skip to main content

Stori Fawr Dre-fach Felindre

Sut i ddefnyddio gwefan y Stori Fawr

Porth yw’r wefan hon i weld ffotograffau a storïau y mae cymunedau ardal Dre-fach Felindre wedi eu rhannu.

I weld y ffotograffau neu storïau, cliciwch ar un o’r categorïau isod.

Pan fyddwch yn clicio ar gategori ac yn cyrraedd gwefan Casgliad y Werin Cymru bydd y wefan honno yn agor yn yr adran berthnasol, er enghraifft  “Golygfeydd o’r Dirwedd”, lle y gallwch edrych ar y ffotograffau neu ddarllen y stori. Gallwch aros ar wefan Casgliad y Werin Cymru a chwilota’r wefan trwy ddefnyddio eu chwilotwr nhw. Neu gallwch fynd nôl i wefan y Stori Fawr a chlicio ar un o’r categorïau eraill.

Os oes gennych ffotograffau neu storïau i ychwanegu at gasgliad y Stori Fawr neu os oes gennych sylwadau ac awgrymiadau neu os ydych am gyfrannu - mae llawer i wneud o hyd – llenwch y ffurflen a rhowch wybod i ni.

 

 

G W A H O DD I A D
"Stori Fawr Dre-fach Felindre"

Prynhawn Y Cofio

Yn dilyn llwyddiant y Dydd Agored i gofio am y diweddar Olive Campden y llynedd mae Grŵp y Wefan "Stori Fawr Drefach Felindre" yn trefnu Prynhawn Y Cofio eleni ar brynhawn Sadwrn Mehefin 28ain am 2 o'r gloch yn Eglwys Penboyr ar gyfer ymweld a rhai beddau pobl nodedig sydd wedi eu claddu yno.

Yna, yn dilyn yn Festri Eglwys Penboyr bydd cyfle i wrando ar wahanol bobl yn son am yr unigolion a gladdwyd yn y fynwent ynghyd a dangos eu lluniau ar y sgrin. Pobl fel John y Gwas, Y Parch J Towyn Jones, BD Rees, Bryan Pantygog, Eric Tyhen, Sarah Jones Trecoed, John Davies (Tad Nel Fach y Bwcs ac a fu ym Mhatagonia) ac eraill.
Bydd cyfle wedyn i gael sgwrs dros gwpaned o de am yr unigolion hyn ac eraill sydd ar wefan y "Stori Fawr.."

Os am fwy o fanylion neu as am ymuno yn y prynhawn cysylltwch gyda Peter Hughes Griffiths ar 01267 232240 neu e bost Phughes-griffiths@sirgar.gov.uk

Mae croeso agored i bawb.