skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

Amdanom ni

Yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Ddraig Goch yn 2013 penderfynwyd paratoi ‘Prosiect Hanes Cymdeithasol Dre-fach Felindre’ a’i alw yn Stori Fawr Dre-fach Felindre. Sefydlwyd pwyllgor gyda Stephen Jones, Y Garth, Felindre yn gadeirydd.  Darllen mwy am tharddiad y prosiect yma.

Y bwriad gwreiddiol oedd casglu pob agwedd o hanes yr ardal yn ystod yr 20fed ganrif a’i gyhoeddi mewn llyfr, ond buan y sylweddolwyd y byddai hynny’n cyfyngu’n ddirfawr ar y nifer o ddeunyddiau y gellid eu cynnwys. Y cam naturiol i’w gymryd felly, yn yr oes dechnolegol a digidol hon, oedd gosod yr holl gynnwys ar wefan fyd-eang a chyda chydweithrediad parod y Llyfrgell Genedlaethol Cymru trefnwyd cynnwys yr holl ddeunydd ar wefan gynhwysfawr y Llyfrgell, Casgliad y Werin Cymru.

Gwaith Blaenorol

Ysgrifennwyd y traethawd buddugol ar hanes lleol yn Eisteddfod Dre-fach Felindre, Awst 16, 1897 gan Daniel Jones, Teifi Mills, Llandysul. Cyhoeddwyd y gwaith hwn, Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr, gan J D Lewis, Gomerian Press, Llandysul, trydydd llyfr y cwmni, yn 1899. Ynddo cawn hanes llawn y ddau blwyf hyd at ddiwedd y 19eg ganrif. Fodd bynnag ni chyhoeddwyd llawer iawn am hanes cymdeithasol lleol yn yr 20fed ganrif heblaw am lyfrau am y diwydiant gwlân

Llun o'r cofeb i Daniel E Jones yn yr Amgueddfa Wlan

Y Cynllun

Fe aeth pwyllgor Stori Fawr Dre-fach Felindre ati i gynllunio sut i roi ar gof a chadw holl hanes yr ardal, a hynny o dan wahanol benawdau fel y gall pobl bori’r wefan yn hawdd i weld yr hyn sydd o ddiddordeb iddynt boed hynny’n gapel neu garnifal neu bêl-droed. Bydd y gwaith o ychwanegu at y casgliad gwreiddiol yn parhau i’r dyfodol ac yn cael ei gynnal yn ddi-fwlch.

National Wool Museum Logo

Yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol

Mae’r pwyllgor yn hynod o ddiolchgar i’r Amgueddfa Wlân Genedlaethol sydd wedi ei lleoli yn adeilad Hen Ffatri Wlân y Cambrian yn y pentref am y cymorth a’r cydweithio parod. Bydd arddangosfeydd o agweddau hanesyddol o fywyd y pentref yn cael eu cynnal yno. Eisoes cafwyd arddangosfa o ‘Eisteddfodau’r Ardal’ yn cael ei dilyn gan arddangosfa o ‘Chwaraeon yr Ardal’. Bydd adran yn yr amgueddfa hefyd lle cedwir artiffactau, llyfrau, mapiau, a phob math o ddeunyddiau hanesyddol sy’n ymwneud â’r ardal.

Y Murlun

Un o benderfyniadau cyntaf pwyllgor Stori Fawr Dre-fach Felindre oedd comisiynu’r artistiaid enwog Meirion ac Aneurin Jones, Aberteifi, i baentio murlun o faint sylweddol, a fyddai’n adlewyrchu hanes y ddau bentref. Mae’r murlun gwreiddiol, ynghyd â’r llyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr, yn cael eu harddangos yn barhaol yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol. Trefnodd y pwyllgor i werthu copiau o faint pwrpasol o’r murlun hwn wedi eu fframio. Darllen mwy am hanes y Murlun yma.

murlun gan Meirion ac Aneurin Jones
photo of memorial to Nel Fach y Bwcs: house is Camwy

Nel Fach y Bwcs

Trefnodd y pwyllgor ddigwyddiad yn y pentref ar Sadwrn, 4ydd Gorffennaf 2015 i gofio am Ellen Jones, Graigwen, Allt-pen-rhiw a ddychwelodd gyda’i thad o Batagonia i fyw yng Nghamwy yng nghanol pentref Felindre yn 1901. Gosodwyd plac glas ar fur Camwy i nodi hynny. Mae holl hanes rhamantus a dirdynnol Nel Fach y Bwcs wedi ei gofnodi yn y llyfr O Drelew i Dre-fach ac ar raglenni teledu.

Lansio’r Wefan

Lansiwyd gwefan Stori Fawr Dre-fach Felindre, sef y wefan hon - www.storifawrdrefach felindre.cymru - ar Sadwrn, 29ain Hydref 2016, yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol a’r amgueddfa’n dathlu 40 mlynedd ei bodolaeth yn y pentref. Cyhoeddir prif ddigwyddiadau a newyddion am y prosiect ar y wefan hon a bydd yn gweithredu fel porth i’r deunyddiau llawn a fydd yn cael eu storio ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol, Casgliad y Werin Cymru. Bydd modd agor y wefan hon a dewis categori o’r rhestr isod a chael eich cyfeirio’n syth i’r adran briodol yn Casgliad y Werin Cymru. Hefyd, gellir mynd yn syth i Casgliad y Werin Cymru i chwilio.

Mae cychwyn ar y gwaith hwn yn gam pwysig iawn yn hanes yr ardal. Mae’n fwriad gan y pwyllgor i barhau i gynllunio i’r dyfodol gan gasglu mwy o wybodaeth a deunydd i’w osod ar we neu eu cadw’n ddiogel yn yr amgueddfa. Bwriedir paratoi mwy o arddangosfeydd hefyd ac mae croeso i unrhyw un gyflwyno deunydd sy’n ymwneud â’r ardal.

‘Rhoi ar gof a chadw’ holl hanes cyfoethog yr ardal yw pwrpas Stori Fawr Dre-fach Felindre. Fe fydd y gwaith hwn yn parhau i’r dyfodol er mwyn ‘cadw i’r oesoedd a ddêl y glendid a fu.’

 

Pwyllgor

Cadeirydd: Cllr Ken Howell
Ysgrifennydd: Mrs Eleri Samson - Ffurflen Cysyllt
Trysorydd: Mrs Delyth Evans
Aelodau: Mr Eifion Davies, Cllr Peter Hughes Griffiths, Dr Carol James, Mr Richard Jones, Mr Stephen Jones, Mrs Lesley Parker, Mr Dilwyn Smith, Mrs Ann Whittall