Cwmpengraig
Wedi'i gywasgu ar waelod y cwm ger aber y nentydd Esgair ac Arthen, roedd Cwmpengraig yn ganolfan bwysig yn oes aur y ffatrioedd gwlan. Yn wir, mae lle i gredu mai yma yn ffatri Coedmor, ynghanol y pentref, y dechreuodd y diwydiant gwlan modern. Dim ond un wal a erys. Pannu oedd gwaith Coedmor ar y dechrau; roedd y cribo, nyddu a gwau'r brethyn yn cael eu cyflawni mewn tai a ffermydd cyfagos. Fe welwch ar y map fod llwybrau ac hewlydd yn cysylltu'r anheddau yma. Newidiodd y cyfan yn ugeiniau'r ddeunawfed ganrif. Gwelwyd y rhod ddwr gyntaf yn Coedmor, a gwr o'r enw Deio 'Siah, mab Josiah, Danwarin, fu'n gyfrifol am y peiriannau cyntaf. Galwch heibio'r Amgueddfa yn Nrefach-Felindre i gael mwy o'r hanes.
Er bod ffatrioedd wedi ehangu drwy'r ardal roedd y gweithdai yn parhau. Rhyw hanner ffordd ar yr hewl rhwng Felindre a Chwmpengraig fe welwch res o adeiladau isel gyda tho tun. Dyma'r Ogof, a enwyd ar ol yr ogof yn yr allt oddi uchod. Yma roedd Benjamin Jones a'i deulu yn byw - ac yn gweithio. Fe welwch fod ail-luniad yr artist yn ein tywys yn ol mewn amser ac i du mewn yr adeilad. Mewn un pen roedd y stafell liwio gyda dau bair mawr, ac yn y pen arall roedd y gweithdy gyda dau wydd llaw. Ar y llether tu ol i'r adeilad roedd y Rec, ffram hir o bren lle'r oedd y brethyn yn cael ei ymestyn.
Roedd Benjamin Jones, fel llawer o'r man-gynhyrchwyr yn gwerthu ei frethyn mewn marchnadoedd a ffeiriau ar hyd De Cymru. Fe fyddai ef ynghyd a'r teulu cyfan yn teithio i ffair Llangyfelach, ger Abertawe, mewn cart a cheffyl. Yn wreiddiol roedd y lliwiau a ddefnyddiwyd yn cael eu gwneud o blanhigion a chen cerrig lleol, ond erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd lliwiau cemegol yn cael eu defnyddio bron yn ddieithriad.