skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

NAN JONES (Nan Rhydychwyrn) 1927 - 2001

Nan Jones (Nan Rhydychwryn)(Yn seiliedig ar erthyglau coffa yn Y Garthen rhifyn Mawrth 2001 gan Alun Jones ac Aled Evans.)

Yn Nre-fach Felindre doedd ond un Nan – roedd pawb yn ei hadnabod. Un weithgar iawn yn lleol oedd hi ac mor barod i wasanaethu ei bro. Bu’n gefn ac ysbrydoliaeth i sefydlu a chynnal y papur bro Y Garthen. Roedd ei bywyd i’w weld ym mhob man – yn y capel, yn ei chymdogaeth, ei chymuned a diwylliant ei bro.

Ei henw llawn oedd Elizabeth Ann Jones a bu farw ar Chwefror 5ed 2001. O’r rhifyn cyntaf o’r Garthen yn Chwefror 1981 Nan oedd y gohebydd lleol mewn Cymraeg rhywiog. Nan oedd Y Garthen yn Nre-fach Felindre. Casglu, cyfrannu, gwerthu, dosbarthu a golygu. Roedd Nan yn caru’r ‘Pethe’. Boed eisteddfod, cyfarfod llenyddol, maes y dysgwyr, byd llyfrau, Merched y Wawr - ac fe fyddai Nan yno yn trefnu neu helpu. Fe enillodd llawer gwaith ar y ‘Frawddeg’ a’r ‘Limerig’ mewn eisteddfodau.

Un o gymwynasau olaf Nan oedd casglu lluniau ar gyfer y llyfr a gyhoeddwyd gan Gyngor Cymuned Llangeler sef Canrif o Luniau Plwyfi Llangeler a Phenboyr. Bu ei dyfal barhad a’i thrylwyredd yn rhyfeddol wrth gyflawni’r gwaith.

Roedd hi’n aelod ffyddlon a gweithgar o Gapel Soar. Iddi hi doedd yr un lle arall fel Soar, ac yng Nghapel Soar y cynhaliwyd ei gwasanaeth angladdol gyda thyrfa niferus yn bresennol. Rhoddwyd ei gweddillion i orwedd ym medd y teulu ym mynwent Eglwys Sant Barnabas.

Dyma ddetholiad o saith englyn coffa a ymddangosodd yn Rhifyn Mawrth 2001 o’r papur bro ‘Y Garthen’.

Y lle’n wag o golli Nan – mor ddiddos,
Mor ddiddig ei thrigfan,
I'r nefoedd aeth o’i hafan,
Oer a llwm yw Ger y Llan.

Dynes yn gwasgar daioni – mynych
Ei chymwynas inni,
Ar y gwan y bu’n gweini,
Rhoddodd yr hyn allodd hi.

Mawr ei gwerth ym mro’r Garthen – yn gryno
A graenus ei sgrifen,
Daeth gaeaf i’n ffurfafen,
Dwyn ei llais a thlodi’n llen.



Peter Hughes Griffiths 2017

Ceir enghraifft o waith Nan Jones ar y wefan hon, yn llawysgrifen ei hunan, mewn cystadleuaeth Eisteddfod Capel Soar Cwmpengraig yn egluro cefndir enwau 25 o gartrefi a ffermydd lleol.