Stori Fawr Dre-fach Felindre

gan Peter Hughes Griffiths
gan Peter Hughes Griffiths

DWY ERTHYGL A GYHOEDDWYD YN Y CYLCHGRAWN ‘PAPUR Y PRIORDY’ 

 

Capel Penrhiw

Cyhoeddwyd yn Cylchgrawn "Papur y Priordy" ym mis Mehefin 2023

Ar ddydd Sul Mehefin 18ed fe fydd Pererindod yr Ofalaeth yn ymweld â’r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan, a bydd ein gweinidog y Parchedig Beti-Wyn James yn ein harwain mewn gwasanaeth yno am ddau o’r gloch y prynhawn yng Nghapel Penrhiw.

Bydd cael bod yn bresennol yn yr oedfa honno yn achlysur arbennig iawn i mi yn bersonol gan i mi gael fy magu ym mhentref Dre-fach Felindre, ac mae gen i gof clir pan oeddwn yn blentyn o fynd gyda fy mam i oedfaon prynhawn Sul yn yr haf i Gapel Penrhiw. 

Arferai Capel Undodiaid Penrhiw sefyll ym mhentref Dre-fach Felindre, ac mae’r plac sydd yno nawr yn nodi’r fan lle safai’r capel yn dweud y stori wrthon ni: “Yma y safai Capel Undodiaid Penrhiw o 1777 hyd 1953. Fe’i ail godwyd yn 1956 trwy ganiatâd yr Enwad yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.”

Rwy’n cofio mynychu’r oedfa olaf honno yn y capel cyn ei symud, a hefyd alw heibio wedyn i weld y gweithwyr yn datod yr adeilad garreg wrth garreg gan ryfeddu gweld rhif wedi ei osod ar bob carreg o gwmpas y drws a’r ffenestri cyn eu symud. 
 
Nid oedd yr eglwys wedi ei chorffori yn 1715 er bod yna bregethu anffurfiol yn y plwyf. Yna, yn 1753 gan fod y blaid Galfinaidd yn fwy o nifer penderfynodd yr Arminiaid fynd allan o’r eglwys yn Dre-fach a chychwyn achos ar eu pen eu hunain yno yn 1756, ac adeiladu Capel Penrhiw maes o law yn 1777, y flwyddyn a enwir fel ‘blwyddyn y tair caib’.
 

Dr Iorwerth C Peate
Dr Iorwerth C Peate

Capel bychan syml a diaddurn yn allanol oedd y gwreiddiol gyda chwrt o’i flaen a mainc o gerrig o’i gwmpas i roi lle i eistedd i’r aelodau ar Sul y Cymundeb gan nad oedd digon o le iddyn nhw yn y capel ei hun.  Yn 1870 adnewyddwyd y capel trwy osod pen newydd arno a’i baentio.  Y prif bwrpas o’i symud i’r Amgueddfa Werin yn ôl Dr Iorwerth C Peate, Ceidwad Sain Ffagan ar y pryd, oedd am ei fod yn enghraifft glasurol o bensaernïaeth syml ac urddasol tai cwrdd Cymru ar eu gorau.

Cofiaf yn dda hefyd am y gwrthwynebiad chwyrn lleol i’r bwriad o symud y capel. Ond, wedi ymgynghori a thrafod yn hir, cymeradwywyd y symud i’r Ymddiriedolwyr, ac ar Awst 1af 1951 pasiwyd yn unfrydol i drosglwyddo’r adeilad i Sain Ffagan, ac erbyn Mehefin 1956 roedd Capel Penrhiw yn ddiogel ar ei draed yn yr Amgueddfa Werin. Trosglwyddwyd yn ogystal lyfr cyfrifon y capel am y cyfnod 1785 – 1822 yn rhodd i’r Amgueddfa.
 
Mae’n dra thebyg mai to gwellt oedd i’r hen adeilad cyn gosod math o deils arno, ac yna yn 1870 rhoddwyd llechi meinion yn lle’r rhai trwchus. Wrth ddatod yr adeilad cafwyd nifer o gwils a hen boteli inc yn y llawr a hefyd ddarn o bren ac arno’r geiriau ‘Welsh Not’. Mae’r fynwent fechan yno o hyd ac yn cael ei chadw gan yr ardalwyr. Mae’n werth nodi bod y diweddar Dr Iorwerth C Peate wedi ei gladdu wrth y capel presennol yn yr amgueddfa.

Parch DJ Goronwy Evans
Parch DJ Goronwy Evans

Mae’r Parch DJ Goronwy Evans wedi cyhoeddi llyfryn ar ‘Hanes Capel Penrhiw’ ac yn y llyfr ‘Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr, 1899’, mae’r awdur Daniel Jones (sydd wedi ei gladdu yn y fynwent) wedi cofnodi’n fanwl pwy fu’n gwasanaethu a chynnal yr achos yno.
 
A dyma benillion o waith Edwin Jones (brawd y Prifardd T Llew Jones) pan symudwyd y capel o Dre-fach Felindre i’r Amgueddfa Werin:
 
Datodwch ei drawstiau cedyrn,
Gan gofio am dwll pob hoel,
Symudwch ei bulpud gwladaidd,
Dihatrwch ei furiau moel.
Ac ewch ag ef i Sain Ffagan
Does neb a all edliw’r tro,
Symudwyd yr hen gynulleidfa
Ymhell cyn ei symud o.
Ail hoeliwch ei drawstiau cedyrn
Ail godwch ei furiau plaen,
Ond byth ni adferir yr angerdd
A’r sêl a fu ynddo o’r blaen.
 
Ac er i mi ymweld â Chapel Penrhiw yn yr Amgueddfa yn achlysurol ar hyd y blynyddoedd, y prynhawn Sul hwn sydd i ddod ym mis Mehefin fydd y gwasanaeth cyntaf i mi fod ynddo ers pan oeddwn yn blentyn – ac achlysur y byddaf yn ei drysori yn fawr iawn ac a fydd yn dwyn atgofion hynod felys bore oes.


 

PERERINDOD YR OFALAETH

Cyhoeddwyd yn Cylchgrawn "Papur y Priordy" ym mis Gorffennaf / Awst 2023

Ryn ni mor ffodus bod gennym yng Nghymru un o amgueddfeydd awyr agored gorau Ewrop sy’n gyfle gwych i ni ddysgu am dreftadaeth a diwylliant cyfoethog ein cenedl. Agorodd Amgueddfa Werin Cymru, sy’n rhan o Amgueddfa Cymru bellach, yn nhiroedd Castell Ffagan ar gyrion Caerdydd ym 1948, diolch yn bennaf i weledigaeth, y curadur cyntaf, Iorwerth Cyfeiliog Peate (1901-82), brodor o Bandy Rhiwsaeson ym mhlwyf Llanbrynmair, Sir Drefaldwyn bardd ac arbenigwr llên gwerin ac awdur amrywiol.

Sain Ffagan oedd cyrchfan ein pererindod blynyddol eleni a braf oedd gweld y bws yn llawn o aelodau’r Ofalaeth a chyfeillion o Gapeli Heol Awst ac Elim Ffynnon-ddrain. Pawb mewn hwyliau da ac yn barod am ychydig o newid awyr! Roedd y daith yn ddigon pleserus – y tywydd yn ffafriol, yn sych a heb fod yn rhy dwym.

Wedi cyrraedd Sain Ffagan, roedd traed pob un ohonom yn gwbl rydd i fwynhau paned a phicnic a chrwydro o gwmpas - tan 2 o’r gloch!  Pinacl y diwrnod oedd ymgynnull yng Nghapel Pen-rhiw ar gyfer oedfa dan ofal ein Gweinidog y pryd hwnnw.

Dr Iorwerth C Peate
Dr Iorwerth C Peate


 
Yn ystod yr oedfa cawsom hanes diddorol y capel Undodaidd hynafol hwn gan Peter Hughes Griffiths. Gwyddom yn dda, wrth gwrs, am ddoniau cyfathrebu dawnus Peter ond roedd ei brofiadau personol o’r capel yn ychwanegu’n sylweddol at naws ei ddweud.  Mae’n un a fagwyd ym Mhentref Dre-fach Felindre, ble safai’r capel yn wreiddiol. Cofiai fynd yno’n blentyn gyda’i fam, yn enwedig ar ar brynhawniau Sul ym mis Awst.  Mae’n cofio mynd hefyd i’r opedfa olaf a gynhaliwyd yno cyn symud y capel i Sain Ffagan – er mai’r tu allan yr oedd oerwydd bod y capel yn llawn.  Profiad arbennig iddo oedd gweld y rhifau’n cael eu gosod o gwmpas drws a ffenestri’r capel i helpu’r arbenigwyr wrth iddynt ddymchwel ac yna ailgodi’r capel. Cawsom lu o hanesion hynod o ddifyr gan Peter a syndod i lawer ohonom, efallai, oedd deall nad oes yr un capel Undodaidd yn dwyn enw Ysgrythurol. Roedd yr achlysur arbennig ac yn brofiad hyfryd nid yn unig i ni ond hefyd i Peter ac yn dwyn llawer o atgofion yn ôl iddo.  Diolch hefyd i Nansi Hayes am ddod â’r gyfrol Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr gan Daniel E Jones (1899) i’r oedfa sy’n cynnwys adran ar Gapel Pen-byr.  Mae Peter, gyda llaw, yn paratoi erthygl ar Daniel Jones ar gyfer gwefan Stori Fawr Dre-fach Felindre.
 
Yn ystod yr oedfa canwyd tri emyn – Cenwch i’r Arglwydd (Tôn Hengoed), O Dduw, a roddaist gynt (Tôn Rhosymedre) a Dy law, O dduw, fu’n tywys (Tôn: Morning Light) yn ddigyfeiliant gan nad oes, ac na fu, offeryn yng Nghapel Pen-rhiw. Roedd mynd ar y canu ac mae llawer o’r diolch am hynny i’r codwr canu, Adrian Evans.
 
Cydiodd Beti-Wyn yn yr ail emyn, (Caneuon Ffydd 820) am ei sylwadau. Yr awdur yw Tomi Evans (1905-82), ewythr i’r diweddar Wyn Tegryn Evans a fu’n ddiacon yn y Priordy. Fe’i cyfansoddwyd ar gyfer dathliadau canmlwyddiant a hanner sefydlu’r achos yng Nghapel yr Annibynwyr yn Llwyn-yr-hwrdd, Sir Benfro, ym 1955 a’r neges a’r geiriau yr un mor addas wrth i ni gofio ac edmygu’r her o godi Capel Pen-rhiw ym 1777 - blwyddyn y tair caib - a’i ailadeiladu yn San Ffagan ym 1953. Cyfeiriodd ein Gweinidog yn ddeheuig a pherthnasol iawn ac fwrdwn y tri phennill – Duw’r creawdwr a’r crefftwr, Duw’r cynhaliwr a Duw sy’n agor ffordd newydd i Iesu Grist. Diolch am ddweddglko priodol i’r oedfa hyfryd hon.
 
Wrth adael y capel gwelsom y fan, y tu ôl i’r adeilad, lle claddwyd llwch Iorwerth Peate, yn ôl ei ddymuniad, a’i wraig. Ar y garreg fedd yno hefyd y coffeir ei unig fab Dafydd (1936-1980).
 
Bu cyfle i grwydro ychydig mwy wedi’r oedfa a mwynhau paned fach arall – a hufen iâ!  Ufuddhaodd pawb i’r gorchymyn i ddychwelyd i’r bws erbyn 4.20 a bant â ni ar amser i gyfeiriad Llangennech gan edrych ymlaen at flasu’n pryd bwyd!
 

Roedd Tafarn y Bont dan ei sang wedi i ni gyrraedd ond ni amharodd hynny ddim ar ansawdd a mwynhad ein pryd bwyd o gwbl.  Carferi ardderchog a phwdin i ddilyn a chwmni difyr iawn.
 
Talwyd y diolchiadau gan Sulwyn Thomas yn ei ffordd ddihafal a hwyliog ei hun. A gyda llaw, trwy gyd-ddigwyddiad eisteddai Sulwyn yng Nghapel Pen-rhiw yn yr union fan ble byddai Peter pan oedd yn blentyn! Cyfeiriodd Sulwyn at Tony a Julia, cyfeillion sy’n dod i’r oedfaon y Priordy o bryd i’w gilydd, a ymunodd â ni yn Sain Ffagan, Lyn Jones (Bancyfelin) am rannu losin ar y bws, Gwynfor Davies (Y Priordy) am baratoi’r taflenni ar gyfer yr oedfa, Adrian (Y Priordy) am godi’r canu, Elfed Lewis, gyrrwr gofalus y bws a’r un a drefnodd y bwyd nos, staff Tafarn y Bont a Peter Hughes Griffiths am ei araith arbennig.

Yn ddiddorol iawn, roedd person arall ar y daith yn ogystal â Peter, sy’n gallu dwyn atgofion personol am fangre yn Sain Ffagan. Cafodd bythynnod Rhyd-y-car eu hadeiladu’n wreiddiol tua 1800 yn Merthyr Tudful ar gyfer gweithwyr y gwaith haearn a’u hailadeiladu yn Sain Ffagan ym 1987. Wel, Rhif 3 yw’r man lle bu June Thomas (Y Priordy) yn ‘gware gynt’ ar aelwyd ei mam-gu a’i thad-cu!

Rhyfedd o byd, fel yr esboniodd Sulwyn. Ac wrth gwrs wrth gloi, cyfeiriodd Sulwyn at gyfraniad arbennig ein Gweinidog yn trefnu’r cyfan mor effeithiol yn ôl ei harfer!

Ni chafodd Sulwyn ei hunan fod yn ddihangol ychwaith, cofiwch, a chydganodd pawb ‘Pen-blwydd Hapus’ iddo ar derfyn wythnos arbennig iawn yn ei hanes!
 
Diwrnod da iawn unwaith eto!