferch o’r enw Elinor.
 

Penffynnon

Nid oedd fferm Penffynnon yn bell ychwaith ac yno roedd Tom a Mari Mathias yn ffermio. Daethant yno o fferm Pant-y-bara yr ochr arall i Gwmdu Mawr ac roedd ganddynt ferch o’r enw Anni.
 

Blaenbuarthe

Y fferm a welem ni o’n blaenau yn Llwynneuadd oedd Blaenbuarthe, lle ffermiai John Rees. Un o blant Rhyd-yr-onw oedd ef ac roedd ganddo dri o blant ei hun sef Tom, Maggie Jane, a Lisi. Ar ôl dydd John bu Maggie Jane a’i gŵr, Evan John, yn ffermio yno. Mab Tre-ale wrth droed Moelfre oedd Evan John, yn un o wyth o blant John a Mari Davies sef Dafi, James, Evan John, Harry, Tom, Getta, Anni a Jane. Priododd Harry â Sarah, merch Blaenffos ger sgwâr Maudland. Roedd ganddyn nhw (pwy Harry a Sarah?)  chwech o blant sef Gladys, Idris, Ieuan, Jim, Dewi, a Susan??. Priododd Dafi â Marged Ann, Spring Cottage ond nid oedd plant ganddynt. Aeth Tom yn athro ac aros yn ddi-briod wnaeth James. Priododd Getta â Benja ‘Nant’, lle ar waelod Rhiw Blaenbuarthe.  Roedd ganddyn nhw chwech o blant: May, Dai, Delia, Will, Anni a Ieuan.
Priododd May â Dafi John Mathias, mab Pant-y-bara, a chawsant un mab o;r enw Glyn sydd bellach yn ffermio gyda’i wraig Esther ar fferm Rhiannon. Priododd Delia â Will, sef man hynaf Penllwyn ger Waungilwen ac aethant i fyw i Gelli Gynnar Uchaf– fferm ar Wâr Cwmhiraeth. Roedd ganddynt dri o feibion sef John, Ken, a ???????. Priododd Will â Pam ‘Penparc’, merch y teulu a ddaeth o Loegr yn y pedwardegau. Priodi Defi John wnaeth Anni a chawsant dair merch a mab – Carol, Margaret, Meryl, a Gary. Priododd Ieuan â Tegwen a oedd yn ferch i Oli a ?????, Blaenffos. Gŵr di-briod yw Dai, a bu’n byw yn fferm ‘Nant’ tan yn eithaf ddiweddar.  Priododd Anni â James Williams, Rhydfoyr Uchaf.  Saer coed oedd ef ac fe gawsant bump o blant sef John, Dafi, Getta, Mari, a Jenny. Dyn di-briod oedd John a fu’n gweithio o fferm o fferm hyd nes iddo brynu Penlanganol oddi wrth Ben Cwmpengraig Isaf. Saer fel ei dad oedd Dafi a phriododd Getta, merch Clungwern, Hermon, ac roedd pump o blant ganddynt nhw. Wyn yr unig fab sydd yn saer yw os blynyddoedd.
Priododd Getta (merch Anni a James) â Thomas ac roedd ganddynt un ferch a buon nhw’n byw yn Gilfach Las, Rhos, Llangeler. Priododd Mari â Jonny, gŵr o ardal Llandyfrïog, ac roeddent yn ffermio yn Pantcylgan a chafwyd un merch iddynt, Glenda. Priododd Jenny â gŵr o odre’r Tymbl a chawsant un mab. Priododd Jane â Harry, mab Maesllan, Penboyr, ac roedd ganddynt un ferch, Muriel spellcheck. Bu’r rheiny’n ffermio ym Mhant-y-ffynnon uwchlaw Cwmpengraig. Buont yn ffermio ym Mhant-y-ffynnon am rai blynyddoedd cyn i Tegwyn ac Elda symud yno ac roedd ganddynt dair merch – Indeg, Delyth a ?????

Pengraig  

Roedd Pengraig yn ffinio â Phenparc a Llwynneuadd  ac yno ganwyd pump o blant Marged a Dafi Jones, sef Tom, Samuel, Jonny , Ann a ???? ‘Saddler’ oedd Tom ac roedd ganddo siop waith ym mhentre Felindre gerllaw Hillside. Ffermiai Jonny yn Felin, Capel Iwan, a dyn di-briod oedd Samuel. Byw adref gyda’I mam fu hanes Ann am flynyddoedd lawer. Roeddent yn gefndrid spellcheck I John a Sam Jones, Pwllygarreg, Cwmduad.

Pengraigfach

Uwchlaw Pengraig roedd Pengraigfach, lle bach rhyw naw erw.  Erbyn hyn mae’r tŷ wedi’I ddymchwel ac mae’r lle’n rhan o fferm Pengraig. Yr un cyntaf rwy’n cofio yno oedd Ben Davies, ei wraig, Martha a’u plant, Stanley, Brinley, Sally, Megan a Myrddin. Symudodd y teulu ar ôl hynny i Ben-y-banc. Drefelin.  
Wedyn daeth Dafi Davies a’i wraig i Bengraigfach.  Roedd Dafi’n fab I John davies, Llwynscawen, ar hewl Penboyr. Roedd ganb Dafi dri mab sef Evan, Stanford, a Gwyn. Roedd Evan yn briod â Lisi Mary Crompton a Stanford yn briod â Evelyn, a oedd yn chwaer I Lisi Mary, felly roedd dau frawd yn briod â dwy chwaer.  Bu Lisi’n byw ym Mryste.  Roeddent wedi bod yn byw yng Nghaerau yn y cymoedd cyn symud nôl i’r ardal i Bengraigfach.  Roedd Gwyn dipyn iau na’i ddau frawd ac felly roedd e’n byw gyda’i rieni ym Mhengraigfach pan oeddwn i’n grwt.  Yn wir, Gwyn oedd fy ffrind gorau drwy gydol ein dyddiau ysgol.

Goitre Isaf

Gwerthwyd fferm Goitre Isaf gan John ac esther Rees I Muriel a Defi Tom. Un o blant Rhyd-yr-onw oedd Esther ac roedd ganddi hi a John bump o blant sef Tom, Dai, Emrys, Hetty Mary, a Lisi Ann.  Pregethwr oedd Tom a gweithio ym Mlaenbuarthe gyda’i ewythr oedd Dai. Roedd yn briod ag Esther Mary o Dre-lech ac roedd ganddynt ddau o blant sef Myfanwy ac Eirug.  Priododd Hetty Mary â Tom Harries, un o feibion Titus Harries, Penrallt, a oedd yn frawd I Howell Harries, Penparc.   Roedd gan Titus naw (wedi enwi deg) o blant, sef Jonny a aeth i Benparc???, Tom a oedd gartref, Harry Howell, a James yn Crugcynfarch, a Willie yn byw yn Blaenbrân, Lisi ym Mach-y-gwyddel uwchben Cwmpengraig Uchaf, Rachel yng Nghilgraig, Jane ym Mrynhyfryd, a Magi’n briod ag Idwal, mab Blaenbrân ac yn byw yng Nghapel Dewi, Llandysul.  Roedd Jane wedi priodi John, mab Rhosgeler, Rhos, ac roedd ganddynt dri o blant – Mary, Benji, ac Iris.  Dechreusant eu byd yn Garnwern, Llangeler , ond bu farw ei gŵr, John, pan oedd y plant yn ifanc iawn ac yna daeth hi nôl I fyw’n Brynhyfryd.
 

Blaenbrân

Uwchlaw Penrallt roedd Blaenbrân a Sam Jones a’I wraig yw’r rhai cyntaf rwy’n cofio amdanynt yno. Mae’n debyg taw teulu’r Harries, Penrallt, fu yno cynt. Roedd saith (dim ond 6 wedi enwi) o blant gan Sam a’I wraig sef Anna Mary, Megan, Idwal, Will, Emlyn, a Victor.  Roedd Idwal yn briod â Magi, merch Penrallt. Cafodd Will ei ladd yn ifanc iawn mewn damwain motor-beic.  Roedd Emlyn yn briod ac yn byw yn Llethr, Llanpumsaint.  Bu Victor yn gweithio ym Mhantycoed a Chwmgest   ger Talog cyn priodi a mynd I fyw at ei wraig, Nancy o Lainwen ger Cynwyl.  Priododd Anna Mary â Wil Penrallt a buont yn ffermio ym Mlaenbrân ar ô lei thad a’I mam.  Priododd Megan â Dai ‘Llain’, Saron, ac aethant I fyw yn ardal Sanclêr.
 

Cwmbrân

Un o ffermydd eraill yr ardal oedd Cwmbrân, islaw Bwlch-y-domen Isaf a Bwlch-y-domen Uchaf. Mari Williams a’i phriod, Josiah James Williams, rwyf yn eu cofio gyntaf yno. Roedd ganddynt dri mab sef Jos, Sam, Wil a merch o’r enw Deina.  Priododd Sam ag Anna Mary, merch Bwlchclawdd, Rhos, ac roedd ganddynt un ferch – Catrin. Priododd Will ag Anna Mary, merch Martha  Lewis, Bronhydden ger Pentrecagal.  Roedd Jos yn briod â ???? ac yn cadw siop ym mhentre Felindre sef Hillside. Priododd Deina â Harry Howell ac aethant I ffermio yng Nghrugcynfarch; nid oedd ganddynt blant.  Safodd Wil yng Nghwmbrân gyda’i wraig, Anna Mary, ac roedd ganddynt ddau o blant – John ac Ann.  Aeth Sam a’I wraig, Anna Mary, I ffermio Bwlchyden Uchaf ac yno y buont am flynyddoedd. 
 

Llain

Roedd fferm Llain ar war Cwmdu Mawr ac yno roedd Sam a Marged yn bywgyda’I merch, Leisa.  Priododd Leisa â Garfield, mab Llwynbeili gerllaw, ac roedd dwy chwaer gan hwnnw.

Llwynbeili

John Daniel a’i wraig oedd yn ffermio Llwynbeili ac roedd dwy ferch ganddynt sef Ray a Dorothy.  Symudodd y teulu i Langadog i fyw yn y pedwardegau ac aeth Ray gyda nhw. Aeth Dorothy i Foncath i fyw. Llwynbeili oedd un o’r llefydd cyntaf i’w werthu i Saeson.
 

Bryncynfarch

 Fferm a oedd yn rhan o dir Crugcynfarch oedd Bryncynfarch, a godwyd gan Hendry ??????  fel lle I ymddeol iddo cyn bod Harry Howel a Deina Harries yn symud i Grugcynfarch.  Blynyddoedd yn ddiweddarach daeth Dai ac Esther Mary, y soniais amdanynt cynt, i fyw yno gyda’i dau blentyn sef Myfanwy ac Eirug. Bu i Myfanwy briodi Ieuan, Ffarm Fach, Tanglwst, ac aeth yno i ffermio.  Symudodd Eirug i Waungilwen, lle daeth pawb I’w adnabod fel ‘Eirug Tractors’.
 

Plygyrhiw

Fferm fechan oedd Plygyrhiw a gâi ei ffermio gan yr hen Griffiths ac roedd dau fab a merch – Dai, Ben a Bessie.  Priododd Bessie a mynd I fyw I Abercych a bu farw ben yn weddol ifanc. Priodi May ‘Penlangribin’ (fferm fechan gyfagos) fu hanes Dai ac aeth ati yno I fyw.  Wedyn symudodd Jonny ac Anna o Benrhiw I Blygyrhiw I fyw. Roedd pedwar o blant gan y rheiny sef Aneurin, Doreen ??????????a ?????????. .

Pant-yr-hebog

Câi fferm Pant-yr-hebog ei ffermio gan Jeremeia Davies a’I wraig ac roedd mab ganddynt o’r enw Emlyn.  Priododd Emlyn ag un o ferched Cryngae, Anni, ac ymunodd hi ag ef ym Mhant-yr-hebog a chawsant ddau o blant – David a Christina. 
 

Cryngae

Roedd Cryngae yn cael ei ffermio gan Dafydd Jones a’i wraig.  Roedd pump o blant ganddynt; Getta, Anni, Ray, Lisi may, Thomas John a Willie.  
 

Goitre Uchaf

Esau a Mari Evans oedd yn ffermio Goitre Uchaf. Roedd dwy ferch ganddynt sef Hannah a sarah.  Priododd Sarah â John Richard Jones a oedd yn saer yn y pentref a phriododd Hannah â Rees Jones, cigydd o’r pentref. Roedd gan Sarah un mab sef Richard ac mae ef yno o hyd gyda’I wraig Marian.  Mae ganddynt ddwy ferch sef mari a Gwenno. Nid oedd gan Rees a Hannah blant.  
 

Pant-y-barcud

Evan Williams ac Anna, ei wraig a merch Pant-y-bara, ffermiai fan hyn.  Olwen, Enid ac Elda oedd enwau eu tair merch.  Mae Olwen yn briod ac yn byw yn ardal Pibwr-lwyd ger Caerfyrddin, Enid yn briod â Wendel, gof lleol yn yr ardal, ac Elda ym Mhantyffynon ger Cwmpengraig. 

Penlangribin

Roedd hon yn fferm arall uwchlaw Cwmpengraig a John a mari Griffiths a drigai yno.  Roedd chwech o blant fan hyn – Will, Elias, May, John,  Ruth a Sally.  Priododd Will â Delia a mynd I ffermio Gelli Gynnar Uchaf lle cawsnat ddau fab a merch.  Priododd John a symud I fyw I ardal Arberth a chafodd ef blant.  Symud I Gei Newydd wedi priodi wnaeth Ruth ond nid oed ganddi hi blant.  Priododd Sali ag Elfed Griffiths o’r pentref ac roedd ganddynt ddau o blant sef David a Calvin.
 

Penllwyn

John a Mari Phillips oedd yn ffermio fan hyn ac roeddent wedi dod yno o Ffynnondudur, Drefelin. Roedd ganddynt bump o blant sef Will, Idris, John, Ela ac Esta.  Priododd Will a symud I fferm  Gelli Gynnar.  Priododd Idris â Sila, Penclawdd Isaf, ac aethant I ffermio ‘Graig’, Pentre-cwrt, ac roedd ganddynt ddwy ferch.  Priodi Margaret Cefncanol, Saron, wnaeth John ac wedyn buon nhw’n ffermio Penllwyn.  Nyrs oedd Ela a phriododd Esta â  mab Cilfforest ger castellnewydd Emlyn a chawsant dwy ferch sef Jenny a Gaynor.
 

Penllwyn coch

Fferm ger Penllwyn oedd Penllwyncoch a Jonny Baker a’i wraig, Hettie, yw’r rhai cyntaf rwy’n cofio yno.  Mab Lainffald oedd ef, ??? a hithau’n  ferch Trefaisfawr, Beulah.  Roedd ganddynt bedwar o blant sef Hirwen a aeth I fyw yn Leeds wedi priodi, Megan a aeth I Ludlow I fyw wedi priodi,  Elinor a briododd a symud I Gaer, a Morris a arhosodd yn ddi-briod ac a oedd yn byw yn Nolwerdd, Beulah.
 

Rhyrgoedfawr

Câi fferm Rhyrgoedfawr ger Castellnewydd ei ffermio gan Dafydd a Lisi Evans.  Roedd e’n frawd I Jonny Evans o Gilwen gerllaw ac roedd ganddynt ddau o blant sef Tom a Jean.  Merch Triolbrith, Rhos,  oedd Lisi ac roedd hi’n un o ddeg o blant ac yn chwaer I fy nhad.

Ffynnon Fach

Fferm fach ger Penllwyn oedd Ffynnon Fach lle ffermiai Getta Jones a phwy ???. Enwau eu plant oedd Sam a Betty, ac roedd Sam yn briod â Hila a Betty’n briod â David John, Bargoed View.  Roedd Hannah, sef chwaer Getta, yn Hannah ‘Pant-y-crug’ yn briod â John ?????, Roedd chwaer arall o’r enw Lisa ond nid oedd yn briod. Roedd hi’n byw ym Mwlchclawdd Bach gerllaw, lle bach oredd hwnnw ac fe gadwai rhyw bedair buwch yno.
 

Bwlchclawdd Mawr

Fferm yr arall I’r hewl I Fwlchclawdd Mawr oedd Bwlchclawdd Bach.  Y cof cyntaf sydd gen I am y lle yw bod Leisa’n ffermio yno.  Roedd hi’n chwaer I Sam Williams, Blaengwthan, Saron gyda Tom Jones a gafodd ei fagu ganddi. Priododd Tom â Sophia, merch Blaenpant, Bryn Iwan, a buont yno am flynyddoedd lawer hyd at ddiwedd eu hoes ac nid oedd ganddynt blant. 
 

Tŷ-mate

Lle ar Sgwâr Crossroads (neu Five Roads fel y’I gelwid erbyn heddiw) oedd Tŷ-mate.  Jâms Jones oedd yn byw yno ac roedd pump o blant ganddo sef Emlyn, a oedd yn briod â ?????.Blaenant-coch, Hermon, Griff a aeth I gadw garej yn ardal Gorseinon, Dai a aeth I fyw yn Hwlffordd.  Roedd Mary hefyd wedi mynd I fyw yn hwlffordd a sarah oedd yr olaf I fyw yn Tŷ-mate, gyda Walter ei gŵr.  Roedd gan Sarah a Walter ddwy ferch, Margaret a aeth I Gaerfyrddin I fyw, a Sarah. Hefyd roedd mab ganddynt (enw???)
 

Blaenllain

Lle bach uwchlaw Crossroads oedd hwn a gadwai dau geffyl a chwe buwch.  Gwilym  a’I wraig Anna Jane oedd yn byw yno ac roedd ganddytn bedwar o blant sef jack a oedd yn briod â Mona (merch a ddaeth I weithio ym Morglws Uchaf adeg y rhyfel), Lil a briododd a mynd I fyw’n Llandysul, Hubert a wnaeth briodi Magi (merch Red Cow, Llwyndrain), Betty a briododd Garfield Cole oDrefach Felindre. Roedd y teuku hwn yn perthyn I Pantyglien?? Pentre-cwrt.  
 

Nantsais

Lle bach tra unig rhwng Blaenpant a Gorllwyn oedd Nantsais.  Y rhai cyntaf rwy’n cofio yno oedd Sôn Dina a William Beal  Wedyn symudodd Dai Thomas, un o feibion Maudland, a Sara Ann, merch Danygoelan, Hermon.  Roedd ganddynt (Dai a Sara nawr ife??)  bump o blant - Alwyn,  Ieuan, Emrys, Gwen, Rose.  Ymunodd Alwyn â’r Heddlu, aeth Ieuan I weithio yn y bragdy yng Nghaerfyrddin, ffermiai Emrys yn Nolpwll,  Hermon, athrawes yn ysgol Trwern oedd Gwen, ac aeth Rose I ffermio yn Gelli Gynnar, Cwmhiraeth.

Gorllwyn

Gorllwyn oedd y fferm uchaf ar ochr yr hewl o Crossroads I Hermon, ac roedd y tŷ fferm ymhlith yr hynaf yn y plwyf.  Câi ei ffermio gan John James a’I wraig Lisi, merch Nantyfen, Cwmduad. Roedd un ferch ganddynt sef Mair, a briododd Wille ‘Cryngae’ ac a aeth i ffermio yno ato a chael dau o blant.

Blaenpant

Roedd Blaenpant ar yr hewl draw tuag at Gorllwyn.  Rwy’n cofio am Jos a Jim Rees yno, ac roedd Jim yn perthyn I Dafydd Rees, Rhydygwin/ Rhydygwyn, hermon, a Tom Rees, Rock Hole a Ffos-y-wernen ar oichr Rhiw Nant. Roedd gan Tom Rees dri o blant – Gwyndrid, Martha a ???? ac roedd gan Dafydd Rees dri o blant – Jack, Anna  Lois ????.  Priododd Jack â merch Capydo, Hermon.  Ni briododd y ddwy ferch ac mae’r un teulu’n ffermio yno hyd.
 
Ar ôl y teulu Rees death Thomas John (I ble nawr I Blaenpant ife) mab Clungwern, a Mari Ann, merch Black Lion, Hermon, I’w ffermio.  Roedd e’n  fasiwn (adeiladwr) ac fe dorrodd winsh yno I gael dŵr. Edychai fel crochan o frics coch a death llawer o bobl yno I’w weld.  Cawsant fab a merch o’r enw Gwynfor a Heulwen ac ymnhen amser symudodd y teulu i Flaengifre, Pencader.  
 
Yn y pedwardegau fe brynodd fy nhad a mam Blaenpant ac aeth Gwyneth fy chwaer I fyw yno. Cadwai rhyw wyth buwch odro a chwech o dreisiedi yno. 

Nantgronw

Fferm uchel oedd Nantgronw sydd erbyn heddiw wedi’i phannu gan goed.

Nantgronw Isaf

Fferm i lawr wrth ochr afon Gorllwyn oedd Nantgronw Isaf a gâi ei ffermio gan Arthur Evans a’i wraig ac roedd ganddynt bedwar o blant sef John Hendry a David James.
 
A wedd tri gwahanol nantrgronw?

Nantgronw Uchaf

Roedd Nantgronw Uchaf yn cael ei ffermio gan frawd Arthur sef John Evans.  Mae’r ffermydd hyn ?? wedi eu dymchwel ers blynyddoedd, ac wedyn fe gododd John Hendry adeilad arall yn agos I Bantir a Bryn-gwyn ger Blaenbargod.  

Blaenbargod

Câi fferm Blaenbargod ei ffermio gan Jonny a’I frawd, Tom.  Dau ddibriod oeddynt ond roedd dwy ferch yn eu helpu – Pearl a Lilian.  Daeth Pearl yno yn ystod y rhyfel ac fe ddysgodd Gymraeg.  Un o Fwlchyddwyros (pwy nawr Pearl neu lilian?)  ar y ffordd I Bencader oedd hi ac fe briododd ag idris, mab Harri a Sarah, Ffynon-las, Cwmhiraeth.

Penclawdd Uchaf

Fferm a gâi ei ffermio gan James Thomas a’i wraig, a oedd yn ferch I fferm Rosgeler gerllaw. Roedd yno bedwar o blant sef Anna Mary, Davina, Benji a Myfanwy. Priododd Anna Mary â mab Wil mab Blaenparsel, Talog.  Priododd Davina a Tudor, mab Cwm Blaenycoed, a phriododd Myfanwy â mab LLethrmoel, Cynwyl Elfed. Gŵr di-briod oedd Benji. 

Penclawdd Isaf

Tom Gower yw’r un cyntaf rwy’n cofio amdano yno, ond wedyn daeth Jos Jones, Nanterwydd, Hermon, I fyw yno gyda’I wraig, Marged. Merch Tŷ-newydd ger Closygraig, Drefelin oedd hi.  Roedd ganddynt bump o blant sef Dai, Edgar, Benja, Sila a May.  Priododd Dai â merch o odre Caerfyrddin, Edgar â merch Cwmgelli ger Tanglwst, Sila ag Idris - mab Penllwyn, May â Sam o Faniwan ger Bryn Iwan, a Benja â Doris – merch Clyngwern, Hermon.

Ffrydiau-gwynion

Dau frawd a dwy chwaer oedd yn ffermio Ffrydiau-gwynion, sef Ben, Sam, Anna a Marged. Wedyn symudodd Sam a Marged I ffermio ym Mlaenmaenog yr ochr arall I’r cwm.
 

Rhyd-yr-onw

William Jones a’I wraig, Leisa (merch Dafi Rees, Rhyd-yr-onw), rwy’n cofio yno gyntaf.  Brawd Jos Jones, Penclawdd Isaf, a brawd John Jones ‘Pencnwc’, Pentrecagal, oedd William.  Plant Dafi Rees oedd Leisa, Esther, John, Dai a Marged. Roedd y pedair fferm uchod (pa rai?) a hen fwthyn Penrhiw a ffatri’r Glyn rhwng afonydd Bargoed a Shingrug. 

Blaenmaenog

Wedi I Sam a Marged ymddeol aethant nôl I Ffrydiau-gwynion at Ben a Hannah, eu brawd a’u chwaer, ac yno yr arhosodd y pedwar ohonynt hyd nes ddiwedd eu hoes.  Prynwyd Blaenmaenog wedyn gan William Jones, Rhyd-yr-onw, ac roedd ganddynt dri o blant – Dai Tom, Rees, a Harri.  Priododd Dafi â merch y Derwig, ac fe briododd Rees â merch Smith Crugiwanfawr Lisi.  Claddwyd Harri (ffrind mawr I mi) pan oedd yn ddeunaw oed. Cafodd Rees dri o blant sef Eifion, Sylvia a Petra.

Waunfawr

Fferm y agos I Flaenmaenog a’r un ffordd a âi atynt.  Y rhai cyntaf rwy’n cofio yno yw Ben a Sara Griffiths a ddai o’r un teulu â Griffiths, Penlangribin.  Roedd tri o blant ganddynt sef William, John ac Anna Mary.  Dyn di-briod oedd William,, roedd John yn briod ag Anni (merch Simon ac Anna Thomas) Tŷ-hen, lle yr ochr arall I ffordd Penboyr, ac roedd ganddynt dri o blant sef Nesta, Eric ac Eiry.  Priododd Anna Mary â Jonny Griffiths. Penrhiwgowyn, Blaen-y-coed, ac roedd un merch ganddyntn sef Lilian Bowen, Gilfachmerson.

Pant-y-meillion

Fferm fach arall oedd Pant-y-meillion, yr ochr draw’r ffordd i Waunfawr.  John a Marged Davies oedd yn byw yno; roedd John yn perthyn I deulu Bryn-gwyn ger Pantir ac roedd Marged yn gyfneither I fy nhat-cu sef Thomas Jones, Triolbrith, Rhos.  Roedd ganddynt un ferch o’r enw Sara a briododd William James, ffatri Greenmeadow, Cwmpengraig, a chawsant un mab sef John William Jones (Jaci).  Priododd Jaci â merch o Gaerfyrddin ac aeth I redeg siop yn Rhydaman.  Cafodd Pant-y-meillion ei henwi ar ôl yr holl goed meilliona dyfai ar y cloddiau cyfagos.

Rhydfoyr Isaf

Roedd Rhydfoyr Isaf yn ffinio â Rhydfoyr Uchaf ac yn wynebu Eglwys Penboyr.  Dau frawd o’r enw Benja a Daniel yw’r rhai cyntaf rwy’n cofio amdanynt yn ffermio yno a Jim Bach Penrhiwficer oedd o hyd ar ôl y ceffylau gwaith a gallai Jim eu dysgu’n gywir fel ceffyl;au syrcas.

Penrhiwficer

Byw gyda’I fam ar fferm Penrhiwficer wna ef Jim. Roedd y fferm honno uwchben Cwm Shingrug a gellid ri chyrraedd ar y ffordd a âi heibuio I Eglwys Penboyr.  Roedd Jim yn gryn grefftwr ar weithio gwyntelli ac fe ddysgai’r grefft I fechgyn yr ardal.

Maesllan

Fferm Eglwys Penboyr oedd Maesllan ac rwy’n cofio am deulu’r Evansiaid yno ac am eu plant, Harry, Jim a Kate.  Priododd Jim a mynd I fyw I Nantryddod, Cwmduad, priododd Harry ac aeth I Bant-y-ffynnon, Cwmpengraig, a phriododd Kate â Jim Thomas, Hynfryn, Llanpumsaint a nhw fu’n ffermio ym Maesllan wedyn am flynyddoedd ??? Wedyn prynodd Rees a’I wraig, y lle. Pobol o ganolbarth Cymru oeddent a siaradai Gymraeg ag acen wahanol inni. Roedd ganddyn t ddau o blant o’r enw Brian a Liz.

Nant

Fferm ar waelod Rhiw Blaenbuarthe oedd hon a roeddech yn troi I mewn iddi ger y cware, y tu ôl I hen fwthyn Ffos-y-wernen.  Benjia Evans a’I wraig, Getta, rwy’n ei gofio yno. Roedd ganddynt chwech o blant (gweler ‘Blaenbuarthe’ uchod).  Roedd brawd gan Benja o’r enw Billy, ac ef a’i wraig, Anna (merch Blaenantir, Bryn Iwan), fu’n ffermio Blaenbrân o flaen Sam Jones.  Ar ôl I Billy farw aeth ei wraig a’u mab, Benji, I Lundain I gadw ‘wâc laeth’ a byddent yn dychwelyd bob hyn a hyn I weld perthnasau ac I fynychu Eglwys Penboyr.

Bach-y-gwyddel

Fferm rhwng Penlangerrig a Thŷ-hen oed hon, uwchlaw Llwynderw. Ar y fferm hon y codwyd tŷ pregethwr Capel Soar sef Maesawelon. Ben Jones a’I wraig oedd yn byw yno, ac mae’n debyg taw un o feibion ffatri Blaenbargod ydoedd a merch Penrallt oedd Lisi.  Buont yno am amser maith ac efallai wedyn I’r lle gael ei werthu I dafi James, Penrhiwfawr, neu Dai Jim fel y’I gelwid. Gŵr di-briod oedd ac roedd yn gefnder I’r teulu Rees, Blaenpant, Rhydywen, a Ffos-y-wernen.  Ac yna fel yn achos bron pob fferm, Saeson oedd yn canlyn.

Gwastod

Fferm fach a safai ger Bancllegwaun, sef pentref bach ar ffordd Penboyr.  Sam a Marged Williams a oedd yn ei ffermio, a hynny fel fferm lysiau. Mab Penlanfawr oedd Sam ac roedd Marged yn ferch I deulu o ofaint – John Evans (Jac y gof) oedd un o’i brodyr ac roedd Dafi Evans (Dai y gof) yn frawd arall iddi.  Cafodd mab Sam a Marged ei alw’n Sam hefyd, ac felly fe’u gelwid yn Sam a Sam bach ac roeddent yn gymeriadau diddorol iawn.

Aberlleinau

Fferm wrth ochr y ffordd o Waungilwen I Bentrecagal oedd Aberlleinau.  Dafi John a’I wraig mary rwy’n cofio amdanynt yno gyntaf. Mab Dolwen< Capel Iwan, oedd Dafi a merch Aberlleinau oedd Mary. FFiniai Aberlleinau â’r ‘Wyllech’ glai a Bronhydden Fawr.  Roedd ganddynt ddau o blant sef Tom a Ray.  Priododd Tom â merch ???????????????.  Priododd Ray â mab Gilfachwnda,Hermon. Roedd gan Tom a ??????? ddau fab – Alan a Hywel – ac roedd gan Ray dri o blant – Rhiannon a ???????a ??????????/ 

Pwll-y-gwyddau

Lle bach islaw Llwyncelyn ger Pentrecagal oedd Pwll-y-gwyddau. Dan Bowen oedd yn ffermio yno ac roedd yno ddau o blant sef John neu ‘Sion’ fel y câi ei alw a Rina’r ferch.  Mab Joshua oedd Dan ac ef yn frawd I Tom Bryn haul, Cwmduad, a Howel Blaenantgwyn. Cwmduad, gŵr Mari Bowen, merch nantcoch, Hermon, merch Triolmaengwyn oedd gwraig Tom ac roedd ganddytn chwaer yn briod â Dan Jones a fe oedd yn ffermio Garwenisaf?Garnwenisaf ger Rhos a oed ganddynt un mab, Alwyn, ac yn briod â Precilla, merch Triolbrith. LLangeler.    

Bu fawr John Tudor Jones ar y 5ed o Ionawr 2021 a’i gladdu ym mynwent Eglwys St. James, Rhos, Llangeler ar Sadwrn Ionawr 9ed, 2021.