G W A H O DD I A D
"Stori Fawr Dre-fach Felindre"
Prynhawn Y Cofio
Yn dilyn llwyddiant y Dydd Agored i gofio am y diweddar Olive Campden y llynedd mae Grŵp y Wefan "Stori Fawr Drefach Felindre" yn trefnu Prynhawn Y Cofio eleni ar brynhawn Sadwrn Mehefin 28ain am 2 o'r gloch yn Eglwys Penboyr ar gyfer ymweld a rhai beddau pobl nodedig sydd wedi eu claddu yno.
Yna, yn dilyn yn Festri Eglwys Penboyr bydd cyfle i wrando ar wahanol bobl yn son am yr unigolion a gladdwyd yn y fynwent ynghyd a dangos eu lluniau ar y sgrin. Pobl fel John y Gwas, Y Parch J Towyn Jones, BD Rees, Bryan Pantygog, Eric Tyhen, Sarah Jones Trecoed, John Davies (Tad Nel Fach y Bwcs ac a fu ym Mhatagonia) ac eraill.
Bydd cyfle wedyn i gael sgwrs dros gwpaned o de am yr unigolion hyn ac eraill sydd ar wefan y "Stori Fawr.."
Os am fwy o fanylion neu as am ymuno yn y prynhawn cysylltwch gyda Peter Hughes Griffiths ar 01267 232240 neu e bost Phughes-griffiths@sirgar.gov.uk
Mae croeso agored i bawb.