skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

Felindre

Fel hyn yr ysgrifennodd Daniel E. Jones yn 1899 yn ei glasur `Hanes Plwyfi Penboyr a Llangeler': "Y Pentref: Mae pentref Felindre fel ag ydoedd ddeugain, haner can mlynedd, neu ragor, yn ol gyda'i fythod isel, a'u to gwellt cynhes, bargodion trwchus, ffenestri bychain, a'u gwelydd gwyngalchedig glanwedd, bron wedi llwyr ddiflanu, a rhoddi ei le i bentref masnachol llawn o anedd-dai helaeth, hardd, a masnach-dai destlus. Ceir yma hyd eto ychydig o'r hen fythynod, fel ag i gynorthwyo yr ymwelydd i bortreadu yr hyn ag ydoedd yr amser gynt..."

Yn anterth ffyniant y diwydiant gwlan fe ddatblygodd pentrefi Drefach a Felindre nes dod yn un, a'r unig arwydd i ddangos y ffin rhyngddynt oedd yr Afon Bargod. Roedden nhw'n pannu yn Nolwion yn gynnar iawn, ac fe datblygwyd Dolwion yn un o'r ffatrioedd cyntaf yn yr ardal. Daeth peiriannu cribo a nyddu i ddiorseddu'r gwaith llaw yn ol yn 1820. Ehangwyd y ffatri a bu'n gweithio tan 1972.

Photo of the history board at Felindre

Y teulu Adams oedd yn gweithio Ffatri Dolwion ar y dechrau, ac roedden nhw'n perthyn i'r teulu Adams o Massachusetts. Daeth dau o'r teulu yn Arlywyddion America. Yn 1894 fe aeth Margaret Adams o Ddolwion i Ffair y Byd yn Chicago i arddangos y grefft o weithio'r gwydd-llaw.

Image of a lady in Welsh costumer weaving, with Uncle Sam (USA icon) watching her.

Mae arwyddocad arbennig i'r gof-gologn i'r rhai a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a welir ym mynwent St. Barnabas. Fe roddodd y gofyn am ddillad i'r milwyr, - yn arbennig crysau gwlanen - hwb arbennig i'r diwydiant gwlan cyn dyfod y Dirwasgiad.

Drawing of soliders fighting in the trenches during world war one.

Roedd pentref Felindre yn groesffordd i nifer o hewlydd a llwybrau, ac fe achosodd hyn broblemau yn 1843. Bedwar mis ar ol chwalu'r tollborth ym Mwlchydomen, a mis ar ol ymosod ar dollbyrth eraill ym Mhontweli a Throedrhiwgribyn, fe ymwelodd Beca a'i dilynwyr Sgwr y Gat ac mewn cwta chwarter awr roedden nhw wedi dinistrio'r tollborth yno. Mae Sgwr y Gat wedi newid cryn dipyn oddi ar hynny. Codwyd Eglwys St. Barnabs gan larll Cawdor ar gyfer y boblogaeth gynyddol yn y pentrefi, er bod mwyafrif o'r boblogaeth yn mynychu'r capeli.

Drawing of the tollbooth being attached in 1843 by Merched Beca