Drefelin
Yn yr oesoedd canol, ymhell cyn sefydlu ffatrioedd a gweithdai ar lannau'r Afon Bargod, roedd yna felin falu lle saif Y Felin Newydd heddiw. Roedd yn orfodol, drwy gyfraith, ar denantiaid Arglwyddiaeth Emlyn Uwch Cych fynd a'u cynnyrch i'r felin er mwyn cael ei falu - er mawr elw i'r melinydd a'r arglwydd.
Wrth gerdded drwy'r pentref fe welwch Ffatri Dolgoch, un o'r enghreifftiau gorau yn yr ardal o'r ffatri wlan draddodiadol. (Ffatri Pensarn ydy'r enw lleol ar y ffatri). Fe welwch, hefyd, olion o sut yr harneisiwyd dyfroedd y Bargod i yrru'r peiriannau yn y ffatri. Yn Dole Bach fe welwch ger y bont gored fechan (weir) yn troi'r dwr i ffos wedi'i thorri drwy'r graig. Yr enw lleol am y ffos yma oedd `Pownd'. Roedd y dwr yn cael ei reoli gan lifddor neu sliws, ac yna'n llifo i'r ffatri ar hyd y pownd, ac yn achos Ffatri Dolgoch ar hyd acweduct fechan cyn cyrraedd y rhod ddwr. Doedd dim angen storio dwr mewn llyn gan fod yna ddigonedd o ddwr yn yr Afon Bargod. Fe welwch ddigon on enghreifftiau o'r pownd ar hyd a lled yr ardal.
Un o gymeriadau lliwgar yr ardal oedd gwr o Siecoslofacia, Gustaf Brdlik, cawr cyhyrog ymhell dros y chwe throedfedd, a ymsefydlodd yn y fro ym 40au'r ganrif hon. Ef oedd perchen Ffatri Dolgoch a Ffatri Glanbargod. Bu farw'n drychinebus mewn tan yn Ffatri Glanbargod.
Cyn cychwyn am Ddole Bach sylwch ar res o bump o dai ger yr hen efail. Bythynnod ar gyfer y gwehyddion oedd rhain. Mae'r llwybr yn eich arwain at Eglwys Penboyr, ac ar y daith fe gewch gipolwg o Ffatri Glanbargod a Ffatri Gilfach. Yn ymyl yr eglwys y mae Tomen Llawddog, wedi'i osod ar ddernyn o dir uchel. Er nad ystyrrir Eglwys Penboyr yn hen iawn, fe'i hadeiladwyd ar safle hynafol. Cred rhai bod y Rhufeiniaid wedi bod yma. Roedd Sant Llawddog yn cael ei fawrygu drwy holl gwmwd hynafol Emlyn. Saif yr Eglwys gryn bellter o'r pentrefi, ac roedd hi'n dipyn o daith adeg angladd i gario'r arch i'r fynwent. Yr enw a roddid ar y rhiw serth sydd yn arwain o Felindre i Benboyr oedd `Rhiw Cyrff', ac fe ddefnyddir yr enw o hyd.