Drefach
Fe ddatblygodd Drefach yn gyflym ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ugeinfed ganrif. Adnewyddwyd hen ffatrioedd a chodwyd rhai newydd. Gyda ffyniant y diwydiant gwlan fe ddaeth rhagor o dai, i'r gweithwyr a'r meistri (Meiros Hall); cafwyd capel newydd i'r Bedyddwyr yn y pentref, ynghyd a gwesty'r `Red Lion'. Yn sgil y ffyniant fe ddatblygodd bywyd cymdeithasol a diwylliannol cyfoethog yn y fro. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1911 fe enillodd Cor Bargod Teifi.
Ar ymylon y pentref safai Capel Penrhiw, heb ei amharu gan y newidiadau, ac yn dyst i'r traddodiad hir o Anghydffurfiaeth yn yr ardal. Fe godwyd y capel ym mlwyddyn y tair caib, 1777, ac fe'i symudwyd i San Ffagan yn 1853, fel enghraifft perffaith o bensaerniaeth anghydffurfiol. Mae plac wedi'i osod lle safai'r hen gapel. Ym mynwent y capel ar un garreg fedd fe welwch y geiriau canlynol; Mary Hannah Thomas, Glanbargod, 7/5/1915 suddwyd yn y Lusitania.
Rhal milltiroedd i ffwrdd roedd yna fyd tra gwahanol. Tyrrai'r ymwelwyr i werthfawrogi gogoniannau Dyffryn Teifi mor gynnar a dechrau'r ddeunawfed ganrif. Cododd y gwyr bonheddig lleol eu plasau ar oy ddwy ochr o Ddyffryn Teifi. Erbyn heddiw mae Plas Llysnewydd wedi diflannu, gan y teulu Lewes yn ol y son. Mae Plas Dolhaidd i'w weld o hyd ar yr hewl o Bont Henllan i Bentrecagal.