Y Murlun
Yn 2013 comisiynwyd yr arlunydd MEIRION JONES, Aberteifi, i greu murlun a fyddai’n dathlu hanes pentref Dre-fach Felindre.
Mewn noson agored yn Neuadd y Ddraig Goch ar 4ydd Ebrill 2014 cyflwynwyd y murlun pum troedfedd wrth bedair troedfedd o faint sydd wedi ei fframio i’r gymuned.
Mae’r murlun yn awr yn Yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn y pentref fel rhan o arddangosfa gymunedol barhaol sy’n adlewyrchu bywyd yr ardal ‘ddoe a heddiw’.
Bu’r arlunydd Meirion Jones am wythnosau’n siarad ag unigolion o bob oed a gyda gwahanol grwpiau o bobl o fewn yr ardal er mwyn deall pwysigrwydd y gorffennol a’r presennol. Bu’n darllen yn helaeth ac yn edrych ar gasgliadau o luniau amrywiol nes iddo ddod i adnabod yr ardal yn dda. Treuliodd ei dad – yr arlunydd enwog Aneurin Jones – ac yntau sawl noson ddifyr yn dychmygu pa fath o furlun i’w ddatblygu.
Meddai Meirion,
“Mae cyfansoddiad y murlun ar ffurf cylch – fe’i gwelwch yn gliriach o bell – ac mae’r cylch yn symbol sy’n crynhoi bodolaeth y pentref, yr olwyn ddŵr, y drӧell nyddu, pêl droed a’r undod cymdeithasol ac yn y blaen. Mae’r llifeiriant dŵr i’w weld hwnt ac yma oherwydd oni bai am y tair afon fechan –Bran, Esgair a Bargod – ni fyddai pentref diwydiannol wedi codi yma o gwbl. Mae’r awgrym hwn o lif y dyfroedd yn y rhuban glas ac yn y bobol sy’n ymlwybro o’i gwmpas. Mae gen i hoffter o liw glas ac mae’r lliw hwnnw’n treiddio drwodd mewn mannau, ac mae hynny’n rhoi rhyw deimlad breuddwydiol i’r llun, nid yn annhebyg i naws Dan y Wenallt Dylan Thomas. Hynny yw, ddoe a heddiw yn un gyda’r cymeriadau lliwgar yn gwau eu straeon.”
Ychwanegodd Meirion, “Y sbarc cychwynnol i mi oedd y ffotograff o aelodau tîm pêl droed y pentref – Bargod Rangers.”
Gweler mwy: Murlun | Detail 1 | Detail 2 | Detail 3 | Detail 4