skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

Pentrecagal

Mae'r pentref bach wedi datblygu o amgylch cyffordd lle mae'r hewl o Felindre yn uno a'r ffordd fawr sy'n rhedeg drwy Ddyffryn Teifi. Mae ystyr yr enw yn ein atgoffa mai ffermio oedd yn bwysig yn yr ardal hon (ystyr cagal ydy baw defaid). Rhaid cofio hyd yn oed yn anterth llwyddiant y diwydiant gwlan ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf, roedd nifer o berchnogion y ffatrioedd lleiaf a llawer o'r gweithwyr, hefyd, yn ffermwyr, neu yn cadw lle bach. Bryd hynny roedd llawer mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o adnoddau lleol.

Roedd y tir yn agos i Bwll-y-gwyddau yn cael ei adnabod fel y `pyllau clai', gan fod pobl o ardal eang yn tyrru yno i gael y cli, er mwyn ei gymysgu a glo man, a gwneud pele. Roedd pele yn hanfodol i danau bron bob ty yn yr ardal.

Information board at Pentrecagal
painting of different forms of transporting wool over time - from donkey's to trains to lorries

Mae'r ardal wedi gweld yr holl newidiadau yn nulliau cyflenwi a marchnata deunydd crai y diwydiant gwlan - o'r cnu o gefn y ddafad i'r brethyn gorffenedig - Roedd pawb ar wahan i'r ffatrioedd mwyaf yn cael eu gwlan yn lleol o'r defaid mynyddig Cymreig.

Ambell dro roedd y ffermwr yn mynd a'i wlan yn syth i'r ffatri. Roedd y ffatrioedd mawrion yn derbyn eu gwlan oddi wrth masnachwyr gwlan. Roedd y cynhyrchwyr llai yn gwerthu eu brethyn yn y marchnadoedd a'r ffeiriau lleol ar hyd gorllewin a de Cymru, tra roedd y cynhyrchwyr mawr yn gwerthu i'r masnachwyr brethyn a'r siopau mawrion.

Y newid mwyaf mewn trafnidiaeth a daeth i'r ardal oedd dyfodiad y tren. Agorwyd y lein o Gaerfyrddin i Lambed yn 1864, ac fe agorwyd y rheilffordd rhwng Pencader a Chastell-newydd-emlyn yn 1895, gyda gorsaf yn Henllan. Er dyfodiad y tren ac wedi hynny y modur, fe fu'r cart a cheffyl yn bwysig am fflynyddoedd yn yr ardal, ac roedd yr efail ym Mhentrecagal yn lle prysur iawn.