Cystadleuaeth Eisteddfod Capel Soar Cwmpengraig
Ms Nan Jones gynt o Rhydywern, Felindre
Gwaith Nan Jones, yn llawysgrifen ei hunan, mewn cystadleuaeth Eisteddfod Capel Soar Cwmpengraig yn egluro cefndir enwau 25 o gartrefi a ffermydd lleol. 'Roedd Nan yn hanesydd lleol enwog lawn a diddordeb ym mhob agwedd o gefndir y pentref. Gweler hanes Nan Jones yn Stori Fawr Drefach-Felindre-Enwogion a Phobl Drefach-Felindre.
Cliciwch ar y llun i'w agor yn fwy neu lawrlwythwch yma, neu darllenwch y fersiwn wedi'i deipio isod.
Eisteddfod SOAR: Casgliad o 25 o enwau Ffermydd a’u Hesboniadau.
Mae na nifer o enwau ffermydd diddorol lawer ym Mhlwyf Penboyr, sydd heddiw yn ran o Blwyf Llangeler.
1. Gorllwyn
Ar gwr ir de o’r Plwyf mae fferm o’r enw Gorllwyn a’i sydd yn golgu “Gosgordd” neu “anddifbyw”. Defnyddiodd Dafydd Ddu Hiaethog yr ymadrodd – “Gorllwyn y Fair Fendigaid”. Ceir yr un gair yn yr enw Llanfair – Orllwyn. Digon tebyg fod rhan o’r gair wedi ei adael allan ac awgryma’r enw fod lle o addoliad wedi ei leoli yma yn y Canol Oesoedd. Mae wedi ei rhannu yn ddwy fferm erbyn heddiw.
2. Nantsais
Mae’r fferm hon gerllaw Gorllwyn, ychydig i’r gorllewin oddiwrthi. Mae enw ar fferm – Dolausaeson – yn y Plwyf sy’n ffinio a Phenboyr, ac y mae adsain filwrol y Canoloesoedd yn perthyn i’r ddau. Yn Nantsais y ganwyd, a lle y bu fyw y – Parch Evan Evans, Gweinidog cyntaf Eglwys SOAR, - am flynyddoedd.
3. Blaenbuarthau - Blaenbuarthe
Fferm ar ochr yr heol o Gwmpengraig i Gaerfyrddin yw hon, ac ychydig islaw Gorllwyn a Nantsais. Ystyr “buarth” (buarthau) yw “Corlan” (Corlannau). Byddai yn ofynol i gorlanu anifeiliaid yn y Plwyf cyn i lawer o gloddiau gail eu codi a chaeau wedi eu ffurfio. Blynyddoed yn ôl yr oedd yn ofynol i osod corlannau neu fuarthau lan i droi anifeiliaid iddynt dros nos er mwyn eu cadw yn ddiogel. Felly ystyr Blaenbuarthau – Blaen y Corlannau.
4. Llwyn-neuadd (nouodd)
Mae'r “ou” yn Nouodd yn ffurf sydd wedi dod lawr o’r hen Gymraig ac yn nodweddiadol o’r Ddyfedeg. Ffurf Gymraeg y Canol oesoedd yw “eu” yn Neuadd. Ystyr “Neuadd” neu “Nouodd” yw Ystafell eang neu le diddos fel yn yr hen ddihareb – “Neuadd pob diddos”. Yn yr hen amser yr oedd yn arferiad i godi neuaddau mewn gwahanol gymoedd i dderbyn Brenin neu Arglwydd ar ei ymweliadau i hela.
5. Nantllin –
Anaml y ceir plwyf nad yw y gair “llin” yn rhai o enwau’r ffermydd. Bu llawer lawn o ymdrechion yn cael eu gwneud un amser i godi “llin” (flax) yn y wlad hon, ac yn ystod teyrnasiad Harri’r VIII ceisiwyd drwy rym cyfraith beri i ffermwyr i amaethu “llin”, ond nid oedd ansawdd y tir yng Nghymru yn ffafriol o’r ymdrechion aflwyddiannus hynny. Mae fferm Nantllin yn ffinio a fferm o’r enw Nant. – felly dyna’i ystyr.
6. Bachygwyddyl
Golyga “bach” le cysgodol neu adiogil. Credir fod yr enw wedi aros oddiar yr amser pan oedd Gwyddelod yn y cyffiniau hyn yn y Canrifoedd cyntaf ar ôl i’r Rhufeiniaid i ymadael. Ceir y gair mewn llawer o ardaloedd eraill yng Nghymru.
7. Crugcynfarch
Enw ar berson yw “Cynfarch”, a chredir fod penaeth o’r enw Cynfarch wedi ei gladdu gerllaw, ond nid yw’r Crug i’w weld heddiw.
8. Pantybara
Fferm yn ffinio â Chrugcynfarch yw Pantybara. Llygriad o’r gair “barau” yw bara, hen air Cymraeg yn golygu “terfynau” neu “bar”. Ceir “bar” yn enw’r afon Bargod. Mae Pantybara yn ymestyn hyd at y ffîn rhwng Plwyf Penboyr a Phlwyf Cilrhedyn.
9. Pantyrhebog
Fferm yw hon yn agos i Felindre ar y “Hiraeth”, lle y ceir yr enw Cwmhiraeth. Enw aderyn yw “hebog” (hawk). Talwyd llawer o sylw yr aderyn hwn yn yr hen amser, a dysgid ef i hela adar eraill. Yr oedd y Coedwigoedd o gwmpas y fferm un amser yn gyrchffan hebogiaid a baructanod., Mae’r fferm mewn pant, felly Pantyrhebog.
10. Bronhydden (Bronhudden)
Fferm ar Stâd Dolhaidd oedd Bronhydden ar un adeg. Ystyr y gair Bronheidden – yw lle da i heidd i dyfu – ond Bron-hudden yw’r ffurf briodol. Tardda hudden o “hudd”, “gwyll” neu cysgod ac ystyr yr enw felly yw “llethr cysgodol” yn ymyl Dolhaidd. Defnyddir y gair “hudden” yn y Plwyf am “derth golau” neu “niwlen”.
11. Cilwen
Fferm ar ochr y ffordd i Gastell Newydd Emlyn yw Cilwen. Ystyr “cil” yw lle i encilio, a dichon fod cysylltiad rhwng yr enw Cilwen a Cilrhystyn a Cilgwyn ac yn y blaen.
12. Blaenhalen
Fferm gerllaw Cilwen yw hon. Mae nant fach o’r enw “Halen”. Mae hanes fod na rhywbryd yn y Canol oesoedd haid o garn – ladron yn byw ym Mlaenhalen, ac mae trwy ymdrech galed yr erlidiwyd hwy o’r wlad cei ystyr – Blaen Nant o’r enw Halen.
13. Penlangribin
Mae rhan o’r allt a melin wrth fynd o Felindre i Gwmpengraig yn cael ei galw yn Allt-y-Gribin. Ystyr “Cribin” yw “turm” (ridge). Yr oedd rhan o Allt-y-gribyn yn eiddo i Oliver Lloyd y Coedmor ym 1832. Felly Penlangribyn – Pen ucha’r gribyn.
14. Penlanfawr
Enw ar fferm heb fod ymhell o Eglwys St Llawddog, Penbloyr yw hon, rhwng yr afonydd Bargod ac Esgair. Mae “lan” yn gyfystyr a “bron” neu “lethr”, a phen lan felly yn golygu “penyfron”. Mae’n bosib mai Penylanfawr yw’r ffurf gwreiddiol, os felly daw’r gair o “llan” yn ystyr Eglwys – Pen y llan fawr.
15. Yr Ogof
Daw enw’r lle hwn o’r ogof yn yr allt uwch ei ben. Dywedir bod yr ogof hon yn cyrhaedd lan hyd fferm Penlanfawr, o heol Cwmpengraig i Heol Penboyr.
16. Gwastad (Gwastod)
Fferm yn ffinio a Phenlanfawr yw hon a’r ddwy yn eiddo i’r un perchen erbyn heddiw,. Daw’r enw o ffurf y tir lle y saif. Fferm hollol wastad – felly Gwastad.
17. Maesllan (Maesyllan)
Mae’r fferm hon yn ymyl Eglwys Penboyr lle daw’r “llan”, ac yr oedd ar un adeg yn eiddo i’r Eglwys. Credaf mai ei ystyr yw “Maes y llan” – lle’r Eglwys.
18. Penrhiwficer
Mae’r fferm hon eto gerllaw Eglwys Penboyr, a deallir fod “ficer” yr un peth a “bicer” (to bicker) neu ysgarmesu. Mae’n amlwg fod na ysgarmesoedd wedi cymryd lle yna, gan fod yna amryw o olion hynafiaethol gerllaw.
19. Blaenmeinog
Mae’r fferm hon hefyd ym Mhenboyr, ac y mae’r gair yn deillio o “Blaen” a “Meinog”. Blaen = cwr uchaf. Meinog – Nant fechan gerllaw. Gelwir y nant yn feiniog am fod yna lawer lawn o feini mawrion yn ei gwely. Ar y tir mae amddiffynfa yn gaeedig gan Gaer driphlyg.
20. Rhydronw
Mae’r fferm hon yn ffinio â Blaenmeinog, ac yn dod o’r gair Rhydgoronwy. Enw dyn yw Goronwy. Cenfyddwyd tri bedd ar lan y nant fechan sydd rhwng Rhydronw a Blaenmeinog, a cheir hanes bod penaeth Brytanaidd o’r enw Goronwy wedi ei gladdu yma.
21. Ffrydiau
Gelwir y fferm hon hefyd yn Ffrydiau Gwnion. Mae nant fechan yn tarddu yng nghesail y mynydd gerllaw, ac yn ffrydio heibio’r tŷ yn ffrydiau gwynion.
22. Goitre neu Goedtre (Coedytre)
Ffurf arall ar enw’r fferm hon yw Goetre-in-Emlyn. Ystyr yr enw yw “llanerch i fyw ynddi yn y coed”. Diwedd y ganrif diwedda rhanwyd y fferm yn ddwy rhan sef Goetre Uchaf a Goetre Isaf. Diddorol yw nodi bod dau dŷ wedi eu hadeiladu ar dir Goetre Isaf a’i henwau “Llysycoed” a “Llanerch”.
23. Penlon
Mae’r lle hwn gerllaw Goetre-isaf. Yr oedd yr hen ffordd o Felindre i Gastell Newydd Emlyn yn pasio heibio iddo. Felly Pen-y-lôn. Ym Mhenlon y cychwynodd yr Ymeulltuwyr gyfarfod yn rheolaidd gyntaf yn yr ardal.
24. Llwynbedw
Mae’n debyg mai llygriad o Llwyn – Meudwy yw’r gair hwn. Mae “llwyn” yn air cyfarwydd mewn enwau lleol ac yn golygu “lle i fyw ynddo”. Mae’n debyg fod llwyn wedi dod lawr o’r amser pan oedd yn hen Frytaniaid yn byw mewn ogofau a llwyni. Yn y canol oesoedd yr oedd “Meudwyaid” yn ymsefydlu mewn llawer o leoedd led-led y wlad. Felly Llwyn – Meudwy.
25. Penclawdd
Mae’r fferm hon ar gwr pellaf plwyf Penboyr. Y mae gwrthglawdd anferth yn cyrhaedd o dwyn uwchlaw Cwmduad hyd Benclawdd. Gwelir ef yn eglur hyd y dydd heddiw. Y mae tua milltir a hanner o hyd ac mewn rhai mannu yn ddeunaw treodfedd o ucher. Felly Penyclawdd Mawr neu Penclawdd.