Stori Fawr Dre-fach Felindre

BEIRDD AC AWDURON ARDAL DRE-FACH FELINDRE

Gan  Peter Hughes Griffiths.  Rhagfyr 2020

Cyflwyniad

Yn ei lyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr 1899 mae Daniel Jones ar dudalen 412 a Phennod XV wedi gosod y pennawd Dyfyniadau o Weithiau Beirdd y Plwyfi.   Dim ond naw tudalen sydd i’r cynnwys i gyd gan nodi enwau’r beirdd o dan eu penillion.

Ym Mhenod X ac o dudalen 236 ymlaen o dan y pennawd Enwogion,  ceir rhestr hir o hanes unigolion amlwg gyda llawer ohonyn nhw yn awduron ac yn feirdd ac eraill fel Y Parch Thomas Beynon (1744 – 1833) ac yn Rheithor Penboyr o 1784 tan 1833   “...yn Gymro gwladgarol, yn un o noddwyr pennaf yr iaith Gymraeg, yn dra dysgedig ynddi ac yn gefnogydd gwresog i’w llenyddiaeth a’r awen Gymreig,” (Tudalen 258).

Yna ar dudalen 259 mae cyfeiriad at yr enwocaf o’r beirdd yn hanes Cymru sef Dafydd ap Gwilym.     “...Mam Dafydd ap Gwylim ydoedd Ardudful ferch Gwilym Fychan o’r Cryngae yn Emlyn...”  (Fferm ar gyrion pentref Dre-fach Felindre yw y Cryngae gyda’r ffordd sy’n arwain iddi wrth yr Amgueddfa Wlan Genedlaethol.)    “... Wrth ddyfod i gyffyrddiad a’r beirdd a’r pendefigion yn llys ei ewythr Llywelyn o’r Cryngae y daeth disgleirdeb ei dalentau i’r golwg...” (Hanes Llywelyn o’r Cryngae ar dudalen 310).
                                           
Yn ei lyfr Crwydro Sir Gar ac ar dudalen 183 yn y bennod Y Lle Bum yn Gware Gynt mae Aneurin Talfan Davies yn son am gysylltiad Dafydd ap Gwilym a’i ewythr Llywelyn o’r Cryngae a’r Ddol Goch a ‘Lle chwyrn, llwybr terfyn, lle beirw Teifi” a nodir yn ei gywyddau. Mae’r englynion coffa i Llywelyn ar dudalen 185 yn nodi’n glir y cysylltiadau.  Mae mwy am Dafydd ap Gwilym o dan y pennawd Hen Enwogion ar wefan ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’.

Rhoddir cryn sylw yn y llyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr i’r bardd Myfyr Emlyn (Y Parchedig Benjamin Thomas 1836 – 1893)  ac yn weinidog y Bedyddwyr yng Nghapel Bethel, Dre-fach o 1860 tan 1873,    “...ymddatblygodd fel bardd a llenor.”    Ceir mwy o’i hanes ar dudalennau 317 a 319 o’r llyfr.

Gall Plwyf Llangeler (sy’n cynnwys pentref Dre-fach) hawlio y bardd a’r awdur disgleiriaf a welodd Cymru yn yr ugeinfed ganrif ym mherson yr enwog T Llew Jones a anwyd ac a fagwyd ym Mhentrecwrt.  Enillodd y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith (Glyn Ebwy 1958 a Chaernarfon 1959) ac yn awdur toreithiog dros ben, a’i lyfrau i blant gyda’r goreuon a welwyd erioed. Ei hanes yn llawn yn y llyfr Bro a Bywyd T Llew Jones a gyhoeddwyd gan Barddas yn 2009.

Fel y gwelir beirdd yn canu yn y mesurau rhydd yw’r mwyafrif o’r rhai a restri’r isod.  Mae tystiolaeth fod un o’r enw George Campden ar ddechrau’r ganrif yn cyfansoddi gan ddefnyddio’r gynghanedd, ond go brin y gwelwyd neb wedyn yn defnyddio’r mesurau caeth tan i Alun Jones (Alun Brynafon) fod yn aelod o Ysgol Farddol Caerfyrddin a meistroli’r cynganeddion ac i Peter Hughes Griffiths ennill mwy nag un gwobr am ganu yn y mesurau caeth.

Wele restr, a mwy o wybodaeth am  feirdd  ac awduron Dre-fach Felindre yn ystod yr 20ed ganrif a hyd at y presennol.

Brethyn Cartref

Chi sy’n cofio ‘Newyrth Dafydd
Patriarch y Felindre,
‘Rych chi’n cofio’n burion hefyd
Am ei frethyn cartre;
Aeth ei got yn hen heb golli
Dim o’i gran;
Roedd yn llwyd pan gas ei phannu,
Brethyn gwlan y defaid man,
Dyna fel y gwisgai’r oes o’r blan.
  Cytgan: Brethyn gwlân y defaid man,
                Dyna fel y gwisgai’r oes o’r blan.

Dyna bennill cyntaf o’r pedwar pennill o’r gan a fu’n boblogaidd iawn ar hyd yr 20ed ganrif, a phawb yn ei chanu ar hyd a lled y wlad.  Fe’i cyfansoddwyd gan Crwys ac mae’n ymddangos ar dudalen 111 yn y gyfrol Cerddi Crwys 1913. (Pedwerydd argraffiad 1926). 
Dyma’r cyfnod pan oedd y diwydiant gwlân ar ei orau yn ardal Drefach Felindre.

Rhigwm lleol:      Pwy gyfansoddodd y rhigwm talcen slip hwn tybed oedd ar gof ambell un o’r hen genhedlaeth?
Beth am drip,  meddai Frances Pitt,                                                                                       
  I ble? Holodd Sarah Te.      
I’r Cei, medde John Day.
Beth os bydd hi’n bwrw glaw? Medde Beni Bwlchclaw’.
Fe awn ni a ymbrela, medde Danny Bargod Villa.
Reit o! Medde Dafi Go’.                                                                                              

Samuel Owens  (S.O.)

Ef oedd y bardd amlycaf yn yr ardal ar ddiwedd y 19ed  a rhan gyntaf yr 20ed ganrif ac ymddangosodd ei waith yn gyson yn y papur lleol y Tivy Side ac fe enillodd gadeiriau mewn eisteddfodau.  Mae mwy o wybodaeth am Samuel Owens a lluniau ohono gyda’i gadeiriau o dan y pennawd Enwogion ar wefan ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre.’ Mae llun ohono gyda’i gadeiriau hefyd ar dudalen 22 o’r llyfr Canrif o Luniau. 

Un o arferion barddonol y cyfnod,  a thua throad y ganrif, oedd cyfansoddi Cerddi Coffa am unigolion a fu farw, ac roedd Samuel Owens yn un o’r beirdd hynny.   Yn fy meddiant mae cerdyn o faint A4 gyda’r pennawd “Er Cof am Hannah Isaac, Bancyfelin, Velindre. Yr hon a fu farw Rhagfyr 7,  1900 yn 23ain mlwydd oed.”   Mae ei llun yn y canol ac yn dilyn wedyn mae pedwar pennill o waith S.O.  (Samuel Owens) a phedwar pennill o waith H.D. (pwy oedd H.D. tybed?).  Dyma bennill cyntaf S.O.

  Er mor galed ydyw marw,
   Er mor chwerw ydyw’r loes,
  Cymwynaswr ydyw angau
  I dduwiolion pob rhyw oes.
  Gwerthfawr fraint i Hannah ydoedd
  Cael ei symud at ei Duw;
  Ar ol nychu mewn afiechyd
  Cafodd hinsawdd well i fyw.

  • Rwy’n cyfeirio at Sam Owens yn fy hunangofiant O Lwyfan i Lwyfan ac ar dudalen 11. Bu fy mam yn edrych ar ei ôl  ac rwy’n adrodd stori amdano ac yn  son mwy am ei fywyd.  (PHG)

John Evans  (John y Gwas)  1878 - 1958

John Evans John y Gwas

O dan y pennawd Enwogion a Phobl Dre-fach Felindre  ar wefan ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’ fe gewch hanes y gwr arbennig hwn John Evans.  Daeth yn enwog fel gwr cyhoeddus, yn arweinydd a beirniad eisteddfodau, yn gyfansoddwr barddoniaeth ac yn awdur toreithiog iawn. Mabwysiadodd y ffugenw ‘John y Gwas’ wrth ei gyfansoddiadau  ac fel ‘John y Gwas’ y cyfeiriau pawb ato.  Bu colofn ganddo am flynyddoedd lawer o dan y pennawd Dwy Ochr y Teifi yn y Carmarthen Journal  ac mae casgliad o’i waith a’i bapurau mewn dau focs llawn yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.  Ar ôl bod yn athro yn Ysgol Aberbanc, Henllan, bu ef a’i wraig Leisa yn cadw tafarn y ‘New Shop Inn’ yng nghanol pentref Felindre.  Newidiwyd enw’r dafarn i ‘Tafarn John y Gwas’ i gofio amdano, ac ar wal y dafarn mae adroddiad o’i angladd a ffeil ar hanes ei fywyd tu ôl i’r bar.

D S Jones  (Dai Pendre) 1917 – 1974

D S Jones Dai Pendre

Eto, o dan y pennawd Enwogion a Phobl Dre-fach Felindre ar wefan ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre,’ fe gewch hanes y gwyddonydd a’r bardd David Steven Jones neu D S Jones, Pendre, Felindre.  Ar Sadwrn Ebrill 30ain 1988 trefnais i osod plac i gofio amdano uwchben drws ei gartref Pendre.   Mae ei hanes  fel bardd yn un ryfedd iawn gan mai cyfansoddi er mwyn pleser personol iddo ef ei hun a wnâi nes i’r Prifardd T Llew Jones ddweud wrtho am gystadlu mewn eisteddfodau. Dyna a wnaeth yn y 1960’au a mynd ymlaen i ennill ugeiniau o gadeiriau mewn eisteddfodau ar hyd a lled Cymru, ac fe enillodd wobrau yn yr Adran Lenyddiaeth lawer tro yn yr  Eisteddfod Genedlaethol.   Ymddangosodd casgliad o’i farddoniaeth yn ei gyfrol Hud yr Hydref

Y Parch. Thomas Elfyn Jones  (Elfyn Llysderi)

y Parch Thomas Elfyn Jones Elfyn Llysderi

Fe’i ganwyd a’i magwyd ar y fferm fechan Llysderi sydd ar y ffordd o bentref Felindre i Gwmpengraig, ac yn fab i James ac Esther Jones. Fe’i codwyd i bregethu yng Nghapel Soar, Penboyr, o dan weinidogaeth y Parch T E Jones.  Bu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Presbyteriaid, Caerfyrddin cyn ei ordeinio i’r weinidogaeth gyda’r Annibynwyr yn 1937 yn Trinity Llanboidy a Rhydyceisiaid. Symud i Libanus, Y Pwll, Llanelli yn 1944, yna Y Tabernacl, Pontardawe yn 1949, ac wedyn i Beniel a Bwlchycorn, Caerfyrddin. Ymddeolodd yn 1979 i Drefach, Llanelli.

Bu’n cyfansoddi emynau, cerddi a homilïau ar hyd ei yrfa ac ar ôl ei ymddeoliad. Cyfrannodd homili i Bapur y Cwm (y papur bro lleol yng Nghwmgwendraeth) yn ddi-dor am ugain mlynedd. Cyhoeddodd lyfryn yn llawn penillion difyrrus yn 1941 o dan y pennawd Y Bibell Glai, ac yna yn 2005 fe drefnodd ei ferch, y bardd a’r awdures Menna Elfyn, ar ran ei chwaer Sian Elfyn Jones a’i brawd Geraint Elfyn Jones,  gyhoeddi cyfrol o waith eu tad – Seinio Clod .Yn y gyfrol, fe welwn T Elfyn Jones ar ei orau fel emynydd ac awdur cerddi crefyddol. Mae yna 65 emyn a phob un yn bwrpasol i’w canu mewn amrywiol wasanaethau i oedolion a phlant ynghyd a 15 carol.

Prawf o bwysigrwydd T Elfyn Jones fel emynydd yw’r ffaith bod 7 o’i emynau wedi eu cynnwys yn y llyfr emynau Caneuon Ffydd, sef rhifau 78,  156,  242,  653,  786,  831 a 861.

Ymhlith rhai o’r cadeiriau eisteddfodol a enillodd oedd  Eisteddfod Fawr Aberteifi yn 1969 ac yn 1971. Bu’n fuddugol droeon o weithiau yn Adran Llenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cyfeiriwyd ato yn aml fel y ‘Bardd- Bregethwr,’ ac ar dudalen 98 o’r llyfr Canrif o Luniau mae llun o’r Parch T Elfyn Jones gyda phump o weinidogion eraill a godwyd yng Nghapel Soar Penboyr.

Ôl Nodyn : Mae ei ferch Menna Elfyn, Caerfyrddin yn cael ei chydnabod fel un o feirdd blaenllaw Cymru ein dyddiau ni, a’i wyres Fflur Dafydd, Caerfyrddin yn enillydd Y Fedal Ryddiaeth a Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal a bod yn nofelydd, dramodydd a chantores boblogaidd.

Y Parch WT Thomas (1910 – 2000)

Y Parch W T Thomas

Dod yn weinidog ar gapel Soar Penboyr yng Nghwmpengraig a wnaeth Y Parchedig William T. Thomas yn y flwyddyn 1960 a byw ym Maesawelon. Bu yno yn gweinidogaethu tan iddo ymddeol ym 1977 gan symud wedyn i Bontiets i fyw.

Ceir hanes ei fywyd yn llawn yn y gyfrol Hanes Wil tŷ Canol 1910 – 2000, a gasglwyd gan ei fab Y Parch Emyr Wyn Thomas. Ynddi mae pennod yn dwyn y teitl ‘Y Bardd Lenor’, ac yn dangos ei fod yn ‘Fardd Gwlad’ o’r radd uchaf. Mae’r bennod yn son amdano...    “Y wers rydd ddigynghanedd a’i diddorau’n bennaf – tribannau, baledi, mesur emynau...  cyfarch ffrindiau, caneuon ysgafn a thelynegion.”

Enillodd ddwy gadair eisteddfodol sef Eisteddfod Bryngwenith yn 1964 a Gwernogle yn 1966, ac yn y llyfr ceir casgliad sylweddol o’i gyfansoddiadau sy’n cynnwys amrywiaeth deg o’i weithiau ac yn dangos yn glir ei ddoniau barddonol.

Mae llun o’r Parch William T Thomas ar dudalen 98 o’r llyfr Canrif o Luniau gyda’r chwech gweinidog a godwyd yng Nghapel Soar Penboyr.

 Y Parch Emyr Wyn Thomas

Y Parch Emyr Wyn Thomas

Fe symudodd Emyr Wyn Thomas i fyw i Maesawelon, Cwmpengraig pan ddaeth ei dad Y Parchedig WT Thomas yn weinidog ar Gapel Soar, Penboyr yn 1960. Daeth yntau i adnabod ei filltir sgwâr yn dda ac ar ôl bod yn ddisgybl yn Ysgol Penboyr ac Ysgol Ramadeg Llandysul fe aeth ar gwrs i fod yn athro yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin. Bu yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth a maes o law  yng Ngholeg yr Annibynnwyr Cymraeg yno hefyd. Bu’n aelod o’r grŵp canu cyfoes Y Ffowls ac fe fu yn athro am chwe mlynedd yn Mhenybont ar Ogwr.  Dychwelodd i fyw i 5, Heol y Bedw, Henllan yn 1978 ac yn athro bro yn ardal Castell Newydd Emlyn a Llandysul.

Roedd Emyr yn allweddol yn y grŵp o bobl a sefydlodd y papur bro Y Garthen  trwy gymorth pobl fel y Parch William Davies, Castell Newydd Emlyn,  Huw Lewis, Gwasg Gomerian, Llandysul, Alun Jones (Alun Brynafon,) Felindre ac Arwyn Davies. Bu Emyr Wyn Thomas yn olygydd Y Garthen am y chwe blynedd gyntaf. Rhaid edmygu golygyddion papurau bro y cyfnod hwnnw a chyn dyfodiad y gosod trwy gyfrifiadur. Ar ôl casglu’r deunydd roedd angen ei deipio allan ac yna ‘cut and paste’ i osod pob tudalen cyn mynd a’r cyfan i’r argraffwyr. Gwasg Gomer oedd argraffwyr Y Garthen.  Heb os, golygai cyhoeddi’r papur waith cyson i’r golygydd gyda’r cyfrifoldeb o ysgrifennu adroddiadau a chywiro amrywiaeth o gyfraniadau gan ohebwyr lleol.

Yn y cyfnod fel golygydd fe gyfansoddodd Emyr (fel ei dad) benillion pwrpasol i’w rhoi yn Y Garthen,  a hynny yn ymwneud a digwyddiadau  neu bobl leol.  Yn nhraddodiad ei dad roedd e’n ‘fardd gwlad a rhigymwr bro’ heb ei ail.   (Wele rhai enghreifftiau o’i waith isod.)

Yna am saith mlynedd bu Emyr yn brifathro ar Ysgol Penwaun, Tanglwst ger Capel Iwan. Priododd gyda Catrin yn 1986 a symud i fyw i Gefneithin.

Dilynodd ei dad i’r weinidogaeth wedyn a chael ei sefydlu yn weinidog ar nifer o gapeli yng Ngogledd Sir Benfro. Mae Emyr a Catrin yn byw ar hyn o bryd ym Mhentremorgan, Sir Benfro.   Mae’r llyfr a ysgrifennodd  am ei dad, sef Hanes Wil tŷ Canol. (Y Parch WT Thomas, Soar, Penboyr) yn dangos yn glir ei ddoniau naturiol fel awdur.
 
Dyma enghreifftiau yn unig o waith Y Parch Emyr Wyn Thomas:

Y Gan   -     Cwmpengraig
Mewn dyffryn diarffordd yng nghanol Sir Gar
Mae’r pentref prydferthaf erioed,
Does na ddim all amharu ar heddwch y lle
Ond trydar yr adar a’r coed.

Cytgan:
Mae heddwch hyfryd yn y cwm,
Yng nghwm bach Cwmpengraig,
Dan gronglwyd glyd o ddwndwr byd,
Mae’n nef yng Nghwmpengraig.
 
                        Yr Ostin Saith
Mae’r Ostin Saith yn mynd fel bom
Cyflymach yw na thrên,
Gall fynd yn rhad a mynd yn rhwydd
Mae’n well na eroplen.

Car ffyddlon yw yr Ostin Saith
Er fod e’n swnllyd iawn,
Fe gariodd nhad bob dydd i’r gwaith
Shifft fore a phrynhawn.                                                                                                                                     

Alun Lewis Jones  (Alun Brynafon)  1930 - 2010

Alun Brynafon

Mae adroddiad llawn am fywyd gweithgar Alun Jones i’w weld o dan y pennawd Enwogion a Phobl Dre-fach Felindre ar wefan Stori Fawr Dre-fach Felindre.  Alun Jones oedd yr ychydig prin o’r ardal a ddysgodd y ddawn o farddoni trwy ddefnyddio’r gynghanedd a hynny yn Ysgol Farddol Caerfyrddin.  Enillodd 25 o gadeiriau mewn eisteddfodau a bu’n aelod o dimau Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru. Byddai wrth ei fodd yn treulio’i amser ym Mhabell Len yr Eisteddfodau Cenedlaethol a heb os roedd Alun Jones yn fardd da a’i ddiddordeb mewn barddoniaeth a llenyddiaeth yn amlwg.

Fe oedd cyd-olygydd y gyfrol bwysig Canrif o Luniau a chyd-sefydlydd y papur bro Y Garthen, ac fe gyfrannodd i’r papur hwnnw yn ddifwlch am dros ugain mlynedd.
Mae lluniau ohono yn y gyfrol Canrif o Luniau ar dudalen 101 fel Clerc Cyngor Cymuned Llangeler a Phenboyr ac ar dudalen 113 yn aelod o dim snwcer Neuadd y Ddraig Goch.

Y Parch John Towyn Jones  (Towyn Lan) 1942 - 2019

Y Parch John Towyn Jones

Mae’r manylion am fywyd y Parch Towyn Jones hefyd i’w gweld o dan y pennawd Enwogion a Phobl Dre-fach Felindre ar wefan Stori Fawr Dre-fach FelindreRoedd e’n awdur nifer fawr  o lyfrau a threuliodd ei fywyd yn ymchwilio a chyhoeddi erthyglau ar destunau hanesion lleol a storïau ysbryd yn ogystal ac amrywiaeth o ddefnyddiau eraill.
 
Mae llun ohono yn ŵr ifanc ar dudalen 98 o’r llyfr Canrif o Luniau gyda’r gweinidogion eraill a godwyd yng Nghapel Soar Penboyr.

David Leslie Baker-Jones 1923 – 2019

Dr D L Baker-Jones

Cewch hanes ei fywyd yntau yn llawn o dan y pennawd Enwogion a Phobl Dre-fach Felindre ar y wefan Stori Fawr Dre-fach Felindre.    Heb os, fe oedd yr academydd disgleiriaf a welodd y pentref erioed.  Fe’i ganwyd a’i magwyd yn Llainffald yng nghanol pentref Felindre ac yno y bu fyw cyn symud i blasdy bychan Dangribyn sydd ar y ffordd i Gwmpengraig, a marw yno yn 96 oed. Er yn athro Addysg Grefyddol am flynyddoedd lawer yn Ysgol Ramadeg Llandysul fe aeth i weithio wedyn yn Adran Archifau Cyngor Sir Caerfyrddin. Cyhoeddodd nifer o lyfrau hanesyddol a’i ddiddordeb mewn hen deuluoedd a phlasdai yn amlwg yn ei gyhoeddiadau, yn ogystal a nifer o bamffledi hanesyddol swmpus. Rhestri’r rhain o dan y pennawd Enwogion a Phobl Dre-fach Felindre.

John Tudor Jones  1926 – 2021

John Tudor Jones

Mae John Tudor Jones yn frawd i D Leslie Baker Jones ac wedi treulio y rhan fwyaf o’i oes yn byw yn yr ardal, ac wedi ei eni ar fferm Llwynneuadd gyferbyn a Blaenbuarthen  ar y ffordd sy’n arwain o Gwmpengraig i Cross Roads ar dop y rhos. Bu’n byw wedyn yn Llysderi a’r Felin Newydd yn Nrefelin cyn ymddeol i Gennau’r Glyn y byngalo drws nesaf i Glanesgair a gyferbyn a Dangribyn ar y ffordd i Gwmpengraig.

Cyhoeddodd ddau lyfr o atgofion ei fagwraeth ym mhlwyf Penboyr sef o dridegau a phedwardegau y ganrif ddiwethaf ymlaen. Ceir yma ddarlun gwerthfawr o fywyd cefn gwlad a’r gymdeithas amaethyddol Gymraeg... “mae’r ffordd o fyw yn cael ei phortreadu yn adlewyrchiad teg o fel roedd hi mewn cymunedau gwledig ar hyd a lled Cymru.”

Mae’r ddau lyfr – Cofio’n Ôl (2013) a Cofio’r Hwyl (2016) gan John Tudor Jones yn hynod o ddifyr ac yn gyfraniad arbennig i len gwerin ardal Dre-fach Felindre. Maent yn lyfrau sy’n dwyn cymaint o ffeithiau hanesyddol lleol ac yn rhoi darlun llawn i ni o’r ardal yn ystod yr 20ed ganrif. Mae’n werth nodi fod rhai darnau o farddoniaeth o waith John Tudor Jones yn y ddau lyfr.  Mae llun ohono ar glawr ei lyfr cyntaf ynghyd a nifer dda o luniau amrywiol eraill yn y ddau lyfr. Troswyd ei lyfr Cofio’n Ôl i’r Saesneg a’i gyhoeddi yn 2020.

Bu farw John Tudor Jones ar y 5ed o Ionawr 2021 a’i gladdu ym mynwent Eglwys St. James, Rhos, Llangeler ar Sadwrn 9ed Ionawr 2021.

Tom Davies  1901 - ?

Tom Davies

Ganwyd yn fferndy Treale plwyf Penboyr yn 1901. Addysgwyd yn Ysgol Penboyr, Felindre, Ysgol Ramadeg Llandysul a Choleg y Drindod, Caerfyrddin. Bu yn brifathro ar Ysgol Capel Mair, ger Pentrecwrt, Sir Gaerfyrddin, ar Ysgol Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn ac ar Ysgol Llanfihangel-Cwmdu, Sir Frycheiniog cyn ymddeol a byw ar y Waunfawr, Aberystwyth.

Mae ei gyfrol Yn Fore yn Felindre a gyhoeddwyd ym Medi 1966 gan Wasg Gomer yn rhoi darlun i ni o fywyd mewn ysgol gynradd ar ddechrau’r 20ed ganrif a’r ffordd y byddai plant a rhai mewn oed yn diddori eu hunain yn eu horiau hamdden.

Mae’r llyfr hwn Yn Fore Yn Felindre yn gofnod pwysig iawn yn hanes ardal Dre-fach Felindre gan ei fod yn ymdrin, nid yn unig a dulliau addysgu ar ddechrau’r 20ed ganrif, ond hefyd sut oedd bywyd yn gyffredinol yn yr ardal.  Mae’n dangos i ni hefyd fanylion am ambell  unigolyn a ddylanwadodd yn fawr iawn ar Dre-fach Felindre – ac yn arbennig ym mherson y prifathro Daniel Jenkins – er nad yw yn ei enwi! Mae hon yn gyfrol gwerth ei darllen a’i hail ddarllen o bryd i’w gilydd.

‘Nel Fach y Bwcs 1992’,  ‘Ffarwel Archentina 1995.’  Cyfuniad o’r ddau lyfr - ‘ O Drelew i Drefach’

Nel Fach y Bwcs

Ysgrifennwyd y llyfrau hyn gan Marged Jones merch yng nghyfraith i Ellen Jones, Graigwen, Alltpenrhiw, Felindre

Bu farw Ellen Jones yn 1965 yn 95 oed ac er treulio y rhan fwyaf o’i hoes yng Nghymru brodor o’r Wladfa ym Mhatagonia oedd hi, yno roedd ei chalon, yno roedd bedd ei mham.
Daeth hi a’i thad John Davies yn ôl i Gymru yn 1901 pan oedd hi ond ugain oed, ac i fyw yn ‘Camwy’ gyferbyn a Neuadd y Ddraig Goch.  Mae plac ar y tŷ yn nodi hynny.
Mae hanes ei bywyd yn un mor gyffrous ac eto yn rhoi darlun byw i ni o fywyd bob dydd ym mhentref Dre-fach Felindre yn ystod rhan gyntaf yr 20ed ganrif.

Aneurin Talfan Davies 1909 – 1980

Aneurin Talfan Davies
  • Am hanes ei fywyd yn llawn wele’r gyfrol Bro a Bywyd Aneurian Talfan Davies 1909 – 1980 a gyhoeddwyd yn1992 gan Gyngor y Celfyddydau.

Ganwyd Aneurin Talfan Davies yn fab i weinidog Capel Closygraig y Parchedig William Talfan Davies ac Alys Davies ar  yr 11eg o Fai 1909.  (Merch teulu Pant-y-barcud,  Cwmhiraeth oedd Alys Jones.) Bu W Talfan Davies yng Nghlosygraig o 1903 tan 1911, ac roedd Aneurin Talfan yn ddwy oed pan symudodd ei dad i fod yn weinidog ar gapel Libanus, Gorseinon.

Yn ei lyfr Crwydro Sir Gar, ac ar ddechrau’r bennod Y Lle y Bum yn Gware Gynt mae Aneurin Talfan Davies yn dweud fel hyn -   “Peth rhyfedd, onide, yw atyniad bro ein geni...  fe’m ganwyd ym mhentref y Felindre, ond pan oeddwn yn ddwyflwydd oed symudodd fy rhieni a’r teulu i fyw i Gorseinon.  Ond eto Felindre, neu yn hytrach y filltir sgwâr o gwmpas Capel Closygraig yw fy nghartref ysbrydol.   Yno i’r Tŷ Capel yr awn i a’m brodyr i dreulio gwyliau haf, a phob gŵyl arall a ddeuai i’n rhan...Yno y bu fy nhad yn lletya hyd nes iddo briodi...  Yma, yng Nghlosygraig, felly, y treuliais i ddyddiau heulog plentyndod, nes dyfod y fro yn rhan ohonof... yno y mae fy ngwreiddiau.” (Tudalennau 173 – 175)

Fe ddaeth Aneurin Talfan Davies yn bennaeth rhaglenni a chyfarwyddwr gyda BBC Cymru a bu  ei fab Geraint Talfan Davies  yn Rheolwr BBC Cymru 1990 – 2000 a’i fab yntau Rhodri Talfan Davies yw’r rheolwr presennol (2020).

Daeth Aneurin Talfan Davies yn enwog fel bardd, llenor a darlledwr. Ymhlith ei gyhoeddiadau roedd Gwyr Llen 1949, Blodeugerdd o Englynion 1950, Crwydro Sir Gar 1959, Englynion a Chywyddau 1958, Bro Morgannwg 1972. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o’i waith sef Y Ddau Lais a  Dinnarch Erchwyn a Cherddi Eraill 1975.  Cyhoeddodd lyfrau Saesneg hefyd megis  Dylan, Druid of the Broken Body 1964, a Friend of Thomas Hardy.
Aneurin Talfan Davies a’i frawd Alun Talfan Davies sefydlodd ‘Wasg Y Dryw’ a fu yn un o weisg mwyaf poblogaidd Cymru am flynyddoedd lawer. Nhw hefyd sefydlodd y cylchgronau Cymraeg  Heddiw a Barn.    Heb os bu ei gyfraniad yn un pwysig dros ben ac mae’r manylion am ei fywyd wedi eu cyhoeddi yn y gyfrol Bro a Bywyd – Ifor Rees.

Bu farw yn Ysbyty Heol y Prior, Caerfyrddin ar y 14eg Gorffennaf 1980.

Y Parch Thomas Davies (Drefach)

Y Parch Thomas Davies Drefach

Bu’n weinidog ar Gapel Bedyddwyr Bethel Drefach ac yn byw yn Berwyn, rhyw ddau dy yn is i lawr o’r Fynwent ar rhiw Pensarn.

“Enillodd ers blynyddoedd ei le fel un o ddoniau mawr y pulpud...” yw’r geiriau sydd i’w gweld yn y ‘Cyflwynair i’w gyfrol  PRYNU’R AMSER  a Phregethau Eraill a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer, Calan gaeaf 1956.   Casgliad sydd yma o 14 o’i bregethau ac yn dangos ei ddawn fawr o ymdrin a geiriau.

‘Cofiant Y Parch. Dr. J. Harris Jones, MA, Ph.D.,’  Penybanc, Closygraig, Llangeler. (1827 - 1885)

Tu allan i Gapel Closygraig mae yna gofgolofn arbennig yn nodi lle y claddwyd Y Parch J. Harris Jones. Fe’i ganwyd ar Awst 29ain 1827 a bu farw ar 21ain Gorffennaf, 1885 yn 58 oed. Cafodd yrfa ddisglair tu hwnt ac mae’r Cofiant gan Edward Matthews a J Cynddylan Jones yn 1886 yn nodi mor fanwl hanes ei fywyd.  (Copi o’r Cofiant gan Peter Hughes Griffiths). Ar ddiwedd y cofiant mae Pryddest Farwnadol i Dr Jones.

Dr J Harris Jones oedd un o’r bobl ddisgleiriaf a mwyaf galluog a welodd yr ardal yn ystod y 19eg ganrif.

Daniel E Jones – Awdur y llyfr gwerthfawr ‘Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr 1899.’

Yn Eisteddfod Dre-fach Felindre ar y 18ed o Awst 1897 enillodd Daniel E Jones y wobr am y ‘Traethawd gorau ar Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr’ gyda £20 o wobr. Ffrwyth y traethawd buddugol yw’r gyfrol ‘Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr’ a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer Llandysul. Hwn oedd y trydydd llyfr a ddaeth o’r wasg a’r argraffwyr J D Lewis. Yn 1994 cyhoeddodd Adran Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Sir Dyfed gyflenwad o gopïau ffacsimili... “gan annog ac ysgogi haneswyr lleol i ysgrifennu cyfrol arall yn olrhain hanes yr ardal hyd at y cyfnod presennol.” (Mae adroddiad a lluniau llawn o noson y lansiad yn rhifyn Rhagfyr 1994 o’r papur bro Y Garthen.

  • Mae’n werth nodi bod hyn wedi digwydd o safbwynt ardal Dre-fach Felindre gan i Wefan arbennig  gael ei sefydlu, ac mae’r wefan honno ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’ yn gwbl weithredol ac yn cofnodi gwahanol agweddau o fywyd yr ardal yn ystod yr 20ed ganrif hyd at y presennol (2020).

Cyfeiriad Daniel Jones pan gyhoeddwyd ei lyfr ar Galan Ionawr 1899 oedd Teifi Mills, Pontweli, Llandysul.  Fe’i ganwyd ar 22ain o Fedi 1840 yn Groesffordd, Penboyr. Er i’r teulu symud i bentref Lower Machen, ger Casnewydd fe aeth Daniel i’r Amerig fel ‘Agent to the Liberal Unionist Party’ tua 1899. Yn Ionawr 1930 roedd Daniel Jones yn gwneud gwaith adeiladu ym mhentref Drefach ac wedi ail briodi. Bu farw Ar Awst 18ed 1941 yn Llaintarad, Saron Llangeler ar ôl byw yno gyda Enoch a Rachel James am flynyddoedd. Fe’i claddwyd ym mynwent Penrhiw, Dre-fach yn yr un bedd a’i ferch fach 10 oed Enid Myfanwy (13.12. 1897).

Nodyn Pellach:   Roedd Y Parch J Towyn Jones yn cofio gweld llun o Daniel Jones, a hwnnw wedi ei fframio ar y wal yn Llaintarad pan aeth yno am fwyd at Enoch a Rachel James pan yn ŵr ifanc yn y weinidogaeth.   Nid oes llun o Daniel Jones wedi dod i’r golwg hyd yn hyn.

Mae Cangen Merched y Wawr, Bargod Teifi wedi gosod cofeb i Daniel Jones yn yr Amgueddfa Wlan Genedlaethol ym mhentref Dre-fach Felindre.  Cafwyd cwmni ei ddisgynyddion yn y seremoni ddadorchuddio honno ar nos Wener Medi 23ain 2011.

  • Mae gan Peter Hughes Griffiths ffeil sy’n cynnwys holl goeden deuluol Daniel Jones ynghyd a thaflen  noson  lawnsio y copi ffacsimili o ‘Llyfr y Ddau Blwyf’, a lluniau o wyr ac wyres Daniel Jones. Hefyd lluniau o ragor o’i ddisgynyddion ar noson dadorchuddio’r gofeb yn yr Amgueddfa Wlan.

Vernon Maher 1943 -

Vernon Maher

Fe ddaeth y ddeuawd Vernon a Gwynfor yn hynod o boblogaidd dros Gymru gyfan o ganol 1970’au ymlaen gan gyhoeddi pump record. Mae Vernon wedi cyhoeddi 5 CD/Casét ohono fel canwr unigol.  Yr hyn sy’n bwysig nodi mai Vernon ei hun sydd wedi cyfansoddi nifer  o eiriau’r caneuon rheini.

Mae’n werth nodi hefyd mai Gwynfor Thomas (yr aelod arall o’r ddeuawd boblogaidd) a gyfansoddodd yr emyn ‘Mi Wn Pwy yw Fy Nghyfaill’ sydd ar eu hail record, ac mae Mam Vernon,  Muriel Maher a gyfansoddodd eiriau’r gan Cofio’n Ôl ar y record gyntaf a Bwthyn yn y Wlad ar y drydedd.

Nellie Young

Roedd Nellie Young yn byw yn Llwyngwern, sef y tŷ sydd rhwng Angorfa a Spring Gardens yng nghanol pentref Felindre. Gwraig hynod o swil a thawel oedd hi ac wedi ymddeol fel athrawes ac yn briod gyda Tom Young.  Nid oedd plant gyda nhw ac ychydig iawn y gwyddom amdani. Ond, fe ddaeth hi yn bur enwog yn lleol gan bod ei henw yn ymddangos yn gyson yn y papurau lleol o dan enillwyr Adran Llenyddiaeth eisteddfodau ar draws gorllewin Cymru. Ei phrif enillion oedd yng nghystadlaethau cyfansoddi neu gorffen limrig yn ogystal a chystadlaethau eraill o dan Adran Llen yr eisteddfodau rheini. 

William Daniel Davies 1836 – 1900.

Nid yw Daniel Jones wedi cynnwys unrhyw gyfeiriad at William Daniel Davies yn ei lyfr Hanes Plwyfi Penboyr a Llangeler, ond mae’n werth nodi bod hanes y gwr arbennig hwn yn Y Bywgraffiadur Cymreig, a dyma’r cynnwys:

Llyfrwerthwr, ac fe’i ganwyd mewn bwthyn o’r enw Llety (Llety Clud erbyn hyn ) Penboyr, Felindre, Sir Gaerfyrddin ar 15 Mehefin 1838.....  Symudodd i’r Rhondda yn 1862 i weithio yn y pyllau glo. Dechreuodd bregethu gyda’r Methodistiaid Calfinaidd tua’r un adeg. Yn 1868 ymfudodd i Unol Daleithiau America gan ymsefydlu yn Hyde Park gerllaw Scranton. Yn fuan ar ôl cyrraedd ymunodd gyda llu o Gymru eraill yn America i gyhoeddi papur newydd – Baner America. Ysgrifennodd lawer o erthyglau i’r papur hwnnw; ymwelodd a Chymru yn 1874 a rhoes hanes ei daith yn y colofnau. Bu am flynyddoedd lawer yn trafeilio fel gohebydd Y Drych, newyddiadur Americanaidd arall. Yr oedd hefyd yn adnabyddus fel darlithydd cyhoeddus. Yr oedd ar daith ddarlithio yng Nghymru pan fu farw yn Wrecsam 27 Mawrth 1900.

Cyhoeddodd amryw o lyfrau. Yn eu plith  Llwybrau Bywyd neu Hanner Can Mlynedd o oes Wm.D.Davies (Utica 1899),  Cartref Dedwydd ac Ysgol y Teulu, 1897, ac America a Gweledigaethau Bywyd 1894.
 

John Seimon Eric Griffiths 1940 – 1981. (Eric Tŷ Hen)

John Seimon Eric Griffiths

Ganwyd Eric Griffiths neu Eric Tŷ Hen, fel y byddai pawb yn ei alw, ar fferm Tŷ Hen, Cwmpengraig, Felindre.

Addysgwyd yn Ysgol Penboyr ac Ysgol Ramadeg, Llandysul. Ond nid oedd diddordeb ganddo mewn addysg ffurfiol ond yn hytrach ar ffermio adref yn Tŷ Hen gan ddilyn Seimon Thomas ei dadcu. Y stori gyntaf gan Emyr Llywelyn yn ei lyfr Hiwmor y Cardi a gan Peter Hughes Griffiths yn ei lyfr yntau Hiwmor Sir Gar yw am gampau Eric yn Ysgol Ramadeg Llandysul.  Hawdd deall fod Eric Tŷ Hen yn gymeriad nodedig ac yn ŵr ifanc diwylliedig iawn, yn llawn hiwmor ac yn storïwr difyr.  Gallai adrodd englynion a phenillion diddiwedd ar ei gof, a’i gariad at farddoniaeth Gymraeg yn amlwg iawn.

Bu farw ar Hydref 1af 1981 ac yntau ond 41 oed ac yn 2009 fe gyhoeddwyd y llyfr Twm Sion Cati – Yr Arwr Bonheddig, gan ddau o’i ffrindiau – Melfydd Jones a Berian Jones er cof amdano. Mae’r llyfr yn dweud stori ar gyfer plant am Twm Sion Cati mewn llun a gair ac yn cynnwys unarddeg o benillion am Twm Sion Cati  o waith Eric Griffiths. Dyma’r pennill cyntaf –
 
 
 
YR HERWR
Rhyw haen o lwch godasai
‘Rôl carnau merlyn Twm
Dros lwybr cul a throellog
A’r lethrau’r mynydd llwm,
Ac ar ei gefn, ei feistr syn
Wnâi ddal ei felyn fwng yn dynn.

Mae’r penillion hyn yn dangos ‘y bardd gwlad’ ar ei orau. A dyna oedd Eric Griffiths, sef enghraifft glir o ‘fardd gwlad a rhigymwr bro’ ac yn ysgrifennu’n bennaf am ddigwyddiadau a materion amserol  o fewn ei filltir sgwâr.    
Yn ei lyfr Hanes Wil Tŷ Canol, sef hanes bywyd Y Parch William Thomas, gan ei fab Y Parch Emyr Wyn Thomas, mae’n cynnwys y penillion a adroddodd Eric yng Nghwrdd Ymadawol y Parchedig W T Thomas yn Rhagfyr 1976.  Dyma bennill neu ddau –

Wedi rhoi un flwydd ar bymtheg
Dros yr achos rhois ei fryd
Gyda’r eglwys yma’n Soar
Fugail da i’w braidd ynghyd.
Ffrindiau lu eilia’n gry’
Eu dyled mawr i W.T.

Aed ei dymuniadau gorau,
Fel aelodau deisyf wnawn
Ym Mhontiets y cewch fel teulu
Nodded llwyr a iechyd llawn.
I’r hen fro dewch am dro
Ni chewch ddrws ar gau na-ar glo.        (Eric Griffiths Tŷ Hen.  ‘Y Tenor o Tŷ Hen’)  
    
Hoffai alw ei hun  ‘Y Tenor o Tyhen’ am ei fod yn aelod o Gor Bargod Teifi, sef y cor cymysg a ail sefydlwyd yn 1973 ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1974. Fe wnaeth y cor gystadlu eto yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976 ac fe ymddangosodd benillion o waith Eric Griffiths yn y papur lleol y  Tivy Side  yn adrodd hanes  y cor yn cystadlu ac yn ennill y drydedd wobr.  Adroddodd Eric ei benillion mewn cyngerdd wedyn yn Neuadd y Ddraig Goch Felindre gan enwi nifer o’i gyd gantorion ac eraill –

Dan faton Mrs Lewis
Fe ddaeth yr hyfryd awr,
A chyfle ‘Ysbryd Dwyfol’
Ger bron y dyrfa fawr.
Bu ein cyfeilyddes shwt ‘success’
Mae Nesta fel Dame Myra Hess.

Roedd disgwyl amyneddgar,
Beirniadaeth ddaeth am chwech,
Gwrandawai pawb yn astud,
O’r corau, pwy fu drech?
Daeth wyth deg wyth o farciau, ie,
Cor Bargod rannau’r trydydd lle.

Cefais y fraint o weld y casgliad o gyfansoddiadau Eric, sydd gan ei chwaer Eiry Jones, Trefirian, Penboyr, Felindre yn Rhagfyr 2020.  Diddorol iawn oedd mynd trwy’r cynnwys a gweld ei fod yn cyfansoddi ar bob math o bapur a chefn amlenni a llythyron. Nid oedd teitl i unrhyw benillion ac mae’n anodd iawn darllen ei ysgrifen sydd braidd yn afler!  Mae rhywun wedi teipio llawer o’i waith hefyd ac yn cynnwys -   Penillion i gyfarch aelodau o Gylch Cinio Castell Newydd Emlyn ar ei noson gyntaf fel Llywydd y Cylch yn 1980.    Yna’r penillion i gyfarch Esau Evans, Goitre ar ei ben blwydd yn gant oed.  Ysgrifennodd ‘Faled Y Ddau Bwyliad’ am  lofruddiaeth y Pwyliad hwnnw yng Nghwmdu ger Llandeilo pan gyhuddwyd Onwfrejic o ladd Sykut ei gyfaill.  Penillion wedyn i estyn croeso i’r Parch Elfed Lewis yn weinidog ar gapeli Bwlchygroes a Gwernllwyn, ac ugeiniau o ddarnau pwrpasol eraill.

Mae’n werth cofio hefyd iddo fod yn Gynghorydd ar Gyngor Cymuned Llangeler am flynyddoedd ac mae llun ohono gyda’i gyd gynghorwyr ar dudalen 101 o’r llyfr Canrif o Luniau.

Dyma englynion Tydfor –
I GOFIO FFRIND – ERIC TŶ HEN
Yn y llan ar brynhawn llaith – daearwyd
Eric fy nghydymaith,
Rhyfedd rhoi clo ar afiaith
Awen Tŷ Hen, ganol taith.

Cofiai englynion cyfan – a’u hadrodd
Yn rhaeadrau arian, 
Emynau, geiriau rhyw gan
A ddeillai’n ebrwydd allan.

O’r alwad gan farwolaeth – ym Mhenboyr
Daw mwyn bwl o hiraeth
Am eli dy gwmnïaeth
Felly, ffarwel gyfaill ffraeth.      (Tudfor Jones)

  • Bu Eric yn gyfaill ysgol i mi ac yn ffrind da i gymaint ohonom tan ei farwolaeth yn 1981 ac yntau ond yn 41 mlwydd oed. (Peter Hughes Griffiths – Rhagfyr 2020.)

Gwyn Alfred Williams  1925 – 1995

Gwyn Alfred Wiliams

Hanesydd o Gymro oedd Gwyn Alf Williams a anwyd yn Dowlais, ger Merthyr Tudfil.

Yn 1954 daeth yn ddarlithydd yn Adran Hanes Coleg y Brifysgol Aberystwyth. Bu’n Athro Hanes ym Mhrifysgol Caerefrog (York) o 1965 tan 1974 ac yna yn Athro Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd hyd at ei ymddeoliad yn 1983.  Dyna pryd y symudodd e i fyw, gyda’i bartner Sian Lloyd, i Tŷ Dyffryn, sydd ar y ffordd i Gwmpengraig o bentref Felindre. Bu farw yno yn 70 oed ar 16eg o Dachwedd 1995. Bu’n byw yn Tŷ Dyffryn felly am dros ddeng mlynedd.

Trwy gyfrwng yr iaith Saesneg y darlithiau ac ysgrifennodd nifer helaeth o lyfrau hanesyddol. Yn ôl Meic Stephens yn ei deyrnged iddo pan fu farw yn yr ‘Independent’ – “I am pretty sure that it is for his books that he will be remembered ...    he was unusual among academic historians ...   he was able to infuse his writing with a passionate concern about the fate of his own people ... he trïed to influence public opinion by presenting the history of Wales in new, sometimes startling dramatic ways, whether in his lectures and books and in many of the television programmes he made.”

Roedd e’n Farcsydd ond daeth yn aelod o  Blaid Cymru maes o law.

O fynd i wefan Google.com cewch hanes Gwyn Alf Williams yn llawn gyda rhestr hir o’i lyfrau, ac yn eu plith ei hunangofiant Fishers of Wales 1996.  Mae manylion pellach amdano, a’i lun, yn Gwyddoniadur Cymru.
Braint i ardal Dre-fach Felindre oedd bod un o haneswyr blaenaf Cymru wedi byw yn yr ardal am dros ddeng mlynedd.
 

Peter Hughes Griffiths  1940 -  (‘Pedr Lawen’ yng Ngorsedd y Beirdd)

Peter Hughes Griffiths

Ganwyd Peter Hughes Griffiths yn Llwynbedw (y tŷ cyntaf o dan y ffordd sy’n arwain o bentref Felindre i Gwmpengraig.)  Cafodd ei addysg yn Ysgol Penboyr, Ysgol Ramadeg Llandysul, Coleg y Drindod Caerfyrddin a Choleg y Brifysgol yn Aberystwyth. Bu’n athro wedyn yn Aberystwyth cyn dod nol i dref Caerfyrddin i fyw yn 1972 ac i fod yn drefnydd i Gwynfor Evans a Phlaid Cymru. Bu’n athro bro wedyn ac yn Warden ar y  Ganolfan Athrawon yng Ngholeg y Drindod ac yn ddarlithydd yn yr Adran Addysg yno tan ei ymddeoliad yn 2005. Fe’i etholwyd yn Gynghorydd Sir Plaid Cymry dros Ward y Gogledd, Tref Caerfyrddin yn 2005 ac ar Fwrdd Gweithredol y Cyngor yn 2016 gyda chyfrifoldeb am yr Iaith Gymraeg, Diwylliant, Hamdden a Chwaraeon a Thwristiaeth.

Ysgrifennodd ei hunangofiant O Lwyfan i Lwyfan yn 2010 gyda phennod gyfan o dan y teitl Llwyfan y Cyfansoddi.   Yn y bennod honno mae’n cofnodi ei waith fel bardd ac awdur ac yn rhestri – sut y cychwynnodd gyfansoddi yn Ysgol Ramadeg Llandysul yng nghwmni’r Prifardd Aled Gwyn, yna yng Ngholeg y Drindod ac yn aelod o dim ‘Talwrn y Beirdd, Caerfyrddin maes o law. Bu’n beirniadu cystadleuaeth ‘Limrig y Dydd’ yn y Babell Len yn  yr Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd lawer. Mae’n nodi hefyd ei fewnbwn i’r papur bro lleol Cwlwm.

Cyfnod cynhyrchiol oedd hwnnw yn cyfansoddi caneuon pop a phoblogaidd o’r 60’au a’r 70’au ymlaen. Bu’n llunio caneuon digri ar hyd ei oes yn ogystal a llunio sgetsiau ysgafn a hyd at rhyw ugain o gomedïau un act. Perfformiwyd rhain ar hyd a lled Cymru. Ymddangosodd ar raglenni radio fel Dros Ben Llestri  yn rheolaidd am flynyddoedd. Cyfrannodd yn fisol  i dudalen Gymraeg y cylchgrawn Carmarthenshire Life am bymtheg mlynedd ac enillodd y Fedal Ryddiaeth ddwy waith yn Eisteddfod Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan ac Yn Eisteddfod Mon, yn ogystal a llawer gwobr yn Adran Lenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol ar hyd y blynyddoedd.
Ar ddiwedd ei bennod Llwyfan y Cyfansoddi yn ei hunangofiant mae’n cyfeirio at y llyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr a gyhoeddwyd yn 1898 gan nodi bod gwir angen adrodd hanes bro Drefach Felindre ar hyd y ganrif ddiwethaf. Ei eiriau olaf yn y bennod yw – “Fe af ati rhywbryd.”   Ac yn hytrach na mynd ati i gofnodi’r hanes ar ffurf llyfr bu Peter yn allweddol i ffurfio grŵp o bobl leol i fynd ati i sefydlu gwefan gyfrifiadurol arbennig o dan y teitl ‘ STORI FAWR DRE-FACH FELINDRE.’   Ar y wefan hon bellach cofnodir pob agwedd o fywyd yr ardal yn ystod yr 20ed ganrif ac hyd at y presennol.   Mae cyfraniad Peter wedi bod yn sylweddol i’r wefan hon. Fe ysgrifennodd hanes Neuadd y Ddraig Goch, am Enwogion a Phobl Drefach Felindre, a’r Adran hon Beirdd ac Awduron.

Mae Peter yn parhau i gyfansoddi a chyfrannu’n gyson i’r papur bro Cwlwm ac i Bapur Y Priordy (cylchgrawn misol ei gapel), ac erthyglau i dudalen Gymraeg y Carmarthen Journal.
Bu ei gyfraniad fel awdur a chyfansoddwr yn eang ac yn gyson fel y cofnododd yn ei hunangofiant O Lwyfan i Lwyfan yn 2010.  Yno fe welir rhestr hefyd o’i gyhoeddiadau a’i lyfrau amrywiol.