Waungilwen
O daw meinwar fy nghariad
I dy dail a wnaeth Duw Dad,
Dyhuddiant fydd y gwydd gwiw,
Dihuddygl o dy heddiw.
“Y Deildy” Dafydd Ap Gwilym
Yr hanes cynharaf o'r ardal ydy Caef Dinas Bran, yn dyddio o'r Oes Haearn. Safai uwchben cwm serth, coediog yr Afon Bran. Yn y Canol Oesoedd roedd yna anheddfa yn Cryngae.
Yn y 14eg ganrif roedd Cryngae yn gartref i LLewelyn ap Gwilym Fychan, Cwnstabl y castell yng Nghastell-newydd-emlyn. Roedd yn ewythr i un o feirdd mwyaf Cymru - Dafydd ap Gwilym. Mae lle i gredu fod Dafydd wedi treulio llawer o'i lencyndod yn yr ardal. Mae un o'r pyllau niferus yn yr Afon Teifi yn dwyn yr enw Pwll Dafydd, a dywed traddodiad mai ar ol Dafydd ap Gwilym y cafodd yr enw.

Mae rhwydwaith o lwybrau yn cysylltu'r hen ffatrioedd a thai yr ardal. Rhaid cofio bod pobl yn defnyddio'r llwybrau hyn ymhell cyn codi pontydd i groesi'r afonydd. Os ewch ar y llwybr i'r gogledd-orllewin o Ffatri Cambrian heibio Cryngae a throedio ar y llwybr tua Dolhaidd, fe sylwch pa mor llydan ydy'r ffordd. Tystiolaeth amlwg fod ceffylau a cheirt wedi bod yn defnyddio'r ffordd mewn amseroedd cynt.