Hanes Prynhawn y Cofio
gan Peter Hughes Griffiths
Fe gynhaliodd Grŵp y Wefan ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’ - Prynhawn y Cofio ar Sadwrn Mehefin 28ain 2025 yn Eglwys Sant Llawddog, Penboyr ac ymweld a rhai beddau pobl nodedig yn hanes yr ardal. Yn dilyn, cafwyd cyfarfod yn Neuadd yr Eglwys gan roi cyfle i wahanol bobl son am yr unigolion a gladdwyd yn y fynwent, ynghyd a dangos eu lluniau ar y sgrin. Daeth torf dda ynghyd, a oedd yn cynnwys nifer o ddisgynyddion a pherthnasau i’r unigolion y siaradwyd amdanyn nhw.
Bydd yr adroddiad hwn yn cynnwys y gwahanol gyflwyniadau, lluniau o’r cerrig beddau a’r bobl a fynychodd ‘Prynhawn y Cofio’.
Mae hyn yn gofnod pwysig o’r digwyddiad a diolchwn i bawb am eu cyfraniadau.
Fe wnaeth pawb ymgynull yn Eglwys Sant Llawddog am 2 o’r gloch i wrando ar Stella Jones yn cyflwyno hanes yr eglwys.


Yn dilyn y cyflwyniad fe wnaeth pawb ymweld a’r beddau yn y fynwent. Roedd baner fechan Y Ddraig Goch wedi eu gosod ar rai beddau er mwyn tynnu sylw at unigolion arbennig.
Y Cyflwyniadau yn Neuadd yr Eglwys.
Dafi Davies, Ffrydiau Gwynion
Pan ewch chi allan o Eglwys Penboyr ac edrych draw i’r chwith i gyfeiriad Rhos Llangeler ac eglwys a chapel Seiloh, fe welwch chi yn y dyffryn, a lawr yn y pant darddiad yr afon Bargod, a’r fferm fach Ffrydiau Gwynion.
Bu cyfres ar S4C flynyddoedd yn ol o’r enw DIHIROD DYFED, ac un o’r rhaglenni hynny oedd hanes am lofruddio ESTHER DAVIES priod John Davies ym Mlaenduad, y ffermdy heb fod ymhell o’r Garreg Hir sydd ar y ffordd rhwng Rhos Llangeler a Phencader, a fyny yn uchel yn y wlad uwchben pentref Cwmduad. I Ffrydiau Gwynion y daeth Esther, merch Gwastod, Llangeler yn forwyn. Roedd hi yn ferch ddeniadol iawn 18 oed ac yn aelod ffyddlon yng Nghapel Saron. Dechreuodd dau frawd Ffrydiau Gwynion – Dafi a John gymryd diddordeb mawr yn y forwyn hardd a gweithgar hon. Maes o law fe briododd John gyda Esther a symud i ffermio Blaenduad.
Ond, ar noson wyllt, wyntog a gwlyb ar Nos Iau Tachwedd 4ydd 1869 fe saethodd rhywun trwy ffenest llaethdy Blaenduad at Esther a’i lladd.
I dorri stori hir yn fyr cyhuddwyd Dafi Dafis, Ffrydiau, y brawd arall, o’i llofruddio. ond wedi’r holl dreialon yn y llysoedd – methwyd profi mai ef oedd wedi saethu Esther a daeth yn rhydd. Ni chyhuddwyd neb arall. Mae Esther wedi ei chladdu ym mynwent Eglwys Llangeler a’r hanes yn llawn yn llyfr J Towyn Jones ‘Ar Lwybr Llofrudd’, ac yn ol Towyn yn ei lyfr ...” Ni allwn lai na chredu fod llwch y llofrudd yn y gladdfa hon” – sef mynwent Eglwys Penboyr. Soniodd Towyn wrtha i bod blodau yn cael eu gosod ar fedd Esther yn Llangeler gan mlynedd a mwy yn ddiweddarach bob Sul y Blodau, a bod wastad golau cannwyll ymlaen drwy’r nos yn Ffrydiau Gwynion pan oedd Dafi yn hen ŵr. Yn bresennol yn y ‘Prynhawn y Cofio’ roedd Eira Evans o Landysul a oedd yn ddisgynnydd o chwaer Dafi Davies, Ffrydiau Gwynion.

Teulu Williams, Ffatri’r Dyffryn a Llysderi
Priododd ELINOR plentyn hynaf John ac Elizabeth Lewis Llwynbedw gyda gwr o’r enw SAMUEL WILLIAMS ac adeiladu FFATRI’R DYFFRYN yn 1871. Heb os roedden nhw yn arloeswyr cynnar a blaenllaw yn hanes y diwydiant gwlân, a Ffatri’r Dyffryn oedd y cyntaf i gynhyrchu’r defnydd o’r gwlân o’r dechrau i’r diwedd mewn un broses. Fe wnaethon nhw adeiladu DWY OLWYN DDŴR i’r ffatri fel bod dwr o un olwyn ddŵr yn syrthio i droi olwyn arall o tano, gan greu dwy waith cymaint o bŵer i’r ffatri. Dyma’r cyfnod yr adeiladodd y teulu y tŷ braf LLYSDERI.
Priododd ANN merch Samuel ac Elinor Williams gyda JOHN LEWIS, Meiros Hall wedyn, gan uno dau deulu blaengar ym myd y ffatrïoedd gwlân yn Nrefach Felindre. Eu mab hynaf nhw SAMUEL DAVID LEWIS ddaeth wedyn i redeg Ffatri’r Dyffryn – a’i ferch ef briododd gyda SAMUEL WILLIAMS arall ac fe fuo nhw yn Middlesborough yn byw a gwerthu deunydd Ffatri’r Dyffryn a wedyn dod nol i redeg Ffatri’r Dyffryn.
Ond, ar ôl dod nol fe fuodd y Samuel Williams hwn farw ac yntau ond 35 oed, ac fe wrthododd Teulu’r Lewisiaid Meiros Hall i weddw Samuel Williams (mamgu Ken Howell) i redeg Ffatri’r Dyffryn. Nid oedd rhedeg ffatri gan fenyw yn dderbyniol yn y cyfnod hwnnw?) a gorfod iddi hi y weddw a’i thri phlentyn – Jonnie Williams, Samuel Williams (Gwastod, Penboyr wedyn) a Elinor (mam Ken Howell) fynd i fyw at eu teulu yng nghyfraith ym Mhenlanfawr. Bu rhwyg fawr rhwng y Lewisiaid (Meiros Hall) a’r Teulu Williams (Penlanfawr). Mae’r disgynyddion Ken Howell (Williams) a Robin Exton (Y Lewisiaid) bellach yn gyfeillion da.

William Daniel Davies 1838 -1900
Dyma mae’r Bywgraffiadur Cymreig yn ei ddweud am William Daniel Davies – gan gofio eich bod yn berson arbennig cyn cael eich cynnwys ynddo!
“Llyfrwerthwr, ac fe’i ganwyd mewn bwthyn o’r enw Llety, Penboyr”, (Llety Clud erbyn hyn!) sydd bron ar draws y ffordd i Neuadd yr Eglwys, Penboyr ar 15ed Mehefin 1838 a’i fagu ym Mwlchclawdd ac yn aelod ffyddlon yng Nghlosygraig. Symudodd i’r Rhondda yn 1862 i weithio yn y pyllau glo a dechreuodd bregethu gyda’r Methodistiaid Calfinaidd.
Yn 1868 ymfudodd i’r Unol Daleithiau America gan ymsefydlu yn Hyde Park gerllaw Scranton, Pensylfenia, ac ymuno gyda llu o Gymry eraill yn America i gyhoeddi’r papur newydd Cymraeg ‘Baner America’. Ysgrifennodd erthyglau i’r papur hwnnw. Ymwelodd a Chymru yn 1874 ac yna rhoi hanes ei daith ym mhapurau America ar ôl dychwelyd yno. Bu’n teithio America am flynyddoedd fel gohebydd ‘Y Drych’. Rhoddodd Feiblau i feibion a merched ieuanc yr eglwys yn Hyde Park. Cyfrannodd ddegfed ran o’i enillion i achosion da yn gyson ers yn 17 oed. Cyfrannodd filoedd o draethodau a llyfrau i sefydliadau Cymraeg y Taleithiau. Roedd yn adnabyddus fel darlithydd cyhoeddus ac yr oedd ar Daith Ddarlithio yng Nghymru pan fu farw ym Mrymbo, Wrecsam ar 27ain Mawrth 1900 yn 61 oed.
Fe gyhoeddodd nifer o lyfrau ac fe gewch hanes ei fywyd yn llawn ar Wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre.’ Brawd iddo oedd John Daniel Davies – Patagonia. Claddwyd y ddau frawd yn yr un bedd ym Mynwent Penboyr.
Ei hanes yn llawn ar Wefan ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’.


John Daniel Davies (John Davies – tad ‘Nel Fach y Bwcs’)
Cyflwynodd Eifion Davies, sy’n un o aelodau gweithgar Gwefan ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’ hanes ei dadcu. Roedd Dyfrig ac Elinor, wyr ac wyres John Davies hefyd yn bresennol.
Roedd John Daniel Davies yn fab i William a Rachel Davies (Llety’r LLwyndrew, Penboyr)—‘roedd William yn cael ei adnabod yn lleol fel John “coesbren” am iddo golli ei goes yn ymladd gyda’r fyddin Brydeinig yn India’r Dwyrain .
Yr oedd JOHN DANIEL DAVIES, neu"John y Bwcs” yn un o saith o blant sef;
ANN - ganwyd1831 - symud i Sir Frycheiniog
SARAH - ganwyd1833 - symud i ardal Pontypridd
DAFYDD (1835-1854) - marw yn 19 oed
WILLIAM DANIEL (1838-1900) - ymfudo i Scranton
JOHN DANIEL (1841-1925) - ymfudo i Batagonia
MARGARET (1843-1921) - ymfudo i Washington
JAMES DANIEL (1847-1912 - ymfudo i Florida
Magwyd John Daniel yn Blaenllain,Llangeler (bwthyn bach gerllaw Gwesty Y Lamb.)
Symudodd i fyw i ardal y Rhondda i weithio mewn pyllau glo.’Roedd John yn anhapus yn y gwaith glo ac yn ddiweddarach sefydlodd ei hun fel gwerthwr llyfrau-(dyna gefndir yr new “John Davies y bwcs”). ‘Roedd Hannah, ei wraig yn enedigol o ardal Penrhiwpal, ger Rhydlewis a hwyrach fod John wedi priodi Hannah cyn symud i chwilio Gwaith yn y Rhondda.
Yn 1870 penderfynnodd John Daniel ymfudo i’r Gaiman yn Patagonia gyda ei wraig Hannah a’i tri plentyn ifanc sef;
William
John
Ellen
Er fod John Daniel wedi ei siomi yn fawr wedi cyrraedd Y Gaiman a gweld y tir diffaeth a’r prinder bwyd iddynt fel teulu ifanc bu iddo orchfygu ei ddiflastod a bu yn byw yn fferm Llainlas am dros 30 mlynedd.
Yn y cyfnod hwn hefyd ganwyd mab arall i John a Hannah, sef Dyfrig ond yn 1881 yn drychynebys fe gollodd ei wraig Hannah ar enedigaeth plentyn arall.
Ar ôl amser dychwelodd John Daniel i Gymru am amser byr a dod o hyd i ferch o ardal Llandrindod sef Sarah Hannah a’i phriodi. Bu farw Sarah Hanna yn 1891 o tor calon ac afiechyd.
Yn 1900 penderfynnodd tri o feibion John Daniel adael y Gaiman i ymfudo sef;
John i Ganada
William a Dyfrig i Dde Africa.
Gan fod William wedi ei eni ym Mhrydain bu rhaid iddo ymuno ar fyddin Brydeinig i ymladd yn Rhyfel y Boar. Yn yr un cyfnod bu glawogydd mawr yn yr Andes a llifogydd enfawr yn yr afon Chubut (enwyd yr afon hon yn Camwy gan y Cymru yn y Gaiman sydd yn golygu afon sgleiniog). Dinistrwyd Llainlas, fferm John Daniel bron yn gyfangwbwl yn y llifogydd.
Yn canlyn y drychineb hon penderfynnodd John Daniel ddychwelyd i Gymru gyda ei ferch Ellen a Hannah, gwraig William a’i mab bach Johnnie gan fod William ei gwr wedi ymfudo i Dde Africa i baratoi cartref i’r teulu ifanc.
‘Roedd Ellen ddim am ddychwelyd i Gymru am ei bod yn teimlo yn gryf mae Archentwraig oedd hi ac yn rhugl yn y iaith Spaeneg. ‘Roedd wrth gwrs wedi gwario ei holl oes yn y Gaiman.
Yn 1901 cyrraeddodd John Daniel ei ferch Ellen, Hannah (gwraig William a’i plentyn bach Johnnie) ardal Drefach Felindre ac i fyw mewn tŷ a enwyd yn Camwy (er cof am y dyffryn a’r afon Chubut).
Bu y dyddiau cynnar yn Camwy ddim yn hwylus iawn gan fod Hannah yn gweld eisiau William a Ellen ddim am fyw ymhlith pobl fusneslud yr ardal. Ar ben popeth clywodd John Daniel fod ei fab William, a gwr Hannah wedi ei ladd yn Rhyfel y Boer.
Erbyn hyn, er fod John Daniel yn rhyw 60 oed ‘roedd yn gwario tipyn o amser yng nghwmni merch ifanc a oedd yn byw yn y pentref sef Sarah Evans, Llwyndrain, bwthyn bach gerllaw Y Cnwc ar y rhiw rhwng Drefach a Saron.
Fe ddaeth Sarah yn drydedd wraig i John Daniel ac yn 1902 ganwyd fy nhad Sam a bu y tri yn byw yn Pensarn Cottage, Drefach tan marwolaeth John Daniel yn 1925 a Sarah yn 1948.
Felly, bu bywyd John Daniel Davies bron fel cylch, ei eni yn 1841 yn Llety Llwyndrew,Penboyr,symud i Langeler yn fachgen ifanc, ac wedyn i’r Rhondda cyn ymfudo i Batagonia yn 1870. Dychwelyd yn 1901 i Drefach Felindre a’i gladdu yn mynwent Eglwys Penboyr yn 1925, nepell or lle y ganwyd e.

Edward (Ted) Crompton
O deuluTom a Sarah-Anne Crompton, Penlanganol, Penboyr a fu’n byw yn Danffynnon, Cwmpengraig gyda’i wraig Annie, a thad a mam y meddyg disglair Gareth Crompton. (Rwy’n ymweld yn gyson a Gareth yng Nghartref Plas y Dderwen, Caerfyrddin – mae’n dal ei dir yn ei wely, ond bod y cof a’r meddwl wedi diffodd erbyn hyn – 1af Mehefin 2025).
Nodwedd arbennig a chyfraniad diflino Ted Crompton oedd y ffaith iddo fod yn Glerc Cyngor Cymunedol Penboyr a Llangeler am 40 mlynedd. Record anhygoel ac roedd e’n aelod ffyddlon yn Eglwys Penboyr fel mae Gareth ei fab.

B D Rees a’i fab Gerallt Rees.
Magwyd Benjamin Daniel Rees yn Nantllin Penboyr. Roedd pawb yn ei adnabod fel B.D. – Nid wyf yn credu bod neb yn gwybod beth oedd ei enw yn llawn!
Bu’n brifathro Ysgol Penboyr, ar ol cyfnodau o fod yn athro yno cyn hynny, am 26 mlynedd sef o 1950 i 1976. Aelod yng Nghapel Soar oedd B.D. ond gan mai Ysgol Eglwys oedd Ysgol Penboyr disgwylid i’r prifathro fod yn eglwyswr ac fe newidiodd BD i fod yn aelod yn Eglwys Penboyr – er mawr siom i aelodau Capel Soar!
Roedd fy mam sef Mrs Griffiths y Cook yn gogyddes yr ysgol am rhan fwyaf o gyfnod BD fel prifathro – ac i’r gegin roedd BD yn dod bob amser chwarae ac ar ôl cinio i gael ei fwgyn – roedd e’n smociwr trwm iawn.
Ond, bu ei gyfraniad yn lleol yn enfawr ac yn enwedig mewn perthynas a Neuadd y Ddraig Goch – yr hen neuadd a sefydlu’r neuadd newydd. Pan ysgrifennais hanes neuadd y Ddraig Goch, sydd ar y wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’ roedd cyfraniad BD Rees yn un nodedig. Fe oedd cadeirydd pwyllgor sefydlu ac agor y neuadd newydd ar 12ed Medi 1964. Dyma ddyfyniad o’r hyn a ysgrifennais : “O ddarllen cofnodion yr hen neuadd a’r neuadd newydd bu cyfraniad BD Rees yn aruthrol i fywyd y neuadd ac i fywyd y pentref yn gyffredinol. Roedd e’n berson gweithgar tu hwnt a bu ei ddylanwad yn un arbennig – ac mae’n bwysig nodi hynny gan mai gwr yn gweithio yn y cefndir yr oedd e yn bennaf.”
Cofnod 27 Ionawr 1972 – BD Rees yn ymddeol fel Trysorydd y Neuadd am fod aelodau yn dweud ei fod e’n cael ei dalu – ac yntau ddim. Ni fu BD Rees yn gysylltiedig a’r neuadd ers hynny. Gwrthododd dderbyn anrheg a gyflwynwyd iddo am ei waith. Bu’n byw yn Llynfi House (gyferbyn a’r hen neuadd) ac roedd ei wraig Nellie yn rhedeg Siop Esgidiau yno.
Bu Gerallt ei fab yn brifathro Ysgol Gynradd fawr yn Hwlffordd ond yn aelod ffyddlon o Eglwys Penboyr ar hyd ei oes ac yn Warden ac yn asgwrn cefn yr achos.


Y Parch J Towyn Jones 1942 – 2019 (Towyn Lan)
Mae hanes ei fywyd yn llawn yn ‘Adran Enwogion a Phobl Leol’ ar Wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre.’
Gweinidog ac awdur toreithog. Darlithydd a storïwr. Hanesydd ac Arlunydd ynghyd a llawer iawn o ddoniau a diddordebau eraill. Magwyd ar Fferm Y Lan a bu’n weinidog yng Nghapel Heol Awst, Caerfyrddin o 1974 tan 2015. Mae ei dad a’i fam wedi eu claddu yn ymyl yn union yn y rhes o flaen ei fedd. Mae bedd hen Deulu’r Lan yn union ar y chwith ac wrth y llwybr sy’n arwain i’r eglwys. Ar fedd Towyn mae’r pennill hwn :
Mi ges haf a thymor hyfryd
Ddyddiau mywyd ar y llawr,
Fe ymdrechais a defnyddiais
Fy nhalentau ... gorffwys nawr.
Roedd Orinda Roberts, merch Towyn Jones yn bresennol ac fe siaradodd am ei thad.
Ei hanes yn llawn ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’


David Emlyn Jones, Pantycelyn
Syrthiodd mewn brwydr ger Cambrai, Ffrainc Rhagfyr 12ed 1917 yn 27 oed.
Ar ei garreg fedd mae’r pennill:
I ddaear Ffrainc fel deilen grin
Y syrthiodd ef mewn erchyll drin;
Mynegfys serch yw’r garreg hon -
I bwyntio’r cof tu draw i’r don. (Symlog)
Mae’r garreg fedd yn nodi ... Hefyd am Rebecca Jones a fu farw Ionawr 9ed 1955 yn 74 oed.
Roedd pedwar o blant gan David Emlyn a Rebecca Jones, Pantycelyn, Cwmpengraig – David James (tad Alan Jones gynt o Bantycelyn ), Tom – tad Dilwen a Elgan, Katie – mam Dewi, Muriel a Bryan Pantygog, a Sam – tad Valence a Winston.
Fe wnaeth Alan Jones gynt o Bantycelyn, Cwmpengraig gyflwyniad am ei dadcu David Emlyn Jones. Dyma’r cynnwys : (copi i ddod )

Thomas Bryan Davies (Bryan Pantygog)
Magwyd ym Mhantygog Cwmhiraeth ac fe ddaeth yn Brif Ymgynghorydd Addysg Cyngor Sir Dyfed. Rhedodd farathon Efrog Newydd, Berlin, Dulyn a Llundain. Seiclodd o Gaeredyn i Gaerfyrddin i godi arian i Tenovus. Syrthiodd yn farw ar ôl bod allan yn rhedeg ar 30ain Rhagfyr yn 1992. Un o sefydlwyr Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn. Ar 30 Rhagfyr 2024 fe gerddodd Branwen ei ferch ac aelodau o’r teulu i ben Cadair Idris, hyn 25 mlynedd ers iddyn nhw gyd-gerdded Cadair Idris cyn ei farwolaeth sydyn.
Cyflwynodd Alan Jones wybodaeth bellach am ei gefnder Bryan Davies.


Tommy a Mary Evans (Dandinas gynt.)
Lladdwyd y ddau mewn damwain car ar y ffordd ger Cynwyl Elfed yn 1982.
Roedd Glenda eu merch a’u dwy wyres yn bresennol.

Esau Evans a Theulu’r Goetre
Teulu dylanwadol iawn yn ardal Drefach Felindre ac eglwyswyr ffyddlon. Bu Esau Evans fyw i fod yn 100 oed (1870 – 1971).
Roedd Richard Jones (wyr Esau Evans) a’i wraig Marian a’u merched yn bresennol. Soniodd Richard am gyfraniad ei fam Sarah Jones hefyd.

Sarah Jones a JR Jones 1908 – 1994.
Mam a thad Richard Jones Goetre nawr. Merch Y Goetre oedd Sarah Jones ac un a thalent gerddorol arbennig. Bu’n hyfforddi plant a phobl ifainc i ganu ac i ganu’r piano. Roedd hi yn gyfeilydd mewn eisteddfodau a chyngherddau ac fe sefydlodd bartion canu lleol a threfnu y ‘Velindre Children’s Party’ i fynd o gwmpas i gynnal cyngherddau yn y 1950’au. +
Mae llun ar dudalen 110 yn y llyfr ‘Canrif o Luniau’ yn dangos ei pharti merched ‘Adar Bargod’. Bu’n organydd Eglwysi Penboyr a Sant Barnabas ar hyd ei hoes a hi fu’n cyfeilio yng Ngwasanaeth Y Pylgain yn Eglwys Penboyr yn ddi-fwlch am dros 60 mlynedd. Record anhygoel.
Mae hanes Sarah Jones ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’ yn Adran Yr Enwogion a Phobl Leol’.
JR Jones Glaniwmor oedd ei gwr ac yn berchennog ar Gwmni Adeiladu lleol ac yn rhedeg Siop Ironmonger gyferbyn a’u cartref Trecoed yn y pentref.


John Evans (John y Gwas) 1877 – 1958
Fe gyflwynais i Sgwrs ar John y Gwas yn y dafarn a enwid ar ei ôl ym mhentref Drefach Felindre ym Mai 20ed 2019. Cyflwynais ffeil yn dweud ei hanes iddyn nhw ei chadw wrth far y dafarn a hefyd gopi o hanes ei angladd allan o’r ‘Carmarthen Journal’ wedi ei fframio i’w gosod ar wal y dafarn.
Bu farw ar Dachwedd 15ed 1958 pan oeddwn i yn 18 oed. Felly, rwyf yn ei gofio yn dda. Bu’n athro yn Ysgol Aberbanc am 36 mlynedd can ail briodi yn 60 oed a dod i gadw’r New Shop Inn neu’r Alsop fel ei gelwid, ym mhentref Felindre. Ond, John y Gwas oedd yr enw llafar gwlad ar y dafarn.
Person cyhoeddus, hanesydd gwych a chofnodydd brwd, awdur, bardd a beirniad ac arweinydd eisteddfodau. Cynghorydd Sir Gaerfyrddin dros yr ardal a llawer iawn mwy!
Yn yr haf 1958 rwy’n cofio mynd i Ymryson y Beirdd yn Neuadd Henllan gyda John y Gwas yn arwain y noson. Dyma gwpled a luniodd Dic Jones iddo ar y noson
“Ei wallt neis sydd fel eisin,
Hwn yw’r jawl a rana’r jin.”
Wastad a het fowler ddu ar ei ben pan yn mynd i’r Cyngor yng Nghaerfyrddin. Colofnydd ‘Dwy Ochr i’r Teifi’ yn y ‘Carmarthen Journal’.
Ar ôl i Leisa ei wraig farw flynyddoedd wedyn, sylwodd Leslie Baker Jones, Llainffald, sydd drws nesaf i’r dafarn ar fwg yn codi o ardd gefn y dafarn. Y bwriad oedd llosgi holl gasgliadau John y Gwas. Rhwystrodd Baker Jones hynny a threfnu i’w holl gasgliadau fynd i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Fi (PHG) oedd y cyntaf i agor y casgliad o ddau focs mawr yn 2016. Mae rhestr o’r cynnwys ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’ ynghyd a’r wybodaeth am John Evans.
Cadwodd ddyddiadur wythnosol o 26 Hydref 1912 hyd at 9ed Tachwedd 1958 – chwe diwrnod cyn ei farw. Cawn ddarlun manwl o fywyd yr ardal mewn 12 ‘copy book’ llawn. Ysgrifennodd Hanes Capel Soar, Penboyr a hefyd am Ffeiradon Ceredigion.
Heb os, John Evans oedd un o’r personau amlycaf yn hanes pentref Drefach Felindre ac mae cynnwys yr hyn a ysgrifennodd ac a gofnododd ar gof a chadw am byth yn y Llyfrgell Genedlaethol ac ar wefan ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’.


Teulu Llaingof, Penboyr
Roedd Evan Davies Llaingof yn hen gymeriad diwylliedig ac yn dorrwr beddau. Teulu eglwysig a ffyddlon ym Mhenboyr. Fe ddaeth Evan Davies y mab yn offeiriad yn Llanrhystud a Llandybie. Roedd e’n fychan o ran taldra, a bu sawl stori o gwmpas y ffaith honno. Arolygwr ysgolion oedd Emrys y mab arall a Lisi Ann adref yn Llaingof yn edrych ar ôl ei thad.

Morfyn ac Eira Jones, Rhydfoyr Isaf.
Rhieni 'Alan Rhydfoir'. Roedd y ddau yn allweddol i lewyrch yr eglwys dros ran helaeth o’r ganrif ddiwethaf. Roeddent tu hwnt o weithgar ym mhob agwedd o’r gwaith – y ddau yn deyrngar iawn i’r aelodau ac yn ymweld pan fyddai salwch a mynd i Ysbyty Glangwili. Morfyn yn Warden ac yn gydwybodol iawn yn ei ffordd dawel, di-ffws ynghylch gwasanaethau, yr adeiladau ac yn ymweld a’r aelodau i gasglu eu cyfraniadau blynyddol a sicrhau llwyddiant Penboyr yn y gwasanaethau a’r cymanfaoedd lleol blynyddol – ee Calen Hen ayb. Mae llewyrch yr eglwys heddiw yn deillio i raddau helaeth o ddiwydrwydd y ddau hyn – y sail gadarn a osodwyd ganddyn nhw a’r fantell honno bellach yn cael ei gwisgo gan Alan a Stella.

James Morgan, Pentrecagal – ‘Iago Geler’
Ganwyd yn 1913 yn Newport gyferbyn a Pharc Puw, Drefach. Gadael Ysgol Penboyr pan yn 14 oed a mynd yn was fferm Penclawdd Uchaf, Rhos Llangeler. Priododd Margaret Davies fferm Y Ffrydiau yn ymyl a mynd i fyw i Bentrecagal. Ganwyd merch iddyn nhw – Eira Rhiannon a oedd yn yr un dosbarth a fi (PHG) yn Ysgol Penboyr ac Ysgol Ramadeg Llandysul.
Ymunodd Jim a’r fyddin yn 1941 a gwasanaethu yn yr ail ryfel byd yng Ngogledd Affrica. Mae dwy ran i’r sylwadau hyn amdano sef:
1) ‘Iago Geler’ – fel bardd gwlad toreithiog ac enillydd mewn eisteddfodau lleol. Mae casgliad o’i waith yn y ‘copy book’ hwn, yng nghyd a slipiau ‘Buddugol’ Eisteddfod Seiloh. Cofiwn amdano gyda’r enw barddol ‘Iago Geler’.
2) Fel milwr, ymladdodd yng Ngogledd Affrica adeg yr ail ryfel byd ac mae un hanesyn rhyfeddol amdano mewn perthynas a’r ‘prisoner of war’ Eidalaidd wedi ei ysgrifennu’n llawn gan Jon Meirion Jones, Pontgarreg. Teitl yr hanes yw ‘Diferyn o Ddŵr’.
ADRODD CRYNHODEB O’R STORI.
“Adeg y rhyfel ac yng nghanol yr ymladd roedd yr Eidalwyr yn ei chael hi yn anodd a chaled iawn ac yn colli tir. Cymaint felly nes iddyn nhw orfod chwalu i bob man yng nghanol y brwydro gyda llawer yn cael eu lladd a’u clwyfo. Roedd hyn yn ymyl Tobruk pan welodd Jim Morgan yr Eidalwr yn gorwedd ar ôl cael ei glwyfo yn y gwter yn ei wendid i farw yn y gwres. Stopiodd Jim ei foto beic gan mai ‘despatch rider’ oedd e yn y fyddin, ac fe aeth ato a’i godi o’r gwter a rhoi ychydig o ddŵr iddo o’i fflasg, a threfnu i’w godi i lori a mynd ag e i wersyll ar gyfer ei gadw a’i ddal fel carcharor rhyfel.
Fe ddaeth Jim yn ol i Bentrecagal ar ôl y rhyfel ac fe fydd rhai ohonom yn cofio amdano fel gyrrwr a ‘conductor’ bysiau y Western Welsh yng nghyfnod Wil Pelican, Sam Howells ac Ifor Bach ac eraill.
Fe gofiwch am y Gwersyll i Garcharorion yn Henllan a’r Eidalwyr yn mynd mas mewn lori i weithio ar ffermydd lleol tua diwedd ac ar ôl y rhyfel. Yn dawel bach ar ddydd Gwener, ac ar y ffordd nol i’r gwersyll, ac yn answyddogol, byddai’r lori yn aros wrth ambell dafarn er mwyn i’r Eidalwyr, ar ôl gwaith caled y dydd i gael peint bach cyn mynd nol i’r gwersyll.
Un noson fe arhosodd y lori wrth dafarn Pensarnau ym Mhentrecagal ar ei ffordd nol ac fe sylwodd Antonio, sef un o’r Eidalwyr wrth yfed ei beint ar ddyn yn yfed wrth y bar. Fe edrychodd arno fe am hir a methu deall sut oedd e yn ei adnabod. Yn y diwedd fe aeth Antonio draw ato a gofyn iddo ‘Ble wi wedi dy weld ti o’r bla’n?’ Ateb y dyn wrth y bar oedd ‘A wi’n dy nabod dithe ‘fyd!’. Jim Morgan oedd y dyn wrth y bar ac Antonio yr Eidalwr hanner marw a gododd Jim o’r gwter ger Tobruk oedd y llall., a’r ddau wedi cwrdd eto yn nhafarn Pensarnau unwaith eto.
Fe arhosodd Toni Vasami ar fferm Blaenachddu gyda Deio Davies. Mewn blynyddoedd fe ymunodd y teulu o’r Eidal gyda fe, a disgynyddion nawr sy’n ffermio Rhyd-goch, Bwlchygroes, Llandysul ac wedi sefydlu Tŷ Bwyta a Hufen Ia a mwy. Fe ddaeth Jim Morgan a Toni Vasami yn ffrindiau mawr ac yn gyfeillion mynwesol. Dameg arall ‘Y Samariad Trugarog’ ac mae’r hanes wedi ei gofnodi yn llawn gan Jon Meirion Jones, Pontgarreg. Bydd rhaid ei gosod ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’.



John Seimon Eric Griffiths – Eric Tŷ Hen 1940 -1981
Yr hyn a’m trawodd yn syth o ddarllen ei garreg fedd oedd y ffaith mai dim ond 41 oed oedd Eric pan fu farw. Maddeuwch y nodyn personol ond roeddwn i a Eric yn ffrindiau ysgol da, ac rwy’n cofio mynd i whare at Eric yn Nhŷ Hen, ac yno roedd ei fam Annie ac yn briod gyda John Griffiths Waunfawr, a’i dadcu Seimon a Jane chwaer ei fam ac Eiry chwaer Eric. Roedd Nesta ei chwaer hynaf yn ffrindiau mawr gyda Beti fy chwaer inne ar hyd eu hoes. Roedd Eric yn gefnder i Elgan, Gors, Capel Iwan – Mary ei fam yn chwaer i Annie mam Eric.
Cymeriad arbennig a hynod o ddiwylliedig oedd Eric Tŷ Hen. Fe ysgrifennodd Emyr Llewelyn y llyfr ‘Hiwmor y Cardi’ ac fe ysgrifennes i ‘Hiwmor Sir Gar’ – a’r stori gyntaf gan y ddau ohono ni yw stori am Eric yn Ysgol Llandysul.
Fe aeth Eric a fi i Ysgol Ramadeg Llandysul gyda’n gilydd ac roedden ni mor agos – y ddau ohono ni yn Griffiths wrth gwrs. Admission Number Eric oedd 2886 a finne 2887.
Ffarmo oedd ei fywyd ers pan yn grwt bach – fawr o flas at fynd i’r ysgol, ond yn ddiwylliedig ac yn llawn hiwmor naturiol ac yn storïwr da. Gallai adrodd englynion a phenillion ar ei gof a’i gariad at farddoniaeth Gymraeg yn amlwg iawn. Cyhoeddwyd y llyfr ‘Twm Sion Cati’ gan ddau o’i ffrindiau – Melfydd Jones a Berian Jones er cof am Eric.
Roedd e’n ‘fardd gwlad’ a ‘rhigymwr bro’ ar ei orau a hoffai alw ei hun ‘Y Tenor o Tŷ Hen’ gan ei fod yn canu gyda Chor Bargod Teifi. Ar ôl i’r cor gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976 a dod yn drydydd fe ysgrifennodd Eric benillion a ymddangosodd yn y ‘Tivy Side’.
Dyma un pennill -
Roedd disgwyl amyneddgar,
Beirniadaeth ddaeth am chwech,
Gwrandawai pawb yn astud,
O’r corau, pwy fu’n drech?
Daeth wyth deg wyth o farciau. Ie,
Cor Bargod rannau’r trydydd lle.
Fe ges i’r fraint o fynd trwy gasgliad o farddoniaeth Eric a oedd gan Eiry ei chwaer. Mae’r casgliad yn awr gan ei merch hithau Delyth.
Bu Eric yn gynghorydd ar Gyngor Cymunedol Llangeler a Phenboyr.
Ysgrifennodd Tudfor ei gyfaill englynion i gofio am Eric:
Yn y llan ar brynhawn llaith – daearwyd
Eric fy nghydymaith,
Rhyfedd rhoi clo ar afiaith
Awen TŶ Hen, ganol taith.
O’r alwad gan farwolaeth – ym Mhenboyr
Daw mwyn bwl o hiraeth
Am eli dy gwmnïaeth,
Felly, ffarwel gyfaill ffraeth.
Coffa da am ŵr arbennig iawn yn hanes yr ardal hon – Eric Tŷ Hen.
Mae Hanes Eric Tŷ Hen yn llawn ar wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre


WALLY DAVIES
Un o ffyddloniaid yr achos ym Mhenboyr ac yn un a fu yn torri ac yn cadw’r fynwent am flynyddoedd maith.

Lt.Col. George Parry Burnett 1921 -1998 (77 years)
Roedd diddordeb mawr gyda fi i wybod pam y claddwyd y gwr arbennig hwn a’i warig Natelie Wales Winslow ym mynwent Penboyr. Edrychais ei hanes ar Google a Wikepedia a doedd dim cyswllt o gwbl i’w weld gyda Chymru. Pam ei gladdu ym Mhenboyr felly? Addysgwyd yn Harrow a chyrraedd statws Lt. Col. yn y Scots Guards. Gwasanaethodd yn y Western Desert. Bu’n garcharor rhyfel ac fe wasanaethodd yn y Dwyrain Canol, Kenya, Parachute Regiment a 2nd Batalion o’r Scots Guards. Apwyntiadau yn Washington, Paris a’r Deyrnas Unedig. Yna, ymddeol i Winchester ac yn amlwg gyda’r City of Winchester Trust. Eto, pam ei gladdu ym Mhenboyr? Ei fab yw Audley George Parry Burnett sy’n byw yn Penboyr ers dros 25 o flynyddoedd. Dyna’r ateb mae’n siŵr!

Col. Norman Coates MC 1890 – 1966
Cwestiwn tebyg – pwy oedd Norman Coates, ond heb garreg fedd. Eto, o edrych Wikipedia fe welwch fod y person hwn wedi bod yn swyddog uchel iawn yn y fyddin ac yn brifathro ar ysgol fonedd ac yn wleidydd Toriaidd ac Aelod Seneddol am gyfnod byr 1922-23. Gwerthodd ei holl fedalau yn 1977.
Symudodd i fyw i Bantycrug ger Blaenbran a gall Einsley Harries ddweud mwy amdano fel meudwy yno. Mae Eifion Davies yn cofio galw gyda fe pan yn bostmon adeg gwyliau’r haf.
Lluniau Prynhawn y Cofio
Dydd Sadwrn Mehefin 28ain 2015 yn Eglwys Sant Llawddog, Penboyr. Felindre. Diolch i Bryan Davies Hermon am yr holl luniau a fydd yn dangos presenoldeb cymaint o gyfeillion ac yn gofnod da o ‘Brynhawn y Cofio.’


































