Stori Fawr Dre-fach Felindre

PRYNHAWN Y COFIO 2026
YN EGLWYS SANT BARNABAS, FELINDRE

Prynhawn Sadwrn Mehefin 27ain 2026.

Yn dilyn llwyddiant y Prynhawn Agored yn Eglwys Penboyr yn 2025 cynhaliodd ’Stori Fawr Dre-fach Felindre’ Brynhawn Y Cofio yn Eglwys Sant Barnabas ar Sadwrn 27ain o Fehefin, 2026.

Rhoddwyd sylw arbennig i’r ddau gerddor mwyaf a welodd yr ardal sydd wedi eu claddu yn agos i brif fynedfa Eglwys Sant Barnabas, a gan fod y gofeb i DANIEL JENKINS mewn cyflwr ansefydlog a’r geiriad wedi dirywio fe drefnodd cyfeillion y ‘Stori Fawr...’ i adnewyddu’r gofeb gyda’r bwriad o ail-ddadorchuddio’r gofeb ar y dydd ac ymweld â bedd ALBERT EVANS y cerddor arbennig arall hefyd.

Trefn y Prynhawn:

2pm Sgwrs yn yr eglwys gan Mari Elin am Eglwys Sant Barnabas ac yna gan Gwenno Mai am Ysgol Gynradd Penboyr.
Yn dilyn cyflwynodd Peter Hughes Griffiths hanes y ddau gerddor Daniel Jenkins ac Albert Evans.
Ail ddadorchuddiwyd cofeb Daniel Jenkins gan Peter Moody cyn gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Penboyr ac un o Wardeniaid yr eglwys.

Paratowyd cwpaned o de a chacennau yn Ysgol Penboyr yn dilyn y gweithgareddau. Roedd rhyw 60 o bobl yn bresennol.
Paratowyd lluniau ar y sgrin gan Lesley Parker i gyd fynd gyda’r sgyrsiau ac fe drefnwyd offer cyfieithu ar y pryd gan Aled Eynon.
Roedd Eirlys Griffin, wyres Albert Evans a dau o’i meibion yn bresennol. Bu’n brynhawn llwyddiannus iawn.
Dyma gynnwys sgyrsiau Mari Elin, Gwenno Mai a Peter Hughes Griffiths.

Cipolwg ar hanes Eglwys Sant Barnabas
gan Mari Elin Jones

Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd eglwyswyr yr ardal yn addoli yng Nghapel y Drindod, neu’r Capel Bach fel roedd e’n cael ei alw, lawr ar lan yr afon Bargod ochor Felindre cyn croesi i Dre-fach. Capel anwes i Eglwys y Plwyf, Sant Llawddog oedd hwn – roedd e’n lle mwy cyfleus na cherdded yr holl ffordd i dop Penboyr! Mae enwau’r tai a godwyd yn ddiweddarach ger Bont y Capel yn dyst o fodolaeth y capel gynt - Ywen-las, Maes-y-capel, Maes-yr-ywen, Glanywmor, Ffynnon Capel – y gair ‘ywen’ neu ‘gapel’ ymhob un ohonyn nhw. Yn yr 1860au roedd y capel wedi mynd yn adfail. Ond roedd poblogaeth y ddau bentre yn cynyddu gyda thwf yn y diwydiant gwlân ac nid oedd eglwys ar gael yn gyfleus.

Eglwys St Barnabas
Eglwys St Barnabas

Roedd yr Iarll Cawdor, tirfeddiannwr cyfoethog, yn barod i godi eglwys newydd. Roedd y teulu’n dod yn wreiddiol o’r Alban, teulu’r Campbells, (do’n nhw ddim yn perthyn i Macbeth – dychymyg Shakespeare oedd hynny!). Trwy briodasau roedden nhw wedi etifeddu tiroedd yng ngorllewin Cymru. Yn Stagbwll, Stackpole, yn ne Sir Benfro roedden nhw’n byw - Stackpole Court - ac roedd tir ganddyn nhw yn Nyffryn Teifi. Yr Iarll Cawdor dalodd am Neuadd Cawdor yng Nghastellnewydd Emlyn, y neuadd lle mae’r cloc. Ac mae Garej Cawdor yno a Gwesty’r Cawdor gynt.

Dywed y Carmarthen Journal i’r Iarll – a oedd wedi bod yn aros dros nos yn Llysnewydd - gyrraedd Plwyf Penboyr ar ddydd Iau, y 13eg o Chwefror 1862 gyda’r pensaer nodedig o Lundain, David Brandon. Aeth yr Iarll gyda’r ciwrad, William Harries i chwilio am le da i godi eglwys ac aeth David Brandon i archwilio chwareli topiau Penboyr i ddewis cerrig ar gyfer yr adeiladu.

David Brandon oedd prif bensaer Ysbyty Seiciatryddol Dewi Sant, Caerfyrddin – y Joint Counties Lunatic Asylum - a agorwyd yn 1865. Fel aelod o’r Llys Chwarter roedd cyfrifoldeb cyfreithiol gan yr Iarll Cawdor am yr ysbyty – felly mae’n debygol ei fod yn adnabod David Brandon ac wedi ei ddewis i gynllunio’r eglwys hon gan ei fod yn yr ardal.

Cynlluniwyd yr eglwys ac aethpwyd ati ar unwaith i’w hadeiladu am £2000. O ystyried bod yr Iarll yn byw yn Stackpole nid yw’n syndod iddo ddewis adeiladwr o Ddinbych-y-pysgod. Cynllun syml sydd i’r eglwys yn arddull yr Adfywiad Gothig – Gothic Revival y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn debyg i eglwysi eraill y cyfnod mae gan yr eglwys:

  • do uchel pigfain a serth a thrawstiau pren wedi eu staenio yn y nenfwd, wedi ei gynnal gan gyplau pren ar gorbelau carreg
  • bytresi y tu fas yn addurn ac hefyd yn cryfhau’r muriau i ddal pwysau’r to
  • ffenestri cul pigfain bob ochr a rhai mwy o faint yn y cefn i ganiatáu mwy o olau
  • a changell amlochrog yn hytrach na sgwâr
  • llechi Sir Benfro roddwyd ar y to a dros y blynyddoedd roedd llawer iawn ohonyn nhw’n mallu a thorri. Gosodwyd llechi newydd pan adnewyddwyd yr eglwys yn 2017.

Mae dau beth o ddiddordeb arbennig yn yr adeilad:
Yn gyntaf y clochdy - yn yr arddull Gothig eto - pileri pren cerfiedig yn cynnal to pigfain a llechi arno – yn anarferol iawn i’r rhan yma o’r wlad ac yn fwy o faint na chlochdai eglwysi eraill o’r un cyfnod.

Dywedodd Daniel Jones yn ei lyfr ar Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr y byddai’n llawer gwell pe byddai clochdy plaen carreg yno fel eglwysi eraill y cylch. Clochdai moel, llawer llai, o garreg gyda chloch lai o faint i’w gweld o’r tu fas yw’r rheiny - fel Eglwys Llangeler. Mae clochdy Sant Llawddog, Penboyr – eto o garreg ond yn fwy trawiadol yn yr arddull Gothig pigfain.

 
Clochdy Eglwys St Barnabas
Clochdy Eglwys St Barnabas
Clochdy Eglwys Llangeler
Clochdy Eglwys Llangeler
Clochdy Eglwys St Llawddog
Clochdy Eglwys St Llawddog
 

Ac yn ail - tair ffenestr hirfain tu ôl yr allor yn portreadu’r Croeshoeliad, yr Atgyfodiad a’r Esgyniad. Cawson nhw eu gwneud gan gwmni Heaton, Butler and Bayne o Covent Garden, Llundain – un o’r gwneuthurwyr ffenestri lliw yn null yr Adfywiad Gothig mwyaf enwog a chynhyrchiol yn y cyfnod. Maen nhw o ansawdd arbennig – yn plethu’r golygfeydd i’w gilydd yn gelfydd o safbwynt crefft, y darlunio yn ddramatig, ac mae’r patrymau a chynildeb y lliwiau godidog yn toddi i’w gilydd yn drawiadol. Ddwy flynedd ar ôl gosod y ffenestri hyn roedd y cwmni yn gosod dwy ffenest hirfain yng nghorff Abaty Westminster i goffáu’r peiriannydd Isambard Kingdom Brunel gyda golygfeydd yn darlunio adeiladu’r Deml a Christ yn dysgu’r bobl yno.

Harmonium oedd yma ar y dechrau. Ddechrau’r ugeinfed ganrif aed ati i gasglu arian i gael organ. Daniel Jenkins ac Evan Powell oedd yn gyfrifol a chasglwyd £208 sy’n cyfateb i £30,000 heddiw. Gosodwyd yr organ yn 1914 ac roedd hi’n cael ei phwmpo â llaw. Yn 1939 ychwanegwyd chwythwr trydan, rhodd teulu Dangribyn.

Yr Atgyfodiad
Yr Atgyfodiad
 Y Croeshoelio
Y Croeshoelio
 Yr Esgyniad
Yr Esgyniad

Edrychwch ar yr eglwys hon: Eglwys Sant Paul, Bledlow Ridge, ger High Wycombe, Buckinghamshire yw hon - yn debyg iawn iawn i Sant Barnabas! – a David Brandon oedd y pensaer.

 Eglwys Sant Paul, Bledlow Ridge
Eglwys Sant Paul, Bledlow Ridge
 Eglwys Sant Paul, Bledlow Ridge - tu fewn
Eglwys Sant Paul, Bledlow Ridge - tu fewn

Roedd yr Iarll yn dathlu ei ben-blwydd ar yr 11eg o Fehefin a dyna ddyddiad Dydd Gŵyl Sant Barnabas hefyd. Felly, dyna’r rheswm dros yr enw. Cyfaill yr Apostol Paul ar ei fynych deithiau oedd Barnabas – ac mae ffenestri lliw o’r ddau ohonyn nhw yng nghefn yr eglwys – wedi eu rhoi gan deulu Lewes, Dol-haidd ychydig wedi agor yr eglwys. Talodd yr Iarll am adeiladu eglwys Rhandirmwyn hefyd – a'i henw? - Sant Barnabas wrth gwrs!
 

Cysegrwyd yr eglwys hon mewn gwasanaeth fore’r 3ydd o Orffennaf 1863 gan Esgob Tyddewi yng ngwydd yr Iarll a deg ar hugain o offeiriaid. Roedd gwasanaethau’r prynhawn a’r hwyr yn Gymraeg ac oherwydd y gynulleidfa luosog roedd llwyfan wedi ei godi yn y fynwent a chafwyd gwasanaeth yn yr awyr agored. Y Sul canlynol pregethodd y Parchedig John Griffiths, Llandeilo, eto yn yr awyr agored, i dyrfa fawr ac roedd adroddiad yn Yr Haul, cylchgrawn cenedlaethol yr eglwys, yn Awst 1863, yn dweud i Ficer doniol Llandeilo bregethu un o’r pregethau mwyaf huawdl a glywyd erioed. Roedd dros ddwy fil yn gwrando arno a chapeli’r gymdogaeth i gyd wedi cau fel teyrnged i’r offeiriad enwog a fagwyd yn Llandyfriog.

Isel eglwysig oedd traddodiad eglwysi’r Gymru wledig. Yn wir nid oedd y Parchedig Sam Evans, y Rheithor yn ystod y 1940au a'r 1950au yn cynnau’r canhwyllau yn ystod gwasanaeth y cymun - rhag i ddylanwad y Pab ddychwelyd!

Yn ystod oes aur y diwydiant gwlân gelwid Dre-fach Felindre yn Huddersfield Cymru. Ac fel Huddersfield, roedd cerddoriaeth yn bwysig iawn yma hefyd. Pan fu farw Daniel Jenkins yn 1917 penodwyd Thomas Morgan yn brifathro’r ysgol gan ei fod yn gallu olynu Daniel Jenkins fel organydd a chôr feistr yr eglwys hon.

Cor Eglwys St Barnabas, 1932
Cor Eglwys St Barnabas, 1932

Edrychwch ar lun côr St Barnabas yn 1932 - bechgyn yn unig sylwch. Yn ogystal â’r côr roedd cyfarfod y Band of Hope yn cael ei gynnal yn yr ysgol ddydd Sul. Mari Dafis a Tom Jones, Glanywmor, oedd yn arwain a byddai’r plant yn canu a gwrando ar storïau o’r Beibl.

 Y dystysgrif llw dirwest
Y dystysgrif llw dirwest

Ar wahân i’r Suliau, roedd yr eglwys yn paratoi ar gyfer tair gŵyl yn flynyddol – Calan Hen ddechrau Ionawr yn eglwys Llandysul, gŵyl sy’n para o hyd gyda’r eglwysi yn dweud y pwnc. Ar gyfer Cymanfa Llungwyn yng Nghastellnewydd Emlyn, sydd wedi dod i ben erbyn hyn, byddai côr unedig yr holl eglwysi wedi ymarfer wythnosau ymlaen llaw yn neuadd eglwys Henllan. Sefydlwyd Gŵyl Ddirwestol yn 1917 ond mae’r ŵyl honno wedi dod i ben erbyn hyn hefyd! Roedd ieuenctid yr eglwys ddechrau’r ganrif ddiwethaf yn cael eu hannog i lofnodi’r llw dirwest - dyma dystysgrif fy hen fodryb, Hannah Jones, Goetre.

Mae nifer o atgofion bach hyfryd gennym ni fel teulu o’r eglwys. Bernice Phillips oedd athrawes Ysgol Sul fy chwaer a minnau Rydyn ni’n cofio â gwen barti Nadolig yr Ysgol Sul a’r annwyl Miss Phillips yn rhoi llwyed o jeli coch un ochr i’r ddisgl a llwyed o blancmange pinc yr ochr arall ac wedyn yn ei droi yn ffyrnig â llwy cyn ei rannu i bawb! Roedd fy chwaer a minnau am y gorau eisiau helpu mam-gu i gau’r stops ar yr organ ar ddiwedd y cwrdd! Mae Dad yn cofio iddo fe a Viv eistedd yn y sedd dan y pulpud fan yna – Sam Evans yn mynd i bêrlewyg yn ei bregeth deugain munud a’r poeri yn hedfan dros eu pennau nhw. Roedd mam-gu yn cofio Raymond Renowden yn chwarae cymundeb trwy ddynwared ei dad, y Parchedig Charles Renowden. Trefnu ei ffrindiau – yn eglwyswyr a chapelwyr – yn un llinell hir o flaen New Shop Inn ac yn mynd o un i un â llond dwrn o chippings yn dweud ‘Byt hwn, byt hwn’. Daeth Raymond Renowden yn ddiweddarach yn Ddeon Eglwys Gadeiriol Llanelwy.

Hoffwn orffen drwy gyfeirio at fy hen dat-cu, Tom Jones, Glanywmor - saer coed ac ymgymerwr – a fuodd yn atgyweirio’r clochdy yn 1953. Erbyn hyn mae’r gwaith coed mewn cyflwr gwael iawn unwaith eto ac mae’r gloch wedi ei chludo i ffowndri i’w hadnewyddu. Mae’n werth adfer y cyfan ond bydd yn waith costus iawn, iawn yn ôl y rhagolygon – yn ôl Beibl yr Esgob Wiliam Morgan - ‘y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed’!


Cipolwg ar hanes Ysgol Penboyr
gan Gwenno Mai Jones

Ysgol Penboyr 1905
Ysgol Penboyr 1905

Arweiniodd Deddf Addysg Elfennol 1870 at sefydlu ysgolion y wladwriaeth i blant 5 i 12 oed. Cyn hynny, ysgolion gwirfoddol yn unig oedd i gael. Cyfeiriodd Daniel Jones yn ei lyfr ar hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr at nifer o ysgolion bach yn yr ardal hon yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Erbyn 1847, yn ôl adroddiad y Llywodraeth ar addysg yng Nghymru – Adroddiad y Llyfrau Gleision – roedd pedwar lle yn cynnig addysg yma. Eglwys Llangeler a Chapel Saron (Annibynwyr) ym Mhlwyf Llangeler, a Chapel y Drindod (y Capel Bach) a Chapel Pant-y-bwlch (Methodistiaid) ym Mhlwyf Penboyr.

Yn ôl tystiolaeth Daniel Jones, y Capel Bach oedd y brif ysgol yn y plwyfi. Hi hefyd oedd yr hynaf a’r un a gedwid fwyaf cyson. Yn 1751, bu ysgol gylchynnol y Parchedig Griffith Jones, Llanddowror yn y Capel Bach. Y drefn gyda’r ysgolion hynny oedd aros mewn pentref am ryw dri mis yn dysgu pobl o bob oed i ddarllen y Beibl Cymraeg cyn symud ymlaen – polisi llwyddiannus o raeadru.

Yn ôl yr Athro Hanes, Geraint Jenkins, Griffith Jones oedd Cymro mwyaf y ddeunawfed ganrif a gallwn ymhyfrydu yn y ffaith iddo gael ei eni ym Mhant-yr-efail, Cwmhiraeth.

Yr Eglwys a'r Ysgol
Yr Eglwys a'r Ysgol

Yn ardal y Capel Bach ar lan yr afon Bargod, roedd y boblogaeth yn cynyddu. Fel y nododd fy chwaer, roedd y Capel Bach – sefydliad eglwysig – yn mynd â’i ben iddo yn yr 1860au ac roedd Eglwys Sant Barnabas wedi agor yn 1863. Roedd yr Iarll Cawdor yn barod i dalu am ysgol newydd, felly sefydlwyd Ysgol Genedlaethol yn dilyn athrawiaeth Eglwys Loegr i gymryd lle’r Capel Bach. Agorwyd yr ysgol yn 1866 gyda 31 o ddisgyblion. Wedi ehangu’r adeilad, erbyn 1896, roedd 311 o blant yno yn ôl Daniel Jones. Ble yn y byd roedden nhw’n cael lle iddyn nhw i gyd?!

Ysgol Genedlaethol Felindre oedd ei henw ar y dechrau, ond roedd hi’n cael ei galw hefyd yn Penboyr Church of England School yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Gyda Deddf Addysg 1944, daeth hi’n ffurfiol dan arweiniad y Cyngor Sir ac wedyn yn Ysgol Penboyr, Ysgol Wirfoddol Dan Gymorth yr Eglwys yng Nghymru yn 1953.

Roedd ysgolion y National Society, fel yr ysgolion elfennol eraill, yn canolbwyntio ar y tair ‘R’ - ‘Reading’, ‘Riting’ a ‘Rithmatic’. Roedden nhw’n defnyddio system monitors, hynny yw, y plant hŷn yn dysgu’r rhai iau. System debyg iawn i ysgolion cylchynnol Griffith Jones. Er bod pawb yn Gymry Cymraeg, Saesneg oedd cyfrwng yr addysg ond gydag ambell i lesson yn Welsh chwarae teg.

Roedd hi’n eironig mai ysgol Eglwys Loegr oedd yn gwasanaethu’r pentrefi anghydffurfiol hyn. Roedd pob teulu yr adeg honno yn perthyn i eglwys neu gapel. Mae Thomas Morgan yn y llyfr log ar gyfer 1941 yn dosbarthu’r plant fesul enwad:

  • 104 o blant yn yr ysgol
  • 16 yn perthyn i Sant Barnabas
  • 10 i Sant Llawddog
  • 24 i Gapel Bethel
  • 26 i Gapel Soar
  • 28 i Gapel Clos-y-graig.

Roedd tri chwarter y plant yn yr ysgol, felly, yn perthyn i'r capeli.

Yn anorfod, roedd tensiwn ar brydiau rhwng y ddau draddodiad. Yn y blynyddoedd cynnar, roedd rhaid i'r athrawon fod yn eglwyswyr, a rhai'n credu bod plant yr eglwys yn cael ffafr gan yr athrawon! Ond, yn ôl tystiolaeth y llyfrau log, doedd dim gwahaniaethu. Roedd plant y capeli yn cael gwyliau o'r ysgol i fynychu eu gwasanaethau a'u gweithgareddau nhw yr un fath â phlant y ddwy eglwys i'w gwyliau hwythau. Er enghraifft, cafodd Cwmni Opera Capel Soar amser rhydd i fynd i berfformio i Dyddewi. Ac roedd yr Henadur Lewis, Meiros Hall yn ymwneud llawer iawn â'r ysgol gan ganiatáu diwrnod o wyliau weithiau i'r plant - a Bedyddiwr oedd e.

John Evans, Shingrug, oedd yn gyfrifol am fisoedd cyntaf yr ysgol cyn penodi Rees Rees yn brifathro cyn diwedd 1866. 'Dyn ni ddim yn gwybod dim amdano ar wahân i'r ffaith ei fod yn arwain y côr yn yr eglwys hon.

Yn 1892, daeth Daniel Jenkins a'i ddawn gerddorol yn brifathro. Gallwn ddychmygu bod cerddoriaeth yn bwysig yn yr ysgol y pryd hwnnw. Pan gynhyrchodd Daniel Jenkins y cantata Golden Hair and the Three Bears yn 1902, caewyd yr ysgol am wythnos gyfan er mwyn ymarfer. Pan fu Daniel Jenkins farw'n ddisymwyth yn 1917, roedd Evan Powell, Kirby House, yn athro yn yr ysgol ac yn aelod yn yr eglwys hon. Fe ymgeisiodd ef am y swydd, ond Thomas Morgan o Landysul - cerddor ac organydd - gafodd y swydd.

Yn ôl tystiolaeth y llyfrau log roedd Mr Morgan yn dipyn o ddisgyblwr, ac nid disgyblu'r plant yn unig fyddai e! Dyma enghraifft ichi o'i eiriau hallt:

Copy book work in Standard 1 supervised by head - they are characterised by very dirty work and bad writing. Marking is not up to date. It is three weeks in arrears. Headteacher's absence is probably the cause of the slackness. Miss Davies must speak louder - children in the back cannot hear her. Advised teachers in middle room to reduce the din by half to enable work.

Penodwyd Evan Powell yn brifathro o'r diwedd yn 1946, adeg ymddeoliad Thomas Morgan.

Mae adroddiadau arolygwyr ysgolion y llywodraeth - HMIs - ac adroddiadau arolygwyr yr eglwys ar hyd y blynyddoedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfrau log. Roedd adroddiadau'r arolygwyr ar y cyfan yn canmol yr addysgu.

Difyr yw nodi sylwadau ficer Llandysul, y Parchedig T R Evans yn yr adroddiad ar Addysg Grefyddol yn 1949, wrth gyfeirio at y gwasanaeth boreol:

A reading from St John's Gospel was given by John Griffiths, and Arwyn Jones recited Isaiah 55 - both did well, worthy of people very much their senior.

Ac yn nes ymlaen yn yr adroddiad:

The young people - mainly boys were very responsive and able to express themselves intelligently. I may be allowed to mention John Vare in particular - a lad who showed unusual intelligence.

Os oedd canmol ar yr addysgu, roedd cwyno'n flynyddol am gyflwr yr adeilad, y desgiau a'r cadeiriau. Roedd y lle yn anghysurus iawn pan fyddai'n bwrw glaw a dillad y plant yn wlyb wedi cerdded i'r ysgol.

Roedd stôfs llosgi glo yn yr ysgol. Tortoise stoves - wedi eu henwi gan eu bod nhw'n llosgi'n araf - slow but sure! Roedd Leslie Baker-Jones yn cofio ei athro dosbarth, Evan Powell, yn y gaeaf yn gwneud i'r plant redeg rownd y goeden fawr wrth yr afon i gynhesu cyn dod i mewn yn y bore.

Yn y 1940au a'r 50au roedd cyflwr yr adeilad a'r diffyg toiledau priodol yn bwnc trafod parhaus. Roedd rhai yn credu falle y byddai trosglwyddo'r ysgol i ddwylo'r Cyngor Sir o fantais. Ond roedd Sam Evans, y Rheithor, yn benderfynol o'i chadw yn ysgol eglwysig - a dyna a fu. Roedd hi'n 1990 cyn i'r ysgol gael ei ehangu a'i hailfodelu. Dw i a'm chwaer yn cofio mynd allan i'r tai bach y tu ôl i Dŷ'r Ysgol!

Yn ogystal â'r hyn y gallwn ni ei ddarllen yn y llyfrau log, mae hanesion difyr wedi eu rhannu gan gyn-ddisgyblion ar hyd y blynyddoedd. Roedd Leslie Baker-Jones yn cofio cael ei ddysgu trwy chwarae yn yr "infants", yn y tridegau, adeiladu â blocks a rolio a sgwario "clai" - a rhai o'r plant yn bwyta'r clai!

Tortoise Stove
Tortoise Stove

Yn 1938, roedd Alwyn Dan-banc, Drefelin wedi torri dau asgwrn bach yn ei arddwrn wrth chwarae leap frog yn yr iard. Clymodd Dr Jenkins ei fraich â splint - tamed o bren o focs Jaffa oranges. Roedd Johnny Pen-lan-fawr yn berchen car, ac aeth ag e i'r Infirmary yng Nghaerfyrddin i roi ei fraich mewn plastar.

Roedd y plant yn cael caniatâd i gymryd diwrnod neu hanner diwrnod o wyliau am bob math o resymau - fel ffair Castellnewydd neu ffair ieir Cwmpengraig, er enghraifft. Roedd meibion ffermydd yn cael prynhawniau rhydd adeg y cynhaeaf yn y gobaith y bydden nhw'n dod i'r ysgol yn y bore!

Un abwyd i ddod i'r ysgol, mae'n siŵr oedd y bwyd. Dechreuwyd rhoi llaeth i blant yn 1934, ac yn 1938 gallen nhw ddewis rhwng llaeth a horlicks! Dechreuodd cinio ganol dydd yn 1945.

Yn y llun mae Mrs Griffiths y Cwc gyda'i chynorthwywyr Mrs Freeman, Glyncoed a Miss Williams, Brynbedw.
Yn y llun mae Mrs Griffiths y Cwc gyda'i chynorthwywyr Mrs Freeman, Glyncoed a Miss Williams, Brynbedw.
John y Gwas yn anrhegu Gillian Walters, Llwyn-brain, am fynychu'r ysgol am bum mlynedd heb golli diwrnod.
John y Gwas yn anrhegu Gillian Walters, Llwyn-brain, am fynychu'r ysgol am bum mlynedd heb golli diwrnod.

Mae hanes hir a nodedig i addysg yn y pentref hwn, ac rwy'n falch o gael dweud fy mod i'n un o gyn-ddisgyblion Ysgol Penboyr. 

Dyma brifathrawon yr ysgol o'r dechrau:

Mr Daniel Jenkins, 1892-1917
Mr Daniel Jenkins, 1892-1917
Mr Thomas Morgan, 1918-1946
Mr Thomas Morgan, 1918-1946
Mr Evan Powell, 1946-1950
Mr Evan Powell, 1946-1950
Mr B. D. Rees, 1950 - 1976
Mr B. D. Rees, 1950 - 1976
Mr Aneirin Davies, 1976-1988
Mr Aneirin Davies, 1976-1988
Mrs Wendy Thomas, 1989-2006
Mrs Wendy Thomas, 1989-2006
Dr Carol James, 2006 -
Dr Carol James, 2006 -

Cofio am Daniel Jenkins ac Albert Evans

Sgwrs gan Peter Hughes-Griffiths
yn Eglwys Sant Barnabas, Dre-fach Felindre,
27ain Mehefin 2026 am 2 o’r gloch

Daniel Jenkins
Daniel Jenkins
Albert Evans
Albert Evans



Gwych o beth yw ein bod ni wedi dod ynghyd heddi i gofio am ddau gerddor arbennig yn hanes yr ardal hon - a diolch i gyfeillion y wefan "Stori Fawr Dre-fach Felindre" gyda chydweithrediad parod swyddogion Eglwys Sant Barnabas ein bod ni wedi adnewyddu'r gof-golofn i Daniel Jenkins sy'n cynnwys hefyd bedd ei wraig a'i ddwy chwaer. (Darllen Hanes Daniel Jenkins ar wefan y "Stori Fawr").

Rwyf fi ac un neu ddau arall sy'n bresennol yn ddigon hen i gofio dwy chwaer Daniel Jenkins - Miss Jenkins Fowr a Miss Jenkins Fach!!  - dyna oedden ni yn eu galw nhw pan yn blant, ac roedden nhw'n byw un tŷ fyny o'r Hall wrth y dafarn John Y Gwas. Yn rhyfedd iawn roedden ni y plant yn adrodd pennill (braidd yn anweddus) am y ddwy Miss Jenkins. Fe wna i ei adrodd ichi wedyn yn bersonol os ych chi'n dymuno!!

Wel. Pwy oedd y Daniel Jenkins arbennig hwn y penderfynodd aelodau Côr Meibion Bargod Teifi godi cof-golofn iddo ger drws Eglwys Sant Barnabas?

Yn fy ymchwil mae dau le ble cawn ni ddisgrifiadau ohono. Yn gyntaf yn y Carmarthen Journal Awst 1911 ar ôl i Gôr Meibion Bargod Teifi ennill y brif gystadleuaeth Corau Meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin 1911, a hefyd pan fu farw yn 1917 gyda John y Gwas yn ysgrifennu amdano.
 

Hefyd yn y llyfr hwn Yn Fore Yn Felindre gan Tom Davies a fagwyd yn Treale ac sy'n disgrifio Daniel Jenkins pan oedd e yn Ysgol Penboyr. Fe fuodd Daniel Jenkins yn bennaeth Ysgol Penboyr o 1892 tan ei farwolaeth sydyn yn 51 oed yn 1917.

Fe wna i ddarllen dyfyniadau yn unig o'r bennod gyfan sydd ganddo am Daniel Jenkins:

"Dyn o faintioli canolig ydoedd, cadwrus yr olwg gyda thrawswch melyngoch a gwallt yn dechrau britho. Yr oedd yn ŵr diwyd ac yn llawn ynni, ac ni ddangosodd un arwydd o ludded erioed. Roedd ganddo ddisgyblaeth lem arnom a chosbai'n drwm a di-drugaredd. Ond, gallai fod yn dyner a charedig ac ni chosbai heb achos.

Er mai Cymro pur oedd y meistr ni roddai lawer o bwys ar ddysgu Cymraeg yn yr ysgol. Nid oedd gwell cerddor yn y gymdogaeth. Yr oedd yn gyfeilydd heb ei ail ac fe oedd arweinydd Côr Meibion Bargod Teifi.

Eithr pan fyddai'n ei hwyliau gorau dywedai ambell stori ddigri wrthym. Ryw dro fe ddywedodd am fachgen yn ysgrifennu darllenawd a gynhwysai'r frawddeg  "The Queen was wedded three times and crowned twice". Ond yr hyn a ysgrifennodd y bachgen oedd "The Queen was wetted three times and drowned twice".

Diwrnod tywyll yn yr ardal oedd y diwrnod y bu farw ein meistr. Ni fu'n sal ond deuddydd neu dri a bu farw yn 51 oed."

tudalen blaen y llyfr
Mr Jenkins, Prifathro a'r athrawon tu allan i Dy'r Ysgol.
Mr Jenkins, Prifathro a'r athrawon tu allan i Dy'r Ysgol.

Brodor o Gilbebyll ger Pontardawe oedd e ac fe gafodd ei hyfforddiant yn y "Carmarthen Training College" (Coleg y Drindod wedyn).

Roedd e'n ŵr poblogaidd iawn yn lleol ac wedi cyflawni cymaint ym myd cerddoriaeth. Yn ôl un dyfyniad arall yn 1911 - "Pan ddaeth ef i Dre-fach Felindre nid oedd bron yr un piano yn yr ardal, ond ar ôl ugain mlynedd ac yntau wedi hyfforddi cymaint o ddisgyblion i ganu'r piano, bellach mae "pianoforte playing" yn gyffredin iawn yn yr ardal." Pan ges i fy magu yma yn y pedwar a'r pumdegau (1940-50) roedd piano yn y cartrefi yn beth cyffredin iawn a'r traddodiad o wersi piano mor gryf.

Roedd galw mawr ar wasanaeth Daniel Jenkins i feirniadu mewn eisteddfodau. Fe oedd organydd a chôr feistr Eglwys Sant Barnabas gan gyflwyno Oratorios o waith Handel, Haydn a Mendelson. Yn dilyn ei ymdrechion cafwyd yr "organ bib" gyntaf i'r eglwys ac fe ddilynodd y capeli wedyn.

Yn y Carmarthen Journal 21 Mehefin 1907  - "School Concert was a performance of the opera 'Snow White and the Seven Dwarfs'. Tom Morgan oedd un o'r dwarfs! Sefydlodd Gwmni Drama a pherfformio "Twm Sion Cati".

Ond fel arweinydd Côr Meibion Bargod Teifi ac enillwyr Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin 1911 y daeth yn fwyaf enwog. Dyma sydd yn y Carmarthen Journal - "The adjudicators thought it was an electrical rendering" - "Yr oedd taranau o gymeradwyaeth yn crynu'r babell ar ôl y feirniadaeth".

Bu dathlu mawr pan ddaethon nhw nol ar y trên i Henllan yn hwyr ar ôl y fuddugoliaeth honno. Torfeydd yn eu disgwyl - "The Rechebite Brass Band struck up 'The conquering hero comes' ... the conductor was carried shoulder high and placed in a waggonette - every window had a light shining - huge fire torches - it was into the morning before the lights went out."
 

Cor Bargoed Teifi

Bu farw yn sydyn ar Fedi 6ed 1917 yn 51 oed. Mae'r adroddiadau am ei angladd yn rhyfeddol ... "pupils numbering about 300 lined up on the school grounds ... and the well known hymn 'Mae nghyfeillion adre'n myned' was sung. The Bargod Teifi Party sang 'Y Delyn Aur' ... at the graveside the little children sweetly sung 'The Christians Goodnight' which was followed by the vast congregation singing 'Ar ôl gofidiau'r ddyrys daith'."

Yna, fe osodwyd Cofeb arbennig ar ei fedd er cof amdano gan Gôr Meibion Bargod Teifi. Fe ysgrifennodd John y Gwas gofiant iddo yn y Carmarthen Journal ac mae'n dweud am Daniel Jenkins - "Iddo fod yn enaid cerddoriaeth yn yr ardal" - a dyna'r gwr ry ni wedi adnewyddu ei gof golofn ac yn cofio amdano heddi. Heb os, person arbennig iawn yn holl hanes cerddorol Dre-fach Felindre.
 

Ar ôl marwolaeth Daniel Jenkins pwy oedd ar gael i gymryd ei le? Wel, yn 1919 fe ddaeth ALBERT EVANS, a bu'n arweinydd am 36 o flynyddoedd tan ei farwolaeth yn 1955.

Bydd nifer ohono ni yn cofio Albert Evans yn dda ac yn cadw'r siop groser drws nesaf i Neuadd y Ddraig Goch.

Fe gafodd y côr lwyddiant di-rif yn ei gyfnod ef hefyd ac mae Eirlys Griffin (wyres Albert Evans) sy'n bresennol heddiw wedi cyflwyno 'baton' Albert Evans ynghyd a nifer o'r cwpanau a enillwyd i 'Stori Fawr Dre-fach Felindre'. (Y bwriad maes o law yw trefnu cwpwrdd gwydr i gadw'r trysorau hyn yn Ysgol Penboyr).

Parti Canu Albert Evans
Parti Canu Albert Evans

Ond, mae'n werth cofio hefyd mai Albert Evans sefydlodd y 'Dre-fach Felindre Silver Band' a fuodd yn weithgar iawn yn lleol am flynyddoedd maith, a bydd llawer ohonon ni yn cofio'r band amser y carnifalau a digwyddiadau eraill.

Sefydlodd bartïon canu hefyd. Yn ystod yr ail ryfel byd ymddangosodd 'yr wythawd' dros 400 o weithiau er mwyn casglu arian i helpu'r bechgyn yn y fyddin.

Bu'n arweinydd y gan ac organydd yng Nghapel Closygraig o 1919 tan ei farwolaeth yn 1955. Roedd cerddorfa fechan ganddo yn y capel ar un amser hefyd. Cyfansoddodd ddwy emyn don sef 'Closygraig' a 'Gwyneth', yn ogystal a'r anthem 'Cenwch i'r Arglwydd'.

Enillodd dystysgrif am safon ei ganu fel bariton gan y 'London College of Music' ac yn 1931 derbyniwyd i'r Orsedd. Bu'n beirniadu eisteddfodau ac arwain Cymanfaoedd Canu ledled Cymru ar hyd y blynyddoedd.

Un o feibion Perthiteg, Cwmhiraeth oedd Albert Evans a bu farw ar 16eg o Fawrth 1955 yn 65 oed.

Roeddwn i yn bresennol yn ei angladd, a'r hyn rwy'n ei gofio'n glir yw Côr Meibion Bargod Teifi yn canu 'Y Delyn Aur' tu allan i'w gartref Central Stores cyn cael ei gladdu ym mynwent Sant Barnabas.

A dyma Gôr Bargod Teifi unwaith eto yn gosod cofeb arbennig ar ei fedd. Mae hi yn dal yno ond bod rhannau ohoni wedi mallu gyda effaith y tywydd. Mae ar ffurf llyfr cerddorol agored mewn marmor gyda sgôr y nodau cerddorol ar draws y rhan uchaf y ddwy dudalen gyda'r geiriau.

"Ni fydd diwedd fyth ar sŵn y delyn aur."

Yn gorwedd ym mynwent Sant Barnabas mae'r ddau gerddor disgleiriaf a welodd yr ardal, a phriodol iawn yw cynnal prynhawn fel hwn i gofio amdanyn nhw.

Coffa da am DANIEL JENKINS ac ALBERT EVANS.

Cliciwch ar y dolenni i ddarllen mwy am Daniel Jenkins ac Albert Evans.

Lluniau o'r Prynhawn Cofio 2026, cliciwch ar y lluniau i ehanghu.